Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

AILWAMPIO MAES PARCIO TANDDAEAROL Y RHYL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi wedi’i atodi) yn ceisio cymeradwyaeth i symud ymlaen gydag ailwampio maes parcio dan ddaear y Rhyl fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol i fwrw ymlaen i adnewyddu maes parcio tanddaearol y Rhyl, a

 

 (b)      chyfarwyddo swyddogion i fynd ymlaen i roi’r prosiect ar waith.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i symud ymlaen â’r gwaith o ailwampio maes parcio tanddaearol y Rhyl a’r cyllid fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (GBS).

 

Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo’r rhaglen adfywio bresennol yn y Rhyl ym mis Mawrth 2016 a oedd yn cynnwys amryw o brosiectau y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad.  Roedd y maes parcio tanddaearol wedi’i leoli ger y cyfleuster parc dŵr newydd ac ystyriwyd bod sicrhau ei fod yn gwbl weithredol ac yn llenwi’r capasiti yn allweddol er mwyn cyfrannu at lwyddiant y gwaith o ddatblygu glan y môr a chanol y dref yn y dyfodol.  Roedd diffygion mewn perthynas â’r maes parcio tanddaearol yn cynnwys diffyg golau, awyru a hygyrchedd ac nid oedd yn cael ei ddefnyddio yn ddigonol o gwbl.  Roedd y GBS wedi cymeradwyo achos busnes ar gyfer y gwaith ailwampio am gost o £2.126m gyda’r costau cyfalaf yn cael eu hariannu trwy gymysgedd o fenthyca darbodus a Benthyciad Canol Trefi gan Lywodraeth Cymru.  Byddai’r cyllid gofynnol i ad-dalu’r benthyciad yn cael ei gynhyrchu trwy refeniw’r maes parcio ychwanegol.

 

Roedd y Cabinet yn cefnogi’r gwaith o ailwampio’r maes parcio fel prosiect allweddol yn y gwaith ehangach o ailwampio’r Rhyl ac roedd yn cydnabod ei bwysigrwydd i gyflenwi darpariaeth parcio priodol a digonol i'r datblygiad glan môr, gyda chysylltiadau i mewn i ganol y dref.  Fodd bynnag, codwyd cwestiynau a cheisiwyd sicrwydd mewn perthynas â’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r prosiect, yn arbennig risgiau ariannol, ynghyd ag unrhyw fesurau lliniaru i leddfu’r rheiny.  Ceisiwyd sicrwydd hefyd mewn perthynas â rheoli llif traffig a darparu arwyddion digonol cyn agor y cyfleuster parc dŵr newydd a hefyd ystyried cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol a swyddogion fel a ganlyn -

 

·         roedd y risg na fyddai digon o refeniw yn cael ei gynhyrchu o’r meysydd parcio i ad-dalu’r benthyciadau wedi cael ei gydnabod ond roedd amcangyfrifon darbodus wedi cael eu defnyddio i gyfrifo niferoedd ymwelwyr ac incwm ac roedd tybiaethau rhesymol wedi cael eu gwneud ynglŷn â defnydd ychwanegol, yn arbennig wrth ystyried y diffyg defnydd a wneir o’r safle ar hyn o bryd a'r disgwyliadau ar ôl cwblhau’r atyniadau ar gyfer ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn, ac roedd ffactorau hysbys o'r gwaith ailwampio yn Nova hefyd wedi cael eu cymryd i ystyriaeth.

·           Roedd y GBS yn hyderus y dylai’r refeniw ychwanegol a gynhyrchir fod yn fwy na digon i ad-dalu’r costau.  Pe na bai digon o incwm yn cael ei gynhyrchu, byddai’r ddyled yn cael ei hystyried yn bwysau corfforaethol a ariennir gan y cyngor.  Cadarnhawyd fod y Benthyciad Canol Trefi gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi’i gymeradwyo.  Defnyddiwyd y Benthyciad Canol Trefi fel dull o ddarparu cyllid heb log ar gyfer cynlluniau adfywio gan arwain at refeniw ychwanegol – roedd y cyllid ar gael am bymtheg mlynedd cyn bod angen ei ad-dalu a gellid defnyddio’r cyllid sawl gwaith o fewn y cyfnod hwnnw

·         ymhelaethwyd ynglŷn â’r gwaith ailwampio arfaethedig er mwyn creu gwelliannau a sicrhau amgylchedd diogel a chroesawgar i ddefnyddwyr gyda threfniadau rheoli a diogelwch priodol a chysylltiadau at atyniadau ymwelwyr eraill a chanol y dref – roedd manylion penodol y gwaith ailwampio wedi’u cynnwys yn yr adroddiad

·         byddai arwyddion priodol mewn lle i arwain ymwelwyr trwodd i’r Rhyl a’r safle ac roedd gwaith yn cael ei wneud er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a fyddai mewn lle cyn i’r parc dŵr agor ym mis Ionawr 2019; o ran maes parcio coetsys roedd mesur dros dro yn cael ei roi mewn lle ar gyfer y tymor presennol gyda'r bwriad o gynnwys parc coetsys parhaol ar gyfer 2019 a thymhorau'r dyfodol i gefnogi a gwasanaethu cyfleusterau eraill

·         adroddwyd am ddarn arall o waith yn ymwneud â modelu traffig yn y Rhyl fel rhan o'r rhaglen adfywio ehangach er mwyn rheoli'r cynnydd sylweddol mewn traffig o ganlyniad i'r atyniadau ymwelwyr ychwanegol yn effeithiol.  Byddai adroddiadau yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet gyda chanlyniad yr arolygon traffig yn y dyfodol; er na fyddai'r gwaith hwn yn debygol o gael ei weithredu mewn pryd ar gyfer agoriad y parc dŵr newydd, byddai'n dilyn er mwyn hwyluso datblygiadau yn y rhaglen adfywio yn y dyfodol

·         cadarnhawyd y byddai’r maes parcio yn cael ei farchnata fel cyfleuster ar wahân a byddai cymaint o gynlluniau cymhelliant ynghlwm wrtho ag sy'n bosibl o ystyried ei gysylltiadau ag atyniadau ac allfeydd eraill

·         darparwyd sicrhad ynglŷn â’r gwaith ailwampio o ran diwydrwydd dyladwy i sicrhau bod trefniadau mecanyddol a thechnegol cadarn mewn lle gan gael gwared ar hen beirianneg fecanyddol a’i newid fel sy’n briodol.  Cydymffurfir â Rheoliadau Adeiladu ac eir i’r afael ag unrhyw broblemau sy’n codi o’r broses cais cynllunio.  Byddai’r cyfleuster yn amodol ar yr archwiliadau arferol a gwaith cynnal a chadw priodol.

 

Roedd y Cabinet yn fodlon â’r sicrhad â ddarperir ac yn cefnogi’r prosiect yn gyfan gwbl.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol i fwrw ymlaen i adnewyddu maes parcio tanddaearol y Rhyl, a

 

(b)       cyfarwyddo swyddogion i fynd ymlaen â’r camau nesaf o weithredu’r prosiect.

 

Ar y pwynt hwn cymerodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr awenau ac ef oedd y Cadeirydd am weddill y cyfarfod.

 

 

Dogfennau ategol: