Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN LLES BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH 2018-2022

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) i’r Pwyllgor dderbyn a chytuno ar yr adroddiad ac ymateb fel ymgynghorai statudol.

10.10 a.m. – 10.50 a.m.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol gan ei fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a Chynllun Lles drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych 2018-2022 (a gylchredwyd yn flaenorol) gan y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, gan ddirprwyo ar ran yr Arweinydd a oedd i ffwrdd ar apwyntiad arall.  Yn ystod ei gyflwyniad, rhoddodd friff i’r Pwyllgor ar gefndir sefydliad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ei aelodau, pwrpas a chylch gwaith, cyn cyflwyno’r Cynllun Lles drafft i aelodau.  Rhoddodd wybod i’r Pwyllgor bod y Cynllun drafft, a oedd wedi’i ddatblygu’n defnyddio dull tebyg i Gynllun Corfforaethol y Cyngor ei hun, wedi’i gyhoeddi yn ddiweddar ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, a bod y Pwyllgor yn un o'r ymgyngoreion statudol, yr oedd yn ofynnol i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ymgynghori ag ef ar ei gynlluniau arfaethedig, a dyna pam roedd y Bwrdd yn ceisio ei safbwyntiau ar y saith cwestiwn ymgynghoriad a restrwyd yn yr adroddiad a’r Cynllun drafft. Byddai’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn rhedeg am gyfnod o ddeuddeg wythnos, ac ar y diwedd byddai pob sefydliad partner yn mynd â’u Cynllun drwy eu cyrff gwneud penderfyniadau dynodedig.  Yn Sir Ddinbych, byddai’r Cyngor llawn yn ystyried ac yn cymeradwyo’r Cynllun terfynol gobeithio yn Chwefror 2018.

 

Yn ystod y cyflwyniad, dywedodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol fod Cyngor Sir Ddinbych yn cael ei annog gan y cysylltiadau rhwng y chwe blaenoriaeth yng Nghynllun Lles drafft y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2018-2022 a’r pum blaenoriaeth yng Nghynllun Corfforaethol 2017-2022 y Cyngor ei hun. Gan ymateb i gwestiynau aelodau, rhoddodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion wybod:

  • bod y Cynllun ei hun yn ddogfen strategol lefel uchel sy’n nodi amcanion a dyheadau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am y pum mlynedd nesaf.  Byddai’n cael ei ategu gan gynlluniau darparu traws-sefydliadol manwl ar gyfer sut y byddai’r amcanion hyn yn cael eu cyflawni;
  • tra nad oedd y flaenoriaeth sy’n ymwneud â ‘Hyrwyddo Gwytnwch mewn Pobl Hŷn’ yn crybwyll lles corfforol yn benodol, byddai’r nod o adeiladu gwytnwch ymhlith pobl hŷn yn cynnwys lles corfforol a meddyliol, a sicrhau eu bod wedi'u cysylltu'n gymdeithasol ac nid yn dioddef o arwahanrwydd.   Roedd yn rhan o’r ‘agenda atal’ cyffredinol;
  • yn yr un modd, mewn ymgais i leihau gordewdra, yn enwedig gordewdra mewn plant, roedd addysg ac atal yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf yn cael ei ystyried yn allweddol er mwyn meithrin arferion da am oes;
  • roedd atal yn nodwedd allweddol ar gyfer Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gyda’r ddwy yn pwysleisio’r angen i bob unigolyn gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a'u lles eu hunain;
  • er bod pobl yn rhydd i wneud eu dewisiadau bywyd eu hunain, er mwyn diogelu digon o adnoddau i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, roedd angen llunio strategaeth gyfathrebu effeithiol i ‘werthu’ buddion dewisiadau bywyd synhwyrol a’r dull atal i breswylwyr.   Roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi ar hyn o bryd i gysylltu â’r gwaith a wnaed gan Brifysgol Bangor ar gyfraddau ymddygiadol a sut i newid ffocws cyfathrebiadau corfforaethol o bwysleisio effaith negyddol ymddygiad, i dynnu sylw at yr effeithiau cadarnhaol a chyflawniadau ymddygiad ac arferion newidiol h.y. faint roedd preswylwyr wedi’u cyflawni drwy ailgylchu mwy o wastraff ac ati;
  • roedd angen annog ymarferwyr meddygol i hyrwyddo argaeledd gweithgareddau corfforol neu gymdeithasol sy’n digwydd yn eu hardal, boed a ydynt wedi'u rhedeg gan yr awdurdod lleol, yn breifat neu gan wirfoddolwyr, fel ffordd ddi-feddygol o wella gwytnwch a lles;
  • tra bod casgliad Asesiad o Effaith ar Les ar effaith y Cynllun drafft yn nodi y byddai’r nod o gael ‘Conwy a Sir Ddinbych gyda diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy'n ffynnu’ yn niwtral, roedd hyn yn gysylltiedig â’r Cynllun ei hun.  Byddai pob prosiect unigol a fyddai’n cael ei ddatblygu’n cael ei asesu a’i fonitro’n unigol o ran ei effaith ar bob un o’r nodau lles unigol.  Rhagwelwyd pe gellid symud ymlaen â’r flaenoriaeth yn ymwneud â datblygu’r economi, gallai hyn o bosib wella cynaliadwyedd yr iaith a’r diwylliant yn yr ardal yn y dyfodol;
  • roedd yn annhebygol iawn y byddai unrhyw un o sefydliadau partner y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn penderfynu bod yn erbyn cymeradwyo'r Cynllun Lles ddechrau 2018, gan fod pob sefydliad unigol wedi bod ynghlwm wrth ei ddatblygiad ers y cychwyn cyntaf; a
  • bod y pŵer i weithredu’r blaenoriaethau a restrir yn y Cynllun Lles gyda sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus sy’n aelodau o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, h.y. drwy eu cynlluniau strategol, yn Sir Ddinbych, ei Chynllun Corfforaethol.  Byddai llwyddiant darpariaeth o’r Cynllun yn dibynnu ar waith effeithiol rhwng pob sefydliad partner a sianeli cyfathrebu clir.  Cafodd y pwerau i weithredu’r Cynllun eu hamodi yn Neddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a oedd yn rhoi dyletswydd ar sefydliadau sector cyhoeddus mewn ardal ddaearyddol i gydweithio i wella canlyniadau preswylwyr.

 

Yn ystod y cyfarfod, cododd gynghorwyr bryderon am sut roedd gor-yfed a'i gorwneud hi efo alcohol yn cael ei bortreadu'n beth 'normal' ar byrth cyfryngau amrywiol, ac felly'n hygyrch i bob oedran ar bob adeg o’r dydd.   Cynigiodd y Swyddogion godi’r pryderon hyn gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru gan fod addysg o ran alcohol, tybaco a chamddefnyddio sylweddau'n ffurfio rhan o'i waith, fel yr oedd bwyta'n iach ac ati.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurder ynghylch ai cyfnod y Cynllun Lles oedd 2018-2022 fel y nodwyd yn yr adroddiad eglurhaol, neu 2018-2023 fel y nodwyd yn y Cynllun drafft, a phwysleisiwyd yr angen i flaenoriaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru adlewyrchu ac ategu at y rhai a geir gan awdurdodau lleol a chyrff gwasanaeth cyhoeddus ar draws Cymru, er mwyn gwireddu'r lles gorau wrth eu cyflawni.  Yn ogystal, gofynasant fod y fersiwn Cymraeg o’r Cynllun yn cael ei brawf ddarllen a’i wirio’n drylwyr ar gyfer gwallau argraffyddol cyn cyhoeddi’r fersiwn terfynol.

 

Cyn y daeth y drafodaeth i ben, rhoddodd y Cydlynydd Archwilio wybod i’r Pwyllgor bod y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio wedi gofyn i swyddogion ymchwilio i opsiynau posibl ar gyfer archwilio'r Bwrdd yn y dyfodol, yn cynnwys y manteision a'r anfanteision o gynnal yr archwiliad ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fel rhan o'i waith i archwilio dulliau effeithiol o archwilio'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Roedd y gwaith hwn yn y camau cynnar iawn ar hyn o bryd.  Byddai adroddiad ar opsiynau posibl yn cael ei gyflwyno i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio i'w ystyried maes o law, ac yn ei grŵp cyfatebol yng Nghyngor Conwy.  Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

Penderfynwyd:

 

(i)           yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn a chefnogi'r adroddiad a Chynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych 2018-2023;

 

(ii)           mewn ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad, mae’n dymuno rhoi gwybod i’r Bwrdd ei fod:

·          wedi cytuno a chefnogi’r Blaenoriaethau Lles yr oedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ceisio eu gwireddu’n llwyr;

·         o’r farn bod cryfder pŵer cyfunol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i wneud gwahaniaeth yn codi drwy gydweithrediad effeithiol, cronni adnoddau, a chyfathrebiad rhwng bob partner a phreswylydd i hybu'r strategaeth ymyrryd/ymyrraeth gynnar, gyda'r bwriad o liniaru problemau rhag gwaethygu'n rhai mwy cymhleth a dwys yn y dyfodol;

·         o’r farn y dylai'r Bwrdd ganolbwyntio ar flaenoriaethau ‘Cefnogi 1,000 Diwrnod Cyntaf Bywyd’ a ‘Magu Pobl Ifanc Gwydn ac Uchelgeisiol’ (yn cynnwys pob plentyn o oedran ysgol) i ddechrau;

·         ddim o’r farn bod unrhyw beth yn y cynllun drafft angen ei newid;

·         o’r farn nad oedd unrhyw elfennau mawr wedi'u hepgor o'r Cynllun, ond byddai'n cael ei gryfhau ymhellach pe bai pwysigrwydd arwain ffordd o fyw iach (yn cynnwys peryglon tybaco a chamddefnyddio sylweddau, buddion teithio llesol ac ati), yr angen i gael cyfleusterau hamdden fforddiadwy i bawb, ac amcan o annog ymarferwyr meddygol i ragnodi diddordeb hamdden a chymdeithasol fel ffordd o wella iechyd a lles, yn cael eu cyfeirio'n benodol atynt yn y Cynllun;

·         yn teimlo y byddai cyfathrebu rheolaidd ac effeithiol am y Cynllun a gwaith y Bwrdd yn allweddol er mwyn parhau i ymgysylltu â phreswylwyr a gwireddu darpariaeth y Cynllun; ac

·         ei fod o’r farn y dylai archwilio Cynllun Corfforaethol y Cyngor a gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn effeithiol, helpu i sicrhau y cyflawnir y Cynllun Lles.

 

(iii)         er mwyn cydweithredu’n effeithiol, mae angen ymgorffori blaenoriaethau a gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng ngwaith Cyngor Sir Ddinbych (ac i’r gwrthwyneb), drwy gysylltiadau Cynllun Corfforaethol y Cyngor a Chynllun Lles y Bwrdd; a

 

(iv)        yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad B) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

 

Dogfennau ategol: