Eitem ar yr agenda
DATBLYGU STRATEGAETH CYNNAL A CHADW PRIFFYRDD
Ystyried adroddiad
(copi wedi’i hamgáu) yn egluro
tueddiadau cyflwr ffyrdd
ers dechrau’r
Cynllun Corfforaethol blaenorol (2012 – 2017) a chyflwyno
dealltwriaeth o'r
ffordd mae'r gwasanaeth yn cynnig
defnyddio’r gyllideb sydd
ar gael yn ystod cyfnod y Cynllun Corfforaethol nesaf (2017 – 2022).9:35 a.m
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Datblygu Cynaliadwy a
Phennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol adroddiad y Rheolwr Asedau
Priffyrdd a Risg (a gylchredwyd ymlaen llaw) i ddarparu gwybodaeth i’r Pwyllgor
am effeithiolrwydd y buddsoddiad sydd wedi ei wneud i wella a chynnal
rhwydwaith ffyrdd y sir dan y Cynllun Corfforaethol blaenorol a’r strategaeth
arfaethedig ar gyfer parhau i fuddsoddi yn y rhwydwaith yn ystod cyfnod y
Cynllun Corfforaethol newydd. Dywedodd yr Aelod Arweiniol, ers cael ei benodi
i’r Cabinet, ei fod wedi ymweld â phob ardal yn y sir i sgwrsio gyda thrigolion
a busnesau am eu pryderon ynghylch materion priffyrdd penodol yn eu hardaloedd.
Drwy gyflwyniad PowerPoint bu i’r Rheolwr Asedau Priffyrdd a Risg ddarparu
gwybodaeth am gyflwr presennol priffyrdd y sir a strategaeth arfaethedig y
gwasanaeth ar gyfer ei gynnal a’i gadw yn y dyfodol. Yn ystod y cyflwyniad:
·
Dywedwyd
bod hyd ffyrdd Dosbarth A, B, C a di-ddosbarth y sir yn 1415.7km (nid yw'r tair
cefnffordd wedi eu cynnwys gan mai Is-adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru sy’n
gyfrifol am gostau eu cynnal a’u cadw)
·
Soniwyd
am y methodolegau ar gyfer asesu ac adrodd ar gyflwr priffyrdd, achosion
methiannau yn y briffordd a’r gwaith ymyrraeth/atal i fynd i’r afael â
methiannau ac i ddiogelu rhag dirywiad pellach.
Pwysleisiwyd bod y dangosydd cenedlaethol mewn perthynas ag asesiadau cyflwr
priffyrdd, a wneir drwy'r dull Scanner, yn berthnasol i 32% o ffyrdd Sir
Ddinbych yn unig. O ganlyniad, mae’r Awdurdod wedi datblygu ei ddull gweledol
ei hun i werthuso cyflwr holl ffyrdd y sir. Mae’r dull hwn yn ddefnyddiol dros
ben ar gyfer ffyrdd nad ydynt yn rhan o ddull Scanner. Dangoswyd enghreifftiau
o'r dull hwn fel rhan o'r cyflwyniad a darparwyd ystadegau i ddangos sut mae
cyflwr y rhwydwaith wedi gwella bob blwyddyn rhwng 2011 a 2017
·
Mae cyflwr ffyrdd y sir
wedi gwella a’r pryderon i’r dyfodol yw gallu ariannol y Cyngor i barhau i
fuddsoddi mewn gwelliannau a gwaith atgyweirio, prosiectau gwaith draenio a
chynaliadwyedd gwaith atgyweirio yn y tymor canolig a’r hirdymor. Mae’r risg yn
sgil cyfyngiadau ariannol yn gallu peryglu perfformiad yr Awdurdod mewn
perthynas â dangosyddion perfformiad cenedlaethol cyflwr ffyrdd.
·
Y dull arfaethedig ar
gyfer cyfnod y Cyngor newydd yw ceisio cadw a chynnal cyflwr presennol y
rhwydwaith (o leiaf). Mae’r dull hwn yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd
lefelau presennol o gyllid cyfalaf a refeniw yn aros fel ag y maent. Bydd
ffyrdd, yn sgil lefelau defnydd ac effaith y tywydd, yn dirywio’n barhaus. Fodd bynnag, rhagwelir, drwy fabwysiadu dull
ataliol i waith atgyweirio, defnyddio cyllid refeniw yn arloesol, gweithio’n
agosach gyda gwasanaethau eraill a gwneud trefniadau priodol er mwyn gwneud y
mwyaf o’r cyllid sydd ar gael, y bydd y Cyngor yn gallu cadw'r rhwydwaith fel y
mae yn ei gyflwr presennol.
·
Byddwn yn gwneud cais am
gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr.
Wrth ymateb i gwestiynau’r Aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol a’r
swyddogion perthnasol y sylwadau canlynol:
·
Eglurwyd yr anawsterau
technegol wrth osod y lefelau cywir wrth ail-osod gylïau fel rhan o waith
cynnal a chadw priffyrdd
·
Pwysleisiwyd bod yn rhaid
i’r Cyngor fuddsoddi yn ei rwydwaith priffyrdd neu mi fydd yr holl welliannau dan
Gynllun Corfforaethol 2012-17 yn cael eu colli
·
Cadarnhawyd y byddant yn
parhau i lobio Llywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr. Yn
y cyfamser mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i gadw ffyrdd mewn cyflwr ‘diogel’ i
sicrhau diogelwch y defnyddwyr.
·
Cadarnhawyd bod yr
amcangyfrif cost yn Atodiad 1 yn cynnwys yr holl gostau sy’n ymwneud â gwaith
cynnal a chadw priffyrdd, gan gynnwys costau paratoi a chostau sy’n
gysylltiedig â gwaredu deunyddiau gwastraff
·
Eglurwyd bod rhywfaint o’r
gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud yn fewnol ond bod y rhan fwyaf yn cael
ei wneud gan gontractwyr preifat ar restr y Cyngor o gontractwyr cymeradwy. Gan
fod y contractwyr hyn ar y fframwaith mae eu gwaith dan warant a byddai unrhyw
broblem yn cael ei ddatrys dan eu cytundeb gyda’r Cyngor. Mae’r fframwaith yn
darparu sicrwydd ansawdd i’r Cyngor.
·
Mae gofyn i gwmnïau
gwasanaeth cyhoeddus roi rhybudd ymlaen llaw i’r Cyngor os ydynt yn bwriadu
gwneud unrhyw waith sy’n golygu cloddio’r briffordd. Mae ganddynt hefyd rwymedigaeth
gyfreithiol i sicrhau eu bod yn gadael y briffordd yn ei chyflwr gwreiddiol ar
ôl gorffen eu gwaith. I sicrhau bod yr holl ofynion yn cael eu bodloni bydd
swyddogion y Cyngor yn archwilio cyflwr y briffordd ddwywaith ar ôl i’r cwmni
orffen y gwaith. Ar y cyfan, mae cyflwr ffyrdd ar ôl gwaith cwmnïau gwasanaeth
cyhoeddus yn well na’u cyflwr cyn i’r gwaith ddechrau.
·
Cadarnhawyd
bod modd i gwmnïau gwasanaeth cyhoeddus ail-wynebu ffordd ar ôl gwaith gydag
arwynebedd dros dro am hyd at chwe mis h.y. oherwydd cost asffalt. Gallan nhw
wedyn swmp-brynu’r deunydd i’w ddefnyddio ar gyfer sawl prosiect sy’n rhoi mwy
o werth am arian iddynt, ac felly mae’n fwy economaidd iddynt gwblhau nifer o
brosiectau ar yr un pryd
·
Eglurwyd mecanwaith
arolygu SCRIM ar gyfer mesur gwrthiant sgidio ar ffyrdd, ac amlygwyd nifer o
brosiectau cynnal a chadw lle’r oedd y dull hwn yn ddefnyddiol iawn
·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd
ansawdd y broses ‘cau uniadau’ wrth ymgymryd â gwaith cynnal a chadw er mwyn
atal dirywiad pellach yn ffabrig y briffordd
·
Cadarnhawyd y byddai
amserlenni gwaith cynnal a chadw priffyrdd lleol yn cael eu trafod yn ystod
cyfarfodydd y Grwpiau Ardal Aelodau perthnasol. Mae amserlenni gwaith yn cael
eu llunio yn seiliedig ar y risgiau i ddefnyddwyr y ffordd. Hefyd, mae gylïau a
ffosydd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer clirio a gwagio yn seiliedig ar y
risg i breswylwyr, busnesau a difrodi i’r briffordd
·
Rhoddwyd gwybod i’r
Pwyllgor bod hawliadau trydydd parti yn erbyn yswiriant y Cyngor oherwydd
difrod a achoswyd yn sgil cyflwr ffyrdd yn fychan iawn. Anaml iawn y mae’n
rhaid i gwmni yswiriant y Cyngor dalu allan i hawlwyr trydydd parti. Mae’r
sefyllfa yn un debyg o ran llwybrau, palmentydd a llwybrau troed. Fodd bynnag,
nid ydynt yn ffurfio rhan o’r strategaeth arfaethedig ar gyfer Cynnal a Chadw
Priffyrdd, byddai'r gwaith cynnal a chadw hwn yn amodol ar gais ariannol i'r
Grŵp Buddsoddi Strategol.
·
Cadarnhawyd y byddai
swyddogion Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol yn gwneud pob ymdrech i weithio
gyda staff Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a datblygwyr i gael y budd mwyaf i’r
Cyngor, y gwasanaeth a’r rhwydwaith ffordd yn gyffredinol drwy sicrhau
cytundebau Adran 278 effeithiol gyda cheisiadau cynllunio
·
Cynghorwyd bod cyrbau isel
bellach yn cael eu hystyried fel mater o drefn pan fo angen gwneud unrhyw waith
cynnal a chadw, gyda chyrbau isel yn cael eu creu pan fo’n ddiogel ac yn
briodol gwneud hynny
·
Yn ystod ymarfer ‘Sgwrs y
Sir’ i dderbyn barn preswylwyr am y Cynllun Corfforaethol a’r Cynllun Lles
newydd, mai ychydig iawn o bobl a soniodd am gyflwr ffyrdd y sir. Mae hyn o
bosibl yn dangos bod preswylwyr ar y cyfan yn fodlon ar eu cyflwr
·
Anogwyd Aelodau i roi
gwybod am unrhyw broblem sy’n cael ei dwyn i’w sylw o ran cyflwr priffyrdd,
gylïau a ffosydd ac ati, sydd angen gwaith cynnal a chadw neu glirio/gwagio ac
ati, drwy gysylltu â Chanolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid y Cyngor, a fydd wedyn
yn atgyfeirio’r broblem i’r gwasanaeth
Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn credu y dylid cysylltu â Llywodraeth Cymru i
ofyn am gymorth ariannol i ymgymryd â sawl prosiect gwella priffyrdd. Mae rhai
prosiectau eisoes wedi eu cwmpasu a’u dylunio ond, oherwydd cyfyngiadau
ariannol, yn amhosibl eu cyflawni yn y tymor byr a chanolig. Teimlodd y
Pwyllgor y dylid gwahodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi
a Thrafnidiaeth i gwrdd â’r Pwyllgor yn y flwyddyn newydd i drafod cyllid
priffyrdd ar gyfer y sir.
Roedd y Pwyllgor hefyd yn credu y dylai datblygiad ffordd osgoi Llanelwy
ymddangos ar raglen prosiectau’r Cyngor, oherwydd y byddai hyn yn gysylltiad
hanfodol rhwng gogledd a de’r sir a fyddai’n cefnogi datblygiad yr economi ar
draws y sir gyfan ac yn gwella incymau a ffyniant. Er bod y swyddogion yn
cytuno â’r angen am y ffordd gyswllt bwysig hon, bu iddynt rybuddio Aelodau y
gallai ardal arwyneb ffordd ychwanegol gynyddu rhwymedigaethau ariannol a
chyfreithiol y Cyngor o ran cynnal a chadw.
Cytunodd y swyddogion y byddai’n fuddiol rhoi gwybod i breswylwyr bod
cyflwr ffyrdd y sir wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diweddar. Teimlwyd
y byddai’n fuddiol petai hyn yn cael ei wneud fesul prosiect, gan ymddiheuro am
unrhyw anghyfleustra ac egluro pam bod y gwaith yn cael ei wneud a'r buddion
tymor hir ar gyfer preswylwyr a'r sir gyfan.
Ar ddiwedd y drafodaeth canmolodd y Pwyllgor y cynnig i ddatblygu
strategaeth cynnal a chadw priffyrdd ar gyfer cyfnod y Cyngor newydd. Wrth
gefnogi’r cynnig amlygwyd pryderon ynghylch ansawdd yr Asesiad o’r Effaith ar
Les a gynhaliwyd ar y cynnig. Er bod yr Aelodau yn teimlo bod ‘canlyniadau
cadarnhaol’ y cynnig wedi eu hasesu’n drylwyr, nid oeddynt yn credu bod digon o
sylw wedi ei roi i’r ‘canlyniadau negyddol anfwriadol’, ac felly nad oedd yr
asesiad yn hollol cyfannol. Bu i’r swyddogion gydnabod hyn a chadarnhau y
byddent yn diweddaru’r asesiad yn rheolaidd wrth i’r strategaeth a’r prosiectau
cysylltiedig ddatblygu.
PENDERFYNWYD: yn amodol ar y
sylwadau uchod -
(i) cefnogi’r dull a gynigir gan y gwasanaeth i gydbwyso’r risg o ffyrdd yn
dirywio yn erbyn yr adnoddau ariannol sydd ar gael yn ystod 2017-2022;
(ii) ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am gymorth ariannol ar gyfer
prosiectau gwella ffyrdd penodol y mae’r Cyngor yn cael trafferth eu hariannu yn
y sefyllfa ariannol galed sydd ohoni, a all effeithio ar ansawdd gyffredinol
rhwydwaith ffyrdd y sir a chael effaith niweidiol ar yr economi leol;
(iii)gwahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gyfarfod y
Pwyllgor i drafod cyllid ar gyfer priffyrdd Sir Ddinbych a gogledd Cymru;
(iv) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar
Les (Atodiad 3) fel rhan o’i ystyriaethau. Amlygwyd y dylai Asesiadau o'r
Effaith ar Les gynnwys asesiad mwy cyfannol ar effaith bosibl y cynigion, yn
arbennig o ran canlyniadau negyddol anfwriadol y cynigion ar y nodau lles.
Dogfennau ategol:
- Highway Strategy Report 071217, Eitem 5. PDF 214 KB
- Highway Strategy Report - App 071217, Eitem 5. PDF 493 KB