Eitem ar yr agenda
ARWYDDION CYFEIRIAD I DWRISTIAID AR GYFER DYFFRYN CLWYD
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd (copi'n amgaeedig),
yn diweddaru aelodau a cheisio eu sylwadau ar y prosiect i ddatblygu cynllun
arwyddion cyfeiriad i dwristiaid ar gyfer Dyffryn Clwyd, ac egluro’r broses ar
gyfer ymgeisio am arwyddion cyfeiriad i dwristiaid ar y rhwydwaith cefnffyrdd
yn gyffredinol.
Cofnodion:
Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ar Y Ffyrdd (a
gylchredwyd eisoes) oedd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed hyd yma ar y prosiect i
ddatblygu cynllun arwyddion cyfeiriad i dwristiaid ar gyfer Dyffryn Clwyd. Roedd yr adroddiad hefyd
yn cynnwys manylion am y broses ymgeisio oedd yn rhaid ei dilyn er mwyn
ymgeisio am arwyddion cyfeiriad i dwristiaid ar rwydwaith y cefnffyrdd yn
gyffredinol. Wrth gyflwyno'r adroddiad, amlygodd yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol
Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â
chael caniatâd i osod arwyddion twristaidd ‘brown’ ar ochr cefnffordd. Roedd natur gymhleth y
broses yn amharu ar uchelgais y Cyngor o ddatblygu economi dwristiaeth leol,
pwynt oedd wedi ei godi mewn Cynhadledd Rheoli Cyrchfan ddiweddar yn y sir, a
neges sydd wedi ei gyflwyno i Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon
Llywodraeth Cymru.
Oherwydd y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r broses ymgeisio ar gyfer
arwyddion ar gefnffyrdd, yn arbennig y meini prawf cymhwyso llym y mae’n rhaid
eu bodloni er mwyn gallu ymgeisio i godi arwydd gwybodaeth i dwristiaid ar y
gefnffordd, roedd y Cyngor yn ddiolchgar i'r Aelod Cynulliad (AC) am sefydlu
gweithgor er mwyn dyfeisio ffordd arloesol o alluogi ardaloedd gwledig, fel
Dyffryn Clwyd, i fodloni'r meini prawf angenrheidiol. Roedd manylion am sut
roedd y meini prawf wedi eu bodloni yn yr adroddiad. Credwyd mai'r dull
gweithredu a gymerwyd, oedd yn cynnwys ‘grwpio’ nifer o safleoedd i dwristiaid
unigol gyda’i gilydd, oedd yr esiampl gyntaf o’r fath yn unrhyw le yng Nghymru
gyda'r bwriad o fodloni'r meini prawf cymhwyso ar gyfer arwyddion i dwristiaid. Roedd y gwaith wedi
golygu cryn ymdrech ar ran yr holl bartneriaid, gan gynnwys cynghorau dinas a
threfi, Esgobaeth Llanelwy, Cadw, Cyngor Sir Ddinbych a’r AC. Tra roedd y costau, fel
y manylir yn yr adroddiad ac fel yr adroddwyd yn y wasg, yn ymddangos yn ddrud
ac yn achosi pryder, roeddynt yn amcangyfrif gofalus o'r holl gostau
cysylltiedig â'r prosiect, gan gynnwys cost yr arwyddion, gwaith diogelwch a
chau’r gefnffordd ayb. Dywedodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd, gan fod
amcangyfrif o 36,000 o dripiau’r diwrnod yn cael eu gwneud ar hyd rhan Llanelwy o’r A55, roedd gan yr arwyddion
arfaethedig y potensial i amlygu safleoedd twristaidd y Dyffryn i gynulleidfa
estynedig, a thra byddai’r rheiny oedd yn teithio ar y gefnffordd eisoes wedi
penderfynu ar eu cyrchfannau ar gyfer y diwrnod penodol hwnnw, byddai gweld
arwyddion tuag at Ddyffryn Clwyd ar ochr y ffordd o bosib yn eu hatynnu yn ôl
ar ddyddiad arall er mwyn archwilio'r ardal ymhellach. Gallai hyn o bosib
gynrychioli budd cyfrannol i gael budd o'r arwyddion newydd, ac un y byddai'n
rhaid manteisio arno, er mwyn sicrhau fod twristiaid yn ymwybodol o lefydd
diddorol i ymweld â nhw yn y sir, ar ôl iddynt gael eu cyfeirio oddi ar y
cefnffyrdd. Unwaith byddai’r arwyddion twristiaeth ar y gefnffordd wedi eu
sicrhau, byddai’n bwysig datblygu strategaeth arwyddion cyfeiriad i dwristiaid
ar gyfer y sir gyfan er mwyn cael y manteision mwyaf posib gan y rheiny
fyddai’n ymweld â’r sir. Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm - Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau’r
Cyngor, oedd yn bresennol, fod gan yr ‘arwyddion Twristiaeth brown’ y potensial
i ddod â phobl oddi ar y cefnffyrdd i ymweld ag ardaloedd eraill gerllaw. Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi lansio prosiect 10 mlynedd
newydd o’r enw ‘Ffordd Cymru’, a’i bwrpas yw amlygu trysorau cudd y wlad. Bydd datblygu
strategaeth arwyddion cyfeiriad i dwristiaid sirol a fyddai’n cysylltu â’r
arwyddion i dwristiaid ar y cefnffyrdd yn cefnogi gweledigaeth ‘Ffordd Cymru’
yn Sir Ddinbych.
Bu’r Arweinydd, y Rheolwr Traffig, Parcio a
Diogelwch ar y Ffyrdd, yr Uwch Swyddog Peirianneg Rheoli Traffig a’r Arweinydd
Tîm (Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau) yn ateb cwestiynau aelodau ac yn:
·
egluro’r
rhesymau pam fod traethau ac atyniadau twristaidd Y Rhyl a Phrestatyn wedi eu
harwyddo oddi ar wahanol gyffyrdd yr A55;
·
pwysleisio
fod trigolion Dyserth yn poeni am faint o draffig sy’n teithio drwy’r pentref
ar hyn o bryd ac egluro bod peth gwaith ffordd wedi ei gynllunio ar gyfer y
pentref er mwyn ceisio lliniaru pwysau cyfredol;
·
cynghori
y byddai angen gosod arwyddion addas yn agos at yr allanfa agosaf ar y
gefnffordd ar gyfer y Ganolfan Ddyfrol a’r adnoddau newydd eraill sydd yn yr
arfaeth ar gyfer y Rhyl pan fyddant wedi agor. Roedd angen ystyriaeth o ran cyllido'r arwyddion
hyn nawr;
·
cadarnhau
er bod amcangyfrif o’r costau ar gyfer prosiect arwyddion Dyffryn Clwyd i’w
weld yn arbennig o uchel o’i gymharu â’r costau mynegol o £5,000 i £20,000 fel
y nodir yn nogfen ganllaw LlC Awst 2013 'Arwyddion Traffig ar gyfer Cyrchfannau
Twristiaeth ar Gefnffyrdd a Thraffyrdd yng Nghymru', roeddynt o'r farn bod yr
amcangyfrif o gost yn yr adroddiad yn weddol gywir. Roedd y gost yn seiliedig ar faint yr
arwyddion angenrheidiol a’r peirianneg sifil, y rheolaeth traffig a’r gwaith
cau ffyrdd angenrheidiol cysylltiedig;
·
byddai
angen i’r arwyddion twristiaeth arfaethedig ar gyfer Dyffryn Conwy fod yn fawr
gan y byddent yn tynnu sylw at dri atyniad gwahanol ar arwydd unigol (Cestyll
Dinbych a Rhuddlan a Chadeirlan Llanelwy) ac yn hawdd i’w ddarllen o bellter. Byddai’r prosiect felly yn golygu codi 4
arwydd mawr i dwristiaid ger yr A55, arwyddion eraill ar y ffyrdd ymuno ac
ymadael, ac ymhellach ar hyd y rhwydwaith briffyrdd i arwain y traffig i’w
cyrchfan o ddewis;
·
cadarnhau
fod y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i gadw achosion o gau ffyrdd yn isel a
chostau rheoli traffig yn isel wrth godi'r arwyddion, drwy geisio gwneud y
gwaith pan fydd ffyrdd yn cael eu cau / traffig yn cael ei reoli ar gyfer
gwaith sydd eisoes wedi ei gynllunio. Fodd bynnag, nid oedd y math hwn o gydlynu gwaith
yn bosib gan amlaf mewn gwirionedd;
·
cynghori fod y Gweithgor a
sefydlwyd er mwyn dwyn y prosiect hwn i ffrwyth wedi ei gytuno ar y
ddealltwriaeth y byddai'r cynghorau dinas / trefi perthnasol a gweithredwyr
safleoedd twristaidd yn talu am y prosiect. Byddai cyfraniad y Cyngor Sir o
oddeutu £23,000 yn seiliedig ar gostau datblygu'r cynllun, costau dylunio,
gweinyddol a goruchwylio contractwyr;
·
cadarnhau
y byddai swyddogion yn fodlon gwneud ymholiadau gyda Croeso Cymru er mwyn gweld
os oedd unrhyw ffynonellau cyllid y gellid eu defnyddio tuag at gost arwyddion
i dwristiaid ar gyfer Dyffryn Clwyd.
·
cynghori
mai’r cam nesaf yn y prosiect, unwaith y byddai cefnogaeth wedi ei gael mewn
egwyddor, fyddai ail alw’r Gweithgor er mwyn mynd ymlaen â’r gwaith, a fyddai’n
cynnwys sicrhau’r cyllid angenrheidiol er mwyn cyflawni’r prosiect i gyd;
·
cynghori fod rhwystrau bob
amser yn cael eu codi o flaen arwyddion cefnffordd er mwyn gwarchod gyrwyr a
theithwyr pe byddai gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn agos at arwyddion. Gwasanaeth Priffyrdd y
Cyngor Sir fyddai â’r cyfrifoldeb dros wneud gwaith cynnal a chadw arwyddion y
gefnffordd, ac roeddynt yn derbyn cyllideb gan Adran Gludiant LlC yn benodol ar
gyfer gwneud gwaith cynnal a chadw ar gefnffyrdd. Yn y man cyntaf byddai
unrhyw ddifrod i arwyddion ar gefnffyrdd oherwydd damweiniau ffordd yn cael ei
godi ar gwmni yswiriant perchennog y car;
·
cadarnhau
y byddai’n bwysig i’r tri atyniad a fyddai’n cael eu rhestru ar arwyddion i
dwristiaid Dyffryn Clwyd ystyried yn ofalus pa gynnig fyddai ganddynt i
dwristiaid a fyddai’n ymweld â’r safleoedd hynny. Mae’n bosib y gallai Tîm Twristiaeth, Marchnata a
Digwyddiadau’r Cyngor eu cynorthwyo drwy’r cynllun Llysgennad Twristiaeth o ran
hyrwyddo eu cynnig;
·
disgrifio
sut byddai twristiaid yn cael eu cyfeirio at yr atyniadau i dwristiaid unigol
ar yr arwydd cefnffordd unwaith y byddent wedi gadel y gefnffordd a chyrraedd
rhwydwaith priffyrdd y sir;
·
cadarnhau
fod parcio digonol ar gyfer pob atyniad sydd wedi ei arwyddo yn cael ei gyfrifo
ar sail adnoddau parcio yn yr atyniad ei hun ac agosrwydd a chapasiti meysydd
parcio gerllaw;
·
cynghori
lle mae safleoedd twristaidd yn agos at ffiniau sir neu ffiniau cenedlaethol
byddai swyddogion yn cydweithio gyda siroedd perthnasol ac awdurdodau
rhwydwaith ffyrdd o ran gofynion yr arwyddion;
·
cadarnhau
mai LlC sy’n penderfynu ar ofynion diogelwch o ran codi arwyddion ar
gefnffyrdd, tra mai’r awdurdod lleol sy’n penderfynu ar yr anghenion o ran
rhwydwaith y briffordd leol.
·
cadarnhau
y disgwylid y byddai’r arwyddion yn eu lle erbyn 2019 os gellir sicrhau’r
cyllid angenrheidiol a’r gymeradwyaeth derfynol ar y dyluniad a’r fanyleb gan
Lywodraeth Cymru;
·
cytuno
gydag aelodau y byddai angen gweithio i sicrhau bod gweddill y sir, ac yn
benodol busnesau lleol, yn cael budd yn y dyfodol gan dwristiaid sy’n cael eu
denu oddi ar y gefnffordd gan yr arwyddion twristaidd. Tra
bo canllawiau LlC yn nodi mai dim ond atyniadau i dwristiaid sydd o fewn
10 milltir i gefnffordd y gellir eu harwyddo o’r gefnffordd, doedd dim byd yn
atal y Cyngor rhag hyrwyddo safleoedd eraill o ddiddordeb unwaith bydd y
twristiaid wedi gyrru ar eu rhwydwaith briffyrdd, er enghraifft roedd gan
Gyngor Sir y Fflint Arwyddion ‘Taith’ Hamdden Sir y Fflint eu hunain oedd yn
cyfeirio ymwelwyr at bob rhan o’r sir. Mewn ardaloedd eraill defnyddiwyd
symbolau hawdd eu hadnabod i nodi lleoedd o ddiddordeb neu wasanaethau oedd ar
gael. Byddai datblygu strategaeth dwristiaeth fewnol yn y sir o fudd i nifer o
fusnesau bach yn yr ardal ac yn cefnogi
datblygiad yr economi leol. Gellir casglu barn Cynghorau Tref a Chymuned, busnesau twristiaeth a
rhanddeiliaid eraill ar ddarparu arwyddion twristiaeth sirol fel rhan o
ddatblygu strategaeth arwyddion twristiaeth sirol;
·
cytuno
fod angen gwneud cysylltiadau rhwng awdurdodau priffyrdd a chwmnïau llywio â
lloeren er mwyn sicrhau fod llwybrau a nodir fel llwybrau i dwristiaid yn cael
eu hadlewyrchu yn gywir ar systemau llywio â lloeren er mwyn sicrhau fod
dulliau llywio yn cyd-fynd â'i gilydd yn hytrach nag yn gwrthddweud ei gilydd Gallai'r gwaith hwn gael ei wneud fel rhan
o brosiect Strategaeth Rheoli Cyrchfan.
Cyn dod â’r drafodaeth i ben rhoddodd swyddogion
fanylion y gost sy’n gysylltiedig â’r prosiect i aelodau.
Yn dilyn trafodaeth fanwl iawn roedd aelodau o’r
farn y dylai’r cyngor sir roi cychwyn ar y gwaith o gysylltu'r arwyddion
twristiaeth cefnffyrdd arfaethedig i bolisi arwyddion twristiaeth sirol drwy
ddatblygu strategaeth arwyddion twristiaeth gyson a fyddai’n helpu i ddenu
ymwelwyr unwaith y byddent wedi ymadael â’r gefnffordd er mwyn ymweld â
lleoliadau eraill yn ac o amgylch Sir Ddinbych.
.
PENDERFYNODD y Pwyllgor yn
amodol ar y sylwadau uchod -
(a) dderbyn yr
adroddiad a chefnogi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran prosiect arwyddion
cyfeirio twristiaid Dyffryn Clwyd;
(b) cydnabod meini
prawf cymhwyso Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu arwyddion twristiaeth brown
ar gefnffyrdd;
(c) argymell fod y
Gweithgor a sefydlwyd gan yr Aelod Cynulliad lleol yn cael ei ail alw er mwyn
mynd i’r afael â’r gwaith o ddarparu Prosiect Arwyddion Cyfeirio i Dwristiaid
Dyffryn Clwyd a chael gafael ar y cyllid angenrheidiol i'w ddwyn i ffrwyth, a
bod adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ar gynnydd y prosiect yn cael ei gylchredeg
i'r Pwyllgor ym mis Mawrth 2018;
(d) bod
gweithgor swyddog ac aelod etholedig yn cael ei sefydlu er mwyn datblygu
strategaeth arwyddion twristiaeth gyson ar gyfer Sir Ddinbych i gyd fynd â'r arwyddion i dwristiaid ar y gefnffordd, a
bod cylch gorchwyl y gweithgor hwn yn cynnwys nodi ffynonellau cyllid posib ar
gyfer yr arwyddion twristiaeth, a
(e) bod y Grŵp
hwnnw yn adrodd ar ei gynnydd wrth y Pwyllgor mewn cyfarfod yng ngwanwyn 2018.
Dogfennau ategol:
- VALE OF CLWYD SIGNS REPORT, Eitem 5. PDF 282 KB
- VALE OF CLWYD SIGNS - APP A E, Eitem 5. PDF 1 MB
- VALE OF CLWYD SIGNS - APP B, Eitem 5. PDF 211 KB