Eitem ar yr agenda
PROSIECT YSBYTY GYMUNEDOL GOGLEDD SIR DDINBYCH
I dderbyn
cyflwyniad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr ar
y cynnydd a wnaed hyd yma gyda datblygiad y cyfleuster
newydd a'r amserlen
ddisgwyliedig ar gyfer ei ddarparu.
10.10 a.m. – 10.50 a.m.
Cofnodion:
Dywedodd
Cyfarwyddwr Clinigol Therapiau Gwasanaethau Clinigol BIPBC bod y Bwrdd Iechyd
yn gweithio ar ail gam proses achos busnes 3 cham Llywodraeth Cymru ar gyfer
datblygu safle’r cyn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl yn ysbyty cymuned ar gyfer
Gogledd Sir Ddinbych. Drwy gyflwyniad PowerPoint dangosodd yr adeilad
newydd arfaethedig gan bwysleisio y byddai’r ysbyty cymuned newydd yn llawer
mwy nag ysbyty yn unig:
•
byddai'r
model gwasanaeth arfaethedig i’w ddatblygu ar y safle yn cynnwys tîm
amlddisgyblaethol amlasiantaeth a fyddai’n dylunio eu gwasanaethau o amgylch
anghenion y defnyddiwr gwasanaeth, gan gefnogi’r ethos ail-alluogi i rymuso
defnyddwyr gwasanaeth i fyw yn annibynnol drwy gydweithio gyda phartneriaid
gofal cymdeithasol a thrydydd sector i wella ataliad a lles.
• byddai’n cefnogi mwy o waith integredig rhwng gofal iechyd sylfaenol a chymunedol gan ganolbwyntio ar bobl hŷn gyda golwg ar leddfu’r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd, darparu gwasanaeth iechyd meddwl a chorfforol integredig i bobl hŷn, darparu gwasanaethau gofal iechyd dydd brys yr un diwrnod ac ystod o wasanaethau dydd a chlaf allanol yn agosach at gartref y claf; a
•
byddai’r datblygiad mewn ffurf Campws Gofal Iechyd a fyddai’n gwneud
defnydd o adeilad yr hen ysbyty Brenhinol Alexandra, adeilad rhestredig Graddfa
II ar y cyd ag adeilad yr ysbyty newydd arfaethedig. Byddai hefyd yn cynnig safle gwaith integredig ar gyfer Gwasanaethau Un
Pwynt Mynediad, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) a
swyddfeydd ar gyfer timau cefnogaeth integredig.
Hysbyswyd y Pwyllgor
bod:
• y Bwrdd Iechyd
wedi cymeradwyo a chyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Prosiect Ysbyty
Cymuned Gogledd Sir Ddinbych i Lywodraeth Cymru yn Ionawr 2017. Wedi’i gynnwys yn yr Achos Busnes Amlinellol
oedd yr achos ar gyfer buddsoddi cyfalaf yn yr adeilad newydd a darparu
gwasanaethau newydd ar y safle, ynghyd â sail resymegol ar gyfer buddsoddiad
ychwanegol yn yr adeilad rhestredig Gradd II.
• o ganlyniad i
gyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru, roedd cynrychiolwyr
Bwrdd wedi cyfarfod swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf a Medi 2017
i drafod y cynigion. Roedd y Tîm Prosiect wedi ailgyfarfod i ymateb i
heriau a nodwyd fel rhan o’r broses cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ac
roedd Adolygiad Trothwy o’r achos busnes a’r broses wedi’i gomisiynu. Roedd canfyddiadau’r Adolygiad Trothwy wedi
profi’n hynod ddefnyddiol gyda golwg ar symud y prosiect ymlaen;
• Roedd
Llywodraeth Cymru eisiau sicrwydd mewn perthynas â sut fyddai’r Achos Busnes
Amlinellol yn cefnogi darpariaeth y cynllun strategol Byw yn Iach Aros yn Iach
gan y Bwrdd Iechyd, strategaeth gweithlu wedi’i ailddiffinio a mwy o eglurder
ar fanteision gwireddu’r cynllun. Roedd yr olaf yn ymwneud â’r defnydd o adeilad
rhestredig presennol, drwy ddefnyddio hwn fel swyddfa yn bennaf, roedd y Bwrdd
Iechyd yn hyderus y gallai sicrhau dyfodol yr adeilad a darparu gwasanaethau
iechyd ychwanegol o fewn yr adeilad newydd. Nid oedd materion yn
ymwneud â’r gweithlu yn unigryw i’r prosiect hwn
• Roedd gwaith ar
y gweill i ail-ddrafftio’r atodiad i’r Achos Busnes Amlinellol a oedd yn
manylu’r cynigion ystadau, byddai hyn yn cynnwys datganiad clir ar swyddogaeth
yr adeilad rhestredig Gradd II yn dilyn buddsoddiad arfaethedig o tua £200k. Byddai yna fwy o
fanylion yn yr Achos Busnes Amlinellol, cyn ei ailgyflwyno i Lywodraeth Cymru,
ar y ffynonellau refeniw ar gyfer darparu gwasanaethau newydd ar y safle;
• Fel rhan o’r gwaith
paratoi ar gyfer ailddatblygu’r safle, roedd yr Adran Cleifion Allanol wedi
adleoli i’r hen adeilad Glan Traeth ym mis Rhagfyr 2017, dylai'r gwaith o
ddymchwel yr estyniad 1960au gael ei gwblhau erbyn diwedd Ebrill 2018. Yn dilyn y gwaith hwn, byddai'r ardal a ddefnyddir
gan yr hen Adran Cleifion Allanol yn cael ei ail-wynebu i ddarparu 44 gofod
parcio ychwanegol, byddai mwy o waith ail-wynebu yn cael ei wneud ar y prif
faes parcio a llwybrau yn cael eu diffinio’n glir gyda golau gwell yn cael ei
osod i ddiogelu cleifion a staff; ac
• Unwaith y byddai’r
tîm prosiect yn fodlon bod yr holl heriau a godwyd gan Lywodraeth Cymru wedi
derbyn sylw digonol, byddai’r Achos Busnes Amlinellol yn cael ei gyflwyno i’r
Bwrdd Iechyd i’w gymeradwyo ar gyfer ei ailgyflwyno i Lywodraeth Cymru. Nid oedd
amserlen benodol wedi’i gosod ar gyfer hyn eto gan fod y Tîm Prosiect eisiau
sicrhau bod yr holl ymholiadau wedi derbyn sylw.
Mewn ymateb i gwestiynau
aelodau’r Pwyllgor, roedd Cyfarwyddwr Ardal: Ardal Ganolog: y Bwrdd
Iechyd yn
• cadarnhau eu bod
yn teimlo’r un rhwystredigaeth â’r aelodau mewn perthynas â’r amser maith yr
oedd y prosiect yn gymryd i ddwyn ffrwyth. Roedd y broses Achos
Busnes yn broses gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn faith oherwydd
ei fod yn broses tri cham. Fodd bynnag,
roedd trafodaethau sylweddol wedi eu cynnal rhwng Prif Weithredwr y Bwrdd
Iechyd a Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, roedd yna gefnogaeth wleidyddol
sylweddol i’r prosiect.
• Roedd y Bwrdd
Iechyd wedi profi oedi tebyg o’r blaen wrth ddatblygu prosiect Ysbyty Alltwen,
oedd nawr yn agored ac yn weithredol;
• Roedd y Bwrdd
Iechyd yn gwbl ymrwymedig i ddarparu’r prosiect er gwaethaf y ffaith ei fod yn
parhau o dan fesurau arbennig ac yn wynebu pwysau ariannol difrifol;
• roedd
Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd y byddai’n darparu £40miliwn tuag at gost
cyfalaf y prosiect, gyda’r Bwrdd Iechyd i ddarparu £2.3miliwn o arian refeniw
tuag at y prosiect (er bod £2.3miliwn yn ymddangos yn swm sylweddol roedd BIPBC
yn sefydliad £1.4bn felly nid oedd yr arian refeniw oedd yn ofynnol iddo
ddarparu yn ormodol);
• cadarnhawyd bod
y Bwrdd Iechyd yn gadarn o’r farn y dylai’r cynllun gynnwys Canolfan Iechyd a
Lles o ystyried proffil amddifadedd y Rhyl; a
• Dywedwyd
oherwydd cyflwr gwael yr adeilad rhestredig Gradd II a phryderon diogelwch tân,
ar sail diogelwch cleifion ni ellir rhoi gwelyau cleifion mewnol yn yr adeilad;
Mewn ymateb i
gwestiynau'r Pwyllgor, dywedodd swyddogion BIPBC:
• roedd yr achos
busnes presennol yn ddogfen gyhoeddus, fodd bynnag roedd yr achos busnes hwn yn
cael ei adolygu ar hyn o bryd. Unwaith y
byddai’r achos busnes a adolygwyd wedi'i gyflwyno i'r Bwrdd Iechyd ei
gymeradwyo, byddai hefyd yn ddogfen gyhoeddus;
• Roedd yr
Adolygiad Trothwy wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru trwy sefydliad
annibynnol i ddarparu adolygiad cyfaill beirniadol o’r achos busnes gyda golwg
ar ei gryfhau. Roeddent yn
gwneud ymholiadau pa un a oedd yr adroddiad terfynol ar gael i’r cyhoedd ai
peidio;
• roeddent yn
deall pwysigrwydd yr adeilad rhestredig Gradd II i’r trigolion lleol yn llwyr,
a dyna'r rhesymau yr oeddent yn ceisio ei gynnwys yn y prosiect ar gyfer yr
Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych newydd.
Oherwydd y cyfyngiadau oedd yn gysylltiedig â’i
statws rhestredig, ni fyddai’n addas ar gyfer darparu gofal cleifion mewnol y
21ain Ganrif. O ganlyniad, roedd y Bwrdd yn cynnig ei
ddefnyddio, yn dilyn rhaglen faith o ailwampio fel swyddfeydd ar gyfer y
cyfleuster newydd gyda rhai gwasanaethau clinigol yn cael eu darparu ar y llawr
gwaelod. Byddai’r Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad a thimau
eraill a leolir yn y gymuned yn cael eu lleoli ar loriau eraill; a
• gyda’r
datblygiadau mewn gwyddoniaeth a gofal meddygol yn y blynyddoedd diwethaf, ynghyd
â'r ystod arfaethedig o wasanaethau cymunedol yn rhan o'r prosiect ac argaeledd
tai addas, bod cyfleuster cleifion mewnol 28 gwely yn ddigonol ar gyfer
anghenion y GIG yn ardal Gogledd Sir Ddinbych yn y dyfodol.
Ar ddiwedd y drafodaeth
dywedodd cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd eu bod yn hyderus fod ganddynt nawr achos
busnes cadarn i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Ailgadarnhawyd eu bod nhw a’r Bwrdd Iechyd wedi
ymrwymo'n llwyr i ddarparu'r prosiect.
Yn briffio’r Pwyllgor ar
y sefyllfa ddiweddaraf o safbwynt rhoi’r gorau i ddarparu gwelyau dros dro yn
Inffyrmari Dinbych, rhoddodd swyddogion y Bwrdd Iechyd drosolwg o’r
datblygiadau presennol ac arfaethedig i Wasanaethau Cymunedol y Bwrdd Iechyd yn
y de a chanol Sir Ddinbych. Hysbyswyd yr Aelodau o safbwynt:
Corwen: roedd gwaith ar
fin dechrau i ailddatblygu’r Ganolfan Iechyd. Roedd y gwaith hwn, i’w
gwblhau erbyn yr hydref, yn rhan o fuddsoddiad £1.5miliwn yn y Ganolfan.
Byddai’n cynnwys darparu dwy ystafell ymgynghori newydd i feddygon teulu’r
dref, dwy ddeintyddfa newydd ac ystafell driniaeth amlbwrpas. Tra ymgymerir â'r gwaith byddai gwasanaethau'n
cael eu darparu mewn llety dros dro, gyda gwasanaethau deintyddol yn cael eu
darparu yn eu lleoliad presennol. Byddai cyfleusterau maes parcio yn cael eu dyrannu
i gleifion sy’n mynychu’r feddygfa yn agos at yr adeilad dros dro, byddai hyn
yn cynnwys awr o barcio am ddim.
Rhuthun: Roedd
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar bod £1.7 miliwn wedi’i glustnodi ar
gyfer gwasanaethau iechyd yn yr ardal yn amodol ar ddatblygu achos busnes. Nod y
buddsoddiad hwn oedd gallu adleoli gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd yn y
Clinig i Ysbyty Cymuned Rhuthun. Byddai’n hwyluso estyniad i gael ei adeiladu yn yr
ysbyty a gwaith ailwampio yn yr ysbyty ei hun.
Byddai’n datblygu’r ystod o wasanaethau sydd ar
gael yn yr ysbyty ymhellach i alluogi cydweithio rhwng gofal sylfaenol, gofal
cymunedol a gofal eilaidd, yn ogystal â darparu cyfleoedd ar gyfer integreiddio
gwasanaethau’n well gyda phartneriaid trydydd sector a statudol. Rhagwelir y byddai Achos Cyfiawnhau Busnes sengl
drafft yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2018.
Os byddai'r prosiect yn cael ei gymeradwyo byddai'n hwyluso adleoli
gwasanaethau meddyg teulu, Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol, Ymwelwyr Iechyd,
Nyrsys Ysgol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol a’r Gwasanaeth Ambiwlans. Wrth edrych
ymlaen roedd y Bwrdd Iechyd yn ystyried cyfleoedd ehangach o fewn ardal de Sir
Ddinbych i wella gofal yn agosach at gartrefi pobl drwy gydweithio. Roedd
trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal rhwng y Bwrdd a’r awdurdod lleol i
archwilio cyfleoedd posibl ar gyfer gwaith integredig a allai ffurfio cam o’r
datblygiad yn Rhuthun ar gyfer y dyfodol.