Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADNEWYDDU CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 523920

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar adnewyddu cais gan Ymgeisydd Rhif  523920.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  523920 , gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Hugh Irving (Cadeirydd) gysylltiad personol sy'n rhagfarnu yn yr eitem hon oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd, a gadawodd y cyfarfod tra bo’r eitem yn cael ei thrafod.  Cymerodd y Cynghorydd Alan James (Is-Gadeirydd) y Gadair ar gyfer yr eitem hon.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            chais i adnewyddu a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

 523920 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

(ii)          swyddogion heb fod mewn sefyllfa i roi’r cais adnewyddu yn dilyn croniad o 9 pwynt cosb ar Drwydded Gyrru DVLA yr Ymgeisydd ar gyfer troseddau goryrru rhwng y cyfnod Tachwedd 2015 i Tachwedd 2016, a oedd wedi'u cadarnhau yn dilyn gwiriad fel mater o drefn, fel rhan o’r cais adnewyddu;

 

(iii)         Roedd yr Ymgeisydd wedi cyflwyno mesurau lliniaru yn ystod cyfweliad ynghylch y troseddau traffig ynghyd â sicrwydd ynghylch ei ymddygiad wrth yrru;

 

(iv)         polisi y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a’r

 

(v)          estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais i adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr Ymgeisydd, yng nghwmni ei gyflogwr, ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth (TB) yr adroddiad gan fanylu ar y ffeithiau'r achos.

 

Eglurodd yr Ymgeisydd bod y tair trosedd goryrru wedi digwydd ar adegau anodd iawn yn ei fywyd personol, sydd bellach wedi eu datrys.  Derbyniodd nad oedd unrhyw esgus dros oryrru ac ymddiheurodd yn daer ynghylch hynny.  Siaradodd ei gyflogwr hefyd o blaid yr Ymgeisydd gan ddweud ei fod yn yrrwr hirdymor gyda dim hanes o ddamweiniau ac nad oedd y troseddau goryrru yn nodweddiadol o’i gymeriad.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, ymhelaethodd yr Ymgeisydd ar yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r troseddau goryrru a rhoddodd sicrwydd ynghylch ei gymhwysedd gyrru a'i ymddygiad pe bai sefyllfa debyg yn digwydd yn y dyfodol.  Fe sefydlwyd nad oedd wedi cael cynnig nac wedi ymgymryd â chwrs ymwybyddiaeth cyflymder cyn neu ar ôl cronni'r pwyntiau cosb.  O ran ei ffitrwydd i yrru, cafwyd tystysgrif feddygol.  Er bod yr Ymgeisydd wedi datgelu'r drosedd goryrru ddiweddaraf i'w gyflogwr, nododd yr Aelodau, nad oedd yr un o’r ddau wedi hysbysu'r awdurdod trwyddedu o'r euogfarn, er mai cyfrifoldeb yr Ymgeisydd oedd gwneud hynny o fewn saith niwrnod yn unol ag amodau trwyddedu.  Yn ei ddatganiad terfynol, ailadroddodd yr Ymgeisydd ei fod yn edifar am y troseddau goryrru.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais -

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  523920 , gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried yn ofalus amgylchiadau'r troseddau goryrru a'r camau lliniaru a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd ynghyd â'i sicrwydd ynghylch ymddygiad yn y dyfodol a geirda ei gyflogwr.  Nodwyd hefyd nad oedd unrhyw droseddau moduro pellach wedi'u cyflawni yn ystod y deuddeng mis diwethaf.  Canfu'r pwyllgor fod yr Ymgeisydd werth ei halen ac yn edifar am ei weithredoedd, ac ar ôl ystyried ei gymeriad da hir-sefydlog a chefnogaeth ei gyflogwr, derbyniwyd ei sicrwydd o ran ymddygiad yn y dyfodol.  O ganlyniad, cafwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded a phenderfynwyd cymeradwyo’r cais adnewyddu.  Fodd bynnag, roedd casglu naw pwynt cosb am droseddau goryrru mewn cyfnod cymharol fyr yn bryder difrifol ac ystyriwyd atal y drwydded am gyfnod priodol.  Ar y cyfan, penderfynwyd rhoi rhybudd ffurfiol o ran ymddygiad yn y dyfodol yn yr achos hwn.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu i'r ymgeisydd.

 

 

Dogfennau ategol: