Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CANLYNIADAU ARHOLIADAU CYFNOD ALLWEDDOL 4 WEDI EU GWIRIO

Ystyried cyd-adroddiad gan y Prif Reolwr Addysg ac Arweinydd Uwchradd GwE (copi ynghlwm) sy’n darparu gwybodaeth ynglŷn â pherfformiad ysgolion Sir Ddinbych yn arholiadau allanol Cyfnod Allweddol 4 ac ôl 16.

 

10:05 a.m. - 10:45 a.m.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc gyd adroddiad y Prif Reolwr Addysg ac Arweinydd Uwchradd GwE (dosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn cyflwyno perfformiad canlyniadau arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol (CA) 4 ac ôl 16.  

 

Yn ystod ei gyflwyniad, dywedodd yr Aelod Arweiniol nad oedd yr ystadegau wedi eu gwirio a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn amrywio’n sylweddol o’r data a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym Medi 2017.  Fodd bynnag, cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant ers i’r Pwyllgor ystyried y data dros dro roedd Ysgrifennydd Cabinet Addysg Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn rhybuddio awdurdodau lleol yn erbyn cymharu canlyniadau arholiadau allanol blwyddyn academaidd 2016/17 gyda rhai blynyddoedd blaenorol, oherwydd y cyflwynwyd y fframwaith arholiadau newydd ar gyfer y flwyddyn 2016/17.  O dan y fframwaith newydd nid oedd cymwysterau llenyddiaeth Cymraeg na Saesneg yn cyfrif tuag at Lefel 2+ (L2+) Dangosydd Perfformiad Allweddol TGAU (DPA) ac roedd yna fwlch o 40% ar unrhyw gymwysterau galwedigaethol oedd yn cyfrif tuag at DPA L1, L2 a L2+  

 

Hysbysodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant ac Arweinydd Uwchradd GwE y Pwyllgor er ei bod yn galonogol adrodd bod gan Sir Ddinbych ddwy o’r ysgolion oedd yn perfformio orau ar draws rhanbarth Gogledd Cymru, Ysgol Bryn Hyfryd a Santes Ffraid, roedd hefyd yn cynnwys dwy o ysgolion mwyaf heriol y rhanbarth o safbwynt y nifer o ddisgyblion oedd yn cael Cinio Ysgol am Ddim o fewn yr ardal, Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Uwchradd Y Rhyl, y ddwy ysgol â dros 30% o ddisgyblion yn hawlio Prydau Ysgol am Ddim.    Roedd cael ysgolion yn y ddau gategori hwn yn pwysleisio proffil amrywiol a chymhleth y sir yn gyffredinol, yn ogystal â’i hysgolion ac yn amlygu’r angen am gefnogaeth arbenigol dwys wedi’i thargedu mewn ysgolion penodol.   

 

Yn genedlaethol roedd y data perfformiad wedi dangos gostyngiad mewn perfformiad ar draws y wlad lle roedd yna lefelau uchel o amddifadedd, wedi’i fesur yn ôl nifer y disgyblion â hawl i Brydau Ysgol am Ddim.  Roedd Llywodraeth Cymru yn fwy nag ymwybodol o’r ystadegyn hwn ac roedd yna drafodaeth genedlaethol o safbwynt heriau’r cymwysterau newydd ar gyfer rhai disgyblion â hawl i Brydau Ysgol am Ddim.   

 

Hysbysodd Arweinydd Uwchradd GwE yr aelodau:

·         ei bod yn galonogol adrodd nad oedd Ysgol Uwchradd Prestatyn  a Santes Ffraid yn cael eu monitro gan Estyn mwyach;

·roedd perfformiad L2+ TGAU y sir wedi bod yn gryf am y 4 blynedd ddiwethaf.    Fodd bynnag, bu gostyngiad mewn perfformiad yn ystod 2016/17 oedd wedi’i briodoli i’r cymhwyster newydd angen lefel uwch o sgiliau darllen a gwydnwch.   Roedd yr agwedd hon wedi profi’n anodd i rai disgyblion â hawl i Brydau Ysgol am Ddim;

·Roedd perfformiad Cymraeg iaith gyntaf yn Sir Ddinbych ymysg y gorau yn y rhanbarth ac yng Nghymru.  Roedd y papur arholiad ac asesiad Cymraeg iaith gyntaf yr un fath â’r asesiad ac arholiad iaith Saesneg.    Roedd yn ddiddorol nad oedd perfformiad cryf disgyblion Sir Ddinbych yn yr iaith Gymraeg wedi’i adlewyrchu mewn rhannau eraill o Gymru;

·perfformiad yn yr arholiad ac asesiad iaith Saesneg wedi gostwng yn 2016/17;

·         roedd y cymhwyster ‘Gwyddoniaeth’ cyffredinol wedi diflannu yn ystod 2016/17, bellach roedd yn ofynnol i ddisgyblion eistedd papur pwnc gwyddoniaeth penodol a dau arholiad mathemateg - rhifedd ynghyd ag arholiad mathemateg a gwyddoniaeth; ac

·         at ddibenion ‘Safon Uwch’ roedd Llywodraeth Cymru angen adroddiad ar gyrhaeddiad 3 Safon Uwch A* i C.  Fodd bynnag, ni chaniateir i ystadegau Bagloriaeth Cymru gael eu cynnwys yn y data hwn.    Adroddwyd arnynt ar wahân;

 

Hysbysodd Prif Reolwr Addysg y Cyngor y Pwyllgor bod yr Awdurdod yn defnyddio strategaethau cyson i geisio gwella presenoldeb mewn ysgolion.  Er bod cyfraddau gwahardd disgyblion y Cyngor am hyd at 5 diwrnod yn un o’r uchaf yng Nghymru roedd yna reswm y tu ôl i’r ystadegyn hwn.  Roedd yr Awdurdod wedi gwneud penderfyniad y dylid adrodd am bob disgybl y gofynnwyd iddynt beidio mynd i’r ysgol am gyfnod o 5 diwrnod neu lai fesul ysgol i’r Awdurdod fel gwaharddiadau tymor byr i alluogi’r Awdurdod gysylltu â nhw a sicrhau nad oeddent ‘ar goll’ yn y tymor hir. 

 

Roedd perfformiad y Cyngor mewn perthynas â gwaharddiadau tymor penodol (5 diwrnod neu fwy) neu waharddiad parhaol yn llawer gwell, oedd yn ymddangos fel petai’r strategaeth llym yn berthnasol i waharddiadau tymor byr, gyda’r bwriad i gadw disgyblion mewn cysylltiad ag addysg a dysgu, yn gweithio.  Roedd adroddiad manwl ar Reoli Ymddygiad ac Absenoldeb yn ysgolion y sir wedi’i drefnu ar gyfer cyflwyniad i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod yn Ebrill 2018.

 

Mewn ymateb i gwestiynau aelodau'r Pwyllgor, roedd yr Aelod Arweiniol, yr  Awdurdod Lleol a swyddogion Addysg GwE yn:

·         cadarnhau mewn perthynas â chanlyniadau Safon Uwch, roedd disgyblion yn ysgolion y sir yn ennill mwy o ganlyniadau 3 gradd A* neu A na’r sawl oedd yn astudio mewn colegau addysg bellach, er bod canlyniadau colegau lleol wedi gwella.  Fodd bynnag, roedd myfyrwyr oedd yn mynychu’r 6ed dosbarth ym Mhrestatyn a'r Rhyl yn perfformio'n gryf yn eu Safon A;

·yn hanesyddol, nid oedd canlyniadau Safon Uwch wedi bod yn destun yr un lefel o graffu gan Estyn â pherfformiad lefel TGAU.  Fodd bynnag, byddai Llywodraeth Cymru ac Estyn yn ymgymryd â darn o waith yn fuan gyda’r bwriad o sefydlu gwybodaeth gymharol gwell ar ganlyniadau Safon Uwch a Chymhwyster Galwedigaethol.

·amlinellu’r gwahanol strategaethau a ddefnyddir i ddarparu addysg i ddisbylion oedd mewn perygl o ddatgysylltu â’r system addysg e.e. Derbyn addysg heblaw yn yr ysgol, cyrsiau galwedigaethol yn y colegau, disgyblion ag anghenion ychwanegol sylweddol (AYS), Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), disgyblion â phroblemau ymddygiad. Mewn ymdrech i gadw disgyblion mewn addysg a gwella eu deilliannau bywyd, roedd rhaglenni addysg pwrpasol wedi eu dyfeisio ar eu cyfer;

·cadarnhawyd mai ychydig o fyfyrwyr yn y sir oedd yn derbyn eu haddysg gartref yn ôl dewis rhiant, roedd y plant hyn yn hysbys i’r Cyngor ac felly byddai’n sicrhau ei fod yn cyflawni ei gyfrifoldebau diogelu tuag atynt. 

Er bod gan yr Awdurdod ddyletswydd i ddarparu addysg statudol i blant hyd at 16 oed, os nad oedd y rhieni yn dewis cysylltu â’r Cyngor roedd hyn yn ei gwneud yn anodd iawn i’r Awdurdod gyflawni ei ddyletswyddau addysgol ac weithiau i gyflawni ei ddyletswyddau diogelu.  Fodd bynnag, byddai’r Cyngor bob amser yn gwneud pob ymdrech i gyflawn pob dyletswydd. 

Roedd nifer o sefydliadau eiriolaeth plant wedi canmol y camau a gymerwyd gan Sir Ddinbych i ymdrechu i ymgysylltu â rhieni/gwarchodwyr anodd eu cyrraedd neu wedi ymddieithrio.  Roedd hefyd yn bwysig cofio bod gan nifer o gyrff a sefydliadau cyhoeddus, gan gynnwys ymarferwyr iechyd ddyletswydd i roi gwybod am bryderon diogelu i’r Heddlu ac i awdurdodau lleol;

·         bod disgyblion yn gorfod cofrestru mewn canolfan arholi i eistedd arholiadau cydnabyddedig e.e. ysgol  Byddai’r myfyriwr ond yn cael eistedd arholiad ym mha bynnag ganolfan yr oedd wedi cofrestru;

·cadarnhawyd bod yr Awdurdod yn hyderus bod pob un o’i ddisgyblion yn hysbys i’r Cyngor ac o ganlyniad roedd swyddogion yn gwybod yn union y math o gefnogaeth yr oedd pob disgybl ei angen.  Er bod cyfraddau absenoldeb yn bennaf yn uwch yn ysgolion cynradd ac uwchradd ardal arfordirol y sir roedd yn bwysig deall bod dros 35% o ddisgyblion y sir yn mynychu’r ysgolion hyn ac roedd nifer ohonynt yn destun amddifadedd ac/neu’n wynebu heriau difrifol.

·dywedwyd er bod Llywodraeth Cymru yn tueddu i ganolbwyntio a rhoi mwy o bwyslais ar L2, L2+, cyrhaeddiad disgyblion Safon Uwch a Lefel 3, roedd yn bwysig cofio bod rhai disgyblion sy’n cyflawni achrediad L1 yn gyrhaeddiad.  I’r disgyblion hyn, roedd L1 yn fwy ystyrlon a byddai’n gwella eu canlyniadau bywyd;

·cadarnhawyd bod rhoi gwybod am gyrhaeddiad mewn perthynas â Phrydau Ysgol am Ddim yn ofyniad gan Lywodraeth Cymru, ond sicrhawyd yr aelodau bod hawl disgyblion unigol i Brydau Ysgol am Ddim ond yn hysbys i staff gweinyddol yr ysgol a staff y sir at ddibenion ystadegau yn unig.  Ni fyddai cyfoedion yn ymwybodol pa ddisgyblion oedd yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim.  Roedd hefyd yn bwysig cofio nad oedd hawl i Brydau Ysgol am Ddim yn angenrheidiol yn golygu y byddai plentyn yn ei chael hi’n anodd cyflawni’n academaidd, roedd yn dibynnu ar amgylchiadau pob plentyn unigol a’r gefnogaeth ar gael iddyn nhw gartref ac yn yr ysgol;

eglurwyd y system ‘Sgôr Capio 9’ newydd oedd yn rhoi cyfartaledd perfformiad disgybl unigol ar draws ei 9 b/pwnc gorau (gan gynnwys Cymraeg/Saesneg iaith, 2 arholiad mathemateg a hyd at fwyafswm o ddau gymhwyster galwedigaethol).   Gan fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r sgôr hwn fel mesur perfformiad ar gyfer cyrhaeddiad, drwy amodiad y gall y 9 pwnc gorau ond cynnwys mwyafswm o 2 gymhwyster galwedigaethol, roedd y Llywodraeth fel petai’n diystyru’r hyn oedd orau i’r disgybl.  Roedd hefyd yn ymddangos yn anghyson gydag ardal 3 o’r fframwaith arolwg newydd gan Estyn oedd yn canolbwyntio ar ansawdd addysgu, ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y cwricwlwm, a darpariaeth sgiliau.  Roedd Llywodraeth Cymru yn archwilio’r anghysondeb hwn ar hyn o bryd;

·         eglurwyd er nad oedd Bagloriaeth Cymru yn cael ei chydnabod at ddibenion data perfformiad Llywodraeth Cymru fel naill ai cymhwyster TGAU neu Safon Uwch, roedd yn ofynnol i bob ysgol adrodd ar berfformiad disgyblion sy’n ennill y cymhwyster hwn.  Er hynny, mae nifer cynyddol o brifysgolion wedi cydnabod Bagloriaeth Cymru fel cymhwyster lefel mynediad Gwasanaeth Derbyniadau Prifysgolion a Cholegau (UCAS).

·dywedwyd mai Cymwysterau Cymru oedd y corff oedd yn rheoleiddio cymwysterau allanol.  Penderfynodd ar gwmpas cymhwyster a’r dull yr asesir e.e. ar sail modiwl, ar sail arholiad neu cymysgedd o’r ddau;

·dywedwyd bod disgyblion gydag awtistiaeth a phroblemau iechyd meddwl yn wynebu nifer o heriau yn eu bywyd bob dydd.  Er hynny, roedd nifer o’r disgyblion hyn yn gyflawnwyr uchel.  Ni fyddai’r Awdurdod yn aros am ddiagnosis swyddogol o anghenion meddygol disgybl cyn darparu’r gefnogaeth ofynnol.  Roedd strategaethau ymyrraeth a gwaith o fewn ysgolion yn sicrhau y darperir cefnogaeth briodol gynted ag y bydd angen lle nodwyd hynny.  Fodd bynnag, roedd y cynnydd mawr yn y nifer o ddisgyblion gyda phroblemau iechyd meddwl mewn blynyddoedd diweddar o bryder mawr ac o ganlyniad angen adnoddau sylweddol i’w gefnogi;

·dywedwyd bod llywodraethwyr yn cael eu gwneud yn ymwybodol o effaith ymddygiad gwael ac ymddygiad sy’n tarfu ar ddisgyblion eraill a’r angen i leihau maint dosbarthiadau i reoli’r broblem;

·         cadarnhawyd ei bod yn galonogol bod y Cyngor wedi cynnwys blaenoriaeth yn ei Gynllun Corfforaethol newydd i gefnogi pobl ifanc y sir i gael y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni eu potensial.  Byddai cyngor gyrfaoedd effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod disgyblion yn gwireddu eu llawn botensial a chefnogi nod y Cyngor o gyflawni’r flaenoriaeth gorfforaethol;

·cadarnhawyd bod y Gwasanaeth Addysg yn dadansoddi a chymharu cyrhaeddiad addysgol ar sail rhyw, mis geni, ethnigrwydd ac ati.  Roedd y wybodaeth hon hefyd ar gael mewn perthynas â phrofion cenedlaethol ac yn cael ei defnyddio fel rhan o’r pwysoli ar gyfer dadansoddi perfformiad yn gyffredinol.  Yn y dyfodol byddai data sy’n ymwneud â’r dysgwyr mwyaf galluog yn cael ei ddadansoddi i geisio sicrhau eu bod yn cael eu herio’n effeithiol ac yn rheolaidd i wireddu eu llawn botensial.

·cadarnhawyd bod Grŵp Monitro Safonau Ysgolion y Sir yn cwestiynu penaethiaid a chadeiryddion llywodraethwyr ar bob agwedd o berfformiad eu hysgol – darpariaeth addysg, arweinyddiaeth a rheolaeth, gan gynnwys rheolaeth ariannol.   Er bod gan swyddogion Gwasanaeth Addysg y sir wybodaeth strategol o berfformiad ysgolion, ac roedd y Pennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr yn gyfrifol am gryfderau a gwendid ysgolion unigol a chyfrifoldebau eu rheoli a delio â nhw.

·dywedwyd y byddai rownd newydd arolygon Estyn, i ddechrau ym mis Medi 2018, hefyd yn archwilio ansawdd arweinyddiaeth mewn ysgolion unigol.    Roedd gan fframwaith arolwg newydd Estyn ystod llawer ehangach na’r fframwaith arolwg presennol.   Gallai ysgolion Sir Ddinbych a’r Awdurdod Addysg o bosibl berfformio'n dda o dan y fframwaith newydd gan mai un o'i gryfderau oedd ei gynnig addysg i holl ddisgyblion yn hytrach na ffocws bach ar gyflawni cymwysterau yn unig;  

·eglurwyd fod gan Wasanaeth Addysg y sir rôl allweddol fel ‘ceidwad’ i sicrhau nad yw unrhyw blentyn yn y sir yn methu, i sicrhau lle bo hynny’n bosibl, nad yw unrhyw blentyn yn colli cysylltiad ac yn cael ei ystyried fel ‘rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogeth na hyfforddiant (NEET) a sicrhau bod pob disgybl ar ddiwedd eu siwrnai addysgol yn weithgar yn economaidd ac yn ddinasyddion cyfrifol.    Roedd swyddogion yn fodlon rhoi eu barn yn genedlaethol ar sut oedd Sir Ddinbych yn ystyried pwysigrwydd ymgysylltu’n barhaus gyda disgyblion a rhieni/gwarchodwyr i sicrhau nad oedd datgysylltu yn opsiwn;

·dywedwyd bod y nifer o ddisgyblion yn Sir Ddinbych nad oedd mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi gostwng o 4% i 1.1%.

·         cadarnhawyd bod llawer o waith wedi’i wneud gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar effaith Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod ar fywydau plant a dewisiadau ar gyfer y dyfodol.    Er bod yr astudiaeth hon yn nodi mesurau sydd angen eu cymryd er mwyn gwella canlyniadau i blant sy'n destun profiadau niweidiol, iddynt fod yn llwyddiannus roedd angen agwedd aml-asiantaeth ac yn eiddo i bob partner.

 

Mewn ymateb i nifer o ymholiadau a godwyd yn ystod y drafodaeth, roedd swyddogion yn cytuno i ehangu’r adroddiad ar Reoli Ymddygiad ac Absenoldeb i’w gyflwyno i’r Pwyllgor yn Ebrill 2018 i gynnwys yr agweddau canlynol:

·         her i’r ysgolion mewn perthynas ag ymddygiad ac absenoldeb;

·         dyletswyddau’r Cyngor a grymoedd mewn perthynas â darparu addysg i blant o gymuned Sipsiwn a Theithwyr;

·         pa un a oedd unrhyw dystiolaeth bod absenoldeb awdurdodedig yn effeithio ar berfformiad cyffredinol ysgolion unigol;

·         darpariaeth ar gael i rieni sy’n dymuno mynd â’u plant ar ymweliadau estynedig dramor i fynychu digwyddiadau crefyddol neu i ymweld â theulu ac ati a mesurau diogelu sydd gan yr Awdurdod i sicrhau bod pob disgybl yn dychwelyd i addysg llawn amser yn dilyn eu hymweliadau;

·         manylion y cynnydd yn y nifer o ddisgyblion yn ysgolion y sir â phroblemau cymdeithasol yn y blynyddoedd diweddar a'r gwaith a wneir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod; a

·         gorolwg ar y dadansoddiad a gynhaliwyd ar unrhyw gydgysylltiad posibl rhwng hawl i Brydau Ysgol am Ddim, presenoldeb yn yr ysgol a chyrhaeddiad. 

 

Atgoffodd y Cydlynydd Archwilio y Pwyllgor y penderfynwyd mewn cyfarfod blaenorol i wahodd Penaethiaid a'r Cadeirydd Llywodraethwyr ysgolion uwchradd unigol, yn achlysurol, i gyfarfodydd yn y dyfodol i drafod cynnydd gydag aelodau ar ddarparu cynlluniau gwella ysgolion  Nod y camau hyn fyddai darparu cefnogaeth adeiladol i’r sawl sy’n gyfrifol am ysgolion gyda’r bwriad i wella pob agwedd o berfformiad, boed yn academaidd, ariannol, rheoli, presenoldeb ac ati;

 

Ar ddiwedd y drafodaeth roedd y Pwyllgor yn llongyfarch disgyblion yn Ysgol Plas Cefndy, Uned Atgyfeirio Disgyblion y Cyngor ar eu perfformiad ardderchog mewn arholiadau allanol yn 2016/17 a:

 

Penderfynwyd:

 

(i)                 yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn gwybodaeth a ddarparwyd ar berfformiad ysgolion yn erbyn perfformiad blaenorol a’r meincnod allanol sydd ar gael ar hyn o bryd;

(ii)               cadarnhau, fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 5); ac

(iii)             anfon gwahoddiadau at y Pennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr dwy o ysgolion uwchradd y sir sy'n perfformio'n wael yn gyson i fynychu cyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol agos i drafod cynnydd cyflawni cynlluniau gwella'r ysgol.

 

 

Dogfennau ategol: