Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHEOLI YMDDYGIAD YN YSGOLION SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Prif Reolwr Addysg (copi wedi'i amgáu) sy'n gofyn i'r Pwyllgor adolygu tueddiadau o ran gwaharddiadau o’r ysgol yn y sir i bennu os ydi gwaharddiadau tymor byr yn cael effaith niweidiol ar gyrhaeddiad y disgyblion.

 

10:45 a.m. – 11:15 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad a’r atodiadau (wedi eu dosbarthu’n barod) a oedd yn crynhoi’r tueddiadau mewn gwaharddiadau parhaol a thymor penodol fe gynghorodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc bod aelod wedi gofyn am yr adroddiad oherwydd ei bryderon ynglŷn â’r nifer o waharddiadau tymor penodol o bum niwrnod neu lai yn ysgolion y sir.  Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd yr Aelod Arweiniol er bod Estyn fel rhan o’r archwiliad diweddar o Wasanaeth Addysg y Cyngor wedi archwilio’r maes penodol hwn, doedd y corff heb wneud unrhyw argymhellion penodol mewn perthynas â pholisi neu gyfraddau gwahardd o'r ysgol.  Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod gan y Cyngor uchelgais a pholisi i gadw plant mewn ysgol a'u cefnogi nhw drwy eu haddysg.  Gwaharddiad parhaol o ysgol yw’r weithred olaf un pan fydd yr holl ymyriadau eraill wedi methu, roedd y gwaharddiadau dros y tymor byr felly yn uwch er mwyn mynd i’r afael â phroblemau fel nad oedd angen gwahardd disgybl yn barhaol gan fod gwahardd yn barhaol yn debygol o olygu y byddai disgybl ‘ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant’ (NEET), wedi ymddieithrio, yn tangyflawni neu ddim yn cyflawni ac felly yn effeithio ar ei ganlyniadau bywyd o/hi.

 

Cynghorodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant fod:

  • cyfraddau gwaharddiadau tymor penodol yn uwch mewn ysgolion uwchradd nac mewn ysgolion cynradd;
  • cyfraddau gwahardd tymor penodol yn uwch mewn ysgolion cynradd mewn ardaloedd difreintiedig o'i gymharu ag ysgolion cynradd eraill;
  • sicrhaodd Gwasanaeth Addysg y Sir fod yr holl waharddiadau, yn rai tymor penodol a pharhaol, yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol. 

O ganlyniad ni chaniateir i ysgolion anfon disgyblion adref ‘i dawelu’ ac ati gan fod ganddynt ddyletswydd gofal statudol am y plentyn ac yn sicrhau ei ddiogelwch o/hi;

  • swyddogion yn hyderus bod y ffigyrau a adroddwyd yn gywir; data cywir yn allweddol i alluogi’r Gwasanaeth i ddarparu’r ymyrraeth a chefnogaeth briodol sydd ei angen;
  • yr her ar gyfer y Gwasanaeth yw’r ymddygiad gymhleth y mae rhai disgyblion yn ei ddangos mewn rhai ysgolion, fel arfer yn gysylltiedig  â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (PNP). 

Felly, angen archwilio cefndir pob plentyn unigol er mwyn deall beth o bosib fyddai’n achosi’r ymddygiad; ac

  • mewn nifer o achosion byddai cyfnod gwahardd tymor byr o ddiwrnod neu ddau yn ddigon o gosb heb orfod troi at ddiarddeliad pellach

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a’r Uwch Swyddog Gwella Ysgolion – Uwchradd:

  • bod yr holl ddisgyblion yn cael eu olrhain trwy eu taith addysgol yn Sir Ddinbych; boed yn brif ffrwd neu ysgolion arbennig;
  • disgyblion wedi eu hadnabod fel rhai ag anghenion addysgol arbennig (AAA), anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac ati yn cael eu darparu â’r gefnogaeth ychwanegol i gwrdd â'u anghenion. 

Os bydd eu hymddygiad yn dod yn fwy heriol yna bydd yr Adran Addysg yn gweithio gyda'r ysgolion i'w helpu nhw, gan gynnwys y trawsnewid o addysg gynradd i uwchradd ac addysg bellach os oes angen.  Mae swyddogion wedi amlinellu'r broses a ddefnyddiwyd i ddylunio ymyrraeth briodol i gwrdd ag anghenion unigol disgybl;

  • cynghorwyd mai un o’r rhesymau y tu ôl i’r cynnydd yn y nifer o waharddiadau tymor penodol o 5 diwrnod neu lai yn ystod 2015/16 oedd am fod un o’r ysgolion uwchradd wedi newid pennaeth a bod y pennaeth newydd yn llai goddefol o ymddygiad gwael;
  • cadarnhawyd fod y Sir heb newid ei Bolisi Rheoli Ymddygiad mewn Ysgolion yn y blynyddoedd diwethaf. 

Fel gwasanaeth, cyfrifoldeb y Gwasanaeth Addysg yw sicrhau fod ysgolion unigol yn dilyn y gweithdrefnau cywir ac yn gweithredu mesurau ymyrraeth briodol i gefnogi'r disgybl dan sylw i gyflawni eu potensial ac i'w hosgoi rhag tarfu ar addysg disgyblion eraill

  • cydnabod er bod y nifer o waharddiadau tymor penodol o 5 diwrnod neu lai yn y sir ddim wastad yn uwch nag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru roeddent yn fodlon bod y mesur yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol ar gyfer y bwriad o sicrhau fod mesurau ymyrraeth priodol yn cael eu gweithredu i osgoi gwaharddiadau pellach ac i leihau’r tebygrwydd o ddisgybl yn bod yn NEET 

Gwaith wedi mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda ysgolion mewn ymgais i leihau’r nifer o waharddiadau tymor penodol trwy ddarparu gwasanaethau cefnogi ymddygiad ar safle yn yr ysgolion.  Rhestr o atebion eraill i waharddiadau tymor penodol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.  Mae gan Sir Ddinbych hanes blaenorol da o reoli dysgwyr sydd mewn risg o fod wedi’u hymddieithrio ac yn awyddus i’r enw da yn y maes hwn i gael ei wella ymhellach;

  • cynghorwyd fod cyfanswm sylweddol o hyfforddiant wedi’i wneud gyda staff yn yr ysgolion ar adnabod anghenion ychwanegol ac arbennig mewn disgyblion h.y. awtistiaeth a dyslecsia. 

Mae Ysgol Plas Brondyffryn wedi cynnig gwasanaeth estyn allan i ysgolion prif ffrwd ar gyfer cefnogi plant ag awtistiaeth.  Mae'r Gwasanaeth wedi hyrwyddo’r cyfle i ysgolion ddilyn rhaglen Achredu Awtistiaeth a fyddai'n golygu y byddent yn cael eu dyfarnu gyda nod barcud Awtistiaeth a fyddai’n dangos eu bod yn sefydliadau cyfeillgar i awtistiaeth.  Mae’r Gwasanaeth yn cyfathrebu â grwpiau cefnogi arbenigol hefyd mewn perthynas ag anghenion disgyblion, mae'r gwaith yn allweddol i ddeall anghenion pobl yn cefnogi disgyblion gydag awtistiaeth.  Yn ogystal mae’r gwasanaeth wedi gweithio’n agos â Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS).  Ond wedi dweud hynny ni fydd yn disgwyl am ddiagnosis swyddogol cyn rhoi cefnogaeth a mesurau ymyrraeth yn eu lle i blant sy’n ymddangos o fod ag ymddygiad iechyd meddwl, awtistiaeth neu dyslecsia.  Byddai ymyrraeth yn cael ei wneud ar y cyfle cyntaf posib ac yn cael ei adolygu ar ôl derbyn diagnosis gan CAMHS;

  • dywedwyd wrth yr aelodau bod y Gwasanaeth hefyd yn ymdrechu i leihau maint dosbarthiadau mewn ysgolion gyda'r bwriad o greu amgylchedd ddysgu bositif a chefnogol;
  • cydnabod er fod cynnydd o tua 30 i 70 o ddisgyblion ar gyfer pob 1,000 o ddisgyblion yn y nifer o waharddiadau tymor penodol o 5 diwrnod neu lai o fewn cyfnod o 3 i 4 blynedd yn uchel iawn, roedd yn bwysig deall yn y blynyddoedd diwethaf fod ysgolion y sir wedi bod yn delio â rhai problemau ymddygiad cymhleth iawn a bod angen llawer iawn o ymyrraeth.  Roedd yna bob tro reswm wrth wraidd yr ymddygiad oedd yn arwain disgyblion i fod yn heriol yn yr ysgol;
  • cynghorwyd fod dod â’r Gwasanaeth Addysg a’r Gwasanaeth Plant o dan un pennaeth gwasanaeth wedi helpu staff ysgolion a gwasanaethau addysg i gael gafael ar wasanaethau cefnogi arbenigol yn gynt ac i sicrhau fod cefnogaeth digonol ar gael i ddisgyblion unigol yn yr ysgol a'r cartref; a
  • cynigwyd y cyfle i aelodau ymweld ag Ysgol Plas Cefndy, yr Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) yn y Rhyl a’r cyfleuster Cerrig Camu yn Rhuthun i weld y gwaith sy’n cael ei wneud yno.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth roedd y Pwyllgor wedi cydnabod fod dull y sir o adrodd ar ddata gwahardd o'r ysgol yn gywir ac yn ddidwyll.  Cytunodd yr aelodau mai dim ond fel y dewis olaf y dylid ystyried gwaharddiad pan fo pob dim arall wedi methu.  Mae cynnig ymyrraeth adferol gyda’r bwriad o wella ymddygiad ac ymrwymiad ac osgoi camgymeriadau yn allweddol er mwyn ceisio osgoi costau pellach i'r gymdeithas yn y dyfodol.  Aelodau:

 

Penderfynu: yn amodol ar y sylwadau uchod -

(i)   i gefnogi dull y Cyngor o reoli ymddygiad yn ysgolion y sir;

(ii)  gofyn i ‘Adroddiad Gwybodaeth’ gael ei baratoi a’i ddosbarthu i’r aelodau yn dilyn cyhoeddi data 2016-17 ar waharddiadau ysgol yng Nghymru, gan roi manylion o ffigyrau gwahardd o'r ysgol yn Sir Ddinbych gan gynnwys manylion o bob ysgol unigol yn y sir a'r rhesymau dros wahardd y disgyblion; ac

(iii)bod ymweliad yn cael ei drefnu i aelodau ac aelodau cyfetholedig y Pwyllgor ag Ysgol Plas Cefndy a chyfleuster Cerrig Camu

 

 

Cyn gadael y cyfarfod fe ddywedodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant wrth yr aelodau am ganlyniadau cyfarfod yr oedd wedi’i fynychu gyda chynrychiolwyr Grŵp Llandrillo Menai ar eu trefniadau arfaethedig ar gyfer y dyfodol i fyfyrwyr ar ôl i’r Grŵp gyhoeddi yn ddiweddar eu bod yn cau’r cyfleuster yn Ninbych. 

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau:

  • bod y Cyngor wedi’i sicrhau y bydd y cyrsiau sy’n cael eu rhedeg ar hyn o bryd yng Ngholeg Dinbych ar gael i fyfyrwyr presennol mewn safleoedd eraill y Grŵp;
  • bod rhan fwyaf y myfyrwyr sy’n mynychu'r safle yn Ninbych yn byw yng ngogledd y sir;
  • bod y Grŵp ar hyn o bryd yn edrych ar opsiynau i ailstrwythuro ei ddarpariaeth er mwyn arbed costau ac mai Coleg Dinbych oedd gyda'r nifer lleiaf o fyfyrwyr allan o'i holl safleoedd. 

Mae’r nifer o gyrsiau ar gael yno yn gyfyngedig, ac  ar ben hynny mae'r nifer o fyfyrwyr sy’n mynychu’r cyrsiau yn isel ac yn gwneud dyfodol y safle yn annichonadwy;

  • mae’r Grŵp wedi cynllunio rhai cyrsiau yn Ninbych yn y dyfodol a byddai’r rhain yn cael eu dysgu yn ‘Yr Hwb’
  • mae’r Grŵp yn parhau gyda’r gwaith a’r bwriad o sicrhau dyfodol yr adeilad; ac
  • byddai’r Cyngor yn parhau i weithio gyda’r Grŵp mewn perthynas â darpariaeth trawsnewid ôl-16  a’r cyfleoedd i lenwi’r diffyg darpariaeth i fyfyrwyr Ysgol Plas Brondyffryn ar ôl cau’r Coleg.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth o ran darpariaeth prif ffrwd y byddai'r Cyngor yn fodlon gyda'r darpariaeth y mae'r Grŵp yn gynnig ei ddarparu yn y dyfodol.

 

 

 

Dogfennau ategol: