Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CORFFORAETHOL AR GYFER HEN SAFLEOEDD YSGOL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Rheolwr Rhaglen - Newid Busnes (Cyfleusterau, Tai ac Asedau) (copi ynghlwm) sydd yn gofyn am farn y Pwyllgor ar sut mae’r Cyngor yn bwriadu rheoli neu gael gwared ar hen safleoedd ysgol.

 

11.20am – 12pm

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad cyfrinachol (a gylchredwyd yn flaenorol), y Rheolwr Cyfleusterau, Asedau a’r Rhaglen Tai (Newid Busnes), a amlinellodd sut roedd y Cyngor yn cynnig rheoli a gwaredu safleoedd ysgol diangen yn y dyfodol.  Roedd y Pwyllgor wedi gofyn am y wybodaeth yn dilyn trafodaeth, mewn cyfarfod cynharach, am weithrediad yr argymhellion a oedd wedi codi o adolygiad addysg gynradd yn ardal Rhuthun.

 

Yn ystod ei gyflwyniad, rhoddodd yr Aelod Arweiniol wybod i'r Pwyllgor mai nod y Cyngor wrth ddelio â safleoedd ysgol diangen oedd gwireddu'r buddion mwyaf posibl ohonynt i'r Awdurdod a'r gymuned, wrth sicrhau ar yr un pryd nad oeddent yn dod yn safleoedd dolur llygad, a oedd yn peri rhwymedigaethau cynnal a chadw gormodol, ac felly’n straen fawr ar adnoddau ariannol gwerthfawr.  Tynnodd sylw hefyd at y cymhlethdodau o amgylch perchnogaeth rhai o’r adeiladau a safleoedd ysgol, yn cynnwys cymalau a chyfamodau cyfyngol, ymddiriedolaethau a materion perchnogaeth tir ac ati. Yn amgaeedig gyda’r adroddiad oedd cynllun ar gyfer safleoedd ysgol diangen, a oedd gyda gwybodaeth am bob safle diangen cyfredol, neu safleoedd y rhagwelwyd y byddent yn dod yn ddiangen o fewn y ddwy flynedd nesaf, manylion ynghylch eu perchnogaeth a chynigion cyfredol y Cyngor ar gyfer y safleoedd hynny.  Hefyd yn amgaeedig oedd dogfen yn amlinellu’r dull a gymerwyd gan y Cyngor, unwaith roedd hen ysgol wedi’i dynodi’n safle nad oedd ei hangen.

 

Rhoddodd yr Aelod Arweiniol wybod i Aelodau, o ganlyniad i brofiadau’r gorffennol, bod y Cyngor bellach wedi pennu terfyn amser i gofrestru diddordeb defnydd cymunedol, ac i gymeradwyo cynllun busnes ar sail dystiolaeth ar gyfer defnyddio’r safle yn y dyfodol.   Y rheswm dros hyn oedd, tra bod yr adeilad yn wag ac ym mherchnogaeth y Cyngor, roedd yr Awdurdod yn atebol am yr adeilad a chynnal a chadw'r safle, yn cynnwys costau ar gyfer gwneud y safle'n ddiogel.   Gan gyfeirio at safleoedd diangen a restrwyd yn yr adroddiad a oedd naill ai ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth neu fod eu perchnogaeth yn dal yn destun ymchwiliad, dywedodd yr Aelod Arweiniol y byddai’r safle(oedd) yn cael eu gwerthu a’r derbynebau’n cael eu cadw mewn ymddiriedolaeth, hyd nes y datryswyd y materion ymddiriedolwr, unwaith roedd digon o amser wedi mynd heibio ac os oedd modd olrhain yr ymddiriedolwyr neu eu buddiolwyr.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau, gwnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion -

 

·         roi gwybod y byddai achosion busnes a gyflwynwyd yn y dyfodol fel cynigion ar gyfer adeiladau ysgol newydd sy’n cael eu cyflwyno i'r Grŵp Buddsoddi Strategol a'r Cabinet, yn gorfod cynnwys manylion ynghylch beth roedd y Gwasanaeth Addysg yn cynnig ei wneud gydag unrhyw asedau neu safleoedd diangen, yn codi o’r cynnig

·         cadarnhau bod Siarter y Cyngor Sir gyda chynghorau tref a chymuned yn gofyn bod y Cyngor yn ceisio datganiadau o ddiddordeb gan gynghorau tref a chymuned, mewn unrhyw ased sydd ym mherchnogaeth y sir, nad oedd eu hangen   Gallai’r Cyngor Sir gynnig trosglwyddo ased dros ben i gyngor tref neu gymuned, a oedd â chynllun busnes cadarn a chytûn ar gyfer ei ddefnydd yn y dyfodol.  Byddai swyddogion o’r Gwasanaeth a Moderneiddio Busnes (BIMS) ar gael i gynghorau tref a chymuned neu grwpiau cymunedol a gyfansoddwyd, i’w helpu i archwilio opsiynau posibl a llunio'r cynllun busnes gofynnol.  Ni fyddai unrhyw ased yn cael ei drosglwyddo oni bai bod cyllid digonol wedi’i ddiogelu gan y corff a gyfansoddwyd, i weithredu’r cyfleuster ar gyfer y dyfodol hyd y gellir ei ragweld.  Ond os oedd cyfleuster cymunedol eisoes yn gweithredu o fewn y gymuned honno, roedd y Cyngor yn annhebygol o gytuno i drosglwyddo ased i’r gymuned honno ar gyfer pwrpas tebyg

·         rhoi gwybod, unwaith y byddai ased yn cael ei drosglwyddo i gyngor neu gorff arall a gyfansoddwyd, ni fyddai’r Cyngor yn atebol am unrhyw gostau a oedd yn gysylltiedig gyda’r ased yn y dyfodol.  Os na fyddai’r sefydliad a oedd wedi caffael yr adeilad/safle gan y Cyngor heb unrhyw ddefnydd ar ei gyfer yn y dyfodol, byddai pob rhwymedigaeth yn aros gyda nhw.  Ond roedd gan y Cyngor y pwerau i weithredu cyfamodau adfachu gydag unrhyw asedau a drosglwyddodd i sefydliadau eraill, felly pe bai’r sefydliadau hynny’n cael gwared ar yr ased o fewn y cyfnod amser a nodwyd yng nghytundeb y trosglwyddiad, byddai'r Cyngor yn gymwys i adfachu canran benodol o'r derbyniad cyfalaf

·         cadarnhawyd, os byddai’r Cyngor yn adeiladu ysgol ffydd newydd ar dir sydd ym mherchnogaeth yr esgobaeth, byddai perchnogaeth y safle’n dychwelyd i’r Esgobaeth, os ystyriwyd nad oedd angen yr ysgol honno ar unrhyw adeg yn y dyfodol.  Ond, os caiff ei hadeiladu ar dir ym mherchnogaeth y cyngor, byddai perchnogaeth y safle’n dychwelyd i’r Cyngor

·         rhoi gwybod, os byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i olrhain buddiolwyr Ymddiriedolaeth, a oedd wedi rhoi tir yn rhodd at ddibenion darparu gweithgareddau addysgol, ac nad oedd unrhyw benderfyniad ar y gweill, y byddai Adran Gyfreithiol y Cyngor yn dechrau trafodaethau gyda’r Comisiwn Elusennau gyda’r bwriad o geisio caniatâd i waredu’r safle.  Unwaith y caiff ei werthu, a bod yr holl gostau cynnal a chadw a rheoli wnaed gan y Cyngor yn cael eu hadennill, byddai'r arian yn cael ei ddal mewn 'cyfrif dal' hyd nes y byddai buddiolwyr yn cael eu holrhain

·         cadarnhau bod y Cyngor bob amser yn ceisio gwireddu gwerth am arian wrth waredu asedau dros ben.  Ond roedd ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i fuddion y gymuned

·         cadarnhawyd, os oedd yn briodol, y gallai’r Awdurdod ymgeisio am ganiatâd cynllunio ar safle cyn ei waredu, ond byddai angen trafod y costau a’r buddion o ddefnyddio’r dull hwn gyda’r Adran Gynllunio a’r gwasanaethau eraill, yn dibynnu ar y math o ganiatâd cynllunio a geisiwyd, h.y. os oedd y math o ganiatâd a geisiwyd â’r potensial i gefnogi darpariaeth o flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor

·         rhoi gwybod bod y Cyngor wedi ceisio sefydlu a ‘mapio’ pob cyfleuster cymunedol sydd ar gael ar draws y sir dros y blynyddoedd diweddar.  Ond roedd hyn wedi profi’n anodd iawn, gan fod nifer fawr ohonynt yn cael eu gweithredu gan sefydliadau gwirfoddol, h.y. eglwysi, capeli, sefydliadau cymunedol

·         egluro’r broses ar gyfer dynodi ‘mannau gwyrdd’ o fewn y prosesau Cynllunio a’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).  Os oedd y dref neu gymuned eisiau i’r Cyngor drosglwyddo ased dros ben iddynt ar gyfer y diben o gael ei ddynodi fel man gwyrdd, byddent yn gyntaf yn gorfod archwilio'r angen am fan gwyrdd fel rhan o'r broses CDLl, a

·         rhoi gwybod ei bod nawr yn ofynnol i’r Cyngor ystyried buddion cymunedol, y gwerth ariannol gorau a chynaliadwyedd tymor hir pob penderfyniad yng nghyd-destun darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Cyn dod â’r drafodaeth i ben, gofynnodd y Pwyllgor i gael gwybodaeth am sut roedd sawl ysgol Eglwys yn y sir wedi’u lleoli ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor ac i’r gwrthwyneb, a phe bai unrhyw ysgol o blith y rhain yn dod yn wag/yn ddiangen, pwy fyddai’n gyfrifol am eu cynnal a’u cadw, a’u gwaredu.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod, i dderbyn y wybodaeth a roddwyd a chefnogi'r dull a gymerwyd gan y Cyngor, gyda'r bwriad o wireddu'r buddion mwyaf posibl, a chael y gwerth gorau gan safleoedd ysgol diangen.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.20pm.

 

 

Dogfennau ategol: