Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN ADFYWIO RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU A RHAGLEN TARGEDU BUDDSODDIAD ADFYWIO LLYWODRAETH CYMRU

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno Cynllun Adfywio Rhanbarthol Gogledd Cymru a chynigion i'r Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio i gael ei gymeradwyo a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo -

 

·         cyflwyno Cynllun Adfywio Rhanbarthol Gogledd Cymru terfynol (a blaenoriaethau eang sydd wedi’u cynnwys ynddo) i Lywodraeth Cymru er mwyn cael mynediad i gronfeydd Buddsoddiad Adfywio wedi'i Dargedu

·         prosiectau amlinellol a gynigiwyd i’w cyflwyno gan y Cyngor i’r Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu

·         awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Economi a'r Parth Cyhoeddus mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd a’r Pennaeth Cyllid (y Swyddog Adran 151) i -

o   wneud unrhyw geisiadau cyllido prosiect sy’n angenrheidiol i ddiogelu adnoddau o’r rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu ar gyfer cyfnod ei weithrediad

o   derbyn a gweithredu gwariant ar brosiectau sy’n cael mynediad i gefnogaeth rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu, gan gynnwys dyfarnu grantiau i drydydd parti

o   trafod a llunio cytundebau gyda chynghorau eraill Gogledd Cymru lle mae angen i wneud cais ar gyfer cronfeydd rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu, neu i gael y cronfeydd hynny

 

 (b)      nodi y bydd adolygiad blynyddol o’r Cynllun Adfywio Rhanbarthol yn unol â threfniadau llywodraethu a monitro (a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad) i gynnig cyfle ar gyfer newidiadau o ran strategaeth a chyfeiriad a allai ganolbwyntio adnoddau ar drefi/ardaloedd eraill)

 

 (c)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Hugh Evans gyflwyno’r adroddiad a chyflwynodd Gynllun Adfywio Rhanbarthol Gogledd Cymru 2018 – 2035 a chynigion ar gyfer Targedu Buddsoddiad Adfywio ar gyfer ei gymeradwyo i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Roedd rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio wedi’i lansio gan Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o gyllid ar gyfer prosiectau adfywio dros dair blynedd gyda £22m wedi’i ddyrannu i Ogledd Cymru.  Roedd angen dull cydweithredol gan fod cyllid yn amodol ar gyflwyno Cynllun Adfywio Rhanbarthol wedi’i flaenoriaethu a gytunwyd gan chwe chyngor Gogledd Cymru.  Yn unol â threfniadau ariannu, roedd deuddeg ardal ar draws y rhanbarth wedi’u cynnig fel ardaloedd blaenoriaeth ar sail sgorau amddifadedd a oedd yn cynnwys y Rhyl a Dinbych, gyda phedair ardal flaenoriaeth (gan gynnwys y Rhyl) wedi’u nodi ar gyfer y cyfnod ariannu tair blynedd dechreuol.  Rhoddwyd eglurhad o’r rheswm y tu ôl i’r ffocws ar y Rhyl fel ardal flaenoriaeth gan ystyried y meini prawf ariannu a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a sgôr y Rhyl fel y dref fwyaf difreintiedig yng Ngogledd Cymru, ac o ystyried buddsoddiad y Cyngor a’i ymrwymiad i adfywio’r Rhyl, roedd yn briodol bod opsiynau ariannu posibl yn cael eu defnyddio i helpu i gyflawni’r nod hwnnw.  Roedd yr adroddiad yn cydnabod tlodi a oedd yn gysylltiedig ag aneddiadau trefol mwy a’r angen i fynd i’r afael â thlodi ac adfywio mewn trefi bach ac ardaloedd gwledig a gobeithiwyd y byddai’n cael sylw yn ystod oes y Cynllun.

 

Gwnaeth y Cabinet groesawu’r dyraniad cyllid ar gyfer adfywio ardaloedd yn y rhanbarth ond gwnaeth gydnabod y cyfyngiadau ar gyfer cael mynediad i’r cyllid hwnnw o ystyried y meini prawf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru o ran y fethodoleg ar gyfer blaenoriaethu ardaloedd adfywio a’r angen am ddull rhanbarthol gan arwain at gonsensws ar draws pob un o chwe chyngor Gogledd Cymru a oedd angen rhywfaint o drafod a chyfaddawdu ar bob ochr.  Nododd y Cabinet hefyd fod meini prawf a dull thematig y Cynllun Adfywio Rhanbarthol wedi’u halinio’n eang â blaenoriaethau corfforaethol eraill ac roedd yn amlygu’r angen i Sir Ddinbych gynyddu cyfleoedd o weithio rhanbarthol yn hynny o beth.

 

Gan ymateb i gwestiynau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion -

 

·         roedd y Cynllun Adfywio Rhanbarthol wedi’i gymeradwyo gan dri chyngor ac roedd yn debygol o gael ei gymeradwyo gan y cynghorau eraill o ystyried y byddai’r cyllid yn cael ei golli fel arall

·         o ran monitro, roedd ffigurau gwaelodlin wedi’u nodi ar gyfer gwahanol ardaloedd adfywio i fesur cynnydd a chanlyniadau ar lefel rhaglen a byddai gan brosiectau unigol sy’n dod o’r Cynllun eu targedau eu hun a fyddai’n destun craffu gan Lywodraeth Cymru cyn i arian gael ei ddyrannu

·         roedd cyfleoedd pellach y tu allan i’r Cynllun i gefnogi blaenoriaethau eraill ac edrych ar amrywiaeth eang o wahanol fentrau Llywodraeth Cymru ac roedd gwaith yn cael ei wneud i arwain y ffynonellau cefnogaeth eraill hynny, a buddsoddiad dros y tymor hir

·         roedd ymgysylltiad cadarnhaol wedi bod ar lefel swyddog gyda chytundeb ac ymrwymiad i faterion allweddol ar draws y rhanbarth – ar ôl cydweithio i gytuno blaenoriaethau, ystyriwyd bod y Cynllun Adfywio Rhanbarthol yn gyfaddawd da a rhesymol

·         Roedd y Rhyl wedi’i osod yn gyntaf o ran trefn amddifadedd ac roedd wedi’i nodi ar gyfer targedu buddsoddiad yn y tair blynedd cyntaf, fodd bynnag mae’n bosibl y bydd rhywfaint o arian yn cael ei ddenu i Ddinbych yn y tymor byr ar draws gynigion thematig tai ac adeiladau allweddol ac yn y tymor hwy roedd Dinbych mewn sefyllfa dda i fanteisio, gan ystyried ei fod wedi’i sgorio yn y degfed safle o ran amddifadedd

·         roedd mater o ran cymunedau llai a thlodi gwledig hefyd wedi’i nodi yn y Cynllun ac roedd gwaith yn mynd rhagddo o ran sut i fynd i’r afael â’r anghenion hynny orau a’u blaenoriaethu yn y dyfodol wrth gydymffurfio â meini prawf Llywodraeth Cymru hefyd

·         roedd rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio angen arian cyfatebol ar gyfer prosiectau o 30% a allai ddod o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys amser swyddogion, ffynonellau’r sector cyhoeddus a phreifat a thrwy brosesau arferol y cyngor.

 

Yn ystod trafodaeth bellach, trafodwyd y cefndir a’r rhesymeg y tu ôl i flaenoriaeth y Cyngor ar gyfer adfywio’r Rhyl.  Er ei bod yn siomedig nodi safle’r Rhyl yn y sgorau amddifadedd, roedd y buddsoddiad sylweddol yng nglan y môr a phrosiectau seilwaith wedi’u hamlygu ynghyd â’r cam nesaf i ganolbwyntio ar y materion ehangach a chanlyniadau i bobl leol, gwella iechyd, cyflogaeth a chyfleoedd bywyd.  Gwnaeth Swyddogion ymhelaethu ar waith adfywio arall hefyd a chynlluniau ar gyfer canol y dref a chyfeiriwyd at waith yn Rhaglen ehangach Adfywio’r Rhyl.  Er bod meini prawf ar gyfer ffrwd ariannu’r Cynllun Adfywio Rhanbarthol yn seiliedig ar gyfalaf o ran darparu allbynnau economaidd a thai penodol, byddai prosiectau sy’n dod i’r amlwg drwy’r rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio yn cysylltu ag elfennau eraill o adfywio, gan gynnwys rhoi sylw i rwystrau i gyflogaeth a buddion cymunedol i greu cyfleoedd gwaith.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo -

 

·         cyflwyno Cynllun Adfywio Rhanbarthol Gogledd Cymru terfynol (a blaenoriaethau eang sydd wedi’u cynnwys ynddo) i Lywodraeth Cymru er mwyn cael mynediad i gronfeydd Targedu Buddsoddiad Adfywio

·         prosiectau amlinellol a gynigiwyd i’w cyflwyno gan y Cyngor i’r rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio

·         awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Economi a'r Parth Cyhoeddus mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd a’r Pennaeth Cyllid (y Swyddog Adran 151) i -

o   wneud unrhyw geisiadau cyllido prosiect sy’n angenrheidiol i ddiogelu adnoddau o’r rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio ar gyfer cyfnod ei weithrediad

o   derbyn a gweithredu gwariant ar brosiectau sy’n cael mynediad i gefnogaeth rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio, gan gynnwys dyfarnu grantiau i drydydd parti

o   trafod a llunio cytundebau gyda chynghorau eraill Gogledd Cymru lle mae angen i wneud cais ar gyfer cronfeydd rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio, neu i gael y cronfeydd hynny

 

 (b)      nodi y bydd adolygiad blynyddol o’r Cynllun Adfywio Rhanbarthol yn unol â threfniadau llywodraethu a monitro (a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad) i gynnig cyfle ar gyfer newidiadau o ran strategaeth a chyfeiriad a allai ganolbwyntio adnoddau ar drefi/ardaloedd eraill)

 

 (c)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: