Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB 2018/19 – CYNIGION TERFYNOL

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cyllid (copi ynghlwm) i ddarparu trosolwg o broses y gyllideb ac effaith y Setliad Llywodraeth Leol a chymeradwyo’r gyllideb ar gyfer 2018/19, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i nodi goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2018/19 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2018/19.

 

Roedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb gytbwys y gellir ei chyflawni cyn dechrau pob blwyddyn ariannol a gosod lefel Treth y Cyngor yn unol â hynny i ganiatáu i filiau gael eu hanfon at breswylwyr.

 

Derbyniwyd Setliad Llywodraeth Leol Terfynol 2018/19 ar 20 Rhagfyr 2017 ac roedd yn cynnwys gostyngiad ariannol o -0.2% (cyfartaledd Cymru oedd +0.2%).  Roedd y Setliad Dros Dro a dderbyniwyd ym mis Hydref 2017 yn nodi gostyngiad o -0.9% (cyfartaledd Cymru oedd 0.5%). 

 

Roedd y newid rhwng y ddau swm yn adlewyrchu £20 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i lywodraeth leol fel rhan o gynigion cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru. Roedd hyn yn dilyn cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i Gymru o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd ac roedd yn lliniaru effaith cynnig bwlch cyflog diweddaraf y cyflogwyr, a oedd yn uwch na’r disgwyl ac yn adlewyrchu newid i’r polisi o gap o 1% ar gyflogau.

 

Nid oedd yn gynaliadwy rheoli’r pwysau parhaus heb gynyddu sail gyllid y Cyngor yn barhaol. Gan fod cymorth ariannol Llywodraeth Cymru’n gostwng bob blwyddyn, roedd yn rhaid ysgwyddo'r baich yn lleol.  Felly, cynigiwyd cynnydd uwch i Dreth y Cyngor na'r hyn a gynigiwyd i ddechrau. 

 

Byddai'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor o 4.75% yn codi £945,000 ychwanegol i'w ddefnyddio'n rhan o’r pecyn cyffredinol, a oedd yn cynnwys dyraniad ychwanegol i ofal cymdeithasol o £1.5 miliwn.

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

·       Cadarnhawyd i’r Aelodau bod elfen wastraff y Grant Amgylcheddol Sengl wedi derbyn toriad o 10% ar y cyfan.  Oherwydd y toriad yn swm y grant, roedd dau aelod o staff wedi'u hail-leoli mewn swyddi eraill.

·       Cadarnhawyd y byddai Archeolegydd y Sir yn ymddeol a dywedwyd wrth yr Aelodau na fyddai’r swydd wag yn cael ei llenwi.  Byddai hyn yn unol â phum awdurdod lleol arall Gogledd Cymru.  Pe bai angen cyngor archeolegol arbennig, byddai angen ei brynu yn ôl yr angen.

·       Ni fyddai’r gyllideb ddinesig bellach yn noddi cyngherddau gyda’r nos yn Eisteddfod Llangollen. 

·       Oherwydd y newid i'r Gyfraith ar Ddiogelu Data, holwyd a fyddai unrhyw gostau.  Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid y byddai'n holi a fyddai costau ac y byddai'n rhoi gwybod i'r Aelodau.

·       Roedd newid sylweddol wedi bod ers gweithdai’r gyllideb a gynhaliwyd fis Tachwedd 2017 mewn perthynas â’r fargen dâl gyffredinol.  Roedd cap cyflog o 1% wedi’i ystyried yn y gyllideb, ond y cynnig terfynol oedd 2.4%.

·       Roedd angen edrych sut y byddai’r sir yn delio gyda’r problemau o fewn y gwasanaethau cymdeithasol, addysg a thlodi plant hefyd.

 

Bu i’r Prif Weithredwr a’r Arweinydd ganmol y swyddogion a oedd wedi llunio adroddiad y gyllideb.  Cadarnhawyd bod y gyllideb yn ddogfen gadarnhaol o dan yr amgylchiadau presennol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts ddiwygiad i’r argymhelliad y gellid trosglwyddo £500,000 o gronfeydd wrth gefn i’r adran addysg oherwydd bod nifer o ysgolion yn profi anhawster ac o dan bwysau eithriadol.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eryl Williams.  Ar y pwynt hwn, eglurodd y Cynghorydd Roberts y dylid trosglwyddo’r £500,000 ychwanegol o falansau i'r adran addysg er mwyn i ysgolion wneud cynigion amdano ar gyfer cyllid ychwanegol i gefnogi disgyblion a oedd ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Pleidleisiwyd ar y diwygiad fel a ganlyn:

 

O blaid y diwygiad - 13

Ymatal - 1

Yn erbyn y diwygiad - 31

 

Felly, ni chafodd y diwygiad ei gymeradwyo.

 

Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr argymhellion a oedd yn yr adroddiad, ac fe’u heiliwyd gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans a dyma oedd:

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:

(i)              Nodi effaith Setliad Llywodraeth Leol 2018/19

(ii)             Cymeradwyo’r gyllideb a amlinellir yn Atodiad 1, sy’n cyd-fynd â’r rhagdybiaethau a gyflwynwyd i aelodau yng nghyfarfodydd briffio’r gyllideb a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2017

(iii)            Cymeradwyo cyfanswm o £411,000 o arbedion sydd wedi’u rhestru yn Atodiad 2, fel rhan o becyn y gyllideb

(iv)           Cymeradwyo’r cynnydd cyfartalog o 4.75% yn Nhreth y Cyngor, sy’n cydnabod y pwysau cynyddol o ran costau ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant ac oedolion ac yn cefnogi'r dyraniad o £1.5 miliwn o gyllid ychwanegol ar draws y ddau wasanaeth

(v)            Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les a gyflwynwyd fel rhan o broses y gyllideb

 

 

Dogfennau ategol: