Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG 2017-2020

Ystyried adroddiad gan y Cyng. Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017 – 2020 i'w gymeradwyo.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017 – 2020 arfaethedig a oedd wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2018, a

 

 (b)      cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (fel y manylir yn Atodiad 2 yr adroddiad), fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad a chyflwynodd Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017 - 2020 arfaethedig y Cyngor i’w gymeradwyo (roedd y Cynllun drafft wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2018).

 

Roedd y Cynllun yn dangos sut roedd y Cyngor yn bwriadu cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru drwy ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir ac roedd yn canolbwyntio ar wella sgiliau, yn enwedig cyfathrebu llafar a dealltwriaeth.  Y nod hirdymor oedd i holl blant a phobl ifanc y sir adael addysg llawn amser gyda’r gallu a’r hyder i ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts at lwyddiant blaenorol y Cyngor o ddatblygu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a buddsoddi mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac roedd Estyn wedi canmol dull y Cyngor yn ystod yr arolwg diweddar o wasanaethau addysg.  Byddai’r Cynllun yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid allweddol gan gynnwys ysgolion, yr Urdd, Mudiad Meithrin a Menter Iaith ac roedd Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod amrywiaeth o ffrydiau ariannu ar gael i helpu i gyrraedd targedau gan gynnwys arian cyfalaf £30m a grantiau datblygu’r gweithlu £2m a gellid gwneud ceisiadau yn erbyn rhain.  Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Phlant amlygu’r broses ymgynghori gynhwysfawr o ran gosod amcanion a rôl Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg o ran datblygiad y Cynllun a monitro ei ddarpariaeth.  Roedd elfennau allweddol yn canolbwyntio ar (1) ansawdd a safonau Cymraeg a gaiff ei haddysgu drwy gwricwlwm ysgolion, gwella canlyniadau i ddysgwyr a lefel rhuglder ar draws pob ysgol, a (2) sicrhau bod digon o leoedd ar gael mewn addysg Cyfrwng Cymraeg.  Gwnaeth y Pennaeth Gwasanaeth ganmol y Cynllun a’r gwaith caled o ran ei ddatblygiad.

 

Gwnaeth y Cabinet groesawu’r Cynllun fel ffordd o ddatblygu addysg Cyfrwng Cymraeg ymhellach yn y sir a chyfrannu at y targed cenedlaethol o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Rhoddwyd teyrnged hefyd i’r rhai sy’n ymwneud â datblygu’r Cynllun a soniwyd yn benodol am Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg.  Ychwanegodd y Cynghorydd Arwel Roberts a’r Cynghorydd Emrys Wynne, a oedd yn aelodau o Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg, eu cefnogaeth i’r Cynllun a chanmol y gwaith gyda phartneriaid a’r gwaith da a’r llwyddiant a oedd eisoes wedi’i gyflawni yn y sir, a oedd hefyd wedi’i gydnabod yn adroddiad arolygu diweddar Estyn.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol -

 

·         gofynnwyd am ragor o fanylion o ran goblygiadau ariannol darparu’r Cynllun a rhoddodd swyddogion ddadansoddiad o ffrydiau ariannu a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru a sut gellid defnyddio’r arian hwnnw i fodloni canlyniadau, gan gynnwys ariannu ar gyfer cynllunio’r gweithlu a datblygiad proffesiynol parhaus

·         rhoddwyd sicrwydd hefyd fod y cyngor a’i bartneriaid yn gweithio’n barhaus i fanteisio ar unrhyw ffrydiau ariannu allanol o ffynonellau eraill sy’n agored iddynt, er mwyn diwallu nodau ac amcanion yn y Cynllun

·         amlygwyd y gwaith da a’r llwyddiant a gyflawnwyd yn Sir Ddinbych gyda ffocws o’r newydd ar welliannau pellach o fewn adnoddau presennol a manteisio ar ffynonellau ariannu allanol sydd ar gael i ganolbwyntio ar ganlyniadau penodol

·         cydnabuwyd yr angen am gydbwysedd i sicrhau’r ddarpariaeth iawn i ddysgwyr gan ystyried dewis rhieni a darparu cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg, a soniodd swyddogion am y gwaith cynhwysfawr a wnaed yn y sir o ran rhagweld galw am leoedd ysgol a oedd wedi nodi cynnydd o ran galw am leoedd Cyfrwng Cymraeg

·         cyfeiriwyd at fanteision addysg ddwyieithog, yn enwedig o ran cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol lle roedd rhuglder yn y Gymraeg yn bwysig, a’r her i ddangos manteision addysg ddwyieithog i deuluoedd di-Gymraeg er mwyn gallu gwneud dewisiadau deallus ar gyfer dysgwyr o oedran cynnar

·         cadarnhawyd bod y Gymraeg wrth wraidd Cwricwlwm y Dyfodol gan ganolbwyntio ar ddysgu o ansawdd uchel i ddisgyblion ac roedd y safonau arweinyddiaeth ac addysgu newydd hefyd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd datblygu'r Gymraeg a diwylliant yn y proffesiwn ac mewn ysgolion

·         soniwyd am y berthynas ragorol gyda phartneriaid a oedd yn hanfodol i lwyddiant y Cynllun a hyrwyddo manteision addysg ddwyieithog mewn ysgolion a chymunedau

·         rhoddwyd teyrnged i waith Athrawon Bro, ac roedd dyfarniad gwobr arian Siarter y Gymraeg, a oedd wedi’i gyflawni gan bob ysgol Cyfrwng Cymraeg yn y sir, yn brawf o hyn, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i barhau’r llwyddiant hwnnw mewn ysgolion Cyfrwng Saesneg a chefnogi gwaith y Cynllun

·         dywedodd swyddogion y byddai’r Cynllun yn cael ei fonitro gan Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg a byddai’n cynnwys cerrig milltir o ran monitro amcanion i benderfynu ar gynnydd ysgolion ac roedd disgwyliad i ysgolion gynnwys sut roeddent wedi ymateb i ganlyniadau yn y Cynllun a’u hadroddiadau blynyddol

·         dywedwyd y byddai’r mwyafrif o grantiau ar gyfer hyfforddiant a datblygu’r gweithlu drwy GwE a byddai cynnig hyfforddiant rhanbarthol a phecyn yn adeiladu ar lwyddiannau blaenorol gan gynnwys y rhaglen sabothol; roedd hefyd yn bwysig cynnig rhaglen hyfforddiant fwy pwrpasol i ddiwallu anghenion athrawon

·         soniodd swyddogion am gofnod cryf y Cyngor o gynnal trawsnewid o leoliadau cyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg a soniodd am wahanol lwybrau sydd ar gael, gan gynnwys trochi a pheripatetig ond amlygodd fod y cynnig yn dibynnu ar anghenion y plentyn ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu cynnig mwy hyblyg, cadarn, a pharhaus i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw

·         o ran gwerthuso addysg Cyfrwng Cymraeg a nodi unrhyw fylchau, cynhaliwyd arolygon rheolaidd i sicrhau lefel o allu ac i nodi diffygion i dargedu datblygiad proffesiynol sgiliau yn effeithiol

·         cydnabu swyddogion bryderon penodol a godwyd gan y Cynghorydd Mabon Ap Gwynfor o ran cryfder y cynnig cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Dinas Bran a cholli disgyblion o addysg cyfrwng Cymraeg yn Nyffryn Dyfrdwy ynghyd ag effaith y polisi cludiant ysgol gan ystyried pa mor agos mae’r ffin â Gwynedd a chadarnhaodd y bwriad i ystyried ardal Llangollen fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain ganrif Band B a rhoi sylw i’r materion a godwyd fel rhan o’r adolygiad hwnnw. 

Amlygwyd cymhlethdod y mater a oedd yn cwmpasu nifer o bolisïau a gweithdrefnau

·         cydnabuwyd pwysigrwydd datblygu sgiliau ar gam cynnar i wella datblygiad, ynghyd â sicrhau nad oedd disgyblion yn cael eu colli o barhau ag addysg Cyfrwng Cymraeg yn dilyn trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd ac ar yr un pryd amlygwyd cyfleoedd i’r rhai o leoliadau Cyfrwng Saesneg sy’n trosglwyddo i ysgolion Cyfrwng Cymraeg naill ai fel hwyrddyfodiaid neu wrth drosglwyddo o ysgol gynradd i ysgol uwchradd – er mwyn hyrwyddo’r cynnig Cymraeg, roedd y Tîm Cyfathrebu yn datblygu strategaeth farchnata, a oedd yn cynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol i sicrhau bod rhieni yn gwbl ymwybodol o fanteision addysg ddwyieithog wrth ddewis ysgol ar gyfer eu plant

·         Roedd Cynghorydd Bobby Feeley yn falch o amlygu bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Ddinbych wedi cynyddu o 24.6% yng nghyfrifiad poblogaeth 2011 i 37.7% yn yr arolwg poblogaeth blynyddol yn 2017.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017 – 2020 arfaethedig a oedd wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2018, a

 

 (b)      cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (fel y manylir yn Atodiad 2 yr adroddiad), fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Ar y pwynt hwn (11.45am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: