Eitem ar yr agenda
CYNLLUN LLES BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH 2018 – 2023
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (copi yn amgaeedig) i geisio
cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Cynllun Lles BGC Conwy a Sir Ddinbych 2018-23.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans,
Gynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych 2018-2023 (a
oedd wedi ei gylchredeg yn flaenorol).
Sefydliad statudol o dan Deddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015 yw’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Roedd drafft cyntaf y cynllun wedi ei gyhoeddi ar
gyfer ymgynghoriad rhwng 30 Hydref 2017 a 22 Ionawr 2018. Roedd y drafft cyntaf
yn cynnwys chwe blaenoriaeth ond yng nghyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Conwy a Sir Ddinbych ar 29 Ionawr 2018, cafodd y chwe blaenoriaeth eu
hail-drefnu yn dri:
(i)
Pobl
– Lles meddyliol da i bob oed (gan gynnwys y 1000 diwrnod cyntaf ac effaith hyn
ar ddyfodol person)
(ii)
Cymuned
- Ymrymuso’r Gymuned (gan gynnwys gwydnwch pobl ifanc a phobl hŷn), a
(iii)
Lle –
Gwydnwch amgylcheddol.
Mae’r themâu hyn yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau a
amlinellir yng Nghynllun Corfforaethol Sir Ddinbych.
Roedd y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad
wedi mynychu cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar 14 Rhagfyr i
gyflwyno’r cynllun drafft a thrafod safbwynt y Pwyllgor ar gwestiynau’r
ymgynghoriad.
Ar y pwynt hwn, darllenodd y Cynghorydd Jeanette
Chamberlain-Jones ddatganiad yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau
oedd fel a ganlyn:
Gan mai’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau yw pwyllgor archwilio dynodedig
y Cyngor ar gyfer materion Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, roedd yn un o'r rhai a
ymgynghorwyd ag o’n statudol ar y Cynllun Lles drafft. Ymgynghorwyd â'r
Pwyllgor ar flaenoriaethau a chynnwys Cynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2017. Mae’r pwyntiau a godwyd gan y
Pwyllgor wedi eu nodi mewn atodiad i’r adroddiad a gyflwynir i chi heddiw, ac
mae pob un ohonoch wedi cael cyfle i’w ddarllen. Byddwch yn gweld o'r pwyntiau a godir gan y
Pwyllgor yn y cyfarfod fod:
· Aelodau yn cydnabod fod y
Cynllun ei hun yn ddogfen strategol lefel uchel sy’n nodi amcanion a dyheadau’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am y pum mlynedd nesaf. Byddai ei ddarparu, felly, yn ddibynnol ar gynlluniau darparu
traws-sefydliadol a chydweithio effeithiol gan bob partner;
· Cododd aelodau nifer o
bwyntiau yn ymwneud â hyrwyddo gwydnwch ymysg pob grŵp oedran i wella
iechyd a lles (corfforol a meddyliol), lleihau gordewdra ac arwahanrwydd
cymdeithasol ac ati. Mae felly’n ddymunol fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus,
yn sgil yr ymarferiad ymgynghori, wedi penderfynu canolbwyntio ar y tri phrif
flaenoriaeth sef:
i.
Pobl – Lles meddyliol da i bawb o bob oed (gan gynnwys y 1000 diwrnod
cyntaf ac effaith hyn ar ddyfodol person)
ii.
Cymuned - Grymuso’r Gymuned (gan gynnwys gwydnwch pobl ifanc a phobl
hŷn)
iii.
Lle – Gwydnwch amgylcheddol
gan fod pob un yn gyd-ddibynnol ar ei gilydd, ac yn
cyd-fynd â’i gilydd. Maent hefyd yn
cefnogi ideoleg atal a gweithio mewn partneriaeth effeithiol Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014 at y diben o fagu gwydnwch a gwella lles.
· sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus sy’n aelodau o’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sydd â’r pŵer i weithredu’r blaenoriaethau a
restrir yn y Cynllun Lles, h.y. drwy eu cynlluniau strategol, yma yn Sir
Ddinbych, ein Cynllun Corfforaethol. Roedd yn ddymunol felly i weld fod y themâu yn y Cynllun
Lles terfynol yn cyd-fynd â'n Cynllun Corfforaethol. I lwyddo i ddarparu ein Cynllun
Lles byddai angen i bob sefydliad partner weithio’n effeithiol gyda’i gilydd,
byddai hefyd angen iddynt gael sianelau cyfathrebu clir gyda’i gilydd a gyda
thrigolion.
· er mwyn cyflawni ei gyfrifoldebau mewn perthynas â
darparu’r Cynllun, bydd Archwilio yn monitro cynnydd y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus wrth gyflawni’r blaenoriaethau a’r Cynllun.
Gan fod gan Sir Ddinbych Fwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus ar y cyd â Chonwy, mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i
archwilio’r dull mwyaf effeithiol i ni gyflawni ein blaenoriaethau o
archwilio’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn fuan, bydd y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Archwilio yn ystyried nifer o ddewisiadau posibl ar gyfer
archwilio’r Bwrdd yn y dyfodol, gan gynnwys y posibilrwydd o gyflwyno
trefniadau archwilio ar y cyd gyda Chonwy. Yn y cyfamser, bydd y Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau yn parhau i weithredu fel pwyllgor archwilio dynodedig y Cyngor
ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Cyn cyhoeddi'r Cynllun roedd rhaid iddo gael ei
gymeradwyo gan Fyrddau pob sefydliad oedd yn rhan o’r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus. Yn achos yr Awdurdodau Lleol, roedd rhaid cael cymeradwyaeth y
Cyngor Llawn.
Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:
·
Nid
oedd y cynllun busnes ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl wedi ei
gylchredeg eto. Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth, y
Cynghorydd Bobby Feeley, yn dilyn cyfarfod gyda Chadeirydd Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr, Pete Higson, y byddai'r Cynllun Busnes yn cael ei
ail gyflwyno ym Mawrth 2018 a chadarnhaodd fod yna ymrwymiad 100% gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra.
·
Cadarnhawyd
y byddai cydweithio gyda phartneriaid sector cyhoeddus, gwasanaethau cymunedol
a gwirfoddol yn golygu y byddai’r Cynllun yn mynd yn ei flaen i wella ansawdd
bywyd trigolion.
Yn dilyn trafodaeth:
PENDERFYNWYD bod:
(i)
Y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad A) fel rhan
o’i ystyriaethau.
(ii)
Y Cyngor yn cefnogi’r blaenoriaethau ar
gyfer Cynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych 2018-2023.
Dogfennau ategol:
- PSB Well-being Plan 2018-2023 Welsh, Eitem 9. PDF 222 KB
- APP A PSB well-being plan impact assessment, Eitem 9. PDF 97 KB
- APP B Minutes from PShip scrutiny, Cym, Eitem 9. PDF 359 KB
- PSB Well-being Plan En, Eitem 9. PDF 1 MB