Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM OLLYNGIAD GAN GYNGOR CYMUNED LLANBEDR DYFFRYN CLWYD

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu) ynglŷn â

chais am ollyngiad a wnaed gan aelodau Cyngor Cymuned Llanbedr Dyffryn

Clwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro Gais am Ollyngiad gan aelodau Cyngor Cymuned Llanbedr DC (copi ynghlwm) i ganiatáu i'r Pwyllgor ystyried y cais, penderfynu a ddylid caniatáu gollyngiad ac unrhyw amodau y dylid eu cynnwys. 

 

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Llanbedr DC a chyflwyno’r Cynghorydd Lyn Evans a’r Cynghorydd Bob Barton.

 

Darparodd y Cynghorydd Bob Barton wybodaeth yn egluro'r rheswm dros y cais am ollyngiad.  Yng nghyfarfod y Cyngor Cymuned ym mis Mawrth 2017 cafwyd trafodaeth i fynd i’r afael â busnesau lleol a oedd wedi cau yn ddiweddar.  Sefydlwyd grŵp i ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio'r dafarn fel Canolbwynt Cymunedol.  Mynegodd y Cynghorydd Barton mai bwriad y Canolbwynt Cymunedol fyddai caniatáu i'r gymuned weithio'n rhagweithiol gyda'r gymuned a grwpiau.  Roedd nifer o opsiynau wedi'u hystyried a'u harchwilio. 

Eglurodd y Cynghorydd Lyn Evans bod cymdeithas wedi’i sefydlu.  Roedd y gymdeithas newydd yn cynnwys 2 aelod o’r Cyngor Cymuned.  Am y rheswm hwn roeddent yn ceisio cais am ollyngiad. 

 

Cododd y Cadeirydd gwestiwn ynglŷn â pherchnogaeth y dafarn a’i brydlesu i’r gymdeithas newydd.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Barton y cafwyd trafodaeth ynglŷn â phrydlesu’r sefydliad yn ôl, ond roedd y trafodaethau yn y camau cynnar ar hyn o bryd.  Roedd cyfarfodydd y Cyngor Cymuned wedi’u trefnu i drafod y datblygiad ymhellach wrth i’r prosiect ddatblygu.

 

Holodd yr Aelod Annibynnol Julia Hughes, a fyddai'r cais am ollyngiad ar gyfer dau Gynghorydd Cymuned yn aros yr un fath yn y dyfodol neu a fyddai'n debygol o newid.  Mewn ymateb i’r cwestiwn a godwyd eglurodd y Cynghorydd Evans mai ei fwriad oedd sefydlu’r Canolbwynt Cymunedol a sicrhau ei fod yn cael ei sefydlu a’i gynnal yn effeithlon, ac yna ei drosglwyddo i bartïon eraill sydd â diddordeb.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro i'r Pwyllgor y gellir caniatau eithriad neu ollyngiad gan y Pwyllgor Safonau drwy rinwedd Deddf Llywodraeth Leol 2000. Cyfeiriodd at y rheoliad yn Atodiad 2 a'r rhai a oedd yn berthnasol i'r achos hwn - Rheoliad 2 (d) a (h).

Er mai dim ond un sail sydd ei angen ar y Pwyllgor Safonau i ganiatáu gollyngiad nid oedd yn rhaid iddynt ei ganiatáu.  Gallai’r Pwyllgor gyflwyno terfynau amser ac amodau ariannol i’r gollyngiad. 

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried y gollyngiad ac fe -

 

BENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo gollyngiad i ddau Aelod o Gyngor Cymuned Llanbedr DC sef y Cynghorydd Lyn Evans a'r Cynghorydd Tim Baker, mewn perthynas â busnes yn ymwneud â chymdeithas gymunedol a sefydlwyd mewn perthynas â thafarn The Griffin, yn unol â rheoliad 2(h) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymeradwyo Gollyngiadau) (Cymru) 2001:  

 

      i.        mae’r Gollyngiad yn berthnasol i’r ddau aelod a enwyd yn unig;  

    ii.        mae’r Gollyngiad yn berthnasol am 6 mis o ddyddiad y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Safonau (3 Ebrill 2018);

   iii.        mae’n rhaid darparu enw a chyfansoddiad y gymdeithas gymunedol i'r Swyddog Monitro o fewn 7 diwrnod ar ôl cyfarfod y Pwyllgor Safonau (3 Ebrill 2018);

   iv.        mae’r Gollyngiad yn ymwneud â materion sy’n gysylltiedig ag aelodaeth y gymdeithas gymunedol yn unig a byddai angen gollyngiad ychwanegol ar gyfer cysylltiad ariannol gyda'r gymdeithas;  

    v.        mae’r Gollyngiad yn caniatáu i’r ddau aelod a enwyd drafod unrhyw fusnes sy'n ymwneud â'r gymdeithas gymunedol ond nid yw'n rhoi caniatâd iddynt bleidleisio ar y materion hyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorwyr o Gyngor Cymuned Llanbedr DC am fynychu’r cyfarfod.

 

 

 

  

 

 

  

 

Dogfennau ategol: