Eitem ar yr agenda
YMCHWILIAD I LIFOGYDD 19 GORFFENNAF 2017
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Risg Llifogydd (copi ynghlwm) sy’n gofyn i'r Pwyllgor
ystyried p’run ai oes angen i'r Cyngor, yng ngoleuni'r gwersi a ddysgwyd o
lifogydd Gorffennaf 2017, weithredu neu adolygu arferion gweithio er mwyn
lliniaru rhag risg o lifogydd yn y sir yn y dyfodol
11.45am – 12.15pm
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy
adroddiad y Rheolwr Perygl Llifogydd (a gylchredwyd eisoes) oedd yn nodi
darganfyddiadau’r ymchwiliad i'r llifogydd yng ngogledd y sir ar 19 Gorffennaf
2017. Yn atodol i’r
adroddiad oedd copi o'r adroddiad terfynol a gynhyrchwyd yn unol ag Adran 19
Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. O dan ddarpariaethau'r Ddeddf roedd
angen i’r Cyngor ymchwilio, paratoi a chyhoeddi’r adroddiad hwn mewn ymateb i
achosion o lifogydd o fewn ei ffiniau daearyddol.
Amlinellodd y Rheolwr Perygl Llifogydd ddyletswyddau’r cyngor o safbwynt
ymchwilio i'r llifogydd a ddigwyddodd, a dywedodd mai dim ond unwaith mewn 50
mlynedd y byddai disgwyl i faint o law a gwympodd yng ngogledd ysir ar 19
Gorffennaf 2017 gwympo mewn diwrnod. Aeth ymlaen i amlinellu’r broses o ymchwilio achos a
maint y llifogydd, a dywedodd ei fod wedi cymryd cryn dipyn o amser i gasglu a
dadansoddi’r dystiolaeth a’r wybodaeth a gasglwyd oherwydd yr ardal ddaearyddol
eang a effeithiwyd. Daeth yr
ymchwiliad i’r canlyniad mai achos y llifogydd oedd digwyddiad glawog oherwydd
nad oedd gormod o ddŵr wyneb yn gallu mynd i’r systemau draenio a
charthion yn ddigon cyflym i’w alluogi i ddraenio i ffwrdd. Roedd faint o law a
gwympodd y diwrnod hwnnw yn fwy na’r capasiti sydd o fewn y systemau draenio a
charthion lleol i lifo'n gyson.
Aeth
Aeth y diffyg capasiti hwn yn waeth oherwydd rhwystrau mewn pibellau ac
oherwydd problemau mewn gorsafoedd pwmpio, cyfrifoldeb Dŵr Cymru Welsh Water
(DCWW) oedd y ddau beth yma.
Pwysleisiodd
y Rheolwr Perygl Llifogydd bod DCWW a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio’n
agos gyda'r Cyngor wrth gyflawni'r gwaith o ymchwilio i'r llifogydd a dywedodd
yr Aelod Arweiniol wrth y Pwyllgor bod y swyddog wedi adeiladu perthynas waith
dda gyda’r ddau sefydliad, ac roedd y ddau yn derbyn bod gan yr holl
bartneriaid gyfrifoldebau o ran rheoli perygl llifogydd yn yr ardal hon.
Manylodd aelodau o ardal y Rhyl am nifer o broblemau hir dymor yn ymwneud â
llifogydd yn ardal y Rhyl gan gynnwys cambr y ffordd yn Ffordd Derwen, dŵr
yn llifo oddi ar gaeau chwarae Ysgol Dewi Sant, tipio anghyfreithlon ar dir y
mae Network Rail yn berchen arno a phroblemau gyda draeniau a ffosydd cerrig y
mae’n berchen arnynt, problemau ar Ffordd Elan a chae newydd Clwb Rygbi'r Rhyl. Dywedodd Pennaeth
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol bod achos nifer o’r problemau hyn yn
gymhleth iawn. Oherwydd y
cymhlethdodau roedd y Cyngor wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni
astudiaeth fanwl i’r math o waith fyddai ei angen i wella'r sefyllfa. Er hynny, ni allai neb
roi sicrwydd pendant na fyddai digwyddiad o'r fath yn fyth yn digwydd eto, y
cwbl oedd modd ei wneud oedd lleihau'r perygl o lifogydd yn y dyfodol. Disgwylir canlyniadau'r
astudiaethau draenio yn Ffordd Derwen, y Rhyl ym mis Medi 2018. Yn yr un modd,
disgwylir canlyniadau'r cydweithio a fu rhwng DCWW a Chyfoeth Naturiol Cymru, i
ymchwilio a ellid gwella rheolaeth Ffos Y Rhyl a Gwter Prestatyn yn ogystal â'r
draeniau a'r carthffosydd cyfagos, tua’r un pryd.
Gan ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y swyddogion:
·
Roedd DCWW yn cynnal
astudiaeth i ardal Bro Berllan Rhuddlan er mwyn deall maint y llifogydd a’r
problemau draenio yno;
·
Roedd cafnau roedd y Cyngor
yn berchen arnynt yn cael eu gwagu o leiaf unwaith y flwyddyn, gyda’r rheiny
oedd yn achosi problemau yn cael eu gwagu’n fwy rheolaidd. Os oedd aelodau’n ymwybodol o gafnau a allai gynyddu’r perygl o lifogydd
neu oedd angen eu gwagu dylent gysylltu â’r Ganolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid i
adrodd am y mater;
·
roedd y Cyngor yn cymryd
achosion o dipio anghyfreithlon o ddifrif ac yn gwneud pob ymdrech i weithio
gyda'r troseddwyr er mwyn eu haddysgu am y problemau maent yn eu hachosi a'r
costau cysylltiedig.
·
tra cyflwynwyd cynigion ar
gyfer darparu carthffosydd ar wahân ar gyfer dŵr carthion a dŵr wyneb
pan gafodd cwmnïau dŵr eu preifateiddio a bod DCWW wedi bod yn cynllunio i
gyflwyno'r rhain ers peth amser, doedd swyddogion Cyngor ddim yn ymwybodol fod unrhyw
gynllun o'r fath wedi ei roi ar waith yn Sir Ddinbych hyd yn hyn.
·
o safbwynt cynnal a chadw
ffosydd a glannau afonydd, roedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru bwerau i wneud y
math hwn o waith nid oedd cwblhau’r gwaith yn ddyletswydd ar Gyfoeth Naturiol Cymru,
fel arfer cyfrifoldeb perchennog glannau'r afon oedd cwblhau'r gwaith cynnal a
chadw; a
·
roedd staff o’r
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol yn gweithio'n agos gyda staff y
Gwasanaeth Addysg er mwyn lliniaru’r perygl o lifogydd a thywydd garw i ysgolion
a disgyblion
Ar ddiwedd y drafodaeth:
Penderfynodd y Pwyllgor: - yn amodol ar y sylwadau
uchod:
(i)
ofyn i swyddogion
adrodd ar ddarganfyddiadau’r astudiaeth ddraenio a ariannwyd gan grant
Llywodraeth Cymru yn Ffordd Derwen, y Rhyl, wrth Grŵp Ardal Aelodau’r Rhyl
yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad yn ystod hydref 2018;
(ii)
gofyn i swyddogion
fynychu cyfarfodydd Grwpiau Ardal Yr Aelodau yn Elwy, Prestatyn a'r Rhyl er
mwyn trafod materion yn ymwneud â pherygl llifogydd; ac
(iii)
holi a ellid adrodd
am ganfyddiadau'r astudiaeth a wnaed ar y cyd rhwng Dŵr Cymru Welsh Water
a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn gweld a ellid gwneud gwelliannau i reolaeth
Ffos Y Rhyl a Gwter Prestatyn, draeniau a charthffosydd cyfagos, wrth y
Pwyllgor pan fydd wedi ei orffen, a bod cynrychiolwyr o’r ddau sefydliad yn
cael eu gwahodd i’r cyfarfod i drafod y canfyddiadau ac amlinellu cyfrifoldeb
pob sefydliad o ran rheoli a lliniaru llifogydd.
Dogfennau ategol:
- Flood Investigation Report 220318, Eitem 8. PDF 205 KB
- Flood Investigation Report- App 1 220318, Eitem 8. PDF 6 MB