Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 43/2017/1121 – TRAETH FFRITH, GORLLEWIN FFORDD FICTORIA, PRESTATYN
- Meeting of Pwyllgor Cynllunio, Dydd Mercher, 23 Mai 2018 9.30 am (Item 8.)
- View the declarations of interest for item 8.
Ystyried cais i
ddefnyddio tir i greu 65 o leiniau ychwanegol i garafannau teithiol a 39 o
gabanau gwersylla pren, adeilad storio a’r gwaith cysylltiedig yn Ffrith Beach,
Victoria Road West, Prestatyn (copi ynghlwm).
Cofnodion:
[Datganodd y Cynghorydd Bob Murray gysylltiad personol a rhagfarnol yn yr
eitem hon oherwydd roedd yn adnabod y teulu. Gadawodd y cyfarfod tra ystyriwyd
y cais.
Datganodd y
Cynghorydd Alan James gysylltiad personol yn yr eitem hon am ei fod yn adnabod
yr ymgeisydd trwy ei waith yn y Ward.]
Cyflwynwyd cais i ddefnyddio tir ar gyfer lleoli 65 o leiniau carafannau teithiol
ychwanegol, a 39 pod gwersylla o goed, adeilad storio a gwaith cysylltiedig yn
Nhraeth Ffrith, Gorllewin Ffordd Fictoria, Prestatyn.
Siaradwr Cyhoeddus -
Cyfeiriodd Mark Roberts (Yn erbyn)
at drafodaethau ynghylch ansawdd cynllun arfaethedig y safle. Datganodd gynllun
y cynnig. Roedd maint y maes parcio yn ddiffygiol ac nid oedd lled y ffordd yn
ddigonol. Datganodd Mr Roberts na fyddai amodau’n ddigonol, roedd y cynllun yn
anfoddhaol ac ni fyddai’n bodloni’r gofynion safonol ym Mholisi PSE12.
Datganodd Mr Noah Robinson (O blaid)
mai ef a’i wraig oedd prydleswyr cyfredol y safle, wedi iddynt feddiannu’r
safle am 15 mlynedd. Rhoddodd gefndir cryno o’r cais i aelodau. Mewn perthynas
â’r mater ynghylch priffyrdd, dywedodd nad yw’r traffig i gyd yn mynd ar y
safle neu’n gadael y safle ar yr un pryd. Ei farn ef oedd na fyddai’n effeithio
ar briffyrdd. Ynglŷn â materion
mynediad y cyhoedd at y safle, mae hawl tramwy cyhoeddus a llwybr yn caniatáu
digon o fynediad i’r safle i’r traeth, ac oddi yno. Cytunodd Mr Robinson fod
angen diogelwch ar y safle. Yn ei farn ef, nid oedd gan y cais unrhyw effaith
negyddol ar y busnesau cyfagos.
Dadl Gyffredinol – roedd y safle wedi bod yn destun cyfarfod Panel
Ymweliad Safle ddydd Mawrth 15 Mai. Aeth y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ar
yr ymweliad safle, a chrybwyllodd un pryder yn y cyfarfod, sef diffyg y ffiniau
clir ar y safle, a bod yn rhaid cael diogelwch ar y safle.
Dywedodd y
Cynghorydd Rachel Flynn (Aelod Lleol) fod Cyngor Tref Prestatyn wedi
gwrthwynebu oherwydd y man agored a gollir. Teimlai’r Cyngor Tref nad oedd wedi
gweld gwelliannau i’r safle fel y nodwyd gan y preswylwyr pan roddwyd y
denantiaeth. Roedd ardal allanol y safle mewn cyflwr gwael. Amlinellodd y
Cynghorydd Flynn nifer o geisiadau gan y Cyngor Tref, yr hoffent iddynt gael eu
cynnwys os rhoddwyd caniatâd, roedd y rhain yn cynnwys -
·
Plannu
coed a rhywogaethau penodol
·
Ffensys
terfyn – yn llai caled na metel
·
Goleuadau
stryd
·
Parcio
am ddim i bobl anabl
·
Nid i’w wneud yn safle ar gyfer carafannau sefydlog
Rhoddodd y
Cynghorydd Tony Flynn (Aelod Lleol) wybod i aelodau am gyfarfod cyhoeddus a
ddigwyddodd 12 Chwefror 2018, lle’r oedd preswylwyr yn bresennol i drafod y
cais. Ym marn y preswylwyr, gellid defnyddio’r tir mewn ffordd sy’n fwy
cynhyrchiol. Ystyriwyd nad oedd y cynlluniau ar gyfer mynediad i’r safle’n
ddigonol, ac roedd angen rhagor o ddatblygiad i fodloni preswylwyr lleol.
Tynnodd y Rheolwr
Datblygu sylw fod y cais cynllunio ar gyfer datblygiad twristiaeth ar safle
twristiaeth wedi'i ddyrannu yn y Cynllun Datblygu Lleol. Cyngor Sir Ddinbych
oedd perchnogion cyfreithiol y tir, pe bai aelodau â phryderon gyda’r brydles
a’r cytundeb tenantiaeth, roedd hynny’n fater ar wahân i ystyriaethau i’w cymhwyso
i’r cais cynllunio. Roedd y cais wedi’i
gyhoeddi yn y dull cywir. Roedd rheolyddion ychwanegol wedi’u cynnwys a oedd yn
rhoi sylw i nifer o bryderon a godwyd gan Gyngor Tref Prestatyn. Roedd yr
amodau diwygiedig o dirlunio wedi cynnwys defnyddio ffensys, byddai
cymeradwyaeth bellach gan swyddogion neu’r pwyllgor cynllunio yn ofynnol i gael
ffensys ar y safle. Roedd swyddogion yn teimlo bod y pryderon a godwyd wedi’u
cydnabod ac amodau addas wedi’u gosod i roi sylw i bryderon preswylwyr lleol.
Rhoddwyd sicrwydd
mewn perthynas â phryderon priffyrdd. Roedd darpariaeth barcio wedi’i gwneud ar
gyfer 500 o gerbydau. Byddai’r cais yn arwain at golli 264 o lefydd. Ystyriwyd
hyn yn ddigonol ar gyfer y datblygiad ac nid yn cael ei ystyried yn fater mawr.
Roedd yr ychwanegiad at amod 6 wedi rhoi sylw i bryderon ynghylch gofod o
amgylch y podiau. Roedd y cais wedi manylu ynghylch yr ardaloedd a gynigiwyd ar
gyfer llety gwyliau a’r math o lety. Mae’r cynnig yn benodol i fath a nifer y
llety. Pe bai hyn yn newid, byddai angen cyflwyno cais ar wahân. Byddai
cynllunio a thrwyddedu gydag amodau wedi’u gosod ar y datblygiad.
Cododd y
Cynghorydd Peter Evans bryderon ynghylch y ffyrdd mynediad a aeth drwy ei ward
i gael at y safle. Byddai nifer
gynyddol y cerbydau yn yr ardal yn broblem ar isffyrdd. Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu y gellid gofyn am
nodyn i’r ymgeisydd i dynnu sylw at y llwybr i’r safle drwy ffyrdd amgen.
Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Tony Thomas argymhelliad y swyddog i roi’r cais,
gydag amodau ychwanegol, yn cynnwys rheoli’r math o lety ar y safle, ac fe’i
eiliwyd gan y Cynghorydd Pat Jones.
PLEIDLAIS:
CYMERADWYO - 10
YMATAL - 0
GWRTHOD - 4
PENDERFYNWYD y
dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag
argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: