Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYNNYDD - STRATEGAETH GOFALWYR SIR DDINBYCH 2016-19

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Comisiynu ar gyfer y Gwasanaeth Gofalwyr (copi ynghlwm) i ddarparu gwybodaeth ynghylch cynnydd ar ddatblygu’r Strategaeth.

10.50 a.m. – 11.30 a.m.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol gan ei fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd yn flaenorol), a roddodd ddiweddariad i aelodau ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yn hyn i ddarparu’r strategaeth tair blynedd, a rhoddodd wybod i’r Pwyllgor am ddatblygiadau sylweddol eraill yn ymwneud â gwasanaethau gofalwyr.   Yn ystod ei chyflwyniad, dywedodd yr Aelod Arweiniol y daethpwyd â ffaith i’w sylw mewn cynhadledd genedlaethol ddiweddar, lle nodwyd bod yna 370,000 o ofalwyr di-dâl wedi’u hamcangyfrif yng Nghymru’n unig.  Roedd y gofalwyr hyn yn arbed miliynau o bunnoedd i Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o'r naill flwyddyn i'r llall, felly roedd yn allweddol eu bod yn cael cymaint o gefnogaeth â phosibl yn eu swyddogaethau fel gofalwyr. 

 

Tynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol sylw'r aelodau at y fersiwn wedi'i ddiweddaru o Gynllun Gweithredu Strategaeth Gofalwyr Sir Ddinbych, a oedd yn amgaeedig yn Atodiad 1 o’r adroddiad, gan roi gwybod bod y mwyafrif o gamau gweithredu a restrwyd wedi’u dyfarnu â statws COG Gwyrdd, a oedd yn golygu eu bod naill ai wedi’u cyflawni neu ar y trywydd cywir i gael eu cyflawni, roedd gan rai statws COG melyn a oedd yn golygu eu bod yn dal ar y gweill, tra bod un gyda statws COG ‘coch’.  Roedd yr un diwethaf yn ymwneud â chynnig i archwilio'r buddion o ddatblygu 'model cynhadledd deuluol' i ddelio â sefyllfaoedd mewn Gwasanaethau Oedolion, yn debyg i’r model gweithredu llwyddiannus yng Ngwasanaethau Plant.  Er bod y Gwasanaeth yn dal yn cynllunio i archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu’r model hwn, roedd y gwaith wedi’i ohirio ar hyn o bryd oherwydd bod angen blaenoriaethu gofynion eraill a gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth wybod bod darpariaeth gyffredinol o’r Strategaeth yn mynd yn dda, er nad oedd unrhyw arian newydd neu ychwanegol i ddatblygu gwasanaethau gofalwyr.  Roedd yna deimlad cyffredinol ymhlith gofalwyr, a’r rhai roeddent yn gofalu amdanynt, eu bod yn cael gwell cefnogaeth nawr nag yn y gorffennol, ac yn gallu cael mynediad at wasanaethau neu gymorth os oeddent eu hangen. 

 

Yn Atodiad 2 yr adroddiad, roedd crynodeb o ganfyddiadau astudiaeth ddiweddar o gynnydd a wnaed yn genedlaethol i weithredu gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan eu bod yn ymwneud â gwasanaethau Gofalwyr, yn cynnwys sefyllfa gyfredol Sir Ddinbych mewn perthynas â phob ‘canfyddiad’.  Roedd yr Atodiad hwn hefyd yn amlinellu materion eraill a oedd yn ymwneud â Gofalwyr, yr oedd gofyn i'r Cyngor eu hystyried a'u harchwilio ymhellach.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau, rhoddodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Gwasanaeth a Swyddog Comisiynu Gwasanaethau Gofalwyr roi gwybod bod:

  • anghenion gofalwyr ifanc yn y Gwasanaeth Addysg bellach yn cael mwy o sylw, gyda chamau gweithredu a oedd yn cael eu nodi fel rhan o Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Gofalwyr mewn perthynas â gofalwyr ifanc yn cael eu hymgorffori yng nghylch gwaith nifer o weithgorau iechyd ac addysg;
  • roedd y gwaith i hyrwyddo a chyflawni modiwlau e-ddysgu ynghylch goblygiadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 o ran gofalwyr i staff Bwrdd Iechyd yn mynd rhagddo, a byddai’n parhau, gan fod gan y Gwasanaeth gyfradd trosiant staff uchel, ac o ganlyniad, byddai angen hyfforddiant parhaus;
  • er bod cynrychiolydd o fenter gymdeithasol Mary Dei yn parhau i fod yn y Grŵp Strategaeth Gofalwyr, roedd y fenter ei hun yn dal i ystyried ei chyfeiriad yn y dyfodol, er ei bod yn dal i ragweld gwaith i gefnogi gofalwyr;
  • er ei bod yn cael ei ystyried yn fuddiol i grwpiau gwirfoddol a gafodd eu cynrychioli ar y Grŵp Strategaeth Gofalwyr gael cynllun busnes, nid oedd yn cael ei ystyried yn ofyniad gorfodol.  Fodd bynnag, gallai grwpiau gwirfoddol a oedd eisiau arweiniad ar sut i ddatblygu cynllun busnes gysylltu â Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych am arweiniad a chefnogaeth i ddatblygu cynlluniau;
  • roedd gweithdy wedi’i gynnal 7 Rhagfyr 2017 o dan nawdd Tîm Cydweithredu Rhanbarthol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, i geisio cytuno ar ffordd ymlaen i ddylunio a darparu gwasanaethau gofalwyr ar draws y rhanbarth.  Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar beth oedd yn gweithio’n dda ar hyn o bryd a sut y gallai partneriaid weithio’n well i gyfrannu tuag at les gofalwyr.  Er byddai’n beth amser eto cyn y byddai cynllun cyson ar draws Gogledd Cymru i gefnogi gofalwyr neu ar gyfer trefniadau cyd-gomisiynu, byddai gwaith yn parhau mewn ymgais i ddarparu'r gefnogaeth ofynnol i ofalwyr; 
  • mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor mewn cyfarfod cynharach y dylid archwilio’r buddion o ddarparu Cardiau Hamdden i ofalwyr ifanc, roedd rhinweddau’r cynnig hwn wedi’i archwilio gyda Gwasanaethau Hamdden a Phlant y Cyngor, a gyda Gofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych.  O ganlyniad, roedd cytundeb wedi’i gyrraedd mewn egwyddor i ddarparu Cardiau Hamdden i ofalwyr ifanc.  Roedd opsiynau posibl neu gyfuniad o opsiynau i ddarparu’r cardiau hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd;
  • oherwydd y rhwymedigaethau statudol a oedd gan y Cyngor nawr tuag at ofalwyr, roeddent wedi cael mwy o sylw yn y Cynllun Corfforaethol newydd, o dan y flaenoriaeth Cymunedau Mwy Gwydn; a
  • thra bod yna arian heb ei wario ar hyn o bryd yn y Grant Seibiant i Ofalwyr wedi’i ddynodi ar gyfer Gwasanaethau Gofalwyr, roedd cynlluniau i ddefnyddio’r cyfan cyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Gareth Davies, gweithiwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sicrwydd i’r Pwyllgor y bu newid mewn diwylliant yn y Bwrdd Iechyd o ran hyfforddiant staff, gyda gormod yn tanysgrifio ar gyfer y cyrsiau'n rheolaidd nawr, a chamau disgyblu'n cael eu cymryd yn erbyn staff nad oedd yn bresennol mewn cyrsiau gorfodol.  Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(i)           cefnogi’r dull a gymerir gan bartneriaid yn Sir Ddinbych i barhau i gydweithio i ddatblygu cymorth i Ofalwyr yn Sir Ddinbych ymhellach, o fewn cyd-destun o gynnydd mewn galw, deddfwriaeth newydd a newidiadau demograffig;

 

(ii)           parhau i gefnogi a hyrwyddo cyflawniadau'r Strategaeth er mwyn i Wasanaeth Cymorth Cymunedol Sir Ddinbych ddiwallu ei oblygiadau statudol ar gyfer Gofalwyr, mewn perthynas â phartneriaid statudol a thrydydd sector; a

 

(iii)         chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les a gwblhawyd yn gynharach yn y flwyddyn, fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: