Eitem ar yr agenda
ADOLYGU'R UN PWYNT MYNEDIAD (SPOA)
- Meeting of Pwyllgor Craffu Partneriaethau, Dydd Iau, 14 Rhagfyr 2017 10.00 am (Item 7.)
- View the declarations of interest for item 7.
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth, Ardaloedd (copi ynghlwm) i ddarparu
diweddariad ar berfformiad Un Pwynt Mynediad Sir Ddinbych ar gyfer Gofal
Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol.
11.40 a.m. – 12.15 p.m.
Cofnodion:
Datganodd y
Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol gan ei fod yn gweithio i
Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).
Gan gyflwyno’r
adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd yn flaenorol), rhoddodd yr Aelod
Arweiniol Lles ac Annibyniaeth wybodaeth ei bod yn gefnogwr brwd o'r Gwasanaeth
Un Pwynt Mynediad, gan ei bod yn teimlo ei fod yn cyfrannu at y rhaglen
gwytnwch cymunedol. Roedd
copi o’r adroddiad adolygu, a oedd yn rhoi manylion ynghylch y dull adolygu a’r
meysydd gwasanaeth a ystyriwyd fel rhan ohono, yn amgaeedig fel Atodiad 1 o’r
adroddiad. Roedd amcan
yr adolygiad wedi bod yn ddeublyg – i asesu pa mor effeithiol ac effeithlon
oedd y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad wrth gyflawni ei wasanaethau ac wrth wella
canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth, ac i sefydlu a oedd y model darparu
gwasanaeth yn addas ar gyfer y dyfodol.
Roedd ystadegau
yn yr adroddiad yn dangos y galw ar y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad yn ystod
Chwarteri 1 a 2 ar gyfer y tair blynedd diwethaf, roedd y rhain yn dangos
cynnydd parhaus mewn cyswllt â'r Gwasanaeth, ac atgyfeiriadau ato.
Mewn ymateb i ymholiadau a ddaeth i
law, rhoddodd y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad gyngor am wasanaethau neu
asiantaethau a allai gynorthwyo’r rhai hynny a oedd angen cymorth. Roedd y Gwasanaeth hefyd yn ysgogi
atgyfeiriadau i wasanaethau ymyrryd, gyda’r bwriad o gefnogi unigolion i fyw’n
annibynnol am gyn hired â phosibl, ac felly lleihau’r galw a’r pwysau ar
wasanaethau mwy dwys. Roedd
yr Adolygiad wedi dod i gasgliad bod y cysyniad Un Pwynt Mynediad yn cael ei
werthfawrogi gan bob budd-ddeiliad a’r rhai a ddefnyddiodd y gwasanaethau.
Er bod y Gwasanaeth yn cael ei
ystyried yn addas at y diben, cafodd ei gydnabod, wrth i Dimau Adnoddau
Cymunedol gael eu datblygu, y byddai angen i’r Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad
esblygu ac addasu i ategu at y gwasanaethau a roddwyd ganddynt. Roedd nifer o feysydd ar gyfer gwella a
datblygu yn y dyfodol wedi’u nodi, roedd y rhain yn cynnwys:
·
yr
angen i sefydlu a gweithredu fframwaith sicrwydd ansawdd cadarn, a fyddai’n
mesur, sgiliau, gwybodaeth a hyder, ymhlith pethau eraill, y Tîm Un Pwynt
Mynediad i ddarparu Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth;
·
gwella
gwaith rhyngwyneb gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn ysbytai ac
yn y gymuned;
·
yr
angen i adolygu ac ailddiffinio swyddogaethau a sgiliau cyfun yn y Gwasanaeth;
·
gwneud
Un Pwynt Mynediad yn fwy hygyrch i gefnogi meddygfeydd Meddygon Teulu ac iddo
hyrwyddo mwy o negeseuon iechyd cyhoeddus;
·
defnyddio
Un Pwynt Mynediad i gefnogi’r datblygiad o Bwyntiau Siarad a’r Gwasanaethau
Llywiwr Cymunedol; ac
·
archwilio
cyfleoedd cyd-weithio posibl gyda Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad Cyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy.
Yn ystod y
cyflwyniad, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth (Ardaloedd) fanylion ynghylch nifer o
astudiaethau achos sy’n dangos llwyddiant y Gwasanaeth yn ystod y sgwrs “Beth
sy’n Bwysig”, y cyswllt cychwynnol; roedd gan y cyhoedd gyda'r Gwasanaeth Un
Pwynt Mynediad, lle'r oedd cyngor perthnasol ac ati wedi'i roi ar yr adeg
gywir, ac o ganlyniad, arweiniodd hynny at oddeutu 35% i 40% o’r rhai hynny a
gysylltodd â’r Gwasanaeth, nad oedd angen cefnogaeth mwy dwys a drud gan y
Gwasanaethau Cymdeithasol mwyach. Rhoddodd wybod, fel rhan o’r sgwrs “Beth sy’n Bwysig”, bod trafodaethau
wedi digwydd ynghylch y math o gefnogaeth neu wasanaethau a oedd yn ofynnol gan
yr unigolyn er mwyn cynnal eu hannibyniaeth, a’u gallu i ariannu’r gwasanaethau
hynny. Yn ei hanfod, roedd y Gwasanaeth Un
Pwynt Mynediad yn wasanaeth cynghori a oedd yn cyfeirio pobl at wasanaethau a
all fod ar gael iddynt, wrth weithredu fel gwasanaeth atal hefyd drwy gyfeirio
unigolion at wasanaethau iechyd cymunedol, gyda’r bwriad o gynnal eu lles
cyffredinol.
Wrth ymateb i
gwestiynau aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion:
- gadarnhau bod pecynnau gofal a
chymorth wedi’u rheoli ond yn cael eu cynnig i’r unigolion hynny na allai
gyflawni eu canlyniadau a ddymunir heb gymorth. Byddai pobl sydd angen y pecynnau hyn
yn destun asesiad ariannol. Os allent fforddio i dalu’r pecyn, byddent yn gorfod talu hyd at £70
yr wythnos. Byddai
unigolion nad oedd â’r gallu i dalu’r pecyn cymorth yn dal yn ei dderbyn
ac ni fyddai disgwyl iddynt dalu;
- rhoesant wybod bod y Gwasanaeth Un
Pwynt Mynediad yn rhannu gwybodaeth gyda'r holl ymarferwyr a oedd yn
ymwneud ag unigolion, gyda’r bwriad o sicrhau dull di-dor cyfannol o ran
darpariaeth gwasanaeth ac i osgoi bod cyngor a gwasanaethau’n cael eu
dyblygu;
- cadarnhau bod y mwyafrif o’r arian i
dalu am y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad wedi’i ddiogelu drwy arian grant y
Gronfa Gofal Integredig, a oedd yn cael ei dalu gan Lywodraeth Cymru i’r
Bwrdd Iechyd at y diben o ariannu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
integredig. Roedd
gweddill yr arian yn dod gan y GIG a’r Cyngor. Roedd y Bwrdd Iechyd yn rheoli cyllid y
Gronfa Gofal Integredig, ond roedd y Bwrdd Iechyd a’r awdurdod lleol yn
gorfod dod i gytundeb ynghylch sut y byddai’r arian yn cael ei wario i
ddarparu gwasanaethau a fyddai’n gwella canlyniadau i breswylwyr.
Yn ystod y flwyddyn i ddod,
byddai darn helaeth o waith yn cael ei wneud i ddylunio’r gwasanaethau a
fyddai’n cael eu darparu yn y pen draw gan y Timau Adnoddau Cymunedol
Integredig, lle byddai un yn cael ei leoli yn y pen draw yn safle Ysbyty
Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych newydd;
- rhoi gwybod bod y Cyngor wedi
pwysleisio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr na allai barhau i
gefnogi’r Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad yn y dyfodol, os byddai’r arian
grant Cronfa Gofal Integredig yn cael ei dynnu’n ôl o’r Gwasanaeth neu’n
cael ei ddargyfeirio i rywle arall;
- cadarnhau y gallai agweddau ar y
Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad gael eu datblygu'n rhanbarthol. Fodd bynnag, byddai’r Gwasanaeth yn
gorfod cael ei siapio a’i ddarparu’n lleol, fel arall ni fyddai’n diwallu
angen pobl leol neu’n ymgysylltu â’r asiantaethau, sefydliadau neu
rwydweithiau cymorth lleol cywir;
- rhoi gwybod bod rhai meddygfeydd
Meddygon Teulu yn well nag eraill am hyrwyddo argaeledd y Gwasanaeth Un
Pwynt Mynediad i’w cleifion. Roedd y Gwasanaeth yn cynllunio i sefydlu’r opsiwn i Feddygon Teulu
atgyfeirio cleifion at yr Un Pwynt Mynediad drwy e-bost yn y dyfodol.
Byddai hefyd yn cynnal
astudiaeth ddichonoldeb yn fuan ar fuddion posibl lleoli gweithredwr
canolbwynt Un Pwynt Mynediad gyda Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon
Teulu;
- amlinellu’r gwahaniaeth rhwng agwedd
darparu gwybodaeth ar waith yr Un Pwynt Mynediad, ei waith ymgynghori, a’i
rôl i gynorthwyo pobl i gael mynediad at wasanaethau a all eu helpu nhw
e.e. llenwi ffurflenni;
- pwysleisio’r buddion o gael
gweithredwyr canolbwynt Un Pwynt Mynediad aml-fedrus a gwybodus sy’n
gweithio yn y Gwasanaeth. Cael gwybodaeth
traws-wasanaeth, a gallu cael mynediad at systemau cyfrifiadur iechyd a
gofal cymdeithasol a sicrhaodd bod gweithredwyr Un Pwynt Mynediad yn gallu
darparu ystod eang o gefnogaeth, cyngor a chymorth i’r rhai sy’n cysylltu
â nhw, gyda rhai a oedd ag anghenion cymhleth neu ymholiadau ag agweddau
lluosog. Nid oedd
unrhyw ddau ymholiad neu atgyfeiriad yr un fath. Mewn rhai achosion, gall yr ymholiad
cychwynnol ymddangos yn un hawdd i’w ddatrys, fodd bynnag, yn ystod y
sgwrs “Beth sy’n Bwysig” ddilynol, gall anghenion sylfaenol eraill ddod
i’r amlwg, y gall ymyrraeth a chymorth cynnar ar yr adeg honno liniaru yn
eu herbyn, gan osgoi eu bod yn gwaethygu yn broblemau llawer mwy, a fyddai
angen adnoddau drud yn hwyrach ymlaen;
- cadarnhau bod system Un Pwynt
Mynediad ar wahân yn cael ei gweithredu ar gyfer problemau iechyd meddwl.
Roedd y Gwasanaeth hwn yn
gweithredu dull ‘brysbennu’. Roedd gweithredwyr canolbwynt Un Pwynt Mynediad yn gallu cyfeirio ac
atgyfeirio pobl gyda phroblemau iechyd meddwl at Wasanaeth Un Pwynt
Mynediad Iechyd Meddwl;
- rhoi
gwybod bod y Gwasanaeth yn ceisio gwella elfen clwstwr cam-i-lawr o’i
waith, gyda’r bwriad o hwyluso rhyddhad amserol o'r ysbyty. Y cynnig o ran yr agwedd hon ar y
gwaith oedd cynnwys y sector gwirfoddol yn fuan yn ystod y broses rhyddhau
o’r ysbyty, i hwyluso rhyddhad unigolyn i'w cyfeiriad cartref, gyda'r
pecyn cymorth mwyaf addas yn ei le er mwyn sicrhau eu diogelwch;
- cadarnhau bod y cynnydd o 83% yn
nifer yr atgyfeiriadau Meddyg Teulu i’r Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad rhwng
2015 a 2017 wedi’i briodoli i'r llwyddiant a gyflawnwyd wrth hyrwyddo'r
Gwasanaeth;
- rhoi gwybod i’r Pwyllgor, er mwyn
sicrhau bod gweithredwyr canolbwynt yn parhau i gynnal a chynyddu eu
sgiliau a gwybodaeth, bod hyfforddiant wythnosol a sesiynau rhannu
gwybodaeth yn cael eu trefnu i staff. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau a hwyluswyd
gan wasanaethau cyhoeddus a sefydliadau gwirfoddol eraill ynghylch y
gwasanaethau roeddent yn gallu eu rhoi. Roedd y ffaith bod gwirfoddolwr ymgysylltu â
thrydydd sector wedi’i leoli gyda gweithredwyr canolbwynt Un Pwynt
Mynediad hefyd yn helpu i gynyddu eu gwybodaeth. Ar hyn o bryd, roedd Llywodraeth
Cymru yn y broses o ddatblygu Fframwaith Cymhwysedd Gwybodaeth, Cyngor a
Chymorth cenedlaethol, roedd Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad Sir Ddinbych yn
gweithio’n agos gyda’r llywodraeth ar y lefelau cymhwysedd a fyddai’n
ffurfio rhan o’r Fframwaith;
- cadarnhau bod y Gwasanaeth yn ddrud
i’w ddarparu ar benwythnosau, oherwydd y nifer isel a oedd yn manteisio
arno, oherwydd bod Rheoliadau Gweithwyr Sy'n Gweithio Ar Eu Pen Eu Hunain
yn gofyn bod dau berson yn gorfod bod ar gael bob amser, hyd yn oed pan
oedd y galw’n isel. Gyda’r bwriad o leihau costau ar gyfer darparu dros y penwythnos,
roedd y Gwasanaeth yn archwilio’r opsiynau posibl gyda phartneriaid eraill
i weld a oedd modd lleoli gweithredwr canolbwynt Un Pwynt Mynediad yn un
o’u hadeiladau i ddarparu cyflenwad dros y penwythnos h.y. Gwasanaeth y Tu
Allan i Oriau yn Ysbyty Glan Clwyd. Os oedd hyn yn bosibl, roedd ganddo’r
potensial i haneru'r costau staff gan mai dim ond un aelod o staff a
fyddai'n gorfod bod ar ddyletswydd yn ystod cyfnodau tawelach; a
- chadarnhau na fyddai’n bosibl i
weithredwyr canolbwynt Un Pwynt Mynediad ddarparu’r gwasanaeth Gwybodaeth,
Cyngor a Chymorth o’u cartrefi eu hunain yn unol ag arferion gweithio’n hyblyg,
gan y byddai angen mynediad arnynt at systemau TG partneriaid, yn cynnwys
systemau GIG diogel, yn ogystal â systemau TG y Cyngor.
Ar ddiwedd y
drafodaeth, tynnodd aelodau sylw at y ffaith y gallai pobl ganfod eu hunain yn
ofalwyr yn ogystal â bod yn breswylwyr yn sydyn iawn, a fyddai o bosibl yn
trawsffurfio eu bywydau’n llwyr. Roedd gwybodaeth a gwasanaethau a ddarparwyd yn dilyn un galwad i’r
Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad yn amhrisiadwy i’r preswylwyr hynny a helpodd i
ysgafnhau baich eu cyfrifoldebau.
Yn dilyn
trafodaeth fanwl, canmolodd y Pwyllgor y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad a’i staff
am y gwasanaeth a’r wybodaeth a roddwyd ganddynt:
Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod -
(i)
llongyfarch y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad am y gwasanaethau rhagorol roedd
wedi’u rhoi;
(ii)
parhau i gefnogi a hyrwyddo
datblygiad y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad fel ffordd o ddiwallu blaenoriaethau
corfforaethol 2017-22 a’r ddyletswydd statudol i ddarparu Gwasanaethau
Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; a
(iii)
derbyn gwahoddiad i ymweld â’r Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad i weld drostynt
eu hunain sut roedd y model darparu gwasanaeth yn gweithredu.
Dogfennau ategol: