Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG 2017-2020

Ystyried adroddiad gan Brif Reolwr Cefnogi Addysg (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2017 – 2020 a manylu ar y gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma cyn cael cymeradwyaeth ffurfiol gan Lywodraeth Cymru.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Reolwr Cymorth Addysg adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i gyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017 - 2020 y Cyngor a oedd yn dangos sut byddai’r canlyniadau a’r targedau a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni. Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar waith a wnaed hyd yma wrth aros am gymeradwyaeth ffurfiol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun drafft.

 

Roedd yr oedi o ran cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun wedi achosi rhwystredigaeth ond disgwyliwyd y byddai cymeradwyaeth yn dod yn y Flwyddyn  Newydd a byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’w gymeradwyo wedyn.  Roedd y Cynllun yn canolbwyntio ar wella sgiliau, yn enwedig cyfathrebu ar lafar a dealltwriaeth ac roedd yn gweithio tuag at y canlyniadau a ganlyn -

 

·         mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

·         mwy o ddysgwyr yn parhau i wella eu sgiliau iaith wrth drosglwyddo o ysgol gynradd i ysgol uwchradd

·         mwy o fyfyrwyr 14 - 16 oed yn astudio ar gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg

·         mwy o fyfyrwyr rhwng 14 - 19 oed yn astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion, colegau a dysgu seiliedig ar waith

·         mwy o fyfyrwyr gyda sgiliau uwch yn y Gymraeg

·         darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol

·         cynllunio’r gweithlu a datblygiad proffesiynol parhaus

 

Eglurwyd rôl y Grŵp Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg o ran cefnogi a monitro gweithredu’r Cynllun a darparwyd manylion aelodaeth y Grŵp.  Byddai’r gwaith sy’n cael ei wneud yn cyfrannu at Lywodraeth Cymru yn cyflawni ei darged o un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac roedd gan ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg ran i’w chwarae.  Fodd bynnag, roedd canfyddiad bod y Cynllun yn ymwneud ag ysgolion cyfrwng Cymraeg yn unig ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i ymgysylltu ac annog cyfranogiad ysgolion cyfrwng Saesneg – roedd cynyddu swm ac ansawdd Cymraeg a addysgir mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn amcan allweddol.  Yn olaf, tynnwyd sylw aelodau at y gyfradd ymateb siomedig i’r ymgynghoriad ar y Cynllun drafft, er gwaethaf sylw helaeth, ac roedd her wrth greu’r cynllun nesaf i sicrhau rhagor o fewnbwn a rhagor o ymateb gan fudd-ddeiliaid.

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·         cydnabuwyd pwysigrwydd datblygu sgiliau ar gam cynnar i wella cynnydd, ynghyd â’r heriau o sicrhau bod systemau priodol ar waith ar gyfer hwyrddyfodiaid i ysgolion i sicrhau eu llwyddiant.

·         nid oedd tystiolaeth amlwg i awgrymu bod disgyblion yn symud o ysgolion cyfrwng Cymraeg i ysgolion cyfrwng Saesneg i astudio ar gyfer cymwysterau Safon Uwch nac unrhyw ddata i ddangos bod disgyblion yn cyflawni graddau is wrth iddynt gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar y lefel honno. 

Roedd y penderfyniad o ran lle i astudio i lawr i ddewis rhieni.  Fodd  bynnag nodwyd bod rhai pynciau yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig mewn rhai lleoliadau ac roedd disgyblion yn trosglwyddo o un ysgol i’r llall gan ddibynnu ar yr amrywiaeth o bynciau sydd ar gael.

·         roedd rhywfaint o drafodaeth yn canolbwyntio ar gategoreiddiad iaith ysgolion penodol a dywedwyd wrth aelodau fod nifer y plant a oedd yn parhau ag addysg cyfrwng Cymraeg yn dilyn trosglwyddo o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd yn cael ei fonitro gan Grŵp Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ac roedd swyddogion yn datblygu strategaeth farchnata i sicrhau bod rhieni yn gwbl ymwybodol o’r ffeithiau wrth ddewis ysgol uwchradd i’w plentyn gyda bwriad o hyrwyddo’r cynnig Cymraeg – nod y grŵp Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg oedd nid colli disgyblion o’r ffrwd Gymraeg ar lefel uwchradd; o ran Ysgol Brynhyfryd, cadarnhaodd swyddogion fod y ffrwd ‘N’ wedi’i dileu gan adael y ffrydiau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.

·         er ei bod yn bwysig i’r Pwyllgor fod yn ymwybodol o’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, cyfrifoldeb y Grŵp Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg oedd cefnogi a monitro ei weithredu. 

Fodd bynnag, byddai croeso i aelodau fynychu cyfarfod y Grŵp yn y dyfodol ac arsylwi lefel y drafodaeth, roedd manylion hyn yn cael eu darparu yn y cyfarfod. 

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn (11.15 a.m.) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: