Eitem ar yr agenda
PRESTATYN IACH
I dderbyn diweddariad ar lafar gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am y fenter Prestatyn Iach
11.40a.m. – 12.15p.m.
Cofnodion:
Rhoddodd Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol Gofal
Sylfaenol a Chomisiynu y Bwrdd Iechyd gefndir sefydlu’r fenter Prestatyn Iach
i’r Pwyllgor. Yn ystod ei
chyflwyniad, dywedodd:
- Bod
meddygfeydd yn sefydliadau preifat, roeddent yn amrywio o ran maint llwyth
achosion cleifion. Roedd gan y meddygfeydd
lleiaf yn Sir Ddinbych tua 2 fil o gleifion wedi cofrestru gyda nhw, tra
bod maint y feddygfa ganolig yn y rhanbarth yn cynnwys tua 7 mil o
gleifion;
·
Roedd y model Prestatyn Iach, oedd yn gwasanaethu
cleifion oedd wedi cofrestru gyda meddygfeydd ym Mhrestatyn, Rhuddlan, Gallt
Melyd a Ffynnongroyw yn ffordd newydd o ddarparu gofal meddygol sylfaenol,
ymyrraeth a lles, a reolwyd yn uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd. Roedd yn cynnwys pedwar
tîm yn y feddygfa oedd yn delio gyda rheoli achosion cronig, pumed tîm oedd yn
cynnal ymweliadau â’r cartref ynghyd â thîm arall oedd yn darparu gwasanaethau
meddygol dwys i gleifion yn defnyddio’r gwasanaeth cerdded i mewn;
·
Roedd y gwasanaeth a reolir gan y Bwrdd Iechyd
wedi'i sefydlu i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal ar ôl i
nifer o feddygon teulu yn yr ardal hysbysu’r Bwrdd y byddent yn ymddeol neu’n
terfynu eu contractau ar gyfer darparu gwasanaethau meddyg teulu. Wrth sefydlu’r model
newydd arloesol hwn ar gyfer darparu gwasanaethau sylfaenol roedd y Bwrdd hefyd
wedi cynnwys dull mwy cyfannol yn y model newydd ar gyfer darparu gwasanaethau
meddygol sylfaenol a lles cyffredinol y boblogaeth;
·
roedd y Gwasanaeth a dderbynnir ar hyn o bryd yn
derbyn cysylltiad gan y cyhoedd tua 100k y flwyddyn, yn delio gyda chyfartaledd
o 420 claf y dydd gyda thua 100 ohonynt yn cael eu gweld ar y diwrnod yr
oeddent wedi cysylltu â’r gwasanaeth. Roedd y nifer o
gleifion a welir yn ddyddiol yn fwy na’r cyfartaledd dyddiol ar gyfer yr Adran
Argyfwng yn Ysbyty Glan Clwyd;
·
Roedd y cyfleuster Tŷ Nant, yr oedd y Bwrdd Iechyd
yn ei rentu gan y Cyngor yn gyfleuster gwych oedd yn cefnogi’r model darparu
gwasanaeth yn dda;
·
roedd system TG claf newydd wedi’i osod yn ddiweddar oedd
yn gweithio’n dda;
·
Roedd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi archwilio’r
gwasanaeth Prestatyn Iach yn ystod 2017 ac wedi dod i’r casgliad ei fod yn
darparu gofal diogel ac effeithiol yn gyffredinol;
·
roedd yna heriau o’u blaenau, yn arbennig mewn
perthynas â recriwtio staff clinigol, darparu hyfforddiant i’r sector darparwr
preifat a chynnydd parhaus yn y galw am ei wasanaethau. Rhwng Ionawr a Mawrth
2018 bu cynnydd o 6% mewn apwyntiadau a chynnydd o 15% mewn ymweliadau â’r cartref
gan y gwasanaeth;
·
wrth symud ymlaen byddai’r ffocws ar recriwtio
meddyg teulu ychwanegol ac ymarferydd nyrsio uwch. Roedd yn galonogol bod
MT wedi dangos diddordeb mewn ymuno â'r gwasanaeth a bod nyrs yn hyfforddi i
gymhwyso fel ymarferydd nyrsio uwch ar hyn o bryd. Roedd y Gwasanaeth hefyd yn bwriadu recriwtio parafeddyg
i gyfannu’r ystod o wasanaethau y gallai eu cynnig a phenodi Pennaeth
Gwasanaeth – rheolwr gweithredol i gydlynu’r gwaith a swyddogaethau ar gyfer
pob safle sy’n gweithredu o dan Prestatyn Iach;
·
roedd sefydlu’r gwasanaeth arloesol hwn wedi bod yn
siwrnai ddysgu, yn arbennig mewn perthynas â’r galw amrywiol ar y Gwasanaeth
wrth ddarparu gofal sylfaenol ac eilaidd.
Rhoddir
ystyriaeth ar hyn o bryd i gysylltu ag astudiaeth a gynhelir gan Brifysgol
Bangor ar ofynion hyfforddiant a mentora ar gyfer darparu gofal sylfaenol.
·
roedd y Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod angen gwneud mwy o
waith gyda’r trydydd sector yn ardal Prestatyn mewn perthynas â deall y mathau
o wasanaethau oedd eu hangen yn yr ardal a sut y gall sefydliadau sector
cyhoeddus fel y Bwrdd Iechyd, yr awdurdod lleol a phartneriaid trydydd sector
weithio’n effeithiol gyda’i gilydd i ddarparu’r gwasanaethau hyn yn y gymuned i
wella iechyd a lles, hybu annibyniaeth, lliniaru arwahanrwydd cymdeithasol ac o
ganlyniad lleihau’r galw am wasanaethau meddygol ymyrraeth sylfaenol.
Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, roedd swyddogion y Bwrdd Iechyd yn:
·
cadarnhau nad oeddent yn rhagweld y byddai arian yn
cael ei ddargyfeirio o wasanaethau gofal sylfaenol rheng flaen i ariannu swydd
Rheolwr Pennaeth Gwasanaeth.
Roedd
hon yn swydd oedd wir ei hangen a ddylai helpu i gydlynu a symleiddio gwaith
gweinyddu a lleihau dyblygu gyda’r golwg ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen
di-dor.
cydnabod er y
byddai wedi bod yn fanteisiol cael Pennaeth Gwasanaeth mewn swydd yn gynt wrth
sefydlu’r Gwasanaeth, roedd yna ofynion a therfynau amser eraill angen eu
diwallu, gan gynnwys nifer digonol o feddygon teulu a staff meddygol eraill
mewn swydd i ddelio gyda llwyth achosion cleifion, gwaith yn ymwneud â dod â 5
meddygfa i 3 tra hefyd yn uno arferion gwaith a gweinyddu i sicrhau bod y
gwasanaeth newydd yn diwallu anghenion cleifion ac yn effeithiol ac
effeithlon. Roedd yr holl waith hwn
yn digwydd tra roedd yna argyfwng cenedlaethol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
(GIG);
·
oherwydd bod hwn yn fodel newydd ar gyfer darparu
gwasanaethau gofal meddygol sylfaenol roedd yn cynnwys llawer o waith addysgu
staff a chleifion ynglŷn â sut roedd y model yn gweithio ac nad yw
cleifion o bosibl angen gweld meddyg teulu bob tro, gall apwyntiad gydag
arbenigwr meddygol arall e.e. nyrs, ffisiotherapydd ac ati fod yn fwy priodol a
buddiol;
·
cadarnhawyd bod y Gwasanaeth Prestatyn Iach yn
cynnwys tîm llawn o staff ar hyn o bryd, heblaw staff Meddyg Teulu. Roedd ymarfer recriwtio
i lenwi swyddi meddyg teulu gwag ar y gweill ar hyn o bryd. Roedd prinder meddygon teulu ar draws y wlad yn waeth
oherwydd newid mewn arferion gwaith gyda nifer cynyddol o feddygon teulu yn
dewis gweithio’n rhan amser, rhai at ddibenion cydbwysedd bywyd a gwaith, tra
roedd eraill yn dymuno rhoi rhan o’u hamser i arbenigedd eilaidd;
·
hysbyswyd y Pwyllgor bod y swydd Ymgynghorydd
Nyrsio yn swydd newydd. Byddai’r
unigolyn hwn yn gweithio ar lefel uwch ac felly yn helpu i leddfu’r pwysau ar
feddygon teulu;
·
dywedwyd efallai bod canllawiau Cymdeithas Feddygol
Prydain (BMA) yn awgrymu cymhareb meddyg teulu i glaf o 3 meddyg teulu fesul
1,000 claf, nid oedd yna feddygfa yng Ngogledd Cymru gyda 3 meddyg teulu i
1,000 o gleifion. Nod Prestatyn Iach oedd
1 meddyg teulu fesul 2,000 o gleifion;
·
cadarnhawyd bod y Bwrdd Iechyd yn hyderus gyda’r
model gweithredu ym Mhrestatyn.
Bu’n
her i’w sefydlu gan mai ond 6 mis oedd ganddynt i’w sefydlu a’i gael yn barod i
wasanaethu 22k o gleifion.
Roeddent
yn cydnabod nad oeddent wedi rhagweld lefel yr hyfforddiant a’r gefnogaeth oedd
ei angen i staff symud i fodel gwasanaeth gwahanol. Dysgwyd y gwersi hyn ar
gyfer prosiectau tebyg yn y dyfodol;
·
roedd y Bwrdd Iechyd yn uchelgeisiol ar gyfer
dyfodol y Gwasanaeth. Roedd sicrhau
defnydd o adeilad Tŷ Nant wedi bod yn allweddol ar gyfer datblygu a
chyfuno’r Gwasanaeth ar gyfer y dyfodol, gan fod lefel uchaf yr adeilad yn
addas ar gyfer cydleoli timau arbenigol a fyddai’n gwella cyfathrebu a
rhyngweithio rhwng holl ddarparwyr gofal.
·
cadarnhawyd bod y Gwasanaeth yn gweithredu
‘gwasanaeth yr un diwrnod’ cerdded i mewn lle na fyddai claf yn cael ei droi i
ffwrdd. Fodd bynnag, byddent angen bod yn fodlon aros, efallai am
gyfnod mwy o amser, yn dibynnu ar argyfwng eu hanhwylder i gael eu gweld gan yr
ymarferydd perthnasol. Roedd cleifion yn cael
eu cynghori i drefnu apwyntiad hefyd. Rhoddir ystyriaeth ar
hyn o bryd i gyflwyno system brysbennu;
·
dywedwyd fel rhan o’r dull lles cyfannol a
weithredir gan y fenter Prestatyn Iach, roedd gwaith ar y gweill ar hyn o bryd
i adolygu gofal diabetes.
Y
nod oedd gwella’r gwasanaeth i gynnwys addysgu cleifion a oedd yn tueddu neu
mewn perygl o ddatblygu diabetes am y dewisiadau iach oedd ar gael iddynt mewn ymdrech i osgoi ymyrraeth
feddygol yn nes ymlaen; a
hysbysodd y Pwyllgor bod y Bwrdd Iechyd yn dymuno
gweithio gyda Gwasanaeth Addysg y Cyngor i dynnu sylw disgyblion at yrfaoedd
oedd ar gael iddynt yn lleol o fewn y gwasanaethau iechyd a gofal.hoddodd
Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol Gofal Sylfaenol a Chomisiynu y Bwrdd Iechyd
gefndir sefydlu’r fenter Prestatyn Iach i’r Pwyllgor. Yn ystod ei
chyflwyniad, dywedodd:
·
Bod meddygfeydd yn sefydliadau preifat, roeddent yn
amrywio o ran maint llwyth achosion cleifion. Roedd gan y meddygfeydd lleiaf yn Sir Ddinbych tua 2 fil
o gleifion wedi cofrestru gyda nhw, tra bod maint y feddygfa ganolig yn y
rhanbarth yn cynnwys tua 7 mil o gleifion;
·
Roedd y model Prestatyn Iach, oedd yn gwasanaethu
cleifion oedd wedi cofrestru gyda meddygfeydd ym Mhrestatyn, Rhuddlan, Gallt
Melyd a Ffynnongroyw yn ffordd newydd o ddarparu gofal meddygol sylfaenol,
ymyrraeth a lles, a reolwyd yn uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd. Roedd yn cynnwys pedwar
tîm yn y feddygfa oedd yn delio gyda rheoli achosion cronig, pumed tîm oedd yn
cynnal ymweliadau â’r cartref ynghyd â thîm arall oedd yn darparu gwasanaethau
meddygol dwys i gleifion yn defnyddio’r gwasanaeth cerdded i mewn;
·
Roedd y gwasanaeth a reolir gan y Bwrdd Iechyd
wedi'i sefydlu i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal ar ôl i
nifer o feddygon teulu yn yr ardal hysbysu’r Bwrdd y byddent yn ymddeol neu’n
terfynu eu contractau ar gyfer darparu gwasanaethau meddyg teulu. Wrth sefydlu’r model
newydd arloesol hwn ar gyfer darparu gwasanaethau sylfaenol roedd y Bwrdd hefyd
wedi cynnwys dull mwy cyfannol yn y model newydd ar gyfer darparu gwasanaethau
meddygol sylfaenol a lles cyffredinol y boblogaeth;
·
roedd y Gwasanaeth a dderbynnir ar hyn o bryd yn
derbyn cysylltiad gan y cyhoedd tua 100k y flwyddyn, yn delio gyda chyfartaledd
o 420 claf y dydd gyda thua 100 ohonynt yn cael eu gweld ar y diwrnod yr
oeddent wedi cysylltu â’r gwasanaeth. Roedd y nifer o
gleifion a welir yn ddyddiol yn fwy na’r cyfartaledd dyddiol ar gyfer yr Adran
Argyfwng yn Ysbyty Glan Clwyd;
·
Roedd y cyfleuster Tŷ Nant, yr oedd y Bwrdd Iechyd
yn ei rentu gan y Cyngor yn gyfleuster gwych oedd yn cefnogi’r model darparu
gwasanaeth yn dda;
·
roedd system TG claf newydd wedi’i osod yn ddiweddar oedd
yn gweithio’n dda;
·
Roedd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi archwilio’r
gwasanaeth Prestatyn Iach yn ystod 2017 ac wedi dod i’r casgliad ei fod yn
darparu gofal diogel ac effeithiol yn gyffredinol;
·
roedd yna heriau o’u blaenau, yn arbennig mewn
perthynas â recriwtio staff clinigol, darparu hyfforddiant i’r sector darparwr
preifat a chynnydd parhaus yn y galw am ei wasanaethau. Rhwng Ionawr a Mawrth
2018 bu cynnydd o 6% mewn apwyntiadau a chynnydd o 15% mewn ymweliadau â’r cartref
gan y gwasanaeth;
·
wrth symud ymlaen byddai’r ffocws ar recriwtio
meddyg teulu ychwanegol ac ymarferydd nyrsio uwch. Roedd yn galonogol bod
MT wedi dangos diddordeb mewn ymuno â'r gwasanaeth a bod nyrs yn hyfforddi i
gymhwyso fel ymarferydd nyrsio uwch ar hyn o bryd. Roedd y Gwasanaeth hefyd yn bwriadu recriwtio parafeddyg
i gyfannu’r ystod o wasanaethau y gallai eu cynnig a phenodi Pennaeth
Gwasanaeth – rheolwr gweithredol i gydlynu’r gwaith a swyddogaethau ar gyfer
pob safle sy’n gweithredu o dan Prestatyn Iach;
·
roedd sefydlu’r gwasanaeth arloesol hwn wedi bod yn
siwrnai ddysgu, yn arbennig mewn perthynas â’r galw amrywiol ar y Gwasanaeth
wrth ddarparu gofal sylfaenol ac eilaidd.
Rhoddir
ystyriaeth ar hyn o bryd i gysylltu ag astudiaeth a gynhelir gan Brifysgol
Bangor ar ofynion hyfforddiant a mentora ar gyfer darparu gofal sylfaenol.
·
roedd y Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod angen gwneud mwy o
waith gyda’r trydydd sector yn ardal Prestatyn mewn perthynas â deall y mathau
o wasanaethau oedd eu hangen yn yr ardal a sut y gall sefydliadau sector
cyhoeddus fel y Bwrdd Iechyd, yr awdurdod lleol a phartneriaid trydydd sector
weithio’n effeithiol gyda’i gilydd i ddarparu’r gwasanaethau hyn yn y gymuned i
wella iechyd a lles, hybu annibyniaeth, lliniaru arwahanrwydd cymdeithasol ac o
ganlyniad lleihau’r galw am wasanaethau meddygol ymyrraeth sylfaenol.
Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, roedd swyddogion y Bwrdd Iechyd
yn:
·
cadarnhau nad oeddent yn rhagweld y byddai arian yn
cael ei ddargyfeirio o wasanaethau gofal sylfaenol rheng flaen i ariannu swydd
Rheolwr Pennaeth Gwasanaeth.
Roedd
hon yn swydd oedd wir ei hangen a ddylai helpu i gydlynu a symleiddio gwaith
gweinyddu a lleihau dyblygu gyda’r golwg ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen
di-dor.
cydnabod
er y byddai wedi bod yn fanteisiol cael Pennaeth Gwasanaeth mewn swydd yn gynt
wrth sefydlu’r Gwasanaeth, roedd yna ofynion a therfynau amser eraill angen eu
diwallu, gan gynnwys nifer digonol o feddygon teulu a staff meddygol eraill
mewn swydd i ddelio gyda llwyth achosion cleifion, gwaith yn ymwneud â dod â 5
meddygfa i 3 tra hefyd yn uno arferion gwaith a gweinyddu i sicrhau bod y
gwasanaeth newydd yn diwallu anghenion cleifion ac yn effeithiol ac
effeithlon. Roedd yr holl waith hwn
yn digwydd tra roedd yna argyfwng cenedlaethol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
(GIG);
·
oherwydd bod hwn yn fodel newydd ar gyfer darparu
gwasanaethau gofal meddygol sylfaenol roedd yn cynnwys llawer o waith addysgu
staff a chleifion ynglŷn â sut roedd y model yn gweithio ac nad yw
cleifion o bosibl angen gweld meddyg teulu bob tro, gall apwyntiad gydag
arbenigwr meddygol arall e.e. nyrs, ffisiotherapydd ac ati fod yn fwy priodol a
buddiol;
·
cadarnhawyd bod y Gwasanaeth Prestatyn Iach yn
cynnwys tîm llawn o staff ar hyn o bryd, heblaw staff Meddyg Teulu. Roedd ymarfer recriwtio
i lenwi swyddi meddyg teulu gwag ar y gweill ar hyn o bryd. Roedd prinder meddygon teulu ar draws y wlad yn waeth
oherwydd newid mewn arferion gwaith gyda nifer cynyddol o feddygon teulu yn
dewis gweithio’n rhan amser, rhai at ddibenion cydbwysedd bywyd a gwaith, tra
roedd eraill yn dymuno rhoi rhan o’u hamser i arbenigedd eilaidd;
·
hysbyswyd y Pwyllgor bod y swydd Ymgynghorydd
Nyrsio yn swydd newydd. Byddai’r
unigolyn hwn yn gweithio ar lefel uwch ac felly yn helpu i leddfu’r pwysau ar
feddygon teulu;
·
dywedwyd efallai bod canllawiau Cymdeithas Feddygol
Prydain (BMA) yn awgrymu cymhareb meddyg teulu i glaf o 3 meddyg teulu fesul
1,000 claf, nid oedd yna feddygfa yng Ngogledd Cymru gyda 3 meddyg teulu i
1,000 o gleifion. Nod Prestatyn Iach oedd
1 meddyg teulu fesul 2,000 o gleifion;
·
cadarnhawyd bod y Bwrdd Iechyd yn hyderus gyda’r
model gweithredu ym Mhrestatyn.
Bu’n
her i’w sefydlu gan mai ond 6 mis oedd ganddynt i’w sefydlu a’i gael yn barod i
wasanaethu 22k o gleifion.
Roeddent
yn cydnabod nad oeddent wedi rhagweld lefel yr hyfforddiant a’r gefnogaeth oedd
ei angen i staff symud i fodel gwasanaeth gwahanol. Dysgwyd y gwersi hyn ar
gyfer prosiectau tebyg yn y dyfodol;
·
roedd y Bwrdd Iechyd yn uchelgeisiol ar gyfer
dyfodol y Gwasanaeth. Roedd sicrhau
defnydd o adeilad Tŷ Nant wedi bod yn allweddol ar gyfer datblygu a
chyfuno’r Gwasanaeth ar gyfer y dyfodol, gan fod lefel uchaf yr adeilad yn
addas ar gyfer cydleoli timau arbenigol a fyddai’n gwella cyfathrebu a
rhyngweithio rhwng holl ddarparwyr gofal.
·
cadarnhawyd bod y Gwasanaeth yn gweithredu
‘gwasanaeth yr un diwrnod’ cerdded i mewn lle na fyddai claf yn cael ei droi i
ffwrdd. Fodd bynnag, byddent angen bod yn fodlon aros, efallai am
gyfnod mwy o amser, yn dibynnu ar argyfwng eu hanhwylder i gael eu gweld gan yr
ymarferydd perthnasol. Roedd cleifion yn cael
eu cynghori i drefnu apwyntiad hefyd. Rhoddir ystyriaeth ar
hyn o bryd i gyflwyno system brysbennu;
·
dywedwyd fel rhan o’r dull lles cyfannol a
weithredir gan y fenter Prestatyn Iach, roedd gwaith ar y gweill ar hyn o bryd
i adolygu gofal diabetes.
Y
nod oedd gwella’r gwasanaeth i gynnwys addysgu cleifion a oedd yn tueddu neu
mewn perygl o ddatblygu diabetes am y dewisiadau iach oedd ar gael iddynt mewn ymdrech i osgoi ymyrraeth
feddygol yn nes ymlaen; a
hysbysodd y Pwyllgor
bod y Bwrdd Iechyd yn dymuno gweithio gyda Gwasanaeth Addysg y Cyngor i dynnu
sylw disgyblion at yrfaoedd oedd ar gael iddynt yn lleol o fewn y gwasanaethau
iechyd a gofal.