Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 16/2018/0027/ PF - TŶ CAPEL (CAPEL LLWYNEDD GYNT), LLANBEDR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN LL15 1UT

I ystyried cais i adeiladu 1 annedd (manylion diwygiedig i gynllun rhif 16/294/96 a gymeradwywyd/weithredwyd yn flaenorol) yn Nhŷ Capel (Capel Llwynedd gynt), Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun LL15 1UT (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 1 annedd (manylion diwygiedig i gynllun a gymeradwywyd/gweithredwyd yn flaenorol cyf. 16/294/96) yn Nhŷ Capel (Capel Llwynedd gynt) Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Mr Bob Barton (Yn erbyn) – nododd ei fod yn cynrychioli Cyngor Cymuned Llanbedr. Roedd gan y Cyngor Cymuned 4 pwynt allweddol yn erbyn y cynnig – graddfa, bioamrywiaeth, mynediad a dŵr wyneb ffo. Ymhelaethodd Mr Barton ar y 4 pwynt gan nodi -

·         Graddfa – nid oedd y cynnig yn adlewyrchu’r anheddau presennol yn yr ardal. Roedd y Cyngor Cymuned wedi cefnogi sylwadau cychwynnol yr ymgynghoriad yn llawn, a wnaed gyda’r AHNE.

·         Bioamrywiaeth - Teimlodd y Cyngor Cymuned y dylai datganiad bioamrywiaeth fod wedi’i gynnwys yn y cais. Roedd yr ardal o dir wedi cael llonydd am nifer o flynyddoedd ac ers hynny wedi’i glirio’n llwyr   

·         Mynediad – mae’r mynediad arfaethedig yn annigonol.

·         Dŵr wyneb ffo – Roedd gan y ffyrdd mynediad hanes o broblemau gyda dŵr wyneb. 

 

Dadl Gyffredinol – Eglurodd y Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) ei fod â phryderon gyda’r cais a’r ffordd fynediad i’r safle arfaethedig. Rhoddodd wybod i aelodau fod yr ardal yn adnabyddus am lifogydd. Tynnodd y Cynghorydd Williams sylw at yr angen i ystyried y lleoliad ac y dylai'r datblygiad gydymffurfio ag eiddo cyfagos. Holodd a oedd modd gosod amod cynllunio i atal cerbydau rhag troi i’r dde i’r safle, o ystyried lleoliad safle’r cais oddi ar dro serth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Brian Jones am gadarnhad gan swyddogion ynghylch llwybrau priffyrdd a mynediad i’r safle. Mewn ymatebodd, eglurodd yr Uwch Beiriannydd – Priffyrdd mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru oedd y gefnffordd, ac y byddent wedi bod yn destun ymgynghori mewn perthynas â'r safle. O ran y cais, ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau. Roedd gosod amod i atal rhag troi i mewn neu oddi ar y ffordd honno’n fater i Lywodraeth Cymru, ac ni fyddai modd delio ag ef gydag amod cynllunio.

Mewn ymateb i gwestiynau aelodau ynghylch defnyddio llechi ar yr eiddo, rhoddodd y Pen Swyddog Cynllunio wybod i aelodau y gellid gosod amod yn y cais i ddefnyddio llechi naturiol ar yr eiddo.  Roedd cynlluniau wedi’u cymeradwyo ym 1996 ar gyfer annedd o faint tebyg ar y safle, ym marn y swyddogion roedd y cynigion diwygiedig yn cydymffurfio â’r hyn oedd o’u hamgylch, nid oedd y newidiadau a wnaed i’r cyfrannau wedi bod yn sylweddol ac ni fyddai wedi cael effaith sylweddol ar eiddo cyfagos. Nid oedd y cais cynllunio blaenorol wedi cynnwys asesiad bioamrywiaeth.

 

Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne wedi mynd ar yr ymweliad safle, a dywedodd ei fod yn falch o weld bod datblygiad wedi dechrau ar y safle. Teimlai fod y cais diwygiedig yn cydymffurfio â’r ardal a nododd y byddai’n anodd ei wrthod oherwydd y tebygrwydd gyda’r caniatâd cynllunio blaenorol.

 

Cododd y Cynghorydd Gwyneth Kensler bryder ynghylch yr effaith ar yr amgylchedd a’r hyn a oedd o amgylch y safle.

Cadarnhaodd y Pen Swyddog fod amod wedi’i gynnwys i ddiogelu’r coed ar y safle. Wrth asesu ceisiadau cynllunio, ystyriwyd y sylwadau gan y pwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wrth ffurfio argymhellion.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y dylid cynnwys amod i ddefnyddio llechi naturiol, a bod cerrig naturiol yn cael eu cynnwys fel rhan o'r wal derfyn. Dywedodd y Swyddogion y gellid cynnwys yr amodau hynny gyda chytundeb yr aelodau.

 

Cadarnhaodd y rheolwr Datblygu y cysylltir â Llywodraeth Cymru i gyfleu pryderon y Pwyllgor a’r Aelod Lleol dros faterion draenio’r priffyrdd.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y dylid caniatáu’r cais gan ychwanegu’r amodau, a eiliwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 14

YMATAL - 2

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: