Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd o ran y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo trosglwyddo tanwariant y Gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (£35,000) i gronfa wrth gefn y System Rheoli Dogfennau a Chofnodion Electronig er mwyn cynorthwyo ag estyn y prosiect digideiddio;

 

(c)        cefnogi cyflwyno Achos Busnes Llawn ar gyfer adeilad ysgol a chyfleusterau newydd Ysgol Llanfair i Lywodraeth Cymru fel y nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad gyda manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Darparodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor –

 

·        Rhagwelir y bydd gorwariant net o £0.002 miliwn ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        Mae gwerth £0.902 miliwn o arbedion effeithlonrwydd gwasanaethau eisoes wedi eu cytuno arnynt fel rhan o'r gyllideb, gyda'r rhagdybiaeth y bydd pob un yn cael ei ddarparu – bydd unrhyw eithriad yn cael ei adrodd wrth y Cabinet

·        Amlygwyd y risgiau presennol a’r amrywiadau o fewn meysydd gwasanaeth unigol, a phwysleisiwyd y gorwariant mewn perthynas â chyllidebau gofal cymdeithasol – mae’r mater hwn yn cael ei fonitro'n ofalus ac yn cael ei ystyried fel rhan o broses gyllidol 2018/19

·        Darparodd ddiweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol)

 

Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo trosglwyddo £35 mil i i’r gronfa EDRMS i helpu i ymestyn y prosiect digidol a chefnogi cyflwyno achos busnes llawn ar gyfer adeilad ysgol newydd Ysgol Llanfair i Lywodraeth Cymru.

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·        Eglurwyd bod elfen o'r costau ariannu wedi ei chadw drwy'r contract ar gyfer Datblygiad Harbwr y Rhyl ac Ysgol Newydd y Rhyl, a fyddai'n cael ei rhyddhau yn dilyn cwblhau'r elfennau problemus

·        O ran y pwysau a’r diffyg a ragwelir yn incwm y Tîm Prosiectau Mawr (Priffyrdd a’r Amgylchedd), dywedodd y Cynghorydd Brian Jones bod yna gyfleoedd posibl yn y dyfodol y gall y tîm eu harchwilio. Bydd adroddiad ar y Strategaeth Cynnal a Chadw Priffyrdd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad ym mis Rhagfyr

·        Roedd ar y Cynghorydd Emrys Wynne eisiau eglurhad a sicrwydd ynghylch darpariaeth pob tywydd yr ysgolion newydd ar safle Glasdir. Cytunodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i edrych i mewn i’r mater ac adrodd yn ôl wrth y Cynghorydd Wynne. Bu iddo hefyd sicrhau nad oes unrhyw newid wedi ei wneud i’r cynllun gwreiddiol o ran y ddarpariaeth honno er mwyn arbed arian

·        Holodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ynghylch y gwariant cyfalaf o £33 mil ar gyfer Ysgol Bro Dyfrdwy, fel y nodir yn y Cynllun Corfforaethol, a chytunodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i edrych i mewn i’r mater ac adrodd yn ôl wrtho

·         O ran y buddsoddiad mewn ysgolion, byddai prosiectau yn y dyfodol yn cael eu cynnal drwy gyllid Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif ac fel rhan o gyllideb cynnal a chadw cyffredinol yr ysgolion - eglurwyd y broses ar gyfer dyraniadau bloc cyllid y cynllun cyfalaf ynghyd â threfniadau categoreiddio a blaenoriaethu yn seiliedig ar y gwaith sydd ei angen

·        Cyfeiriwyd at y pwysau sylweddau at Wasanaethau Plant o ystyried natur anghyson costau lleoliadau ac eglurwyd bod cyllidebau ar wahân ar gyfer Gwasanaethau Plant ac Addysg. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y diwrnodau o leoliadau a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn bresennol a bu cynnydd hefyd y flwyddyn flaenorol. Cyn hynny roedd y gyllideb yn cael ei thanwario a dyna pam y penderfynwyd gwneud arbediad cyllidebol bach a chreu cronfa wrth gefn ar gyfer lleoliadau, sydd wedi ei defnyddio yn ystod y flwyddyn bresennol gyda chyfraniad ariannol pellach i leihau'r baich ariannol. Cynigiwyd y dylid cynyddu'r gyllideb sylfaenol yn y maes hwn, a fyddai’n cael ei drafod ymhellach fel rhan o broses gyllidol 2018/19. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod lleoliadau arbenigol wedi eu craffu arnynt yn unigol gan y Panel Rhianta Corfforaethol, ac atgoffodd yr aelodau am eu cyfrifoldebau rhianta corfforaethol a’r cyfle i fynychu cyfarfodydd y panel

 

Cafwyd trafodaeth faith ar sefyllfa ariannol ysgolion a gofynnwyd cwestiynau am y diffyg ariannol a gofynnwyd am sicrwydd bod systemau cadarn ar waith i ddelio â'r ysgolion hynny sydd â diffyg ariannol, yn arbennig o ystyried y pwysau cyllidebol i'r dyfodol. Ymatebodd yr Aelodau Arweiniol perthnasol, y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts a Julian Thompson-Hill, a'r Pennaeth Cyllid fel a ganlyn –

 

·         Mae’r diffyg presennol ar draws yr ysgolion yn oddeutu £1.118 miliwn, sy’n llai o £62 mil o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Hefyd, mae canran yr ysgolion mewn diffyg wedi gostwng o 46% i 32%; bydd sefyllfa gyllidebol ysgolion yn destun trafodaeth bellach fel rhan o broses gyllidol 2018/19

·         Eglurwyd polisi a dull y Cyngor ar gyfer delio ag ysgolion mewn trafferthion ariannol, yn arbennig y fframwaith herio ac ymyrraeth a’r trothwyon ar gyfer gweithredu. Dywedwyd y bydd adroddiad ar y testun hwnnw yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol

·         Ymhelaethwyd ar y cynlluniau adfer sydd yn eu lle ar gyfer ysgolion mewn trafferthion ariannol gyda chefnogaeth rheolaeth ariannol ar gael er mwyn rhoi ysgolion mewn sefyllfa o weddill ariannol mewn oddeutu tair blynedd, gyda darpariaeth i ymestyn y raddfa amser i bedair blynedd os gellir arddangos cynnydd digonol

·         Darparwyd sicrwydd ynghylch cadernid y broses a monitro cynhwysfawr gyda chamau uwchgyfeirio, gan gynnwys atgyfeiriad at y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a’r sancsiwn eithaf, sef y Cyngor yn cymryd rheolaeth dros gyllid ysgolion unigol. Mae cynlluniau hefyd ar y gweill i gynnwys pwyllgorau archwilio yn y broses o graffu ar berfformiad addysgol a chyllidol yn ychwanegol at y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion

·         Darparwyd ychydig o gyd-destun y sefyllfa bresennol y mae ysgolion yn ei hwynebu, gan gynnwys dyled hanesyddol yn ymwneud â chynnydd mewn costau pensiwn ac Yswiriant Gwladol a'r newid yn y broses o ddirprwyo cyllid i ysgolion a arferai gael ei ddal yn ganolog ar gyfer costau dileu swydd. O fewn adrannau’r Cyngor mae costau dileu swydd fel rheol yn cael eu hamsugno gan wasanaethau unigol oni bai eu bod yn sylweddol ac felly’n cael eu hystyried yn gorfforaethol. Mae’r cyllid a ddarparwyd i ysgolion gan y Cyngor yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf wedi bod yn fwy na'r hyn a ofynnir gan addewid amddiffyn y Gweinidogion, fodd bynnag mae ysgolion wedi parhau i wynebu pwysau a thoriadau fel y wynebir gan wasanaethau eraill. Ychwanegodd y Prif Weithredwr nad oedd cyllid ysgolion yn broblem sylweddol yn Sir Ddinbych, ond bod mân broblemau gydag ychydig o ysgolion sy’n cael eu datrys ac roedd yn croesawu craffu pellach er mwyn darparu rhagor o sicrwydd ynghylch hynny

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo trosglwyddo tanwariant y Gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (£35,000) i gronfa wrth gefn y System Rheoli Dogfennau a Chofnodion Electronig er mwyn cynorthwyo ag estyn y prosiect digideiddio;

 

(c)        cefnogi cyflwyno Achos Busnes Llawn ar gyfer adeilad ysgol a chyfleusterau newydd Ysgol Llanfair i Lywodraeth Cymru fel y nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: