Eitem ar yr agenda
STRATEGAETH DDIGARTREFEDD SIR DDINBYCH 2017-21
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol ar gyfer Lles ac
Annibyniaeth (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer
Strategaeth Digartrefedd 2017-21 cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol
Rhanbarthol.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y
dylai’r Cabinet gymeradwyo’r Strategaeth Ddigartrefedd cyn ei chyflwyno i’r
Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ym mis Ionawr 2018, a’i gweithredu hyd at
2021.
Cofnodion:
Yn
absenoldeb y Cynghorydd Bobby Feeley, cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas yr
adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Strategaeth Ddigartrefedd
2017-21 cyn ei chyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol. Roedd y
Strategaeth yn amlinellu cynlluniau a chamau gweithredu'r Tîm Atal Digartrefedd
(a’i bartneriaid) i fynd i’r afael â digartrefedd a’i achosion.
Roedd
Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal
adolygiad o ddigartrefedd yn eu hardal a datblygu Strategaeth Ddigartrefedd yn
seiliedig ar ganfyddiadau'r adolygiad. Roedd y Strategaeth yn manylu ar chwe
blaenoriaeth strategol ar gyfer y 4 blynedd nesaf i fynd i’r afael â
digartrefedd yn Sir Ddinbych ac, yn y pen draw, i gael gwared ag o’n gyfan
gwbl, gydag ymrwymiad cadarn i ymyrryd yn gynnar ac atal. Roedd y Strategaeth wedi’i
datblygu ar ôl ymgynghori'n helaeth ac roedd wedi’i hystyried gan Bwyllgor
Archwilio Partneriaethau ym mis Tachwedd pan gafodd ei hargymell i’r Cabinet
i’w mabwysiadu.
Trafododd
y Cabinet yr adroddiad gyda swyddogion ac roeddent yn awyddus i ddeall effaith
diwygio'r gyfundrefn les ar ddigartrefedd a sut roedd Sir Ddinbych yn cymharu â
gweddill y wlad yn sgil y pwysau cynyddol a'r galw am wasanaethau, ynghyd â
mesurau i fynd i'r afael â phroblemau penodol, gan gynnwys yr effaith ar bobl
ifanc a theuluoedd.
Wrth
ymateb i gwestiynau’r aelodau, bu i’r swyddogion –
·
gadarnhau bod effaith fawr
wedi bod mewn ardaloedd lle roedd credyd cynhwysol wedi’i gyflwyno ac roedd y
Tîm Atal Digartrefedd, ynghyd â phartneriaid, yn gweithio i ddod o hyd i'r
grwpiau hynny a effeithiwyd er mwyn lliniaru effaith y newidiadau hyn gymaint â
phosib’ a darparu cyngor a chymorth yn gynnar
·
o ran galw cyffredinol, roedd yn
anodd cymharu ffigyrau yn sgil y newidiadau deddfwriaethol diweddar ond roedd
llawer o alw'n dal i fod, a oedd yn anodd ei ateb mewn rhai achosion
·
ymhelaethu ar ddefnyddio llai
o lety gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc a oedd yn dilyn datblygu Llwybr
Cadarnhaol Pobl Ifanc a defnyddio llety dros dro mwy addas a gwahanol opsiynau
·
pwysleisio pwysigrwydd y
sector rhentu preifat i ddiwallu anghenion o ran tai a datblygu cynnig i
landlordiaid, gan gynnwys taliadau anogaeth i landlordiaid, i gynyddu nifer y
tai a oedd ar gael i unigolion a theuluoedd a oedd yn ddigartref neu dan
fygythiad o fod yn ddigartref
·
trafod yr heriau wrth
gyfathrebu gyda’r 'rhai digartref cudd’ a’r rhai nad oeddent yn cydnabod eu
statws neu nad oeddent yn dymuno derbyn cymorth y gwasanaeth – roedd llawer yn
cael ei wneud drwy sawl rhaglen allgymorth ac ymateb gyda gwasanaethau hyblyg a
oedd wedi’u harwain gan anghenion unigolion; roedd offerynnau hunan-help ar y
we yn ddull arall ar gyfer y rhai nad oeddent yn dymuno cael cymorth
uniongyrchol
·
roedd y costau uwch ar ôl
cyflwyno Deddf Tai 2014 wedi’u cydnabod gan Lywodraeth Cymru yn y ddarpariaeth
o gyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf
·
prif sail y Strategaeth oedd
yr adolygiad o ddigartrefedd a gynhaliwyd yn 2016, a oedd yn gynhwysfawr iawn
ac a oedd yn arwain yn allweddol ar yr hyn yr oedd ei angen yn lleol, gan
fodloni gofynion cyfreithiol y Ddeddf ar yr un pryd
·
ymhelaethu ar y cysylltiadau
cryf a oedd rhwng adrannau, yn enwedig Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, a oedd â
rheolaeth reoleiddio dros safonau tai a landlordiaid ac a oedd wedi ysgogi
gwell ansawdd a disgwyliadau
·
cydnabod bod ymyrraeth gynnar
yn allweddol ac adrodd ar gamau i ymgysylltu ag unigolion a theuluoedd yn
gynnar i atal digartrefedd a fyddai, yn y dyfodol, yn cynnwys presenoldeb
ffisegol ar y rhiniog
·
roedd cyfeiriad mwy eglur tuag
at feini prawf ar gysylltiadau lleol wedi'u cynnwys yn y Strategaeth ar gais
Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gellid darparu copïau o Ganllawiau
Ailgysylltu Cefnogi Pobl i aelodau pe gofynnid am rai
·
cadarnhau bod diffyg taliadau
uniongyrchol i landlordiaid wedi arwain at beth amharodrwydd i ddarparu llety,
felly roedd angen ystyried taliadau anogaeth i landlordiaid yn rhan o
ddatblygiadau’r dyfodol
·
yn rhan o gynlluniau i atal
digartrefedd ymysg pobl ifanc, byddai gwaith addysgu mewn ysgolion a
darpariaethau eraill i bobl ifanc yn cael eu comisiynu i godi ymwybyddiaeth o’r
opsiynau tai sydd ar gael a gwirionedd a risgiau digartrefedd ac fe ddarparodd
y swyddogion eglurhad o'r llety seibiant mewn argyfyngau a oedd ar gael hefyd
·
o ran y dyfodol, cadarnhaodd y
swyddogion monitro y byddai adroddiad cynnydd ar weithredu’r strategaeth a
chyflawni Cynllun Gweithredu Atal yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Archwilio
Partneriaethau ym mis Mai 2018.
Dywedodd
Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol bod yr adroddiad wedi dyfynnu deddfwriaeth a
oedd wedi’i dirymu o dan yr adran ‘pŵer i wneud y penderfyniad’ a’r
pŵer cywir oedd Adran 50 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
PENDERFYNWYD
y dylai’r Cabinet gymeradwyo’r Strategaeth Ddigartrefedd cyn ei chyflwyno i’r
Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ym mis Ionawr 2018, a’i gweithredu hyd at
2021.
Dogfennau ategol: