Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

I ystyried adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllid y cytunwyd arni;

 

 (b)      bod swyddogion yn paratoi crynodeb o’r gost ariannol i’r Cyngor mewn perthynas â’r tywydd garw a brofwyd y gaeaf hwn gan gynnwys amcangyfrif o’r gostyngiad mewn incwm a achoswyd gan y digwyddiadau hyn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllid y cytunwyd arni.  Darparodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor –

 

·        rhagwelir tanwariant o £239k mewn perthynas â’r cyllidebau corfforaethol a gwasanaeth

·        roedd gwerth £0.902 miliwn o arbedion effeithlonrwydd mewn gwasanaethau eisoes wedi'u cytuno yn rhan o'r gyllideb, gan ddisgwyl y byddent i gyd yn cael eu cyflawni – byddai unrhyw eithriad yn cael ei adrodd wrth y Cabinet

·        amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r gwahaniaethau mewn perthynas â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        darparwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol).

 

Dywedwyd wrth y Cabinet hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod £484k ychwanegol yn cael ei roi i ysgolion Sir Ddinbych i helpu â chostau cynnal a chadw a ysgwyddwyd yn ystod 2017/18 ynghyd â grant cyfalaf o £1.2m am wella priffyrdd.

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·        croesawyd y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion a phriffyrdd ond gobeithir y bydd unrhyw ddarpariaeth ychwanegol yn y dyfodol yn cael ei dyrannu’n gynharach yn y flwyddyn ariannol er mwyn medru creu cynlluniau ariannol yn well

·        Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones fod arbedion wedi cael eu gwneud trwy gyllid craidd a chostau rheoli i ostwng y diffyg yn y Tîm Prosiectau Mawr o £165k i £115k.  Roedd angen gostwng y ffigwr incwm ar gyfer y Tîm Prosiectau Mawr yn y flwyddyn ddilynol hefyd er mwyn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol yn well

·        rhagwelir ar hyn o bryd y gellid ymateb i effaith y tywydd garw diweddar ar y gyllideb cynnal a chadw'r gaeaf yn defnyddio’r adnoddau presennol ond byddai’r mater yn cael ei adolygu’n barhaus ac roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gofyn am help ariannol gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i dalu am effaith y tywydd garw

·        mae pryderon wedi codi am effaith y tywydd garw ar briffyrdd, coetiroedd a llwybrau troed ynghyd â’r angen am raglen trwsio a chynnal a chadw briodol, gan gynnwys goblygiadau costau, er mwyn mynd i’r afael â’r materion hynny.  Amlygwyd yr effaith ehangach ar wasanaethau’r cyngor hefyd megis y rhai sy’n ddibynnol iawn ar gynhyrchu incwm a fyddai’n cael eu heffeithio’n sylweddol o ganlyniad i gau cyfleusterau.  O ganlyniad cytunwyd y dylid paratoi crynodeb o’r costau ariannol i’r cyngor yn sgil y tywydd garw

·        Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol am adborth am effeithiau’r tywydd garw ac felly wedi cydnabod effaith ar draws y gwasanaethau.  Amlygwyd fod rhai busnesau lleol hefyd wedi cael eu heffeithio’n arw ac awgrymwyd y gallai Llywodraeth Cymru gymryd hynny i ystyriaeth hefyd

·        anogwyd aelodau i adrodd am unrhyw bryderon priffyrdd drwy’r system Rheoli Cyswllt Cwsmer fel y gellir eu cofnodi’n briodol a gweithredu arnynt ond teimlai'r Cynghorydd Meirick Davies y dylid cael dull ar wahân ar gyfer gwaith brys sy’n ofynnol er mwyn osgoi unrhyw oedi gormodol

·        canmolwyd gwaith y staff Priffyrdd wrth ymateb i’r tywydd garw a chynnal a chadw ffyrdd y sir a dywedodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol yn cynnwys gwerthfawrogiad y Cabinet yn ei ohebiaeth i’r holl staff dan sylw

·        Ailadroddodd Arwel Roberts ei bryderon blaenorol am ysgolion â diffygion ariannol a'r effaith dilynol oherwydd cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth.  Rhoddodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts sicrwydd ynglŷn â chadernid y cynlluniau ariannol ar gyfer pobl ysgol a oedd yn cynnwys costau cyflogau presennol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllid y cytunwyd arni; a

 

(b)       bod swyddogion yn paratoi crynodeb o’r gost ariannol i’r Cyngor yn sgil y tywydd garw a gafwyd y gaeaf hwn gan gynnwys amcangyfrif o’r gostyngiad mewn incwm a achoswyd o ganlyniad i hyn.

 

 

Dogfennau ategol: