Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CREDYD CYNHWYSOL

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Contractau a Pherfformiad Prosiect (copi ynghlwm) yn manylu ar effaith tebygol cyflwyno’r Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ar Wasanaethau’r Cyngor ac ar breswylwyr y Sir a’r gwaith cynllunio a pharatoi sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn.

 

10.10-11.00 a.m

Cofnodion:

Gwnaeth yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol gyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Prosiect Contractau a Pherfformiad: Cyllid (dosbarthwyd eisoes) a oedd yn amlinellu effaith debygol cyflwyniad diweddar Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ar wasanaethau’r Cyngor a phreswylwyr y sir, a’r gwaith cynllunio a pharatoi a wnaed hyd yma gan y Cyngor a’i bartneriaid ar gyfer effaith bosibl ei gyflwyno.  Cyn egluro cynnwys yr adroddiad, cyflwynodd yr Aelod Arweiniol swyddogion y Cyngor a oedd yn bresennol ynghyd â’r cynrychiolwyr o’r sefydliadau partner allweddol, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, ac roedd yr awdurdod wedi bod yn gweithio’n agos gyda nhw gyda’r bwriad o reoli effaith Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol yn y sir.  Yn ystod ei gyflwyniad, dywedodd yr Aelod Arweiniol, er bod y rhan fwyaf o Sir Ddinbych wedi ffurfio rhan o gyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol a ddechreuodd ym mis Ebrill 2018, gan ei fod yn cael ei wasanaethu gan Ganolfan Waith y Rhyl, roedd preswylwyr yn rhan ddeheuol y sir wedi bod yn destun Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol o fis Hydref 2017 gan fod eu Canolfan Waith leol yn Wrecsam, ac roedd rhai a oedd yn byw ar gyrion gorllewin yn y sir yn mynd rai wythnosau’n ddiweddarach gan fod Canolfan Waith Llandudno yn effeithio arnynt.

 

Dywedwyd wrth Aelodau fod cyflwyno Credyd Cynhwysol yn ffurfio rhan o raglen Llywodraeth y DU o ddiwygio lles.  Roedd yn fudd-dal a oedd yn seiliedig ar brawf modd, wedi’i weinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a oedd ar gael i bobl oedran gweithio ar incwm isel, naill ai mewn gwaith neu allan o waith.  Roedd y budd-dal newydd yn disodli’r chwe phrif fudd-dal neu gredydau treth a oedd ar gael i bobl oedran gweithio a’u cyfuno yn un taliad aelwyd sengl bob mis.  Gan fod yn ymwybodol o oblygiadau posibl cyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ar breswylwyr a gwasanaethau’r Cyngor fel ei gilydd, sefydlodd y Cyngor Fwrdd Credyd Cynhwysol ym mis Gorffennaf 2017.  Pwrpas y Bwrdd, a oedd yn cynnwys swyddogion o amrywiaeth eang o wasanaethau’r Cyngor a budd-ddeiliaid partner allweddol, h.y. yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, oedd datblygu dull corfforaethol o ddarparu cefnogaeth a chyngor i breswylwyr a oedd wedi’u heffeithio gan y newidiadau i sicrhau nad oeddent yn methu allan ar eu hawl i fudd-daliadau neu unrhyw hawliau cysylltiedig, h.y. Prydau Ysgol Am Ddim ac ati. Fel rhan o gynllunio ar gyfer cyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol yn y sir, roedd swyddogion wedi cysylltu’n agos gydag awdurdodau eraill, fel Sir y Fflint, lle roedd Gwasanaethau Llawn Credyd Cynhwysol wedi’u cyflwyno yn gynharach gyda bwriad o ddysgu o’u profiadau a chasglu arfer da. 

 

Eglurodd swyddogion y Cyngor a oedd yn bresennol wrth y Pwyllgor y mesurau a weithredwyd hyd yma mewn cais i liniaru effeithiau cyflwyno’r budd-dal ar breswylwyr ac ar wasanaethau’r Cyngor, gan ddangos y cysylltiadau rhwng gwaith amrywiaeth o grwpiau a budd-ddeiliaid.  Gwnaethant amlinellu’r risgiau a nodwyd o ran ei gyflwyno a’r camau gweithredu lliniaru a anogwyd i reoli’r risgiau hynny (fel a nodir yn Atodiad 3) a’r amrywiaeth o gyfathrebu a oedd wedi’u rhoi i breswylwyr a budd-ddeiliaid yn ystod yr amser a oedd yn arwain at gyflwyno’r budd-dal ac wedi hynny (Atodiad 5).  Gyda bwriad o ddarparu gwasanaeth di-dor a dull amlasiantaeth, mae gan Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych a’r Cyngor staff yng Nghanolfan Gwaith y Rhyl i ddarparu amrywiaeth o gefnogaeth a chyngor i’r rhai sy’n hawlio Credyd Cynhwysol gan gynnwys cyngor am gyllidebu a chyngor tai, atal digartrefedd a mynediad i hawliau eraill sydd ar gael gan y Cyngor. Roedd y Cyngor hefyd wedi gwella ei broses atgyfeirio i Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, roedd yn atgyfeirio cleientiaid posibl yn ddigidol nawr.  Yn ogystal, roedd dau fideo wedi’u cynhyrchu ac roeddent ar gael ar dudalen we Credyd Cynhwysol gwefan y Cyngor, a’r pwrpas oedd cyfeirio preswylwyr at le roedd cyngor a help ar gael iddynt, h.y. cefnogaeth ddigidol o’r Llyfrgelloedd a chyngor a chefnogaeth cyllidebu gan Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych. Dywedodd Swyddogion fod staff rheng flaen ym mhob gwasanaeth wedi ymgysylltu’n dda gyda’r sesiynau hyfforddiant ac ymwybyddiaeth a roddwyd ar Gredyd Cynhwysol ac roedd wedi llunio rhai datrysiadau defnyddiol er mwyn cryfhau a gwella gwasanaethau i rai sy’n hawlio Credyd Cynhwysol.  Rhoddwyd sicrwydd i Aelodau y byddai gan unigolion Credyd Cynhwysol yn Sir Ddinbych fynediad i gefnogaeth leol a ddarperir gan y Cyngor, Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych a’r Adran Gwaith a Phensiynau ac yn eu Canolfan Gwasanaeth Adran Gwaith a Phensiynau ym Mangor lle roedd tîm pwrpasol ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

 

Roedd crynodeb wedi’i gynnwys yn Atodiad 4 o’r mesurau a gymerwyd hyd yma gan nifer o wasanaethau a phartneriaid allweddol y Cyngor i baratoi ar gyfer effaith lansio Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ar eu gwasanaethau ynghyd â throsolwg o’r effaith ar y gwasanaethau hynny hyd yma yn dilyn ei gyflwyno.  Eglurodd Rheolwr Partneriaethau yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer yr ardal sirol a wasanaethir gan Ganolfan Waith y Rhyl, y mesurau diogelu a roddwyd ar waith mewn cais i gefnogi pobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol rhag mynd ar ei hôl hi gyda thaliadau penodol neu beidio manteisio ar eu hawliau i gyd. Gyda chyflwyno Credyd Cynhwysol, byddai costau tai yn cael eu talu i’r hawlydd ac nid yn uniongyrchol i’r landlord fel a oedd yn bosibl mewn rhai achosion o’r blaen, fodd bynnag gellid trefnu taliadau a reolir i’r landlord pe bai amgylchiadau’r unigolyn yn cyfiawnhau hyn.  Roedd y Ganolfan Waith wedi penodi Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ddiweddar a fyddai i’w weld yn y Ganolfan Waith bob amser a byddai’n creu awyrgylch croesawgar a chefnogol.  Roedd gwaith yn mynd rhagddo hefyd gyda phartneriaid cymunedol gyda bwriad o wella dealltwriaeth staff o’r rhwystrau sy’n wynebu rhai pobl wrth iddynt chwilio am waith, e.e. problemau iechyd fel cyfyngiadau cyhyrysgerbydol, materion iechyd meddwl, awtistiaeth ac ati.  Roedd gwasanaeth Rhadffôn wedi’i sefydlu yn ddiweddar i alluogi pobl i gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau heb orfod talu a gellid trefnu taliadau o flaen llaw i’r rhai a oedd yn profi caledi ariannol ar ddechrau eu cyfnod hawl i fudd-dal Credyd Cynhwysol.

 

Manylodd Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar fathau o wasanaethau roeddent yn eu cynnig i breswylwyr o ran Credyd Cynhwysol.  Wrth ragweld cyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol i ardaloedd deheuol y sir yn ystod yr hydref 2017, roedd Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych wedi sefydlu gwasanaeth cefnogi gwledig.  Roedd hyn yn cynnwys gwasanaeth estynedig yn y llyfrgell yn Llangollen, a oedd yn cynnwys cyfleusterau Skype.  Roedd Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych hefyd yn darparu gwasanaethau o Ganolfan Ni yng Nghorwen i’r dref a’r 8 pentref cyfagos yn ardal Edeyrnion.  Er ei bod yn bosibl bod y math o gefnogaeth a gwasanaethau yn wahanol yn yr ardaloedd mwy trefol yng ngogledd y sir i’r rhai yn ardal wledig de’r sir, roedd Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn dal i ddarparu cefnogaeth a chyngor Credyd Cynhwysol o leoliadau o bell yn llyfrgelloedd Llanelwy a Rhuddlan yn dilyn cyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ym mis Ebrill yn ogystal â’u darparu o’i swyddfeydd ei hun yn yr ardal.  Rhagwelwyd y byddai gwasanaeth o bell ychwanegol yn cael ei ddarparu o Ganolfan Gymunedol Bodelwyddan o fis Gorffennaf 2018.  Roedd Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn darparu cefnogaeth gyllidebu bersonol i hawlwyr i geisio eu helpu i gynyddu buddion ariannol ar gyfer yr unigolyn, boed o fudd-daliadau neu hawliau’r wlad neu yswiriant neu gyllid preifat y gallent fod â hwy eu hunain ond na fyddent yn ystyried cael mynediad iddynt.  Byddai pob hawlydd newydd yn cael ei atgyfeirio’n awtomatig o’r Ganolfan Waith i Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych am gyfnod cychwynnol gyda bwriad o sicrhau nad ydynt yn mynd i ddyled nad oes modd ei reoli.  Cadarnhawyd, ers i’r Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno i’r rhan fwyaf o Sir Ddinbych ym mis Ebrill 2018, roedd wyth cleient wedi’u cyfeirio o Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i’w Dîm Dyledion i gael cefnogaeth gyllidebol ychwanegol.  Roedd Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn peilota cynllun ar hyn o bryd gyda Chanolan Waith y Rhyl, i helpu hawlwyr Credyd Cynhwysol i reoli cyfnod cychwynnol eu hawliad a rheoli taliadau o flaen llaw. 

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol, swyddogion y Cyngor, a chynrychiolwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych:

·         nid oedd y budd-dal Taliad Annibyniaeth Bersonol yn ffurfio rhan o Gredyd Cynhwysol;

·         nod Credyd Cynhwysol oedd cefnogi pobl i fod yn bersonol gyfrifol am reoli eu cyllid eu hunain a pharatoi ar gyfer byd gwaith;

·         roedd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych swyddogion a allai ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain os oedd amgylchiadau wedi golygu bod angen ymweliad cartref;

·         gallai naill ai’r hawlydd neu’r landlord ofyn am ‘daliad a reolir’ ar gyfer elfen tai Credyd Cynhwysol.  Gellid gwneud cais os oedd taliad rhent wedi’i fethu ar ddau achlysur ar ôl ei gilydd;

·         roedd ‘taliadau a reolir’ o ran costau tai a swm unrhyw daliadau o flaen llaw o ran Credyd Cynhwysol, a’r cyfraddau ad-dalu cysylltiedig yn ffurfio rhan o’r gwasanaeth cyngor cyllidebu personol roedd Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn ei ddarparu i hawlwyr Credyd Cynhwysol. I sicrhau bod modd rheoli ad-dalu unrhyw daliadau o flaen llaw, gallai hawlwyr gael hyd at ddeuddeg mis i ad-dalu’r taliad o flaen llaw a gafwyd.

·         hyd yma roedd tua 400 o bobl wedi hawlio Credyd Cynhwysol o Ganolfan Waith y Rhyl, roedd rhain yn naill ai hawlwyr newydd neu hawlwyr presennol a oedd wedi profi newid sylweddol o ran amgylchiadau ers i Gredyd Cynhwysol gael ei gyflwyno yn y sir. Roedd pobl a oedd eisoes yn cael budd-daliadau penodol ar sail prawf modd nad oeddent wedi profi newid sylweddol o ran amgylchiadau, yn dal i gael y budd-daliadau hynny, nes i’w hamgylchiadau newid neu nes i’r broses fudo a reolir i Gredyd Cynhwysol ddechrau.  Roedd dyddiad pendant ar gyfer mudo hawlwyr presennol i Gredyd Cynhwysol yn dal i gael ei aros.  Rhagwelwyd bod disgwyl i fudo hawlwyr presennol i Gredyd Cynhwysol yn y DU ddechrau yn ystod mis Gorffennaf 2019 a’i gwblhau erbyn 2022.  Erbyn diwedd y broses fudo, gallai amcangyfrif bras o tua 14,000 o bobl yn Sir Ddinbych fod yn hawlio Credyd Cynhwysol er bod ffigurau yn anodd iawn i’w rhagweld;

·         byddai’r swyddog ‘Hyfforddwr Gwaith’ a oedd yn seiliedig yn y Ganolfan Waith, yn amlygu i’r hawlydd unrhyw hawl posibl i fudd-daliadau neu gymorth arall sydd ar gael fel mater o drefn, h.y. prydau ysgol am ddim a gostyngiad treth y cyngor. Roedd staff Adran Tai y Cyngor a staff Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi cael gwybod am yr angen i ofyn i denantiaid a oedd yn hawlio neu’n cael Credyd Cynhwysol a oeddent wedi hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor a Phrydau Ysgol am Ddim;

·         roedd swyddogion y cyngor wedi briffio staff mewn cyfarfodydd clwstwr staff ar gyflwyno Credyd Cynhwysol a’i effaith bosibl ar ddisgyblion a chyllidebau ysgol gyda bwriad o godi ymwybyddiaeth a gofyn am eu cymorth wrth gyfeirio rhieni at Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i gael cyngor cyllidebu personol;

·         o ran y costau i’r Cyngor sy’n gysylltiedig â chyflwyno Credyd Cynhwysol, roedd rhagor o ddarpariaeth wedi’i wneud yng nghyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer effaith ei gyflwyno.  Fodd bynnag, roedd y grant gweinyddu Budd-dal Tai a delir gan lywodraeth ganolog i’r Cyngor wedi lleihau ac roedd yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r Adran Gwaith a Phensiynau bellach, ond nid oedd y llwyth gwaith ar gyfer y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau a weithredir gan Civica wedi gostwng, felly ar gyfer y dyfodol agos, dylai lefelau staffio yn y Gwasanaethau Refeniw a Budd-daliadau aros ar lefelau presennol.  Roedd staff ar draws gwasanaethau’r Cyngor ac mewn sefydliadau partner wedi gwneud y gwaith sy’n gysylltiedig â chyflwyno Credyd Cynhwysol yn barod i sicrhau bod preswylwyr yn cael eu cefnogi lle bo’n bosibl.  Gan ragweld pwysau posibl ar y gyllideb a achosir gan gyflwyno Credyd Cynhwysol, roedd y Cyngor wedi neilltuo £350K yn benodol ar gyfer y diben hwn ac roedd ganddo hefyd £450K mewn Cronfa Wrth Gefn Hawliau Lles.  Gofynnwyd i bob gwasanaeth asesu unrhyw bwysau gallant eu rhagweld yn effeithio ar eu gwaith o gyflwyno Credyd Cynhwysol, ac roedd swyddogion yn ffyddiog y gellid rheoli’r rhain gyda’r cronfeydd wrth gefn a’r balansau a gedwir yn gorfforaethol;

·         byddai ymgyrch i sicrhau bod pob teulu a oedd yn gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim yn manteisio ar eu hawliau hefyd o fudd i’r Cyngor, gan fod hawl am Brydau Ysgol am Ddim yn bwydo i hawl Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer ysgolion unigol a oedd wedyn wedi’i adlewyrchu yn setliad Grant Cynnal Refeniw y Cyngor.  Roedd hawliadau am Brydau Ysgol am Ddim yn cael eu cyflwyno a’u prosesu gan y Cyngor;

·         roedd pob partner yn monitro gwybodaeth am sut a phryd byddai hawlwyr budd-daliadau ar sail prawf modd yn cael eu mudo i Gredyd Cynhwysol gyda bwriad o baratoi ar gyfer y mudo a’i effaith ar wasanaethau ac unrhyw gefnogaeth allai fod ei hangen ar unigolion.  Nododd cynrychiolydd yr Adran Gwaith a Phensiynau fod y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi cyhoeddi ystadegau fod tua 7,200 o bobl yn y sir yn cael Credyd Treth i Deuluoedd sy'n Gweithio ar hyn o bryd ac felly mewn gwaith, o ganlyniad, mae’n bosibl na fydd mudo’r achosion hynny i Gredyd Cynhwysol yn golygu unrhyw gefnogaeth ddwys;

·         roedd y perygl na fydd arian costau tai yn cael ei drosglwyddo i landlordiaid preifat gan denantiaid wedi’i gynnwys ar y ‘gofrestr risg’.  I liniaru yn erbyn y risg hon, roedd Llywodraeth y DU, fel rhan o’i ddatganiad y gyllideb hydref diwethaf, wedi gwneud newidiadau i’r broses caniatâd ar gyfer taliadau a reolir, tra yn lleol, roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Cyngor wedi bod yn amlygu’r newidiadau yn y system budd-daliadau lles i landlordiaid, fforymau landlordiaid preifat, drwy'r cyfryngau cymdeithasol a ‘Rhentu Doeth Cymru’;

·         er na allai aelodau etholedig arsylwi hawlydd yn gwneud hawliad am Gredyd Cynhwysol fel mater o drefn, gallant eistedd i mewn ar gyfweliad Credyd Cynhwysol gyda chaniatâd yr hawlydd;

·         nid oedd angen teithio pellteroedd gormodol bellach er mwyn cynnal hawliad Credyd Cynhwysol.  Er bod y cyfweliad dechreuol yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Waith, gellid cysylltu â’r ‘Hyfforddwr Gwaith’ ac ati wedi hynny dros y ffôn, Skype ac ati. Roedd cefnogaeth ddigidol ar gael yn y Llyfrgelloedd ac roedd ystafelloedd digidol yn Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych a oedd ar gael i hawlwyr eu defnyddio.  Byddai Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn fodlon edrych ar ddefnydd posibl gwasanaeth Negeseua Facebook yn ogystal â Skype.  Byddai perthynas yr hawlydd gyda’i Hyfforddwr Gwaith yn allweddol er mwyn iddynt gael mynediad i’r holl wasanaethau a chefnogaeth oedd eu hangen arnynt i fanteisio ar eu hawliadau ac i sicrhau gwaith;

·         Roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gyfrifol am sicrhau diogelwch data o ran gwybodaeth bersonol a gedwir am bobl a oedd yn hawlio budd-daliadau.  Yn lleol, byddai cyngor am ddiogelwch digidol yn cael ei ddarparu i unigolion fel rhan o’r pecyn cefnogaeth a gynigir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid i hawlwyr;

·         gan fod 98% o gyflogwyr yn y DU yn defnyddio system Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, byddai amrywiadau o ran enillion yn bwydo’n awtomatig i’r Adran Gwaith a Phensiynau, fodd bynnag byddai’r rhai sy’n gweithio ar gyfer y 2% o gyflogwyr bach yn cael negeseuon atgoffa awtomatig i’w hatgoffa i roi gwybod am newidiadau o ran enillion i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Nid oedd y rheol gweithio 16 awr yn bodoli bellach gyda chyflwyno Credyd Cynhwysol, roedd cymhwysedd yn seiliedig ar enillion bellach;

·         nododd Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych y gellid dadlau bod y dull a gymerwyd yn Sir Ddinbych gan y Cyngor a’i bartneriaid i gynllunio ar gyfer cyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol a lliniaru effaith ei gyflwyno ar wasanaethau a phreswylwyr, yn unigryw ac roedd fel pe bai wedi gweithio’n dda.  Roedd ardaloedd eraill a oedd yn aros iddo gael ei gyflwyno wedi cymryd diddordeb brwd yn y dull a gymerwyd yn Sir Ddinbych.  Yn genedlaethol, roedd y Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn ymwybodol o’r gwaith a wnaed yn Sir Ddinbych a rhan Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn y gwaith, y dull rhagweithiol a gymerwyd yn ogystal ag arfer gorau a oedd wedi dod i’r amlwg a oedd wedi’i rannu gyda nhw.

 

Cyn dod â’r drafodaeth i ben, gofynnodd aelodau’r Pwyllgor bod eu llongyfarchiadau a’i gwerthfawrogiad yn cael eu cyfleu i bob partner a oedd yn rhan o’r dull rhagweithiol a gymerwyd i reoli effaith cyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol yn Sir Ddinbych, ac am y gefnogaeth a’r cyngor a ddarparwyd hyd yma.  Ar ôl ystyried cynnwys yr adroddiad:

 

Penderfynwyd:  - yn amodol ar y sylwadau uchod

 

(i)           parhau i gefnogi gwaith parhaus y Bwrdd Credyd Cynhwysol i ddeall a rheoli’r effeithiau ar wasanaethau’r Cyngor a phreswylwyr Sir Ddinbych o ganlyniad i gyflwyno Credyd Cynhwysol; ac

(ii)          os nad yw pryderon yn haeddu ystyriaeth gynharach, gofyn bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ymhen deuddeg mis ar effaith cyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ar breswylwyr a gwasanaethau’r Cyngor, a bod yr adroddiad yn cynnwys manylion am unrhyw wersi a ddysgwyd o’r cyflwyno dechreuol, a throsolwg o’r gwaith sy’n mynd rhagddo i liniaru’r effaith ar y Cyngor a phreswylwyr o ganlyniad i fudo derbynwyr budd-daliadau presennol i Gredyd Cynhwysol maes o law.

 

 

Dogfennau ategol: