Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RECRIWTIO PRIF WEITHREDWR

I ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd (copi ynghlwm) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor i recriwtio i rôl y Prif Weithredwr a chytuno ar y dull i’w gymryd yn y broses recriwtio.

 

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, gadawodd y Prif Weithredwr Siambr y Cyngor.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, Adroddiad Recriwtio'r Prif Weithredwr (a ddosbarthwyd yn flaenorol). 

 

Eglurodd y Cynghorydd Evans mai rôl y Cyngor oedd penodi Pennaeth Gwasanaethau Taledig ar gyfer Sir Ddinbych ac roedd cael y Prif Weithredwr cywir yn allweddol i gyflwyno enw da Sir Ddinbych, y diwylliant cywir o wneud penderfyniadau, cefnogi a datblygu staff i berfformio i'w potensial a diogelu swyddogion i wneud y penderfyniadau cywir. Pwysleisiodd wrth yr Aelodau mai hwn oedd un o'r penderfyniadau pwysicaf y byddent yn ei wneud i ddenu'r ymgeiswyr gorau i fod yn Brif Weithredwr Sir Ddinbych.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i'r Aelodau ei fod wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Panel Cydnabyddiaeth Sir Ddinbych a oedd yn grŵp gwleidyddol gytbwys o Aelodau. Cyfarfu'r Panel Cydnabyddiaeth ar 7 Tachwedd 2017 i ystyried pecyn cydnabyddiaeth arfaethedig ar gyfer y Prif Weithredwr newydd a oedd bellach wedi’i argymell i'r Cyngor i'w gymeradwyo.

 

Darparodd y pecyn cyflog arfaethedig radd gynyddol o dri phwynt gyda'r trefniadau Cyflog sy'n gysylltiedig â Pherfformiad (PRP) presennol yn cael eu dileu. Byddai codiad cyflog cynyddol yn cael ei ddyfarnu yn seiliedig ar gwblhau'r gwasanaeth perthnasol.

 

Ar y cyfan, byddai'r pecyn yn darparu arbediad dros dair blynedd o £35,548 yn erbyn y cyfanswm cyflog cyfredol (gan gynnwys PRP). Roedd rhan o'r broses yn mynnu bod y cynnig yn cael ei ystyried gan Banel Cydnabyddiaeth Annibynnol Cymru (IRP). Roedd yr IRP wedi cyfarfod ar 16 Tachwedd 2017 i ystyried y cynnig a gyflwynwyd ac roeddent yn cytuno'n llawn â'r newidiadau arfaethedig.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol y broses recriwtio i'r Aelodau. 

 

Yn unol â Rheoliadau Diwygiedig Rheolau Sefydlog (Cymru) 2014, roedd gofyn bod swyddi â chyflogau o fwy na £100k, a oedd yn para 12 mis neu fwy, yn cael eu hysbysebu'n allanol.

 

Rhan o'r broses fyddai sefydlu Panel Penodiadau Arbennig. Byddai'r Panel yn cynnwys 7 aelod gwleidyddol gytbwys, dan gadeiryddiaeth yr Arweinydd ac yn cynnwys uchafswm o 2 Aelod Cabinet arall.

 

Byddai ymgyrch Recriwtio Prif Weithredwr yn cael ei reoli'n fewnol gan y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol gydag arbenigwr allanol yn cael ei ddefnyddio i ymgymryd â chwiliad gweithredol, a chefnogi'r broses llunio rhestr fer, asesu a phenodi. Y costau disgwyliedig ar gyfer yr arbenigwr allanol fyddai oddeutu £14,000 - £20,000. Byddai hyn yn cynnwys cost hysbysebion yn y cyfryngau, profion arbenigol posibl a pharatoi a dadansoddi asesiadau. Byddai'r broses ar gyfer dewis yr arbenigwr allanol yn cael ei wneud trwy dendr ffurfiol. Roedd yr amserlenni ar gyfer y broses wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.   

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol:

·       Mynegodd Grŵp Plaid Cymru eu pryder ynghylch y cyflog a gynigiwyd yn yr adroddiad oherwydd y ffaith byddai yna ddyfodol o galedi a thoriadau, cynnydd yn nhreth y cyngor a 12% o weithwyr yn ennill llai na'r "cyflog byw go iawn". 

·       Mynegodd Aelodau'r Grŵp Ceidwadol eu pryder nad oedd y cyflog a argymhellwyd yn yr adroddiad yn ddigon i ddenu ymgeisydd o’r safon sydd ei angen i arwain y Cyngor drwy'r blynyddoedd anodd sydd i ddod.

·       Nodwyd mai'r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd gyda'r sgiliau i gadw Sir Ddinbych yn Awdurdod Lleol sy'n perfformio'n uchel oedd y flaenoriaeth ac os oedd y penodedig yn siarad Cymraeg byddai'n fonws, ond roedd y Cyngor wedi ffynnu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf gyda Phrif Weithredwr di-Gymraeg a oedd wedi sicrhau bod buddsoddiad wedi bod yn yr iaith Gymraeg.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ddiwygiad i'r argymhelliad o gyflog cychwynnol o £117k gyda chynnydd i £119k a £121k, eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Emrys Wynne.

 

Cadarnhawyd pe byddai'r bleidlais o blaid y gwelliant, byddai angen ailgyflwyno'r cyflog arfaethedig i Banel Cydnabyddiaeth Annibynnol Cymru i'w gymeradwyo a fyddai'n oedi'r broses ymgeisio a phenodi Prif Weithredwr newydd.

 

Yn y fan hon, gofynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne am Bleidlais wedi'i Chofnodi, a gefnogwyd gan 8 aelod o Grŵp Plaid Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais wedi’i chofnodi fel a ganlyn:

 

O blaid dechrau ar gyflog penodol o £117k gyda chynnydd cynyddol i £119k a £121k:
Y Cynghorwyr
Mabon ap Gwynfor, Meirick Lloyd Davies, Huw Jones, Paul Penlington, Arwel Roberts, Glen Swingler, Rhys Thomas ac Emrys Wynne.

Pleidleisiodd cyfanswm o 8 Aelod o blaid cyflog cychwynnol o £117k.

 

Yn erbyn:

Y Cynghorwyr Joan Butterfield, Ellie Chard, Ann Davies Gareth Lloyd Davies, Hugh Evans, Bobby Feeley, Tony Flynn, Rachel Flynn, Huw Hilditch-Roberts,  Hugh Irving, Alan James, Tina Jones, Pat Jones, Richard Mainon, Christine Marston, Barry Mellor, Bob Murray, Anton Sampson, Peter Scott, Tony Thomas, Julian Thompson-Hill, Graham Timms, Joe Welch, Huw Williams a Mark Young.

Pleidleisiodd cyfanswm y 25 Aelod yn erbyn y cyflog cychwynnol o £117k.

 

Ymatal – 0

 

Felly, cafodd y gwelliant a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor i'r Prif Weithredwr ddechrau ar gyflog  o £117k ei wrthod.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y byddai'r bleidlais yn digwydd ar gyfer yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies am bleidlais ar wahân unigol ar gyfer pob argymhelliad.

 

PLEIDLAIS:

3.1 – Bod y Cyngor yn cytuno i recriwtio Prif Weithredwr newydd
O blaid – 31

Ymatal - 0
Yn erbyn – 2

 

3.2 – bod y Cyngor yn cytuno â'r pecyn cydnabyddiaeth arfaethedig

O blaid – 25

Ymatal – 0

Yn erbyn – 8

 

3.3 – bod y Cyngor yn cytuno â'r pecyn recriwtio

O blaid – 26

Ymatal – 1

Yn erbyn – 5

 

3.4 – bod y Cyngor yn cytuno â'r broses recriwtio

O blaid – 29

Ymatal – 0

Yn erbyn – 4

 

 

Ar y pwynt hwn, mynegodd y Cynghorydd Graham Timms ei anfodlonrwydd mai dim ond 33 o aelodau oedd yn bresennol i gymryd rhan yn y bleidlais ar gyfer Pecyn Recriwtio'r Prif Weithredwr a oedd mor bwysig i'r Sir.

 

PENDERFYNWYD

 

3.1 Bod y Cyngor yn cytuno i recriwtio Prif Weithredwr newydd
3.2 Bod y Cyngor yn cytuno ar y pecyn cydnabyddiaeth arfaethedig
3.3 Bod y Cyngor yn cytuno ar y pecyn recriwtio
3.4 Bod y Cyngor yn cytuno ar y broses recriwtio.

 

Dogfennau ategol: