Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 19/2015/1228/PO - TIR GER BRYN YSGUBORIAU, LLANELIDAN RHUTHUN

Ystyried cais ar gyfer codi annedd amaethyddol ar dir ger Bryn Ysguboriau, Llanelidan, Rhuthun (copi yn atodedig).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer codi annedd amaethyddol ar dir ger Bryn Ysguboriau, Llanelidan, Rhuthun. 

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mr. Huw Evans (asiant) (O Blaid) – Roedd yn anghydweld nad oedd profion TAN 6 wedi cael eu bodloni ac fe awgrymodd y dylid rhoi rhagor o bwyslais ar ystyriaethau eraill i ganiatáu’r cais heb gyfaddawdu ar ddogfennau canllawiau a pholisi.

 

Trafodaeth gyffredinol – Siaradodd y Cynghorydd Hugh Evans (Aelod Lleol) o blaid y cais a fyddai’n cefnogi teulu a busnes lleol ac a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar y gymuned.  Mae Nodyn Cyngor Technegol 6 (TAN 6) yn nodi'r hyn y dylid ei ystyried ar gyfer ceisiadau ar gyfer ceisiadau  annedd gweithwyr amaethyddol, yn enwedig mewn cysylltiad â’r prif brofion sydd angen eu bodloni, ac fe heriodd ac eglurodd gasgliadau adroddiad yr ymgynghorydd annibynnol fel y nodir yn y prif adroddiad fel a ganlyn -

 

·         fe nodir yn yr adroddiad bod yr annedd presennol yn annhebygol o gael ei werthu ar y farchnad agored ar ôl i dad yr ymgeisydd ymddeol – nid dyma oedd y polisi ar gyfer Ystâd Nant Clwyd nad oedd wedi gwerthu tir am dros 40 mlynedd; byddai’r tir naill ai’n cael ei drafod gyda’r tenant presennol neu ei osod

·         prawf swyddogaeth – nid oedd y dull o gyfrifo’r gofynion yn ystyried pob digwyddiad posibl a’r realiti o ffermio ac nid oedd yn darparu gwir adlewyrchiad o sut mae ffermwyr yn ymgymryd â’u busnes gydag uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, cyfraniad y tad i’r busnes oedd yn lleihau, na’r ffaith bod yr ymgeisydd yn gwneud gwaith cneifio dan gontract i gynyddu incwm y busnes

·         prawf ariannol – ni roddwyd ystyriaeth i waith cneifio contract yr ymgeisydd i gynyddu incwm na chyflog ei wraig a oedd yn groes i’r practis cyffredinol; roedd y dull o gyfrifo fforddiadwyedd yn ddiffygiol, yn enwedig o ystyried bod 88% o incwm ffermwyr yn cael ei gynyddu gydag incwm o’r tu allan. Gellir hefyd cael sicrwydd o hyfywedd y busnes yn natganiad cefnogol cyfrifwyr y teulu (oedd wedi’i gynnwys yn y papurau atodol hwyr)

·         llety addas arall oedd ar gael – cyfeiriwyd at y diffyg tai newydd a fforddiadwy yn yr ardal.

 

Dywedodd y Cynghorydd Evans bod TAN 6 yn darparu canllawiau ac y gellir eu dehongli mewn ffyrdd gwahanol.  Dywedodd nad oedd digon o bwyslais wedi’i roi ar ystyriaethau eraill yn y meini prawf gyda gwendidau wedi’u nodi wrth gyfrifo fforddiadwyedd a gofynion llafur. Ni dderbyniwyd gwrthwynebiadau ac roedd yna gefnogaeth i’r cais gan y Cyngor Cymuned a'r gymuned leol. Yn olaf fe gyfeiriwyd at flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor a byddai caniatáu’r cais yn helpu gyda’r uchelgais i gefnogi pobl ifanc i fyw a gweithio yn y sir.

 

Roedd aelodau yn awyddus i gefnogi teuluoedd a busnesau lleol a chyfeiriwyd eto at y blaenoriaethau corfforaethol a phwysigrwydd y cynnig i’r gymuned wledig leol a ffordd o fyw a oedd yn thema bwysig o Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol. Mewn perthynas â phrofion TAN 6 roedd yr aelodau yn cytuno nad oedd y dulliau cyfrifo yn rhoi ystyriaeth lawn a’r realiti o ffermio na’r incwm sydd ar gael i’r ymgeisydd tra’n asesu hyfywedd y busnes yn y dyfodol. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch gosod amodau petai’r cais yn cael ei ganiatáu a chadarnhaodd y Rheolwr Datblygu yr arfer o gytuno ar set o amodau a rheolau cynllunio gyda’r Aelod Lleol petai aelodau yn mynd yn erbyn argymhelliad y swyddog. Fe atgoffwyd yr aelodau bod swyddogion yn gorfod glynu wrth y geiriad yn y dogfennau a cheisio arbenigedd ymgynghorwyr annibynnol ar achosion o’r fath.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Merfyn Parry, bod y cais yn cael ei ganiatáu, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar y sail bod yna ddehongliadau o fewn TAN 6, fel y canllaw perthnasol ar gyfer y mater penodol hwn o annedd i weithwyr amaeth, y dylid rhoi pwyslais ar asesiad swyddogaethol, ariannol ac anghenion lleol, ac yn yr achos hwn, gellir eu dehongli eu bod yn derbyn annedd yn y lleoliad hwn.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 17

GWRTHOD - 1

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD – CANIATÁU y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar y sail bod yna ddehongliadau o fewn TAN 6, fel y canllaw perthnasol ar gyfer y mater penodol hwn o annedd i weithwyr amaeth, y dylid rhoi pwyslais ar asesiad swyddogaethol, ariannol ac anghenion lleol, ac yn yr achos hwn, gellir eu dehongli eu bod yn derbyn annedd yn y lleoliad hwn.

 

 

Dogfennau ategol: