Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN GWEITHREDU ATAL DIGARTREFEDD

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Comisiynu Atal Digartrefedd (copi ynghlwm) yn diweddaru aelodau ar gynnydd gweithredu Cynllun Gweithredu Atal Digartrefedd.

10.05 a.m. – 10.45 a.m.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol), yn diweddaru aelodau ar gynnydd gweithredu Cynllun Gweithredu Atal Digartrefedd, ar gais y Pwyllgor yn ei gyfarfod Tachwedd 2017. Atgoffodd aelodau o'r newidiadau mawr a gyflwynwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a'r ffocws ar fesurau atal ac ymyrryd o ran digartrefedd, gan dynnu sylw at y ffaith bod y broblem wedi'i dwysáu oherwydd caledi parhaus a newidiadau lles, yn cynnwys Credyd Cynhwysol.

 

Tynnwyd sylw’r Aelodau at y diweddariad a’r camau gweithredu allweddol dros y ddwy flynedd nesaf, fel y manylir yn yr atodiad i’r adroddiad, a ymgorfforodd y camau gweithredu a oedd yn ofynnol yn Strategaeth Atal Digartrefedd Sir Ddinbych a Chynllun Blynyddol Atal Digartrefedd / Cefnogi Pobl Sir Ddinbych, gyda ffocws ar feysydd blaenoriaeth, fel yr argymhellir gan Swyddfa Archwilio Cymru.  Pwysleisiwyd yr angen i’r Cyngor weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau mewnol ac allanol, er mwyn cyflawni’r nodau hynny.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, Rheolwr Tîm Datrysiadau Tai a Chefnogi Pobl, a Swyddog Comisiynu Atal Digartrefedd -

 

·         gadarnhau bod arian grant Cefnogi Pobl i fynd i’r afael â digartrefedd wedi’i ddiogelu ar gyfer 2018/19 a byddai’n parhau y tu hwnt i hwnnw – fodd bynnag, fel rhan o’r newidiadau cyllid arfaethedig yn y dyfodol, roedd mwy o bwyslais ar ymyrraeth yn cael ei ragnodi gan Lywodraeth Cymru ac roedd ansicrwydd ynghylch pwy fyddai’n dosbarthu’r ‘uwch grant’ a sut y byddai’n cael ei ddyrannu

·         cydnabod bod materion gyda sefydliadau eraill sy’n cael eu sefydlu fel elusennau digartrefedd, ac roedd y Cyngor a phartneriaid yn gweithio gyda nhw er mwyn cynnig hyfforddiant ar sut i ddelio â'r materion a godwyd ac ategu at y Strategaeth Digartrefedd, gan dynnu sylw at y llwybr clir i’r rhai sydd angen cefnogaeth – roedd prosiectau Cefnogi Pobl yn cael eu monitro’n dda gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu rheoli o fewn llwybr i benderfynu ar y darparwr gorau ar gyfer unigolyn/teulu

·         rhoi gwybod bod gwasanaethau atal digartrefedd a gomisiynwyd gan Gefnogi Pobl yn cael eu lleoli mewn ardaloedd gwledig a threfol, a chytunwyd i gylchredeg copi o’r Cyfeirlyfr o Wasanaethau i aelodau’r Pwyllgor; cyfeiriwyd hefyd at y Fforwm Darparwyr Rhanbarthol, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu Fforwm Digartrefedd aml-asiantaeth, yr oedd croeso i aelodau ei fynychu

·         egluro rôl y ‘Llywiwr Cymunedol’ sy’n gysylltiedig â gwahanol ardaloedd, gydag un Llywiwr Cymunedol wedi’i ddyrannu'n rhannol i ddigartrefedd, gyda ffocws ar Gredyd Cynhwysol - gan gynnig cyngor a chefnogaeth ymyrraeth gynnar gyda phresenoldeb yng nghanolfan waith y Rhyl i gyfeirio unigolion lle bo angen, gan sicrhau bod materion yn cael sylw yn ystod y camau cynnar i atal digartrefedd

·         egluro ei bod yn anodd penderfynu ar ffigurau penodol digartrefedd, o ystyried y nifer hynny gydag ansicrwydd tai, gyda rhai unigolion nid yn byw ar y strydoedd, ond yn cysgu ar soffa/aros gyda ffrindiau – roedd tua 60 achos yr wythnos yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor a oedd yn ddigartref/mewn perygl o fod yn ddigartref

·         ymhelaethu ar y gwaith a wnaed i nodi’r unigolion/teuluoedd hynny a fyddai’n cael eu heffeithio gan Gredyd Cynhwysol yn ystod y camau cynnar, a thargedu cymorth i atal digartrefedd – roedd yr holl staff atal digartrefedd, yn cynnwys y rhai hynny mewn gwasanaethau a gomisiynwyd, wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth Credyd Cynhwysol er mwyn cefnogi'r bobl hynny yn yr amgylchiadau hynny’n effeithiol, ac roedd y Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Chyngor ar Bopeth yn hynny o beth

·         cydnabod efallai nad oedd y grwpiau penodol â’r sgiliau hanfodol neu’r mynediad gofynnol at TG, o ran Credyd Cynhwysol, a bod gwaith yn parhau i gefnogi’r unigolion hynny; nodwyd hefyd bod mwy o deuluoedd sy’n gweithio â phobl ifanc yn cael eu heffeithio, ac roedd adborth yn tynnu sylw at eu ffafriaeth o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a digidol ar gyfer cael gafael ar wasanaethau a rheoli budd-daliadau

·         rhoi sicrwydd ynghylch llety dros dro penodol, ond tynnwyd sylw at yr anawsterau o ganfod llety o ansawdd uchel, dros dro ac addas, i fodloni anghenion unigolion a bod cynlluniau i wneud astudiaeth ddichonoldeb ar lety dros dro; roedd gwaith yn parhau gyda darparwyr/landlordiaid i wella ansawdd y llety ac atal rhag cael eu troi allan

·         tynnu sylw at yr anawsterau o ymgysylltu â phobl ifanc i atal digartrefedd mewn pobl ifanc, ac adroddwyd ar astudiaeth ddichonoldeb ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddarparu llety o ansawdd uchel ar gyfer tua phump o bobl ifanc ym mhob ardal sirol, yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru, a fyddai’n lleihau’r angen am lety Gwely a Brecwast

·         ailadrodd y gallai unigolion gyflwyno eu hunain fel bod mewn risg neu’n ddigartref i’r Cyngor, a byddent yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth Cefnogi Pobl, a chyfeiriwyd unigolion hefyd drwy asiantaethau eraill fel Cyngor ar Bopeth - yn dilyn uniad Timau Cefnogi Pobl a Datrysiadau Tai, roedd ymateb y Cyngor yn llawer cyflymach ac roedd y gwasanaeth yn cael ei hysbysebu’n rheolaidd drwy Bwyntiau Siarad

·         egluro’r defnydd o gyflwyno trwyddedau bws i unigolion, a oedd yn gytundeb dwy ffordd ar draws ardaloedd awdurdod cyfagos.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, roedd aelodau’n awyddus i gael adroddiad cynnydd pellach mewn tua chwe mis er mwyn parhau i fonitro cynnydd ar weithrediad o’r Cynllun.  Teimlai Aelodau hefyd y byddai’n ddefnyddiol i adroddiadau’r dyfodol gynnwys mwy  o fanylder ynghylch nifer benodol unigolion/teuluoedd a nodwyd fel digartref, neu mewn perygl o ddigartrefedd.  Gobeithiwyd hefyd y byddai rhagor o fanylion ynghylch y newidiadau ariannu arfaethedig ar gael gan Lywodraeth Cymru.  O ganlyniad -

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod i -

 

(a)       gefnogi darpariaeth y Cynllun Gweithredu Atal Digartrefedd i sicrhau fod pawb yn cael eu cefnogi i fyw mewn cartrefi sy’n diwallu eu hanghenion;

 

(b)       nodi sicrwydd fod cynlluniau’n cael eu datblygu i liniaru unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â’r bwriad posibl yn y dyfodol i ddiddymu’r sicrwydd a roddir i gyllid Cefnogi Pobl ar hyn o bryd ar gyfer gwaith atal digartrefedd, a

 

(c)        gofyn am gyflwyno adroddiad cynnydd pellach ar weithredu'r Cynllun Gweithredu Atal Digartrefedd i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2018.

 

Ar y pwynt hwn (11.00 a.m.) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: