Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

TREFNIADAU CLWSTWR YSGOLION

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) yn rhoi manylion am yr adborth a dderbyniwyd mewn perthynas â datblygu proses lle gall ysgolion ofyn am i ystyriaeth gael ei rhoi, gan yr Awdurdod Lleol, i symud clwstwr.

 

10.05am – 10.35am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl ifanc yr adroddiad (a gylchredwyd eisoes) oedd yn rhoi adborth i aelodau ar y gwaith a wnaed gan swyddogion mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor, ym Mehefin 2017, y dylid ystyried datblygu proses i hwyluso ysgolion, pe byddent yn dymuno, i wneud cais i adolygu eu trefniadau o ran clwstwr ysgolion.  Yn ystod ei gyflwyniad, dywedodd yr Aelod Arweiniol bod cais y Pwyllgor yn deillio o ystyried Polisi Cludiant I Ddysgwyr newydd y Cyngor, sy’n dod i rym ym Medi 2018, ac yn benodol mewn ymateb i bryderon gan rieni disgyblion yn Ysgol Pantpastynog, Prion ac Ysgol Bro Cinmeirch, Llanrhaeadr ynglŷn ag a fydden nhw yn gymwys am gludiant am ddim i'r ysgol i Ysgol Glan Clwyd neu Ysgol Brynhyfryd, yn dibynnu ar eu cyfeiriad cartref.  Yn ystod y broses o ddatblygu'r Polisi newydd o ran Cludiant I Ddysgwyr daeth yn amlwg bod y trefniadau clwstwr ysgolion a’r berthynas ‘ysgol fwydo’ gydag ysgolion uwchradd yn arbennig o bwysig i ddisgyblion, rhieni / gofalwyr ac ysgolion fel ei gilydd.  O ganlyniad, gwnaed darpariaeth o fewn y polisi newydd Cludiant I Ddysgwyr i gydnabod y berthynas ‘ysgol fwydo’ a darparu cludiant am ddim yn ôl disgresiwn i un ai’r ysgol uwchradd addas agosaf neu’r ysgol uwchradd ‘fwydo’ gydnabyddedig, cyn belled bod cyfeiriad y dysgwr a'r man pigo i fyny ymhellach na thair milltir o’r ysgol uwchradd.  Roedd gan Ysgol Bro Cinmeirch bryderon penodol bod rhieni / gofalwyr yn dewis addysg ffydd cyfrwng Cymraeg er mwyn cael mynediad at Ysgol Pantpastynog ac wedyn er mwyn cael trosglwyddo i Ysgol Glan Clwyd o dan y trefniadau ysgol fwydo os na gellid rhoi cludiant yn ôl disgresiwn i Ysgol Glan Clwyd i ddisgyblion Bro Cinmeirch.

 

Dywedodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant wrth Aelodau bod angen sefydlu Gweithgor er mwyn symud cais y Pwyllgor i ystyried datblygu proses ar gyfer ysgolion cynradd sydd am newid eu trefniadau clwstwr ysgolion ymlaen.    Atodwyd trosolwg o gylch gwaith y Gweithgor fel Atodiad 3 i’r adroddiad.  Gwahoddwyd pob ‘clwstwr ysgolion uwchradd' ar draws y sir i benodi dau gynrychiolydd i wasanaethau ar y Gweithgor.  Roedd y cynrychiolwyr clwstwr a bendodwyd yn cynnwys trawstoriad o arbenigedd ysgolion h.y. penaethiaid, rheolwyr busnes a chyllid a llywodraethwyr.    Roedd cynrychiolaeth awdurdodau lleol ar y Gweithgor yn cynnwys aelodau o’r timau Cyllid Ysgolion a Chludiant Dysgwyr.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth y Pwyllgor bod y Gweithgor, wrth ddwyn ei waith i ben, wedi penderfynu nad oedd angen datblygu proses i alluogi ysgolion cynradd i wneud cais i newid eu trefniadau clwstwr.  Yn eu barn nhw dylai'r Cyngor barhau i ganolbwyntio ar yr Agenda Moderneiddio Ysgolion.  Roedd eu barn yn debyg i farn Gwasanaeth Addysg y Cyngor.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Addysg, a’r Rheolwr Adnoddau a Chynllunio:

·         tra bo deddfwriaeth yn nodi bod gofyniad ar awdurdodau lleol i ddarparu cludiant am ddim i'r ysgol i ddisgyblion oedd yn dewis derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, cyn belled a’u bod yn mynychu'r ysgol addas agosaf ac yn bodloni’r meini prawf pellter, roedd darparu cludiant am ddim i'r ysgol i ysgolion ffydd yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol.  Fodd bynnag, roedd Sir Ddinbych yn ymdrin ag ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd yn yr un modd wrth benderfynu ar hawl cludiant i’r ysgol;

·         roedd deddfwriaeth cludiant i ddysgwyr yn nodi fod yn rhaid i’r cyfnod o amser yr oedd disgwyl i ddisgybl ei deithio er mwyn derbyn addysg fod yn rhesymol;

·         roedd dewis rhieni yn flaenoriaeth pan fyddai rhieni / gofalwyr yn dewis ysgol i’w plentyn, roedd dyletswydd yr Awdurdod yn hyn o beth yn ymestyn at ddarpariaeth cludiant am ddim i'r ysgol i’r disgybl i’r ysgol addas agosaf os oedd yn bellach na’r pellter disgwyliedig i’r disgybl / rhieni wneud eu trefniadau eu hunain o ran cyrraedd yr ysgol;

·         tra roedd ysgol gynradd wedi mynegi diddordeb mewn gofyn i’r awdurdod lleol ddatblygu proses er mwyn newid y trefniadau clwstwr ysgolion unwaith roedd y Gweithgor wedi'i sefydlu, daeth yn amlwg nad oedd awch ymysg cynrychiolaeth ehangach y clwstwr ysgolion i fynd a’r gwaith hwn ymhellach.  Cydnabu Swyddogion na chafodd clystyrau Dinbych na Llangollen eu cynrychioli yn llawn yng nghyfarfod y Gweithgor, ond er hynny nid oedd yr un clwstwr wedi mynegi eu cefnogaeth dros nac yn erbyn datblygu proses;

·         roedd y trefniadau clwstwr ysgolion cyfredol yn eu lle yn Sir Ddinbych ers nifer o flynyddoedd.  Roedd yn fodel cydnabyddedig ar gyfer creu ac adeiladu perthnasau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd  Roedd y model clwstwr ysgolion wedi ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru (LlC);

·         un o’r risgiau a nodwyd o ran datblygu proses er mwyn i ysgolion newid eu trefniadau clwstwr oedd yr effaith negyddol y gallai hyn o bosib ei gael ar gyllidebau nad ydynt wedi eu dirprwyo ysgolion unigol os byddent yn dewis newid eu trefniadau clwstwr yn rheolaidd; a

·         pe byddai’r Pwyllgor yn argymell datblygu gweithdrefn i alluogi ysgolion i newid eu trefniadau clwstwr ysgolion byddai angen ymgynghori gyda rhieni a rhanddeiliaid eraill cyn ei gyflwyno i’r pwyllgor archwilio er mwyn ei ystyried.  Byddai datblygu gweithdrefn yn golygu gwaith ac adnoddau sylweddol ar ran y Cyngor.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl gan y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)           nad oedd angen datblygu proses i alluogi ysgolion cynradd i newid eu trefniadau clwstwr ysgolion gan y byddai hyn yn gweithio yn erbyn y dull gweithredu cydlynol i foderneiddio ysgolion Sir Ddinbych;

(ii)          Monitro gweithrediad Polisi Cludiant i Ddysgwyr newydd 2017, yn unol â phenderfyniad gwreiddiol y Pwyllgor ar 15 Mehefin 2017, a gall pryderon Ysgol Bro Cinmeirch hefyd ffurfio rhan o’r broses adolygu hwn; a

(iii)          bod yr Awdurdod yn ymateb i Bennaeth a Chorff Llywodraethu Ysgol Bro Cinmeirch yn amlinellu’r uchod.

 

Dogfennau ategol: