Eitem ar yr agenda
SAFONAU A PHERFFORMIAD Y GWASANAETH LLYFRGELL
Ystyried
adroddiad gan y Prif Lyfrgellydd (copi ynghlwm) sy’n tanlinellu perfformiad y
Gwasanaeth Llyfrgell yn erbyn safonau cenedlaethol.
10:05am – 10:35am
Cofnodion:
Yn absenoldeb
Aelod Arweiniol Datblygu Seilwaith Cymunedol, cyflwynodd y Pennaeth Cyfathrebu,
Cwsmeriaid a Marchnata adroddiad y Prif Llyfrgellydd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) a oedd yn amlinellu perfformiad y Gwasanaeth Llyfrgell yn erbyn y
safonau cenedlaethol ac yn diweddaru’r Pwyllgor ar ddatblygiadau o fewn y
gwasanaeth yn Sir Ddinbych ac ar sail ranbarthol. Ynghlwm wrth yr adroddiad fel
atodiadau roedd copïau o asesiad ffurfiol Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a
Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru o wasanaeth llyfrgell y sir ar gyfer 2016-17
(Atodiad A) a pholisi codi tâl diwygiedig y Cyngor ar gyfer defnyddio gofodau’r llyfrgell i gynnal
gweithgareddau (Atodiad B).
Yn ystod ei
chyflwyniad, hysbyswyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Gwasanaeth fod Gwasanaeth
Llyfrgell Sir Ddinbych wedi diwallu 17 o’r 18 Hawliad Craidd yn ystod 2016-17,
fel y gwnaeth drwy gydol cyfnod 5ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus
Cymru (2014-2017). Dywedodd fod Sir Ddinbych wedi croesawu cynnwys dangosydd
ansawdd, yn ymwneud â pherfformiad y llyfrgell wrth gefnogi iechyd a lles, yn 6ed
Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, 2017 – 2020.
Rhannwyd manylion
gydag Aelodau ynglŷn â’r gwaith ailwampio sydd bron â’i gwblhau yn Llyfrgell Llanelwy, y rhaglen
ailwampio a ariannwyd drwy grant yr Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd
yn Llyfrgell Dinbych, a’r gwaith i newid y to yn Llyfrgell Y Rhyl. Cafodd yr
Aelodau eu briffio ynglŷn â’r defnydd cynyddol o lyfrgelloedd at ddibenion
darparu gwasanaethau cymunedol gan y Cyngor a sefydliadau partner, a oedd i gyd
yn cefnogi gwaith iechyd a lles ehangach y sefydliadau amrywiol. Roedd polisi codi tâl diwygiedig y Gwasanaeth Llyfrgell, ar gyfer
defnyddio gofodau’r llyfrgell i gynnal gweithgareddau cynlluniedig, yn cynnig
defnydd am ddim o’r gofodau llyfrgell er mantais gymunedol, gostyngiad ar gyfer
grwpiau cymunedol ac elusennau cofrestredig a dim ond archebion preifat/
masnachol neu grwpiau’n gwneud elw oedd yn gorfod talu’r ffioedd llogi yn
llawn. Cyflwynwyd y polisi diwygiedig hwn ym mis Ionawr ar gyfer archebion
newydd ac ym mis Ebrill 2018 ar gyfer y archebion grŵp rheolaidd. Rhannwyd
manylion hefyd o’r gwaith rhanbarthol a chenedlaethol a wnaed ar y cyd rhwng
gwasanaethau llyfrgell sirol at ddibenion cyflawni arbedion, cefnogi a gwella
darpariaeth y cynnig iechyd a lles, gwella'r ystod o ddeunydd darllen sydd ar
gael i ddefnyddwyr a chyfrwng ei argaeledd, hynny yw llyfrau, e-lyfrau,
e-lyfrau llafar ac ati.
Gan ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth a’r Prif Lyfrgellydd:
·
roedd
Llyfrgell Rhuddlan ar agor ar foreau Sadwrn ar hyn o bryd gan fod Llyfrgell
Llanelwy wedi cau dros dro er mwyn cynnal gwaith ailwampio. Aelodau staff o
Lyfrgell Llanelwy oedd yn gweithio yn Rhuddlan ar foreau Sadwrn. Os oedd Aelodau a phreswylwyr
yn awyddus i Lyfrgell Rhuddlan barhau i agor ar foreau Sadwrn yn dilyn ail-agor
Llyfrgell Llanelwy byddai'n rhaid sicrhau adnoddau ariannol er mwyn cyflawni
hyn, un opsiwn fyddai cysylltu â Chyngor Tref Rhuddlan i wneud cais am
gefnogaeth ariannol bellach;
·
ar hyn o bryd
dim ond dau gyngor dinas, tref neu gymuned oedd yn darparu cefnogaeth ariannol
i’r Cyngor Sir ar gyfer darpariaeth gwasanaethau llyfrgell yn eu hardal, sef
Cyngor Dinas Llanelwy a Chyngor Tref Rhuddlan. Roedd Cyngor Dinas Llanelwy yn
penderfynu ar sail flynyddol a fyddai’n darparu cefnogaeth ariannol i Wasanaeth
Llyfrgell y Cyngor ai peidio. Wrth ystyried y posibilrwydd o adnoddau cyllid
gostyngol ar gyfer darpariaeth gwasanaethau yn y tymor canolig a’r tymor hir,
efallai y byddai’n rhaid i’r Gwasanaeth Llyfrgell ystyried cysylltu â’r holl
gynghorau dinas, tref a chymuned am gymorth ariannol er mwyn sicrhau
darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol;
·
byddent
yn holi Adran Gwasanaethau Adeiladu’r Cyngor ynglŷn â phwy oedd yn
gyfrifol am dalu costau’r gwaith cynnal a chadw a oedd yn cael ei wneud ar do
llyfrgell Rhuddlan;
·
er i lawer
o Ddangosyddion Ansawdd ganolbwyntio ar wasanaethau nad oedd yn ymwneud â
llyfrau, ac wrth i lyfrgelloedd ddatblygu agweddau cymunedol eu gwasanaethau a
hyrwyddo argaeledd gwasanaethau TG mewn llyfrgelloedd, bu i fusnes craidd y
Gwasanaeth, sef benthyca llyfrau a deunyddiau darllen, barhau yn union yr un
fath. Fe wnaeth cydweithio rhanbarthol a chenedlaethol ar draws y gwasanaethau
llyfrgell sicrhau argaeledd y dewis mwyaf eang o ddeunyddiau darllen ar gyfer y
defnyddwyr gwasanaeth. Os nad oedd llyfrau yn cael eu cadw gan Wasanaeth Llyfrgell y Sir, roedd
modd i unigolyn wneud cais amdanynt o lyfrgell arall yng Nghymru a byddai’r
llyfrau ar gael i’r unigolyn ymhen oddeutu wythnos o wneud cais, yn ddibynnol
ar bryd y derbyniwyd y cais ac yn lle yng Nghymru oedd y llyfrau yn cael eu
cadw.
·
byddai ffigyrau yn cael eu
darparu i’r Pwyllgor mewn perthynas â nifer y benthyciadau llyfrau yn Sir
Ddinbych yn ystod y flwyddyn gyfredol o’i chymharu â blynyddoedd blaenorol;
·
er nad
oedd y Cyngor wedi gweithredu Gwasanaeth Llyfrgell symudol ers sawl blwyddyn
bellach, roedd yn parhau i weithredu Gwasanaeth Llyfrgell Cartref i breswylwyr
nad oedd yn gallu ymweld â llyfrgell oherwydd salwch neu anabledd. Roedd rhwng
200 a 300 o unigolion yn defnyddio’r gwasanaeth hwn ac roedd gan y Gwasanaeth
Llyfrgell nod i’w gyflwyno i ofalwyr yn y dyfodol agos;
·
rhagwelwyd
y byddai cyflwyniad Credyd Cynhwysol i ran fawr o Sir Ddinbych ym mis Ebrill
2018 yn cael effaith ar lyfrgelloedd a staff. Hyd yma nid oedd maint yr effaith
wedi'i fesur. Roedd
y Prif Lyfrgellydd yn aelod o Fwrdd Credyd Cynhwysol y Cyngor, y Bwrdd a oedd
yn gweithio ar draws Wasanaethau’r Cyngor a gyda phartneriaid megis Cyngor Ar
Bopeth Sir Ddinbych a’r Adran Gwaith a Phensiynau, mewn ymgais i reoli effaith
cyflwyniad Credyd Cynhwysol yn Sir Ddinbych a chefnogi preswylwyr yn ystod y
broses ymgeisio. Dywedwyd wrth Aelodau mai
Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych fyddai pwynt cyswllt cyntaf preswylwyr i gael cymorth
ag ymholiadau neu hawliau Credyd Cynhwysol. Byddai OPUS hefyd yn darparu
cefnogaeth i unigolion sy’n gwneud cais ac yn derbyn Credyd Cynhwysol o ran
datblygu sgiliau hanfodol, tra byddai’r Adran Gwaith a Phensiynau yn darparu
cyllid ôl-weithredol i’r Cyngor ac eraill am y gefnogaeth a ddarparwyd i
hawlwyr Credyd Cynhwysol. Dywedodd y Cydlynydd Archwilio y byddai’r Pwyllgor
Archwilio Cymunedau yn trafod eitem ar yr effeithiau posibl ar y Cyngor a
phreswylwyr yn dilyn cyflwyno Credyd Cynhwysol yn ystod ei gyfarfod ym mis Mai
2018;
·
roedd
rhaid rheoli’r defnydd o wirfoddolwyr i ddarparu gwasanaethau llyfrgell yn
ofalus iawn, oherwydd roedd modd i hyn beri pryder ac anfodlonrwydd ymysg staff
cymwys y llyfrgell. Roedd modd archwilio cyfleoedd i gynnwys gwirfoddolwyr at
ddibenion cefnogi staff y llyfrgell. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i lunio
rhaglen profiad gwaith i fyfyrwyr a fyddai’n gwneud y mwyaf o werth a
manteision y profiad ar gyfer y myfyriwr a’r gwasanaeth;
·
byddai strategaeth
farchnata yn gyfer llyfrgelloedd y sir yn cael ei datblygu maes o law;
·
gweithiodd y Gwasanaeth
Llyfrgell yn Sir Ddinbych yn agos iawn gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn
Aberystwyth, hynny yw drwy’r contract caffael Cymru gyfan, gan bwysleisio i
aelodau llyfrgelloedd Sir Ddinbych bod mynediad am ddim (cysylltu-o-bell) at
adnoddau electronig y Llyfrgell Genedlaethol ar gael iddynt; a,
·
thalwyd yr
incwm a gynhyrchwyd drwy logi gofodau llyfrgell i ddefnyddwyr allanol i mewn i
gyllideb gyffredinol y Gwasanaeth Llyfrgell. Nid oedd yr incwm a gynhyrchwyd yn
ormodol a gan fod lefel yr incwm yn newid o un mis i'r llall nid oedd modd ei
warantu ac felly ei ddefnyddio at ddibenion gosod y gyllideb.
Ar ddiwedd y
drafodaeth bu i’r Pwyllgor llongyfarch y Cyngor am gadw ei lyfrgelloedd ar agor
ac am eu datblygu yn ganolfannau cymunedol. Llongyfarchodd yr Aelodau holl
aelodau staff y Gwasanaeth Llyfrgell ar draws y sir am eu hymroddiad a safon y
gwasanaeth roeddent yn ei ddarparu i ddefnyddwyr y llyfrgelloedd.
Penderfynwyd
gan y Pwyllgor: - yn amodol ar y sylwadau uchod -
(i)
cymeradwyo’r Gwasanaeth Llyfrgell ar
ei berfformiad yn erbyn 5ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru; a
(ii)
gofyn bod adroddiad cynnydd yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor yn ystod ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2018 yn trafod
perfformiad y Gwasanaeth yn erbyn y 6ed Fframwaith 2017-2020.
Dogfennau ategol:
- Library Performance Report 2016-17 150318, Eitem 5. PDF 219 KB
- Libraries Report 150318 - Appendix A, Eitem 5. PDF 238 KB
- Libraries Report 150318 - Appendix B, Eitem 5. PDF 349 KB