Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

MEYSYDD PARCIO YN SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch y Ffyrdd (copi ynghlwm) sy’n rhoi'r diweddaraf i aelodau ar weithredu’r gofrestr rheoli asedau meysydd parcio a’r rhaglen fuddsoddi gysylltiedig, tra’n ceisio eu safbwyntiau arnynt ac ar waith y Grŵp Tasg a Gorffen Meysydd Parcio traws-wasanaeth

 

11.15am – 11.45am

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy adroddiad y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd (a gylchredwyd eisoes) er mwyn diweddaru'r Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed o safbwynt rhoi'r Cofrestr Rheoli Asedau Meysydd Parcio a'r Rhaglen Fuddsoddi ar waith.  Hefyd yn yr adroddiad oedd manylion y cynnydd a wnaed gan y Grŵp Tasg a Gorffen Meysydd Parcio o ran datblygu mesurau i wella profiad ymwelwyr defnyddwyr meysydd parcio.  Rhoddwyd trosolwg i Aelodau o’r amrywiol elfennau o’r gwaith a wnaed hyd yma fel rhan o ddatblygiad y Gofrestr Rheoli Asedau a'r Rhaglen Fuddsoddi arfaethedig (a amlinellir yn Atodiad B yr adroddiad) ac ar yr ymyraethau a nodwyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Pwyllgor, dywedodd yr Aelod Arweiniol, Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Uchelgais Economaidd a Chymunedol a'r Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd:

·         eu bod yn fodlon gyda’r cynnydd a wnaed wrth ddatblygu amrywiol agweddau o’r gwaith oedd angen ei wneud.  Roedd cwblhau arolwg y meysydd parcio wedi cymryd cyfnod sylweddol o amser, ond roedd y rhan fwyaf o’r gwaith cynllunio bellach wedi ei gwblhau.  Roedd Swyddogion wedi ymweld â phob Grŵp Ardal Aelodau er mwyn eu briffio ar y cynigion a cheisio eu cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau;

·         disgwylid y byddai’n cymryd pum mlynedd i gwblhau’r rhaglen wella gyfan.  Roedd y broses o'i rhoi ar waith yn ei chamau cynnar a dim ond oddeutu 12 peiriant talu ac arddangos newydd oedd wedi eu gosod hyd yma.  Cyllideb Gwasanaeth Meysydd Parcio oedd yn talu am gost y gwaith hwn;

·         roedd angen mwy o waith proffilio cyllideb ar gyfer y rhaglen fuddsoddi cyn ei datblygu fel Achos Busnes i’w gyflwyno i Grŵp Buddsoddi Strategol y Cyngor er mwyn ei gymeradwyo; 

·         byddai'r gwaith yn cael ei wneud fesul cam.  Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf byddai peiriannau talu ac arddangos cyfredol yn cael eu disodli gan beiriannau fyddai’n cymryd taliadau cerdyn ac yn cynhyrchu proffiliau data gwell o ddefnydd pob maes parcio.    Byddai arwyddion mewn meysydd parcio yn cael eu gwella yn ystod camau cyntaf y cynllun gan y byddai hyn yn gwella’r profiad ymwelwyr drwy roi gwybodaeth glir o safbwynt ardaloedd arhosiad byr / arhosiad hir y meysydd parcio.  Byddai gwelliannau mwy cosmetig h.y. goleuo a thirlunio yn cael eu huwchraddio yn ystod camau olaf y cynllun buddsoddi;

·         roedd angen gwneud gwaith pellach er mwyn asesu effaith rhai o’r ymyraethau a gyflwynwyd gan Grŵp Tasg a Gorffen Meysydd Parcio h.y. tocynnau talu ac arddangos y gellir eu trosglwyddo rhwng meysydd parcio arhosiad hir ar draws y sir, trwyddedau parcio di bapur ayb;

·         roedd y cynllun buddsoddi yn cynnwys buddsoddiad o £1.3 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd mewn 44 o‘r meysydd parcio yr oedd y Sir yn berchen arnynt.  Tra roedd y cynllun yn hyblyg, byddai gwaith yn cael ei gyflawni ar ôl ymarfer blaenoriaethu;

·         byddai cytundeb y Cyngor am beiriannau talu ac arddangos sy’n derbyn taliad dros y ffôn yn rhedeg am ddwy flynedd arall.  Fodd bynnag doedd yr adnodd yma ddim yn cael ei defnyddio yn aml, felly byddai’r peiriannau talu ac arddangos o bosib yn cael eu disodli gan beiriannau sy’n darparu swyddogaethau gwahanol pan fyddai'r contract yn dod i ben;

·         ni fyddai’r gwaith ailwampio i’w gwblhau ar y maes parcio tanddaearol yn y Rhyl yn ffurfio rhan o’r cynllun buddsoddi hwn.  Roedd yr achos busnes ar gyfer y gwaith hwnnw wedi ei gymeradwyo yn ddiweddar gan Grŵp Buddsoddi Strategol a Chabinet y Cyngor; 

·         nod y Cynllun Buddsoddi Meysydd Parcio pum mlynedd o hyd yw cynnal a chadw a gwneud gwaith uwchraddio ar feysydd parcio sy’n eiddo i'r Cyngor ar hyn o bryd, byddai angen selio unrhyw gynlluniau i newid adnoddau parcio ceir neu gynnydd mewn capasiti yn unrhyw ran o’r ardal ar achos busnes ar wahân, y byddai’n rhaid i’r Grŵp Buddsoddi Strategol ei gymeradwyo.

·         Roedd Sir Ddinbych wedi dewis modelau mwy newydd gan Parkeon i ddisodli ei beiriannau talu ac arddangos.  Roedd Parkeon yn cael eu hadnabod fel cyflenwr peiriannau talu ac arddangos dibynadwy gyda nifer fawr o awdurdodau lleol yn dewis gosod eu peiriannau.  Tra roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi dewis parhau i’w defnyddio roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi defnyddio cyflenwr gwahanol.  Prynwyd y peiriannau talu ac arddangos newydd yn unol â Rheolau Gweithdrefn Gontractau’r Cyngor a’r rheolau caffael cenedlaethol.  {0>By adhering to these rules and procedures the Council benefited from economies of scale pricing for goods;<}0{>Drwy gadw at y rheolau a’r gweithdrefnau hyn roedd y Cyngor yn elwa o arbedion maint ar brisiau nwyddau.

·         {0>consultation on the proposals in the Investment Programme had been undertaken with the 6 MAG groups; city, town and community councils had not been consulted on the proposals;<}0{>Bu ymgynghori ar y cynigion yn y Rhaglen Fuddsoddi gyda’r 6 Grŵp Ardal Aelodau, ni ymgynghorwyd ar y cynigion gydag chynghorau dinas, tref a chymuned. <0}

·         byddai trwyddedau di bapur yn golygu bod angen i Swyddogion Gorfodi Dinesig sganio neu fewnbynnu rhifau platiau ceir gan ddefnyddio teclynnau cledr llaw i wirio bod trwydded wedi ei phrynu ar gyfer y cerbyd penodol hwnnw;

·         roedd angen gwneud gwaith pellach o safbwynt y math o system a fyddai ei hangen i alluogi defnyddwyr meysydd parcio i brynu trwyddedau parcio hyblyg ac ar ddulliau talu am drwyddedau o’r fath.

·         bu gostyngiad mewn incwm meysydd parcio eleni.  Byddai angen ystyried y tebygolrwydd o ostyngiad incwm pellach yn y dyfodol wrth benderfynu ar faint o fenthyca darbodus oedd ei angen er mwyn cyllido'r gwelliannau, er mwyn lleihau'r risg o greu pwysau cyllidol yn y dyfodol.

·         byddai gwaith gorfodi sifil oedd yn ymwneud â’r meysydd parcio yn y sir yn niwtral o ran cost.

 

Cyn dod â'r drafodaeth i ben apeliodd y Cynghorydd Arwel Roberts ar ei Reolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd am ei gymorth i ddatrys mater yn Rhuddlan oedd yn ymwneud â throsglwyddo maes parcio i berchnogaeth y cyngor sir. 

 

Penderfynodd y Pwyllgor: - yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)           gefnogi parhad y gwaith i roi’r Gofrestr Rheoli Asedau Meysydd Parcio, y Rhaglen Fuddsoddi a gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen Meysydd Parcio ar waith a chyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor mewn 12 mis ar y cynnydd a wnaed wrth ddatblygu, gweithredu a chyflawni holl elfennau’r Gofrestr, y Rhaglen Fuddsoddi a'r mentrau a nodwyd gan Grŵp Tasg a Gorffen y Meysydd Parcio.

 

 

Dogfennau ategol: