Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 01/2015/1240/PO - TIR RHWNG HEN FFORDD RHUTHUN A FFORDD NEWYDD RHUTHUN, DINBYCH

Ystyried cais ar gyfer datblygu 2.1 hectar o dir at ddibenion preswyl (cais amlinellol yn cynnwys manylion mynediad) ar dir rhwng Hen Ffordd Rhuthun a Ffordd Newydd Rhuthun, Dinbych (copi yn atodedig).

 

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Joe Welch gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod ef a’i deulu yn adnabod rhai o berchnogion y cae].

 

Cyflwynwyd cais ar gyfer datblygu 2.1 hectar o dir at ddibenion preswyl (cais amlinellol yn cynnwys manylion mynediad) ar dir rhwng Hen Ffordd Rhuthun a Ffordd Newydd Rhuthun, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mr. N. Davies (asiant) (O Blaid) – cyfeiriodd at drafodaethau ynghylch gosodiad i sicrhau cyflwyniad addas gyda chyfeiriad tybiannol at ddwysedd, tai fforddiadwy, coridor i fywyd gwyllt ac ystyriaeth benodol i ddyluniad y fynedfa. Roedd gwybodaeth ychwanegol wedi’i ddarparu er mwyn ymateb i’r Brîff Datblygu Dyluniad.  Roedd perchenogion y safle yn annog y datblygwr i ymgysylltu â’r gymuned leol yn fuan.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y Cynghorydd Mark Young (Aelod Lleol) yn credu bod yna wendid yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol o ran clustnodi tir ar gyfer tai. Fe holodd am gyfeiriadau yn ymwneud â safle Cae Topyn yn yr adroddiad o ystyried y dylai pob cais gael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun a thynnodd sylw at bryderon y gymuned leol yn benodol ynghylch materion llifogydd a draenio. Mynegodd y Cynghorydd Rhys Thomas (Aelod Lleol) bryderon hefyd ynglŷn â’r ffaith bod yr Arolygiaeth Gynllunio wedi clustnodi’r darn yma o dir ar gyfer tai yn erbyn dymuniadau’r gymuned.  Er y cafwyd rhywfaint o sicrwydd o’r consesiynau y cyfeiriwyd atynt  gan yr asiant yn ei gyflwyniadau, byddai bywydau preswylwyr a’r amgylchedd yn gweld newid dramatig yn sgil y datblygiad arfaethedig. Darllenodd y Cynghorydd Thomas ddatganiad ar ran y preswylwyr lleol a phetai'r cais yn cael ei gymeradwyo, roedd yn ceisio cytundeb y byddai'r datblygwr yn ymgynghori â nhw yn fuan o ran y cynlluniau arfaethedig a gyflwynwyd gyda'r bwriad o ddatrys pryderon, yn enwedig mewn perthynas â chronni dŵr wyneb; effaith y datblygiad ar y tanciau septic, agosatrwydd tai newydd at eiddo presennol; lleoliad y coridor ar gyfer bywyd gwyllt, a lleoliad y fynedfa/allanfa a’r ddarpariaeth pafin.

 

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu rywfaint o gefndir ar gyfer y safle a’r ffaith ei fod wedi’i gynnwys yn y CDLl, ac fe eglurodd nad oedd gan safle’r cais hwn hanes o gynllunio penodol. Fodd bynnag, fe gyfeiriwyd at safle Cae Topyn oherwydd ei fod wedi bod yn rhan o glustnodi tir ar gyfer tai ac roedd wedi bod trwy broses gynllunio yn gymharol ddiweddar gyda chyfarwyddyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â pha mor dderbyniol neu fel arall yw datblygiad yn y lleoliad hwnnw.  Roedd pryderon a godwyd gan breswylwyr lleol wedi cael eu hystyried yn ystod y broses cais cynllunio ac roedd wedi’i gynnwys yn berthnasol yn y prif adroddiad. I ymateb i’r galw gan breswylwyr lleol i gael ymgynghoriad pellach petai’r cais yn cael ei gymeradwyo, byddai manylion y datblygiad yn destun ymarfer ymgynghoriad cyhoeddus. 

 

Yn ystod trafodaeth ddilynol, fe dynnwyd sylw at bwysigrwydd darpariaeth addysg a sicrhau bod yna gapasiti ddigonol mewn ysgolion lleol i allu ymdopi ag unrhyw ddatblygiad newydd, a cheisiwyd sicrwydd ynghylch hynny. Cyfeiriwyd hefyd at broblemau gyda’r CDLl a bancio tir er fe dderbyniwyd y byddai’n well delio â’r mater yn rhan o’r adolygiad CDLl a fyddai’n digwydd yn fuan ac roedd angen ystyried y cais yn seiliedig ar bolisïau a chynlluniau presennol. Roedd y prif fater yn ymwneud â draenio/llifogydd gyda phryderon ynghylch problemau parhaus gyda llifogydd yn yr ardal roedd angen mynd i’r afael â nhw a’r effaith ddilynol ar ddatblygiad yn y dyfodol.  Ceisiwyd sicrwydd ynghylch gweithredu mesurau priodol a chadarn i fynd i’r afael â’r pryderon hynny a thynnwyd sylw at yr angen i ddiogelu petai’r systemau yn methu yn y dyfodol, yn enwedig o ystyried y pryderon dros ddefnydd arfaethedig o ffosydd cerrig i ymdrin â dŵr wyneb. Fe awgrymwyd y gallai bond fod yn ddull priodol o ddiogelu’r Cyngor yn erbyn problemau yn y dyfodol.

 

Ymatebodd y Swyddogion i’r materion a godwyd fel a ganlyn -

 

·         Addysg – roedd asesiad wedi nodi capasiti cyfyngedig i allu ymdopi â disgyblion ychwanegol yn yr ysgolion agosaf. Roedd amod 23 yn cyfeirio at yr angen i sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â pholisïau a chanllawiau Darpariaeth Addysg y Cyngor a byddai asesiad a chyfrifiad pellach yn cael ei gynnal pan fyddai nifer terfynol yr anheddau ar gyfer y safle wedi cael ei gymeradwyo er mwyn cyfrifo’r union gyfraniad terfynol y ceisiwyd amdano.

 

·         Draenio (gan gynnwys llifogydd) – cafodd aelodau eu hatgoffa o’r broses tra’n clustnodi tir ar gyfer tai yn y CDLl ac asesiadau o ran a oedd y tir yn addas ar gyfer datblygu ar yr adeg hynny. Ni fyddai’r tir wedi cael ei glustnodi ar gyfer tai petai risg sylweddol o lifogydd neu broblemau draenio wedi cael ei nodi. Ar ôl edrych ar y cais amlinellol ystyriodd y Swyddogion bod digon o wybodaeth wedi’i chyflwyno i ddangos y gellid rheoli dŵr budr a dŵr wyneb yn dderbyniol yn amodol ar gyflwyno amodau priodol. Roedd hi’n arfer safonol i gadw’r dyluniad draenio manwl a chynigion ar gyfer cynnal a chadw yn y dyfodol yn ôl i’w ystyried yn ystod y cam cynllunio manwl. Roedd amod 14 yn nodi na ellir cychwyn ar unrhyw ddatblygiad nes bod y Cyngor yn fodlon gyda’r cynllun i ddelio â rheoli dŵr budr a dŵr wyneb a oedd yn cynnwys trefniadau rheoli a chynnal a chadw dilynol. Fe dynnwyd sylw at y ffaith nad oedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru wrthwynebiad i’r dulliau arfaethedig o drin â draenio dŵr wyneb. Felly nid oedd swyddogion yn credu bod modd cyfiawnhau bond ar hyn o bryd.

 

Fe ailadroddodd Swyddogion bod y cais ar gyfer caniatâd cynllunio amlinellol gyda materion a gadwyd yn ôl yn cael eu cyflwyno i’w hystyried yn ddiweddarach. Os oedd aelodau yn credu bod draenio yn bryder difrifol yna gallai’r mater penodol hwnnw ddod yn ôl i’r pwyllgor.

 

Nid oedd gan y Cynghorydd Mark Young hyder yn y mesurau arfaethedig i reoli a mynd i’r afael â materion llifogydd a draenio o ystyried nad oedd y problemau presennol yn yr ardal wedi cael eu datrys eto. Fe eglurodd mai’r achos dros lifogydd presennol ar y briffordd oedd draen priffordd oedd wedi’i flocio ac roedd swyddogion priffordd yn gweithio i fynd i’r afael â’r broblem honno, ond nid oedd yn gysylltiedig â’r cais presennol. Darparwyd manylion am y cynllun arfaethedig ar gyfer safle’r cais a oedd yn cynnwys defnyddio ffosydd cerrig ac roedd ymchwiliadau wedi dangos y gallai’r systemau weithio. Y bwriad oedd i’r Awdurdod Priffyrdd ymrwymo i gytundeb gyda’r datblygwr i fabwysiadu’r ffos gerrig a thalu am ei gynnal a’i gadw yn y dyfodol trwy daliad swm ohiriedig gan y datblygwr. Wedi dweud hynny byddai angen cytundeb pellach ar fanylion y cynlluniau a chytundeb.

 

Cynnig – Roedd y Cynghorydd Tony Thomas yn cynnig  argymhelliad y swyddog i ganiatáu’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Brian Jones.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 14

GWRTHOD - 2

YMATAL - 2

 

PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: