Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 43/2017/1100/PO - TIR GERLLAW LLYS YR YNADON, FFORDD FICTORIA, PRESTATYN

Ystyried cais ar gyfer manylion mynediad, ymddangosiad, tirlunio, cynllun a graddfa 20 o unedau preswyl wedi eu cyflwyno yn unol ag Amod 1 ar ganiatâd cynllunio amlinellol rhif 43/2015/1241/PO (Cam 1 cais materion a gadwyd yn ôl); Manylion yr amrediad o feintiau a’r mathau o dai wedi eu cyflwyno yn unol ag amod 10 a Manylion lefelau lloriau gorffenedig yr 20 o dai a gyflwynwyd yn rhannol yn unol ag amod 11 ar dir ger Llys yr Ynadon, Victoria Road, Prestatyn (copi yn atodedig).

 

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol yn yr eitem hon oherwydd ei fod yn Ynad Heddwch].

 

Cyflwynwyd cais ar gyfer manylion mynediad, ymddangosiad, tirlunio, cynllun a graddfa 20 o unedau preswyl wedi eu cyflwyno yn unol ag Amod 1 ar ganiatâd cynllunio amlinellol rhif 43/2015/1241/PO (Cam 1 cais materion a gadwyd yn ôl); Manylion yr amrediad o feintiau a’r mathau o dai wedi eu cyflwyno yn unol ag amod 10 a Manylion lefelau lloriau gorffenedig yr 20 o dai a gyflwynwyd yn rhannol yn unol ag amod 11 ar dir ger Llys yr Ynadon, Victoria Road, Prestatyn.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mr. W. Gill (O Blaid) – fe eglurodd amod a roddwyd ar y caniatâd amlinellol bod dwysedd y safle gyfystyr ag ugain uned preswyl a darparwyd manylion am y math a maint yr unedau hynny. Mae uchder y rhandai bellach wedi cael eu gostwng o ddau lawr. Roedd y datblygwr wedi gwneud cyfraniad ariannol sylweddol yn lle darparu man agored ar y safle. Fe wnaethant dynnu sylw at ofynion technegol ychwanegol am fod y safle mewn parth llifogydd.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Fe soniodd y Cynghorydd Tony Flynn (Aelod Lleol) am ddau faes o bryder (1) fflatiau yn anghydnaws â’r ardal, a (2) colli man agored gwyrdd.  Er ei fod yn gwerthfawrogi’r dymuniad i wneud y mwyaf o werth y safle ar gyfer datblygiad preswyl, fe bwysleisiodd y Cynghorydd Flynn werth y man agored gwyrdd presennol er mwyn i blant chwarae a gofynnodd bod camau'n cael eu cymryd i gadw'r ddarpariaeth honno. Mynegodd y Cynghorydd Rachel Flynn (Aelod Lleol) bryderon ynghylch isadeiledd ac effaith ar ysgolion lleol a meddygfeydd.  Gofynnodd hefyd a oedd modd defnyddio’r taliad swm ohiriedig yn lle’r man agored ar gyfer cyfleusterau plant a gofynnodd am sicrwydd y byddai lles preswylwyr yn cael ei ddiogelu yn erbyn yr amhariad y byddai’r datblygiad yn ei achosi.

 

Wrth ymateb i’r materion a godwyd -

 

·         dywedodd y Rheolwr Datblygu bod y caniatâd amlinellol yn sefydlu derbynioldeb y datblygiad, gan gynnwys yr elfen dwysedd preswyl, a bod y cais presennol yn cynnwys manylion am fynediad, ymddangosiad, tirweddu, gosodiad a graddfa

·         pwysleisiodd nad oedd y man agored gwyrdd y cyfeirir ato wedi cael ei ddynodi yn hynny yn y Cynllun Datblygu Lleol a byddai cyfraniad ariannol i’r man agored cyhoeddus yn yr ardal yn cael ei gyfrannu ac y byddai’n cael ei neilltuo i fod o fudd i gyfleusterau lleol

·         fe eglurodd y Rheolwr Datblygu bod y mater o isadeiledd eisoes wedi cael ei archwilio tra’n asesu egwyddor y datblygiad

·         dywedodd bod angen i’r Aelod Lleol gytuno ar gynllun rheoli adeiladu a’r amgylchedd, a fyddai’n galluogi i’r datblygiad ddigwydd gyda chyn lleied o aflonyddwch ac amhariad i breswylwyr â phosibl

·         cyfeiriodd at y math o dai a gosodiad, mynediad i gerbydau a pharcio, a graddfa’r datblygiad a oedd wedi cael ei ostwng ddau lawr, roedd hyn i gyd-fynd ag eiddo deulawr eraill yn yr ardal.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bob Murray a oedd modd defnyddio’r swm gohiriedig yn lle man agored i brynu rhan o’r safle at y diben hwnnw a oedd wedi’i nodi’n flaenorol ar gyfer defnydd manwerthu. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch uchder crib y datblygiad o’i gymharu ag eiddo eraill yn yr ardal a cheisiwyd sicrwydd ynghylch sicrhau cydymffurfedd â safonau ansawdd a manylion dylunio.  Mewn ymateb i gwestiynau hysbyswyd yr aelodau -

 

·         y byddai yna gais materion a gadwyd yn ôl arall yn cael ei gyflwyno ar gyfer yr elfen unedau manwerthu a gymeradwywyd fel rhan o’r caniatâd amlinellol gwreiddiol

·         ni fyddai modd defnyddio’r swm gohiriedig i brynu tir gan fod yna feini prawf llym ynghylch sut y gellir gwario’r taliad hwnnw. Fe awgrymwyd y gallai trafodaeth rhwng aelodau a Gwasanaethau Eiddo gael eu cynnal y tu allan i’r cyfarfod mewn perthynas â chaffael tir ond ni fyddai’n rhan o’r broses gynllunio ac ni fyddai’n realistig disgwyl i dir gyda a chaniatâd amlinellol ar gyfer datblygiad manwerthu fod yn gaffaeliad fforddiadwy ar gyfer man agored

·         nid oedd hi’n bosibl cadarnhau uchder y cribau ar doeau'r anheddau ond roedd diwygiadau wedi cael eu gwneud ac roedd yr uchder wedi cael ei leihau i ymateb i bryderon a fynegwyd - roedd mesur o ran uchder llawr gwaelod i’r grib wedi cael ei ddarparu ac roedd swyddogion yn credu ei fod yn dderbyniol o ystyried dyluniad eiddo cyfagos a darparu tai mewn ardal oedd â pherygl llifogydd posibl

·         rhoddwyd sicrwydd y byddai safonau ansawdd y dyluniad o ran maint yr unedau yn cael eu rheoli’n llym i sicrhau y byddant yn cael ei bodloni.

 

Cynnig – Roedd y Cynghorydd Tony Thomas yn cynnig  argymhelliad y swyddog i ganiatáu’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 16

GWRTHOD - 1

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn (11.20 a.m.) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: