Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GWEITHREDU PREMIWM TRETH CYNGOR AR GARTREFI GWAG HIRDYMOR AC AIL GARTREFI

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr Cymorth Busnes (copi ynghlwm) ar gyfer Aelodau i benderfynu p’un ai i godi ffi Premiwm Treth Cyngor ar dai gwag hirdymor ac ail gartrefi.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu aelodau o'r pwerau newydd oedd gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru i gynyddu taliadau Treth y Cyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi o ganlyniad i Ddeddf Tai ( Cymru) 2014.

 

O 1 Ebrill 2017, rhoddwyd pwerau i gynghorau yng Nghymru godi tâl ychwanegol ar berchnogion tai hyd o at 100% o Dreth y Cyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi. Roedd y pwerau hyn wedi'u dirprwyo trwy Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

 

Roedd yn ofynnol i Awdurdodau Lleol gael y taliadau wedi’u dilysu gan y Cyngor Llawn un flwyddyn cyn gweithredu hyn ar gyfer ail gartrefi. Fodd bynnag, ar gyfer cartrefi gwag hirdymor, yr unig ofyniad fyddai bod yn rhaid i'r eiddo fod wedi bod yn wag am o leiaf blwyddyn lawn cyn codi tâl.

 

Bwriadwyd i’r nodau a gafodd eu datgan yn y ddeddfwriaeth fod fel cyfarpar:

·       Ar gyfer Awdurdodau Lleol i helpu dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd

·       I gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy

·       I wella cynaladwyedd cymunedau lleol.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 16 Tachwedd 2016 a 14 Rhagfyr 2016, lle cafwyd cyfanswm o 49 o ymatebion. Roedd yr adborth cyffredinol o'r ymgynghoriad wedi bod yn gefnogol i godi tâl ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

 

Er y byddai codi tâl premiwm ar yr eiddo yn creu arian ychwanegol, y prif symbylydd i Lywodraeth Cymru wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth oedd helpu Awdurdodau Lleol i:

·       Ddod â chartrefi gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd i ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy, a

·       Chefnogi Awdurdodau Lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaladwyedd cymunedau lleol.

 

Roedd eithriadau i'r Premiwm Treth Cyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth, cynigiwyd gan y Cynghorydd Glen Swingler, Grŵp Plaid Cymru, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor, bod y premiwm ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi'n 100% ac nid 50% fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad.

 

Eglurodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y byddai codi 50% yn gyson ag Awdurdodau Lleol cyfagos ac y byddai adolygiad o weithredu’r premiwm Treth y Cyngor hefyd yn digwydd ym mis Medi 2018.

 

Cadarnhawyd y byddai Awdurdodau Lleol yn cael eu hannog i ddefnyddio unrhyw refeniw ychwanegol a gynhyrchwyd i helpu i ddiwallu anghenion tai lleol, yn unol â bwriadau polisi'r premiymau. Ni ellid neilltuo incwm Treth y Cyngor ar gyfer ardal benodol, ond byddai'n cael ei ychwanegu at elfen Tai y Cynllun Corfforaethol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Graham Timms ei bryder ynghylch canran y bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad. Gofynnodd a oedd yn ofyniad statudol i ymgynghori ac a oedd yr ymatebion yn ganlyniadol. 

 

Cadarnhawyd ei bod yn ofyniad statudol i ymgynghori a theimlwyd y byddai'r lefel 50% yn rhoi cymhelliad i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd preswyl.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am ohiriad byr o'r cyfarfod i'r Grŵp Llafur ystyried y ddau opsiwn o godi premiwm o naill ai 50% neu 100%.

 

Cytunwyd gan bawb yn bresennol i ohirio er mwyn i’r Grwpiau gynnal trafodaeth fer cyn mynd ymlaen â gweddill y cyfarfod.

 

Ar y pwynt hwn (11.00 a.m.) bu gohiriad o 15 munud i'r cyfarfod.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.15 a.m.

 

Rhoddodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill grynodeb o’r drafodaeth ac eglurodd ei bod wedi bod yn un hynod ddiddorol a chadarnhaol.

 

Roedd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad wedi bod am gyfradd premiwm o 50% ond cyflwynwyd gwelliant gan y Cynghorydd Glen Swingler am bremiwm o 100%. Byddai pleidlais yn digwydd i ddechrau ar y gwelliant arfaethedig i godi tâl premiwm o 100%.

 

Yn y fan hon, gofynnodd y Cynghorydd Arwel Roberts am Bleidlais wedi'i Chofnodi.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd bod angen i un chweched o’r Aelodau fod o blaid Pleidlais wedi’i Chofnodi yn ôl y Cyfansoddiad felly roedd angen o leiaf 7 Aelod. Safodd 8 Aelod o’r Grŵp Plaid Cymru o blaid Pleidlais wedi’i Chofnodi.

 

Cynhaliwyd pleidlais wedi’i chofnodi fel a ganlyn:

 

O blaid Premiwm o 100%:

Y Cynghorwyr Mabon ap Gwynfor, Meirick Lloyd Davies, Huw Jones, Gwyneth Kensler, Arwel Roberts, Glen Swingler, Rhys Thomas ac Emrys Wynne.

Pleidleisiodd cyfanswm o 8 Aelod o blaid Premiwm o 100%.

 

Yn erbyn Premiwm o 100%:

Y Cynghorwyr Brian Blakeley, Joan Butterfield, Ellie Chard, Ann Davies Gareth Lloyd Davies, Hugh Evans, Peter Evans, Bobby Feeley, Tony Flynn, Rachel Flynn, Huw Hilditch-Roberts, Martyn Holland, Hugh Irving, Alan James, Tina Jones, Pat Jones, Geraint Lloyd-Williams, Richard Mainon, Christine Marston, Barry Mellor, Melvyn Mile, Bob Murray, Merfyn Parry, Paul Penlington, Anton Sampson, Peter Scott, Tony Thomas, Julian Thompson-Hill, Graham Timms, Joe Welch, Cheryl Williams, David Williams, Huw Williams a Mark Young.

Pleidleisiodd Cyfanswm y 34 o Aelodau yn erbyn y Premiwm o 100%.

 

Ymatal – 0

 

Felly, cafodd y gwelliant a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Glen Swingler am y Premiwm Treth Gyngor 100% ei wrthod.

 

Yn y fan hon, cynigiodd y Cynghorydd Mark Young welliant o 50% am y flwyddyn gyntaf a 100% am yr ail flwyddyn ar gartrefi gwag hirdymor yn unig, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Peter Evans.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield hefyd welliant i godi'r premiwm o 50% ar gyfer y flwyddyn gyntaf gydag adolygiad ar ôl 12 mis a phe bai’n profi'n llwyddiant o bosibl i gynyddu'r swm i 100% ym mlwyddyn 2.

 

Yn y fan hon, tynnodd y Cynghorydd Mark Young ei welliant yn ôl gan ei fod yn cefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Joan Butterfield.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd yr argymhellion at ddibenion y bleidlais fel a ganlyn:

 

PLEIDLAIS:

 

Argymhelliad 1a – Codi ardoll Treth y Cyngor o 50% ychwanegol ar eiddo gwag hirdymor:

O blaid – 41

Ymatal – 0

Yn erbyn – 1

 

Argymhelliad 1b – Codi ardoll Treth y Cyngor o 50% ychwanegol ar ail gartrefi:

O blaid – 35

Ymatal – 0

Yn erbyn – 6

 

Byddai pleidlais floc yn cael ei chynnal ar gyfer y ddau argymhelliad canlynol:

 

Argymhelliad 2 gweithredu’r tâl ar eiddo gwag hirdymor o fis Ebrill 2018 ac ail gartrefi o fis Ebrill 2019 (mae deddfwriaeth yn cynghori bod yn rhaid inni roi rhybudd o 12 mis i berchnogion ail gartrefi am unrhyw daliadau), ac

 

Argymhelliad 3 – Cynnal adolygiad o effaith gweithredu’r mesur hwn a dod â’r mater yn ôl gerbron y Cyngor Llawn ymhen 12 mis:

 

O blaid – 42

Ymatal – 0

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD  bod yr Aelodau yn cytuno i:

1.     (a)      Codi ardoll Treth y Cyngor o 50% ychwanegol ar eiddo gwag hirdymor

(b)      Codi ardoll Treth y Cyngor o 50% ychwanegol ar ail gartrefi

2. Gweithredu’r tâl ar eiddo gwag hirdymor o fis Ebrill 2018 ac ail gartrefi o fis Ebrill 2019 (mae deddfwriaeth yn cynghori bod yn rhaid inni roi rhybudd o 12 mis i berchnogion ail gartrefi am unrhyw daliadau)

3. Cynnal adolygiad o effaith gweithredu’r mesur hwn a dod â’r mater yn ôl gerbron y Cyngor Llawn ymhen 12 mis   

 

 

Dogfennau ategol: