Eitem ar yr agenda
YSBYTY GYMUNEDOL DINBYCH
I dderbyn
cyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y sefyllfa
ddiweddaraf
o safbwynt cau wardiau yn Ysbyty Gymunedol Dinbych, y
ddarpariaeth amgen sydd wedi’i threfnu ar gyfer y cyfnod interim, a’r
cynlluniau ar gyfer
yr ysbyty yn y dyfodol
10.50 a.m. – 11.30 a.m.
Cofnodion:
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol – Canol
grynodeb i’r aelodau o'r rhesymau wnaeth arwain at benderfyniad y Bwrdd Iechyd
i gau 10 gwely ar y ward i fyny'r grisiau yn yr Inffyrmari o ganlyniad i
drychineb Tŵr Grenfell.
Cafodd
yr Inffyrmari ei adeiladu ar ddechrau’r 1800au gyda 40 gwely claf mewnol, 23
gwely ar y llawr gwaelod ac 17 gwely ar y llawr cyntaf. Yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell, cynhaliodd y Bwrdd
Iechyd asesiad diogelwch tân cynhwysfawr o’r holl adeiladau. Roedd yr asesiad yn
amlygu pryderon perygl tân yn yr Inffyrmari ac Ysbyty Cymuned Yr Wyddgrug. Roedd y pryderon
penodol mewn perthynas â’r Inffyrmari yn ymwneud â’r ffaith bod llawr Ward
Lleweni i fyny’r grisiau, rhan ohono wedi’i leoli’n uniongyrchol uwchben cegin
yr ysbyty, yn cael ei gefnogi gan ddistiau pren. Roedd y risg yn fwy oherwydd nad oedd y rhan yma o’r
adeilad wedi’i rannu’n adrannol a fyddai’n helpu i leihau neu o leiaf arafu
lledaeniad tân. Pan ddaeth
maint y risg i’r amlwg, bu’r Bwrdd Iechyd yn ystyried nifer o opsiynau ar gyfer
delio â’r risg, gan sicrhau diogelwch cleifion a staff tra’n achosi cyn lleied
o amhariad i bawb dan sylw.
Fodd bynnag, oherwydd yr angen i sicrhau y gellir symud pob claf yn ddiogel
os bydd yna dân, y dewis diogel gyda’r amhariad lleiaf y gellir ei roi yn ei le
oedd lleihau’r nifer o welyau ar Ward Lleweni o 17 i 7 – gyda’r cafeat bod yn
rhaid i weddill y gwelyau fod ar gyfer cleifion nad oedd angen cefnogaeth
fecanyddol ar gyfer eu hanghenion symudedd os bydd angen gwacau’r adeilad.
Roedd Adran Ystadau Llywodraeth Cymru wedi cynnal yr asesiad risgiau tân ac
wedi gwneud nifer o argymhellion mewn perthynas â gwella’r mesurau diogelwch
tân yn yr adeilad. Roedd nifer o’r
argymhellion hyn wedi eu gweithredu, gan gynnwys gwaith adrannu. Yn ogystal, roedd y
Bwrdd Iechyd wedi comisiynu ail arolwg, mwy ymwthiol, gan ymgynghorwyr Mott
McDonald. Er y disgwylir
i ganfyddiadau’r arolwg hwn fod ar gael yn ystod mis Ebrill, oherwydd yr angen
i gymryd holl ragofalon angenrheidiol i ddiogelu peirianwyr, cleifion a staff,
rhag ofn bod asbestos yn yr adeilad a’i aflonyddu yn ystod y gwaith arolwg, bu
ychydig o lithriad. Fodd bynnag,
dylai adroddiad yr ymgynghorydd fod ar gael ym mis Mai 2018.
Mewn ymgais i reoli effaith y golled dros dro o 10 gwely yn yr Inffyrmari,
roedd y Bwrdd Iechyd wedi ychwanegu 5 gwely dros dro yn Ysbyty Cymuned Rhuthun,
gyda gwaith arall yn cael ei wneud yn y gymuned ar gyfer gofal a chefnogaeth i
bobl yn eu cartrefi eu hunain. Roedd y Bwrdd Iechyd
wedi bod yn rhagweithiol yn cysylltu â staff mewn perthynas â newidiadau i
batrymau gwaith, fodd bynnag roedd wedi profi pwysau staffio yn ymwneud â’r
gwelyau ychwanegol yn Ysbyty Rhuthun oedd wedi arwain at yr angen i ddefnyddio
staff nyrsio asiant a chronfa i ddarparu gofal. Roedd meddygfeydd Rhuthun wedi bod yn hynod gefnogol ac
wedi cynyddu argaeledd ar gyfer y gwelyau cleifion preswyl yn yr ysbyty.
Er bod yna lai o welyau ar gael yn Inffyrmari Dinbych ar hyn o bryd,
dywedodd y Bwrdd Iechyd rhwng ysbytai Dinbych a Rhuthun bod yna welyau cleifion
preswyl mewn ysbyty cymuned ar y mwyafrif o ddyddiau i gleifion naill ai fynd
yno yn uniongyrchol neu eu trosglwyddo o'r ysbytai cyffredinol dosbarth. Cadarnhaodd swyddogion
y Bwrdd Iechyd bod meddygfeydd yn Ninbych yn gefnogol iawn i’r Inffyrmari a’r
gwasanaethau a ddarperir yno.
Roedd y Bwrdd Iechyd yn darparu cefnogaeth a chyngor parhaus i staff yn yr
Inffyrmari, gyda sesiynau briffio misol rheolaidd yn cael eu cynnal
iddynt. Roedd sesiynau hyfforddiant rheolaidd hefyd yn cael eu
cynnal i staff ar reoli’r cynlluniau gweithredu, asesiadau risg, diogelwch tân
a gweithdrefnau gwacau. Mewn perthynas
ag ymgysylltu â rhanddeiliad, roedd swyddogion y Bwrdd wedi cwrdd â Chyfeillion
Ysbyty yn yr Inffyrmari, cynghorwyr lleol ac eraill, pob un yn cefnogi
ymdrechion y Bwrdd i ddod o hyd i atebion i’r risgiau a nodwyd a gweld y
sefydliad yn gweithredu’n llawn gynted â phosibl.
Dyma ymateb cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd i gwestiynau’r aelodau:
·
cadarnhawyd bod gan Inffyrmari
Dinbych 40 gwely claf preswyl, cyn cau 10 dros dro ar sail diogelwch tân. O’r 40 gwely roedd 6 ar gyfer gofal resbiradol, 12 ar gyfer Gofal Pobl Hŷn,
gyda’r gweddill yn cael eu rheoli gan feddygfeydd Dinbych. Roedd y cyfanswm
yn cynnwys gwelyau ar y Ward Macmillan nad oedd eu hangen bob tro ar gyfer
gofal lliniarol ac o ganlyniad roeddent ar gael ar gyfer mathau eraill o
ofal. Roedd Meddygfa Beech House nad oedd yn defnyddio’r Inffyrmari ar gyfer
gofal meddygol gan feddyg teulu yn defnyddio’r gwelyau ar y Ward Macmillan;
·
dywedwyd bod y dewis o
gau'r gegin a chludo bwyd i'r Inffyrmari wedi'i ystyried fel ateb posibl i'r
risgiau a nodwyd yn hytrach na gorfod cau gwelyau dros dro. Fodd bynnag, nid oedd hwn yn ddewis ymarferol gan y byddai angen offer fel
oergelloedd a rhewgelloedd ar y safle felly ni fyddai’r risg o dân yn lleihau’n
sylweddol i allu parhau i ddefnyddio’r gwelyau;
· dywedwyd y byddai’n annhebygol iawn y byddai gan yr Inffyrmari 17 claf yn gallu symud yn ddigon da ar unrhyw adeg i allu eu lleoli ar ward ar y llawr cyntaf;
·
cadarnhawyd bod pwysau
staffio yn broblem barhaus yn yr Inffyrmari, ond nid oedd hyn yn unigryw i’r
Inffyrmari roedd yn broblem a brofwyd ar draws y GIG;
·
cadarnhawyd bod cyfanswm
o bedwar aelod o staff wedi gadael Inffyrmari Dinbych ers y Nadolig, 2 wedi sôn
am eu bwriad i adael cyn i'r gwelyau gau dros dro. Roedd y ddau
arall wedi gadael oherwydd ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol, er bod un wedi
symud i ysbyty tebyg arall gerllaw. Yn naturiol roedd
nifer o staff yn bryderus am y dyfodol oherwydd sefyllfaoedd tebyg yn Ysbyty
Brenhinol Alexandra, y Rhyl a’r cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych. Fodd bynnag, roedd y Bwrdd Iechyd yn recriwtio ar gyfer ysbytai Dinbych a
Rhuthun ar hyn o bryd ac roedd yna ‘Ddiwrnod Recriwtio - Ysbyty Cymunedol’
wedi’i drefnu ar gyfer 28 Ebrill 2018;
· hysbyswyd y Pwyllgor bod Inffyrmari Dinbych yn flaenllaw yn yr ‘Ymgyrch Parlys Pyjamas’ a oedd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cael pobl allan o’u dillad nos ac wedi gwisgo fel rhan o’u hadferiad ac ail-allu;
·
cadarnhawyd nad oedd yna
brinder gwelyau cymuned yn Ardal Ganolog y Bwrdd Iechyd, oedd yn cynnwys Conwy
a Sir Ddinbych, Ysbyty Glan Clwyd ac ysbytai acíwt eraill oedd â phrinder
gwelyau;
·
cadarnhawyd nad oedd gan
y Bwrdd Iechyd unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ailagor y 10 gwely oedd wedi
cau dros dro yn yr Inffyrmari, os a phan fyddai’r amser yn iawn. Roedd yn ymwybodol ei fod angen bod yn agored am ddyfodol Inffyrmari
Dinbych ac angen ymgysylltu â dinasyddion a’r Cyngor ar anghenion meddygol ar
gyfer ardal Dinbych yn y dyfodol;
·
dywedwyd bod adroddiad asesiad risgiau tân Ystadau
Llywodraeth Cymru wedi’i rannu gyda’r Cyngor.
Nid oedd swyddogion y Bwrdd Iechyd yn rhagweld unrhyw
broblemau yn ymwneud â rhannu adroddiad yr ymgynghorwyr gyda'r Cyngor unwaith y
byddai ar gael. Fodd bynnag, roeddent yn dweud y byddai’r adroddiad hwn yn adroddiad
technegol iawn;
· cadarnhawyd bod pob ysbyty gyda'r gwelyau yn llawn, oedd yn ei gwneud yn anodd weithiau trosglwyddo cleifion o'r ysbytai acíwt i’r ysbytai cymuned;
·
dywedwyd bod yna adegau
oherwydd prinder staff pan fyddai’r Metron yn cael ei galw i weithio ar y
wardiau, roedd hyn fel arfer ar adegau pan oedd lefelau uchel o salwch staff;
·
cadarnhawyd bod yr
Inffyrmari yn parhau i weithredu uned famolaeth o dan arweiniad bydwraig. Er nad oedd yn cael ei ddefnyddio lawer roedd yn bwysig oherwydd y gall
person ifanc wedi’i eni yn yr Inffyrmari ymgeisio am ysgoloriaeth i fynychu’r
brifysgol;
·
bod meddygon teulu yn
Ninbych wedi eu halinio i glwstwr meddygon teulu'r Canol a'r De o'r Bwrdd
Iechyd. Strategaeth y Bwrdd Iechyd oedd darparu gwasanaethau mor agos â phosibl i
gartref y claf, o ganlyniad roedd ystod o wasanaethau’n cael eu darparu yn
Inffyrmari Dinbych;
·
cadarnhawyd bod y Bwrdd
Iechyd yn gweithio ar ei Strategaeth Gymunedol ar hyn o bryd fyddai’n cynnwys
llunio ysbytai cymuned ar gyfer y dyfodol.
Byddai’r Cyngor yn cael cyfle i gyfrannu at y strategaeth
hon drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC); a
· dywedwyd bod y Bwrdd Iechyd yn awyddus i drafod gyda Phrif Weithredwr y Cyngor sut y gallai’r Bwrdd a’r Cyngor ymgysylltu ar y cyd gyda chymunedau lleol.
Ar ddiwedd y drafodaeth:
Penderfynwyd: - yn amodol ar yr arsylwadau uchod i ofyn i’r Bwrdd Iechyd dderbyn gwahoddiad i sesiwn Briffio’r Cyngor yn y dyfodol gydag aelodau etholedig ar ei Strategaeth Gymunedol ar lunio ysbytai cymuned yn y sir yn y dyfodol.