Eitem ar yr agenda
CYNNYDD DISGYBLION O FLWYDDYN 10 I FLWYDDYN 11 (CA4)
Ystyried
adroddiad gan y Prif Reolwr Addysg (copi wedi'i amgáu) am ddarganfyddiadau’r
astudiaeth a gynhaliwyd am ddisgyblion Blwyddyn 10 o’u dewis bynciau i
gyrhaeddiad.
10:05 a.m. – 10:45 a.m.
Cofnodion:
Wrth
groesawu’r Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, Pennaeth Addysg a Gwasanaethau
Plant a’r Uwch Swyddog Gwella Ysgolion – sy'n rhan o'r cyfarfod i gyflwyno'r
adroddiad cyntaf – hoffai’r Pwyllgor eu llongyfarch nhw am eu gwaith caled oedd
wedi arwain at Estyn, yn dilyn archwiliad diweddar, i ddatgan fod y Gwasanaeth
yn cyflawni canlyniadau da a gyda gwasanaethau addysg o safon a chyda
arweinyddiaeth a rheoli rhagorol. Mae
rhinweddau arwain y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant wedi’u nodi fel “hynod
effeithiol a theilwng”, gydag aelodau yn ei llongyfarch ac yn gofyn iddi ddatgan
hynny hefyd i staff y Gwasanaeth.
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl
Ifanc yr adroddiad (wedi'i ddosbarthu'n barod) a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor
ystyried darganfyddiadau'r astudiaeth a wnaed ar ddisgyblion Blwyddyn 10 o
ddewis pynciau i gyrhaeddiad. Yn ystod ei gyflwyniad fe
hysbysodd Aelod Arweiniol y Pwyllgor fod Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar
gyfer 2017-2022 yn cynnwys yr uchelgais i weld fod pob plentyn yn cyflawni’r
safonau disgwyliedig ar ddiwedd ysgol gynradd, yn cyflawni o leiaf 5 TGAU A* -
C (yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg) erbyn diwedd ysgol uwchradd. Mae Estyn wedi cyfeirio at yr uchelgais hwn yn ei adroddiad diweddar.
Cynghorodd
y Pennaeth Gwasanaeth fod y Cyngor yn cydnabod bod diffyg mewn cyrhaeddiad yn
bodoli rhwng cyfnodau allweddol (CA) 2 a 4, gyda pherfformiad yn mynd ar ei
lawr yn sylweddol o tua 20% i 25% rhwng y ddau gyfnod allweddol. Mae Swyddogion wedi llunio nifer o fesuriadau ymyrraeth i gefnogi
disgyblion yn trosglwyddo o ysgolion cynradd i uwchradd er mwyn gwneud yn
siŵr nad ydyn nhw'n cael eu heithrio neu
ymddieithrio yn y broses addysg ac o ganlyniad yn tangyflawni gan y byddai hynny'n cael effaith ar eu canlyniadau mewn bywyd. Wedi’i restru yn yr adroddiad oedd y gwahanol fathau o gefnogaeth a mesurau
ymyrraeth ar gael i ddisgyblion. Gellir dechrau nifer o fesurau
ymyrraeth pe bai disgybl yn dechrau rhoi i fyny ar y system addysg h.y. trwy
ddefnyddio’r system TRAC. Byddai’r system yn adnabod y
math mwyaf priodol o gefnogaeth i ddisgybl ar sail unigol, gan gynnwys yr
amgylchedd ddysgu mwyaf effeithiol sydd ei angen i gefnogi eu haddysg i sicrhau
fod y disgybl yn ffynnu ac yn cyflawni eu potensial. Fodd bynnag mae’n bwysig sylweddoli nad
yw’r holl ddisgyblion yn cyflawni'r trothwy cynhwysol Lefel 2 ar CA4, ond y nod
yw sicrhau y byddan nhw’n cyflawni eu gorau.
Mae
Sir Ddinbych yn cofnodi pob disgybl unigol o'r
diwrnod y maent yn cael eu cynnwys ar system addysg y Sir tan y diwrnod y
byddant yn gadael. Er bod yr awdurdod lleol yn gwybod eu
disgyblion a’u hanghenion yn dda mae’n debyg ei fod angen dangos tystiolaeth
o’r prosesau a gwella cyfanswm ei wybodaeth.
Mae Atodiad 1 o’r
adroddiad yn cynnwys enghraifft o'r matrics olrhain a ddefnyddiwyd i fonitro
cynnydd disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig (AAA), neu sydd yn gymwys
am brydau ysgol am ddim, gyda Saesneg fel iaith ychwanegol neu wedi eu
hystyried yn ddisgyblion dros dro. Mae’r matrics yn rhoi proffil
o bob disgybl sydd o bosib angen cefnogaeth ychwanegol. Mae defnyddio’r matrics yn sicrhau fod yr holl ffactorau wedi eu cymryd i
ystyriaeth wrth benderfynu pa fath o gefnogaeth ychwanegol sydd ei angen
arnynt. Wrth benderfynu ar y math a lefel o
unrhyw gefnogaeth ychwanegol sydd ei angen bydd swyddogion yn ystyried cofnod
presenoldeb disgyblion yn ogystal â’u hymddygiad ac
unrhyw waharddiadau o ysgolion.
Er bod mesurau atebolrwydd ar fin newid eto yn ystod
blwyddyn academaidd 2018/19 a fyddai'n cymhlethu'r broses o adnabod anghenion
cefnogaeth ymhellach, roedd pob ymdrech posib yn cael ei wneud i ddatblygu
system a fyddai'n adnabod yr holl ddisgyblion sydd angen cefnogaeth ac i roi
strategaethau ymyrraeth briodol yn eu lle.
Wrth
ymateb i gwestiynau aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth
a’r Swyddog Gwella Ysgolion – Uwchradd:
·
Mae’r ddogfen matrics wedi’i ddatblygu i gael
ei ddefnyddio gan yr holl staff addysg mewn ysgolion, yn y sector gynradd ac
uwchradd h.y.
Pennaeth, Pennaeth Blwyddyn, Pennaeth Adran,
swyddogion Gwasanaeth Addysg gan gynnwys Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant. Mae
staff mewn ysgolion yn ei ddefnyddio i bennu a rhoi mesurau ymyrraeth briodol
yn eu lle.
Mae GwE wedi cadw gwybodaeth
debyg ac mae’r Gwasanaeth Addysg yn ystod eu cyfarfodydd rheolaidd â GwE yn triongli'r dystiolaeth a gedwir ac yn herio unrhyw gefnogaeth y maent wedi'i
ddarparu i sicrhau ei fod yn briodol ar gyfer pob disgybl yn seiliedig ar eu
proffiliau unigol. Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth enghraifft
o’r math o gefnogaeth a sut y mae’n cael ei weithredu ar gyfer disgybl unigol
trwy ddefnyddio’r proffil wedi’i ddatblygu ar y matrics;
·
Swyddogion yn cydnabod bod y newid rhwng
addysg gynradd ac uwchradd yn fwy heriol i rai disgyblion nag eraill, gan olygu
fod rhai sydd wedi perfformio yn dda ar lefel cynradd ddim yn perfformio cystal
â'r disgwyl yn dilyn newid.
Fodd bynnag oherwydd cyfanswm y data ar bob
disgybl sydd gan bob Gwasanaeth gallent adnabod disgyblion sydd wedi ei chael hi'n anodd ar ôl newid yn y dyddiau cynnar er mwyn sicrhau
digon o ymyrraeth a chefnogaeth fel eu bod yn cyflawni eu llwyr botensial erbyn
diwedd y cyfnod o addysg statudol;
·
gwybodaeth wedi’i gynnal ar ba ysgol gynradd
y mae'r disgybl wedi'i fynychu cyn symud i'r sector uwchradd ac felly byddai
swyddogion yn gallu adnabod unrhyw batrymau neu duedd datblygol o dan gyflawni.
Er hynny nid oedd unrhyw ysgol gynradd yn y
sir yn destun unrhyw fesurau Estyn, roeddent i gyd yn perfformio'n dda;
·
ers cyflwyno CA3 tydi’r
cwricwlwm heb gael ei adolygu.
Mae hyn yn broblem cenedlaethol ac mae gwaith
wedi mynd rhagddo i adolygu ei gynnwys er mwyn ateb anghenion yn well yn y
dyfodol;
·
Os bydd anghysondebau yn ymddangos rhwng
asesiadau athrawon a chanlyniadau profion cenedlaethol byddai'r swyddogion
Addysg yn archwilio anghysondebau o'r fath i sicrhau fod y proses asesu gan
athrawon yn gadarn a heriol.
Bydd unrhyw anghysondebau yn cael eu trafod
gyda GwE bob pythefnos mewn cyfarfodydd wedi eu
cynnal rhwng staff y Gwasanaeth Addysg a swyddogion GwE;
·
un tuedd wedi’i nodi o dan y proses proffilio
disgyblion unigol ac wedi’i ddefnyddio gan y sir oedd disgyblion yn
perfformio’n dda mewn mathemateg a gwyddoniaeth ond yn dueddol o beidio â
pherfformio cystal mewn Saesneg neu Gymraeg, ac i’r gwrthwyneb;
·
y ffaith fod canlyniadau arholiadau
llenyddiaeth Saesneg neu Gymraeg ddim yn cyfri rhagor at gyrhaeddiad trothwy cynhwysol Lefel 2 CA4 yn
profi’n dipyn o her;
·
disgyblion wnaeth drosglwyddo o addysg
gynradd cyfrwng Saesneg i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn cael eu cyflwyno
i’r iaith a’r derminoleg trwy ddarpariaeth trochi.
Mae eu cynnydd wedi cael ei olrhain yn
rheolaidd trwy’r gronfa ddata;
·
Ysgol Brynhyfryd wedi datblygu cronfa ddata
olrhain tra datblygedig ar gyfer ei ddisgyblion sydd yn ymddangos i fod yn
hynod o effeithiol.
Ysgolion eraill yn y sir bellach yn
mabwysiadu elfennau o’r system hwn ac yn ei addasu i gwrdd ag anghenion
dadansoddi data ei hunain; ac
·
os bydd swyddogion yn amau fod ysgol yn cyflwyno
data anghywir neu annilys yna byddant yn cael eu herio’n sylweddol gan y
Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant
Yn ymateb i bryderon aelodau fod y Cyngor efallai wedi
rhoi gormod o sialens i’w hun ac mewn perygl o fethuoherwydd
graddau’r uchelgais ar gyfer yr elfen cyflawniad disgyblion sy’n rhan o'r
flaenoriaeth gorfforaethol yn ymwneud â phobl ifanc yn ei Gynllun
Corfforaethol, mae'r Pennaeth Gwasanaeth wedi cynghori mai’r nod oedd gwneud yn
siŵr fod disgyblion y sir yn cyflawni hyd eithaf eu gallu o fewn system
sydd ddim yn berffaith.
Diolchodd
yr Aelodau i'r Prif Swyddog a’r swyddogion am eu hadroddiad a’u hesboniadau,
ac:
Penderfynwyd: yn ddarostyngedig i’r
sylwadau a’r sicrwydd a roddwyd uchod bod y Pwyllgor yn hyderus fod eu holl
ddisgyblion yn cael eu cefnogi i gyflawni eu holl botensial yng Nghyfnod
Allweddol 4
Dogfennau ategol:
- Pupil Progress Report 260418, Eitem 5. PDF 580 KB
- Pupil Progress Report 260418 - Appendix1, Eitem 5. PDF 82 KB