Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB 2018/19 – CYNIGION TERFYNOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn nodi goblygiadau Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2018/19 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2018/19.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi effaith Setliad Llywodraeth Leol 2018/19;

 

(b)       cefnogi'r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1, sy’n cyd-fynd â’r rhagdybiaethau a gyflwynwyd i aelodau yn ystod y sesiynau briffio a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2017, a chan hynny'n eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn pennu cyllideb derfynol 2018/19;

 

(c)        argymell i’r Cyngor mai’r cynnydd cyfartalog sydd ei angen i Dreth y Cyngor er mwyn cefnogi’r gyllideb yw 4.75%, sy’n cydnabod y pwysau ariannol cynyddol ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant ac oedolion drwy ddarparu cyllid ychwanegol o £1.5 miliwn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2018/19 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol 2018/19, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Darparodd y Cynghorydd Thompson-Hill drosolwg o broses y gyllideb a sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’r argymhelliad i’r cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2018/19. Roedd y setliad terfynol wedi arwain at ostyngiad ariannol o -0.2% (roedd setliad dros dro wedi dangos -0.9%) ond er mwyn i’r sefyllfa ariannu aros yn niwtral byddai angen i’r setliad fod o leiaf +3.6%.  Er nad oedd y gostyngiad mor ddrwg â'r hyn a ofnwyd i ddechrau, roedd angen ystyried ffactorau eraill, fel pwysau cyflogau, pensiwn a'r Cyflog Byw Cenedlaethol, yn ogystal â chwyddiant prisiau/ynni, lefi'r gwasanaeth tân a lle ar gyfer cynnydd yn y Cynllun Gostyngiadau i Dreth y Cyngor. Roedd pwysau’n parhau ar draws yr awdurdod gyda galw cynyddol am ariannu addysg a gofal cymdeithasol – roedd y gyllideb arfaethedig yn cynnwys cynnydd o £1.8m (2.7%) mewn cyllidebau ar gyfer ysgolion a dyraniad ychwanegol o £1.5m (3.2%) i ofal cymdeithasol. Roedd arbedion wedi eu canfod ar draws y Cyngor i gynorthwyo i ddarparu cyllideb gytbwys.  O ran Treth y Cyngor cynigiwyd cynnydd o 4.75% oedd yn cynnwys dyraniad ychwanegol o 2% i ariannu pwysau gofal cymdeithasol gwerth £1.5m.

 

Trafododd y Cabinet y cynigion yn ymwneud â’r gyllideb, gan gydnabod y gostyngiad oedd yn parhau yn nyraniad cyllideb Sir Ddinbych a'r goblygiadau i wasanaethau o ganlyniad i hynny, a hefyd cydnabod fod yr hinsawdd ariannol yn parhau'n her i'r dyfodol a fyddai'n arwain at fwy o benderfyniadau anodd.  Tra’n croesawu’r cynnydd arfaethedig i’r gyllideb gofal cymdeithasol, pwysleisiodd y Cynghorydd Bobby Feeley ei phryderon yn ymwneud ag ariannu ar gyfer y blynyddoedd i ddod o ystyried y galw cynyddol parhaus a’r pwysau sydd wedi eu nodi ar gyfer y dyfodol. Hefyd pwysleisiodd yr angen i sicrhau fod preswylwyr yn dod yn ymwybodol o’r cynnydd penodol yn Nhreth y Cyngor i ariannu'r pwysau presennol o ran gofal cymdeithasol. Cytunodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, gan ychwanegu fod yna gysyniad fod Treth y Cyngor yn cyfrif am y rhan fwyaf o gyllideb y Cyngor, elfen yr oedd angen ymdrin â hi hefyd. Credai fod y gyllideb arfaethedig yn deg, yn ddealladwy ac yn ddoeth ac y dylai roi hyder i'r preswylwyr gyda gofal cymdeithasol, addysg a gwasanaethau plant yn cael eu hamddiffyn.  Yng ngoleuni pwysau parhaus a gostyngiad mewn setliadau yn y dyfodol, roedd aelodau hefyd yn awyddus i ddechrau proses y gyllideb ar gyfer y blynyddoedd i ddod mor fuan â phosibl.

 

Roedd trafodaethau pellach ar gynigion y gyllideb yn canolbwyntio ar y canlynol -

 

·         roedd gwaith yn parhau i reoli costau ynni a chadw cynnydd mor isel â phosibl; mae lleihau'r cyfanswm o ynni sy’n cael ei ddefnyddio yn fater allweddol yn y Cynllun Corfforaethol ac mae Prosbectws Ynni yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd

 

·         talwyd teyrnged i waith Archaeolegydd y Sir sy’n ymddeol a thrafodwyd goblygiadau dileu’r swydd honno.

 

·         Nodwyd y gallai fod rhaid cael cyngor arbenigol o du allan i'r awdurdod yn y dyfodol

 

·         y rhesymu y tu ôl i ddiddymu cynllun grant datblygu'r busnesau bach er mwyn cael arbediad o 50% a hefyd ymhelaethwyd ar fuddsoddi mewn system wella busnes sydd â mwy o ffocws

 

·         roedd gwaith yn cael ei wneud gydag ysgolion ac Adnoddau Dynol i sicrhau fod cytundebau i staff yn addas a bod modd eu haddasu o fewn ysgolion i alluogi i gytundebau gael eu newid yn unol â newid mewn anghenion.

·         roedd y Cyngor yn dal i gefnogi byw'n annibynnol a gwytnwch a thra roedd y Tîm Cefnogi Pobl yn  ymgymryd â'r mater yn ymwneud â dyfodol y Grant Byw'n Annibynnol, roedd dulliau eraill wedi eu nodi a fyddai’n galluogi i’r cymorth hwnnw barhau heb gyllid grant penodol.

·         tra bod cyllid ychwanegol wedi ei roi i addysg a gofal cymdeithasol cydnabuwyd y byddai’r ddau sector yn parhau i fod o dan lawer o bwysau

·         wrth ymateb i gwestiynau eglurwyd yr elfennau ychwanegol sy’n sail i’r gyllideb, fel y nodir yn y rhagamcanion ariannol ar gyfer y blynyddoedd i ddod,               

·         eglurwyd y gwahaniaeth rhwng cronfeydd wrth gefn a                      balansau cyffredinol a chadarnhaodd swyddogion tra roedd yna arweiniad cyffredinol o ran y cyfanswm o gronfeydd wrth gefn a balansau cyffredinol i’w dal gan awdurdodau lleol, nid oedd yna swm wedi ei bennu yn gyfreithiol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      nodi effaith Setliad Llywodraeth Leol 2018/19,

 

 (b)      yn cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad oedd yn unol â’r rhagdybiaethau a gyflwynwyd i aelodau mewn sesiynau briffio ar y gyllideb a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2017, ac yn unol â hynny yn eu hargymell i'r Cyngor llawn er mwyn cwblhau cyllideb 2018/19, ac

 

 (c)       argymell i’r Cyngor fod y cynnydd cyfartalog yn Nhreth y Cyngor sydd ei angen i gefnogi'r gyllideb yn 4.75%, sy'n cydnabod y pwysau cynyddol o ran cost yng ngofal cymdeithasol oedolion a phlant drwy ddarparu cyllid ychwanegol o £1.5m.

 

Ar y pwynt hwn (12.10 pm) cafwyd egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: