Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 516098

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif  516098.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod cais Ymgeisydd Rhif 516098 am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Barry Mellor gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon oherwydd bod yr ymgeisydd yn hysbys iddo ac fe adawodd y cyfarfod tra bo’r cais yn cael ei ystyried.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            cais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

 516098 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

(ii)          bod yr Ymgeisydd wedi'i drwyddedu gan yr awdurdod yn flaenorol ac wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor Trwyddedu ar dri achlysur gwahanol ym mis Ionawr 2010, Mawrth 2011 a Mawrth 2016 gan arwain at rybuddion ffurfiol am y ddau achlysur cyntaf a dirymu ei drwydded ar yr achlysur olaf;

 

(iii)         polisi y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a’r

 

(iv)         estyn gwahoddiad i’r ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i gynrychiolydd undeb, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth (HB) yr adroddiad gan fanylu ar y ffeithiau'r achos.

 

Rhoddodd cynrychiolydd yr Ymgeisydd rywfaint o wybodaeth gefndirol yn ymwneud â hanes blaenorol yr Ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig, gan dynnu sylw at y ffaith fod y cyngor wedi methu â darparu'r hyfforddiant ffurfiol priodol fel y cyfarwyddwyd gan y pwyllgor ym mis Mawrth 2011 a chyfeiriodd at effaith ac amgylchiadau dilynol yr achos yn 2016 a arweiniodd at ddirymu trwydded yr Ymgeisydd i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.  Roedd cwynion blaenorol wedi'u gwneud tra bod yr Ymgeisydd wedi bod yn ymgymryd â gwaith contract ysgol ond ni fu unrhyw broblem wrth gyflawni gwaith trwyddedu tacsi prif ffrwd cyffredinol.  O ganlyniad, dywedodd yr Ymgeisydd, pe bai yn cael trwydded, na fyddai'n ymgymryd â gwaith cludiant ysgol.  Darllenwyd geirda gan gyflogwr presennol yr Ymgeisydd yn y cyfarfod yn tynnu sylw at nifer o rinweddau da ac yn ei argymell ar gyfer cyflogaeth.

 

Cymerodd yr Aelodau’r cyfle i holi'r Ymgeisydd er mwyn canfod a oeddent yn ei ystyried yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.  Eglurodd yr Ymgeisydd, pe bai trwydded yn cael ei chaniatáu, ni fyddai'n ymgymryd â gwaith contractau ysgol ond byddai'n cludo plant o ran y gwaith arferol o yrru tacsi, e.e. codi o'r stryd / safle neu waith a archebwyd ymlaen llaw.  Roedd ganddo wyrion ac wyresau ei hun, felly roedd yn ymwybodol o'u hymddygiad, a dywedodd y byddai'n iawn cyn belled bod oedolyn yng nghwmni’r plant ac yn eu cadw dan reolaeth a sicrhau nad oeddent yn ymyrryd â'i yrru.  Cydnabu y gallai wynebu ymddygiad heriol gan bobl ifanc yn hwyr yn y nos a dywedodd y byddai'n gallu ymdopi gan ei fod wedi cludo plant o'r blaen heb unrhyw broblemau.  O safbwynt hyfforddiant, cadarnhaodd yr Ymgeisydd nad oedd wedi derbyn hyfforddiant ar gludo plant ag anghenion arbennig ond roedd wedi derbyn yr hyfforddiant gorfodol ym maes ymwybyddiaeth Cam-drin Plant yn Rhywiol a gyflwynwyd yn ddiweddar fel rhan o broses ymgeisio'r Cyngor.

 

Yn ystod holi pellach o’r Ymgeisydd a'r swyddogion, fe sefydlwyd -

 

·         roedd y pwyllgor ym mis Mawrth 2011 wedi rhoi amod a oedd yn gofyn i'r Ymgeisydd ymgymryd â hyfforddiant ffurfiol priodol mewn perthynas â chludo plant ag anghenion arbennig o fewn 28 diwrnod.

·           Fodd bynnag, nid oedd wedi'i egluro pwy oedd yn gyfrifol am ddarparu'r hyfforddiant hwnnw ac er bod rhywfaint o hyfforddiant gyrwyr wedi'i drefnu gan yr Adran Cludiant Ysgol, nid oedd wedi ymwneud yn benodol â chario plant ag anghenion arbennig.  • Dadleuodd cynrychiolydd yr Ymgeisydd fod y cyfrifoldeb ar y cyngor i hwyluso'r ddarpariaeth hyfforddiant honno.  Er bod darpariaeth hyfforddiant o'r fath wedi bod yn gyfyngedig yn 2011, nodwyd bod yna lawer o sefydliadau hyfforddi a fyddai'n gallu cynnig y math hwnnw o hyfforddiant a nododd yr Ymgeisydd y byddai'n fodlon ymgymryd â hyfforddiant o'r fath yn ôl yr angen.
 
• pe rhoddwyd trwydded, byddai'n cymhwyso'r Ymgeisydd i gludo plant ac unrhyw berson arall, sy'n ddiamddiffyn neu fel arall, ar unrhyw adeg, mewn cerbyd trwyddedig.

 

Gwnaeth cynrychiolydd yr Ymgeisydd ddatganiad terfynol gan ailadrodd y cwynion blaenorol a oedd yn gysylltiedig â phan oedd yr Ymgeisydd wedi ymgymryd â gwaith cludiant ysgol yn unig ac nid mewn unrhyw ddisgyblaeth arall ac roedd wedi bod yn fater sifil heb unrhyw gysylltiad oddi wrth yr heddlu.  Er y byddai'r Ymgeisydd yn cael y cyfle i godi a chludo plant wrth weithio fel gyrrwr trwyddedig, ni ddylai unrhyw riant ganiatáu i blant deithio ar ei ben ei hun gyda gyrrwr nad ydynt yn ei adnabod hyd nes eu bod o oedran penodol.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD gwrthod cais Ymgeisydd Rhif  516098 am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat..

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Canfu'r Pwyllgor fod yr Ymgeisydd wedi methu â dangos ei fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat, yn benodol –

 

·         methodd yr Ymgeisydd â dangos gwerthfawrogiad am swydd gyrrwr tacsi na chydnabod bod hon yn swydd gyda’r awdurdod lleol yn ymddiried ynddo

·         roedd yr Ymgeisydd yn cydnabod cwynion blaenorol a wnaed yn ei erbyn wrth gyflawni ei ddyletswyddau fel gyrrwr tacsi mewn perthynas â gwaith contract ysgol ac nad oedd wedi darparu unrhyw dystiolaeth na sicrwydd yn erbyn cwynion yn y dyfodol o ran ei ymddygiad yn hynny o beth, ond dywedodd na fyddai’n ymgymryd ag unrhyw gontractau ysgol a methodd â rhoi unrhyw hyder i'r Pwyllgor o ran ei allu neu ymddygiad

·         trwy eithrio ei hun o waith contract ysgol yn wirfoddol, methodd yr Ymgeisydd hefyd i ddangos bod ganddo'r ymddiriedaeth a'r hyder ynddo'i hun i ymgymryd â'r dyletswyddau sydd eu hangen fel gyrrwr trwyddedig

·         er ei fod yn ymwybodol o'i hanes blaenorol y byddai hyfforddiant mewn cludo plant ag anghenion arbennig yn ei gynorthwyo, er nad oedd yr awdurdod lleol wedi darparu’r hyfforddiant, roedd wedi methu â gwneud unrhyw hyfforddiant o'i wirfodd a allai fod wedi ei gynorthwyo neu wedi rhoi hyder i’r awdurdod lleol o ran ei gymwyseddau a'i ymddygiad

·         er gwaethaf y ffaith bod yr Ymgeisydd wedi nodi na fyddai'n ymgymryd â gwaith contract ysgol, byddai rhoi trwydded iddo yn ei osod mewn sefyllfa o ymddiriedaeth ac yn ei gymhwyso i gludo plant ac oedolion diamddiffyn, a rhoddwyd pwyslais mawr ar hyn gan y Pwyllgor Trwyddedu

·         mewn ymateb i gwestiynau'r Pwyllgor, dywedodd yr Ymgeisydd mai dim ond os oedd oedolyn yn bresennol i oruchwylio y byddai'n cludo plant, fel y gallai ganolbwyntio ar ei yrru.  Teimlai'r Pwyllgor fod ymateb o'r fath yn dangos nad oedd ganddo unrhyw werthfawrogiad o realiti gyrru tacsi gyda phlant a allai fod heb gwmni (e.e. 14 oed yn mynd i barti).  Roedd yn rhaid i'r Pwyllgor fod â hyder yn yr Ymgeisydd pe bai sefyllfa o'r fath yn codi.  Methodd yr Ymgeisydd â darparu unrhyw sicrwydd i'r Pwyllgor ac felly nid oedd ganddynt yr hyder ynddo pan allai fod mewn sefyllfa o gludo plant ac oedolion diamddiffyn

·         o ran hanes ac ymddygiad yr Ymgeisydd yn y gorffennol, ni chyflwynwyd tystiolaeth i'r Pwyllgor i'w perswadio y byddai'n gweithredu'n wahanol yn y dyfodol

·         gwelwyd diffyg edifeirwch am ddigwyddiadau yn y gorffennol ac roedd yr Ymgeisydd wedi methu â chydnabod na dangos unrhyw ddealltwriaeth na dysgu ohonynt

·         dim ond un geirda o gefnogaeth i’w gais oedd yr ymgeisydd wedi dod gydag o, oddi wrth ei gyflogwr presennol,  fodd bynnag nodwyd na fyddai ei sefyllfa bresennol yn golygu cario teithwyr eraill, ac yn bennaf byddai’n danfon bwyd

 

O gofio mai ystyriaeth bwysicaf y Pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd, ac o ystyried ymddygiad y’r Ymgeisydd yn y gorffennol, ei gyflwyniadau a'i ymatebion i gwestiynau, methodd â dangos i'r Pwyllgor ei fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.  O ganlyniad penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu felly i'r Ymgeisydd, a chafodd wybod am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i Lys yr Ynadon o fewn 21 diwrnod.

 

Ar y pwynt hwn (11.05 a.m.) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: