Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD DIWEDDARU AR REOLI GWYLANOD
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) sy'n rhoi
manylion ar y cynnydd a wnaed mewn cyflawni'r Cynllun Gweithredu Rheoli
Gwylanod a cheisio safbwyntiau’r Pwyllgor ar gamau arfaethedig i'w cymryd yn y
dyfodol
10.35am - 11.05am
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd adroddiad y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’i atodiadau cysylltiol (a gylchredwyd
eisoes), er mwyn diweddaru aelodau ar y cynnydd a wnaed hyd yma o ran rhoi
Cynllun Gweithredu Rheoli Gwylanod a chamau gweithredu arfaethedig ar waith i
liniaru’r niwsans a achosir gan wylanod yn y sir.
Dywedodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd wrth aelodau mai cynllun
Cyngor cyfan yw’r Cynllun Gweithredu, Atodiad 3 yr adroddiad, gyda chamau
gweithredu wedi eu dyrannu i nifer o wasanaethau eu symud ymlaen a'u
gweithredu. Y flaenoriaeth
ar hyn o bryd oedd darparu’r ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus, a amlinellir yn
Atodiad 4, a gweithio gyda busnesau bwyd i leihau gwastraff bwyd, sy'n denu
gwylanod. Ar hyn o bryd y
ffocws yw addysgu’r cyhoedd a pherswadio trigolion, ymwelwyr a busnesau i
weithio gyda’r Cyngor mewn ymgais i leihau’r niwsans a’r llanast a achosir gan
wylanod.
Amlinellodd Arweinydd Tîm y Cyngor: Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchu y camau
gweithredu a’r mentrau sydd yn mynd rhagddynt fel rhan o’r ymgyrch
ymwybyddiaeth gyhoeddus, a gymeradwywyd ym mis Chwefror 2018. Roedd y rhain yn
cynnwys:
·
ymgyrch cyfryngau
cymdeithasol fyddai’n cynnwys fideos codi ymwybyddiaeth;
·
cysylltu â chynghorau dinas,
tref a chymuned er mwyn ceisio eu cefnogaeth i'r gwaith, a'u hannog i gefnogi
gwaith y Cyngor drwy rannu gwybodaeth gyda thrigolion a sicrhau bod y strydoedd
a mannau cyhoeddus yn cael eu cadw yn daclus ac yn lân;
·
annog busnesau, trigolion
ac ymwelwyr i waredu unrhyw wastraff bwyd yn gyfrifol ac yn ddiogel;
·
cysylltu gydag ysgolion er
mwyn addysgu plant am y poendod a achosir gan wylanod ac anifeiliaid eraill a’r
angen i waredu gwastraff bwyd a sbwriel yn ddiogel. Rhagdybiwyd y byddai'r ymagwedd hon yn ddefnyddiol er mwyn cyfathrebu’r un
neges i rieni ac ati gan y byddent hwy yn debygol o wrando ar farn eu plant ar
faterion;
·
Rhedeg cystadleuaeth
dylunio poster drwy Raglen Cyfoethogi'r Gwasanaeth Addysg, gyda’r poster buddugol
yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgyrch ymwybyddiaeth y Cyngor.
Rhannodd y Cynghorydd Anton Sampson boster gyda’r Pwyllgor oedd wedi cael
ei ddefnyddio gan Gyngor Bwrdeistref Great Yarmouth mewn ymgais i annog pobl i
waredu gwastraff bwyd ayb yn gyfrifol, tra rhannodd y Cynghorydd Brian Blakeley
nifero gwynion a sylwadau roedd wedi eu derbyn gan drigolion.
Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol,
Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Uchelgais
Economaidd a Chymunedol, Pennaeth Gwasanaeth, ac Arweinydd Tîm: Rheoli Cyfathrebu ac
Ymgyrchoedd mai:
·
gwastraff bwyd oedd y prif
bryder gan ei fod yn atynnu gwylanod. Pe gellid lleihau mynediad at wastraff
bwyd rhagdybir y byddai’r problemau a achosir gan wylanod yn lleihau;
·
roedd archwiliadau
dyletswydd gofal busnesau i sicrhau bod ganddynt gytundebau gwaredu gwastraff
masnachol a’u bod yn defnyddio cynwysyddion gwrth bla ar gyfer gwastraff bwyd
yn mynd rhagddynt.
Roedd gwiriadau tebyg yn cael eu cynnal ar lefydd gwerthu
bwyd yn ystod archwiliadau hylendid bwyd arferol. Ar
hyn o bryd roedd ystyriaeth yn cael ei roi i a ddylid cynnwys diogelu gwastraff
bwyd fel maes cydymffurfedd ar gyfer archwiliadau hylendid bwyd;
·
mae gwaith glanhau stryd
yn cael ei wneud yn rheolaidd mewn trefi arfordirol er mwyn ceisio lleihau
faint o sbwriel sydd yno a chadw'r strydoedd a’r celfi stryd yn lân ac yn
daclus;
·
roedd heboga wedi ei
ddefnyddio’n llwyddiannus mewn blynyddoedd diweddar i gadw gwylanod draw,
effaith tymor byr yn unig oedd hynny ac unwaith roedd yr adar ysglyfaethus wedi
mynd daeth y gwylanod yn ôl. Roedd heboga hefyd yn
weddol ddrud ac felly ddim yn gynaliadwy yn y tymor hir;
·
roedd y Cyngor yn bwriadu
lobïo LlC, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chyfoeth Naturiol Cymru
er mwyn cael ymgyrch genedlaethol neu
ranbarthol draws-sefydliadol ar reoli gwylanod a lliniaru risg, ac i ddeall
patrwm ymddygiad y gwylanod er mwyn rhagweld eu patrymau bwydo esblygiadol.
·
roedd trafodaethau yn mynd
rhagddynt gydag Adran Gyfreithiol y Cyngor ar hyfywedd cyflwyno is-ddeddfau neu
Orchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus mewn perthynas ag atal bwydo'r gwylanod. Fodd bynnag, cyn y gallai’r Gwasanaeth ystyried mesurau o’r fath byddai
angen darparu tystiolaeth ynglŷn â’r nifer gwirioneddol o gwynion a dderbyniwyd
gan y Cyngor ynglŷn â phobl yn bwydo gwylanod. Ar hyn o bryd mae’r
nifer gwirioneddol o gwynion a dderbyniwyd gan y Cyngor yn arbennig o isel, er
bod swyddogion yn ymwybodol iawn o gwynion anecdotaidd yn ymwneud â bwydo’r
gwylanod a’r problemau sy’n deillio o hynny. Byddwn yn adolygu
hyfywedd o gyflwyno is-ddeddf neu Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus eto mewn
12 mis.
Yn y cyfamser byddai angen i drigolion ac ymwelwyr gael
gwybod am bwysigrwydd adrodd am unrhyw ddigwyddiadau i’w wneud â gwylanod wrth
Ganolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid y Cyngor.
·
roedd gan y Cyngor bwerau
o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i gyflwyno
Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol i unigolion oedd yn gor-fwydo adar. Fodd bynnag, ni ddefnyddiwyd y pŵer hwn yn aml. Y peth cyntaf fyddai’r Cyngor yn ei wneud fyddai ysgrifennu at yr unigolyn
a’u cynghori bod cwynion wedi eu derbyn am eu hymddygiad a’i effaith ar eraill. Teimlwyd bod defnyddio dull argyhoeddiadol fel hyn yn fwy effeithiol yn y
rhan fwyaf o achosion;
·
roedd y defnydd o fagiau
bin mewn ardaloedd penodol yn gwneud y broblem a achosir gan wylanod yn waeth,
gan bod gwylanod yn cael eu denu ganddynt ac yn gallu eu rhwygo’n agored yn
hawdd.
Yn anffodus roedd sawl eiddo ac ardal yn y sir oedd ond
yn gallu derbyn bagiau yn hytrach na biniau olwynion a chadis bwyd diogel
oherwydd problemau mynediad i’r gwasanaeth casglu gwastraff. Dywedodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y byddai’n trafod gyda
Phennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol i weld a oedd mwy o opsiynau
‘gwaredu gwastraff’ ar gael nawr ac a ellid cyflwyno’r rhain i’r eiddo hyn ac a
ellid ffitio clipiau i’r biniau olwynion cyfredol er mwyn diogelu eu cynnwys
mewn tywydd garw neu i rwystro gwylanod a fermin rhag eu hagor;
·
nid oeddynt yn ymwybodol o
unrhyw un sy'n lobio Llywodraeth y DU er mwyn ceisio codi’r amddiffyniad
cyfreithiol a roddir i ‘wylanod’;
·
roedd defnyddio posteri
cartŵn / llun at bwrpas codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn ddull effeithiol i
ymgysylltu gyda phobl a’u haddysgu i ystyried newid eu harferion;
·
roeddynt yn ymwybodol o’r
broblem a achosir gan wylanod yn Ysgol y Castell, Rhuddlan, a’r gost o gyflwyno
mesurau i fynd i’r afael â'r broblem. Cyn belled ag y
gwyddant, digwyddiad unigol oedd hwn, ond cynigwyd gofyn i wasanaeth Cynnal a
Chadw Adeiladu’r Cyngor a fyddai'n gorfod talu am waith lleihau risg ar
adeiladu ysgolion;
·
byddai gwestai, carafanau
a pharciau gwyliau yn cael eu cynnwys yn y gwaith codi ymwybyddiaeth gan y Tîm
Cyfathrebu a Marchnata; a
·
roedd y gwaith i godi
ymwybyddiaeth gyhoeddus yn allweddol os oedd y Cyngor am lwyddo i leihau faint
o niwsans oedd yn cael ei achosi gan wylanod yn y sir. Byddai unrhyw ddyheadau oedd gan yr Awdurdod o ran cynyddu’r nifer o
dwristiaid drwy weld bwytai awyr agored ayb yn ffynnu yn dibynnu ar ostyngiad
mawr yn y nifer o wylanod yn y sir;
Awgrymwyd hefyd yn ystod y drafodaeth y byddai’n werth cysylltu â Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn
holi os oes ganddynt ystadegau ar faint o unigolion sydd wedi mynychu Adrannau
Argyfwng neu Unedau Mân Anafiadau mewn ysbytai lleol oherwydd anafiadau a
achoswyd gan wylanod. Ar ddiwedd y
drafodaeth:
Penderfynodd y Pwyllgor: - yn amodol ar y sylwadau
uchod -
(i)
hysbysu'r Aelod Arweiniol
a swyddogion i gysylltu â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru,
a Chyfoeth Naturiol Cymru i geisio eu hymrwymiad i weithio gyda’r Cyngor er
mwyn rheoli a lliniaru’r risgiau a’r niwsans a achosir gan wylanod yn
effeithiol;
(ii)
bod yr ymgyrch
ymwybyddiaeth i gynnwys cynhyrchu posteri a sticeri ayb i'w gosod ar lefydd
bwyd ac ar finiau / cynwysyddion bwyd yn gofyn i bobl waredu eu gwastraff bwyd
yn ddiogel;
(iii)
os yn briodol, bod
swyddogion yn defnyddio pwerau i gyflwyno Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol yn
unol â Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, i
unigolion sy’n gor-fwydo adar ac sydd yn cael effaith negyddol ar drigolion
eraill; a
(iv)
bod adroddiad yn
cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ymhen deuddeg mis ar y cynnydd sydd wedi ei wneud
o ran datblygu a chyflawni'r Cynllun Gweithredu Rheoli Gwylanod a'r Ymgyrch
Ymwybyddiaeth Gyhoeddus berthnasol.
Dogfennau ategol:
- Seagulls Report 220318, Eitem 6. PDF 199 KB
- Seagulls Report 220318 - Appendix 1, Eitem 6. PDF 211 KB
- Seagulls Report 220318 - Appendix 2, Eitem 6. PDF 230 KB
- Seagulls Report 220318 - Appendix 3, Eitem 6. PDF 352 KB
- Seagulls Report 220318 - Appendix 4, Eitem 6. PDF 410 KB