Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEBAU CYFUN (IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL) - ADRODDIAD CYNNYDD

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Prosiect, y Tîm Cydweithredu Rhanbarthol (copi ynghlwm) i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith sy’n datblygu i sefydlu Cyllidebau Cyfun ar draws Gogledd Cymru.

11.05 a.m. – 11.45 a.m.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol gan ei fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Cymunedau / Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad a'r atodiadau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn amlinellu'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn mewn perthynas â sefydlu cyllidebau cyfun ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol penodol ledled rhanbarth Gogledd Cymru.  Yn ystod ei chyflwyniad, atgoffodd y Cyfarwyddwr yr aelodau bod sefydlu cyllidebau cyfun ar gyfer gwasanaethau penodol yn ofyniad o dan Ran 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014. 

 

Hysbyswyd yr aelodau, er mwyn datblygu trefniadau cyllideb cyfun, bod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWRPB) wedi sefydlu Gweithgor Cyllidebau Rhanbarthol, sy'n cynnwys arbenigwyr technegol arbenigol o'r Gwasanaeth Iechyd ac awdurdodau lleol.  Roedd y Grŵp hwn, dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych, wedi bod yn gyfrifol am archwilio manteision posibl sefydlu cyllidebau cyfun, y trefniadau gweithredu a rheoli ar gyfer cyllidebau cyfun, gan nodi unrhyw risgiau a gweithredoedd lliniaru sy'n gysylltiedig â hwy a sefydlu trefniadau llywodraethu ac ati. Roedd cynrychiolaeth dda ar gyfer Sir Ddinbych ar y Grŵp gan fod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gadeirio ac roedd ei swyddog Adran 151, y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, un o'i Gyfreithwyr ac Arbenigwr Adnoddau Dynol yn aelodau ac yn gynghorwyr technegol i'r Grŵp.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y NWRPB a Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ledled Cymru yn gadarn o'r farn y dylid ystyried cyllidebau cyfun fel offeryn i gefnogi'r daith tuag at integreiddio nid ffurf o integreiddio yn eu rhinwedd eu hunain.  Er bod cynnydd wedi'i wneud wrth ddatblygu cytundeb integreiddio rhanbarthol, roedd gwaith ar y gweill o hyd i gwmpasu a datblygu cyllidebau cyfun ar gyfer meysydd gwasanaeth penodol.  Roedd nifer o gynlluniau peilot yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, neu wedi dod i'r casgliad yn ddiweddar, i asesu ymarferoldeb y defnydd o gyllidebau cyfun ar gyfer darparu gwasanaethau yn y meysydd hyn.  Er bod angen llawer mwy o waith mewn nifer o'r meysydd hyn cyn cyflwyno adnoddau cyfun, daeth yn amlwg na fyddai Gogledd Cymru, yn debyg i bob rhanbarth arall yng Nghymru, mewn sefyllfa i sefydlu cyllideb gyfun ar gyfer darpariaeth cartref gofal o fis Ebrill 2018, ac felly ni fyddai'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf.  Hysbyswyd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd o'r sefyllfa ac, o ganlyniad, roedd gan bob Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol 12 mis ychwanegol i gydymffurfio â'r gofyniad hwn.  Roedd hi hefyd wedi ei gwneud yn glir iawn y byddai'n ystyried ymyrryd os na chydymffurfiwyd â'r gofyniad hwn erbyn Ebrill 2019. Cynghorwyd yr aelodau fod Gogledd Cymru o flaen y partneriaethau rhanbarthol eraill mewn perthynas â symud ymlaen â'r gofyniad hwn, ond roedd llawer iawn o waith manwl ei angen ynghyd â materion cymhleth i weithio trwyddynt cyn llofnodi cytundeb mewn perthynas â'r gyllideb gyfun benodol hon.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dyma ddywedodd yr Aelod Arweiniol, y Cyfarwyddwr Corfforaethol a'r swyddogion:

·       gofynnwyd i'r aelodau godi unrhyw achosion unigol yn uniongyrchol â hwy, yr oedd ganddynt bryderon yn eu cylch o ran eu cael eu derbyn i ofal preswyl / gofal nyrsio hyd nes y byddai triniaeth feddygol yn y dyfodol heb gael asesiad gofal / gofal nyrsio priodol;

·       cynghorwyd nad oedd y gyfraith mewn perthynas â chyllidebau cyfun ar gyfer darparu gofal ar hyn o bryd yn caniatáu i'r gyllideb gyfun gael ei dirprwyo i unigolion er mwyn iddynt gomisiynu eu pecyn gofal eu hunain, byddai angen i'r holl Wasanaethau Cymdeithasol / Gwasanaeth Iechyd gomisiynu pob pecyn.  Roedd byrddau partneriaeth yn lobïo'r Llywodraeth i newid y gyfraith mewn perthynas â hyn;

·       cadarnhawyd nad oedd y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion na'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) wedi'u cynnwys o fewn cwmpas gofynion cyllideb gyfun Deddf SSWB (Cymru) 2014. Serch hynny, roedd Tîm Iechyd Meddwl Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol integredig eisoes ar waith yn Sir Ddinbych o dan ddarpariaethau Adran 33 Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a oedd yn caniatáu i'r Gwasanaeth Iechyd ac awdurdodau lleol, lle y bo'n briodol, ymrwymo i gytundeb partneriaeth ar gyfer darparu gwasanaethau integredig.  Un elfen o gytundebau o'r fath oedd y gallu i gronni arian i ddarparu gwasanaeth integredig.  Cyflwynwyd adroddiad ar gyllidebau cyfun yn unol â'r ddarpariaeth ddeddfwriaethol hon i'r aelodau yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Medi 2017;   

·       cynghorwyd mai amcan darpariaethau Deddf SSWB (Cymru) 2014 oedd dod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach at ei gilydd i wella lles dinasyddion;

·       hysbysodd y Pwyllgor bod elfen o nerfusrwydd ar ran yr holl awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru a'r Bwrdd Iechyd mewn perthynas â datblygu cyllidebau cyfun, yn enwedig o ystyried y sefyllfa ariannol y mae'r Bwrdd Iechyd yn ei wynebu ar hyn o bryd a'r cyfyngiadau ariannol ar gyllidebau awdurdodau lleol;

·       cadarnhawyd fod awdurdodau lleol ledled Cymru wedi cyflwyno sylwadau i Weinidog Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ymarferoldebau sefydlu cyllidebau cyfun ar gyfer darpariaeth cartrefi gofal erbyn 2018 oherwydd y swm mawr o arian a fyddai angen ei dalu i'r gyllideb gyfun hon.   Roedd rhai eisoes yn amau ​​a oedd y dyddiad Ebrill 2019 yn gyraeddadwy, yn enwedig o gofio faint o waith sydd ei angen i sefydlu'r gyllideb, gan roi'r gweithdrefnau angenrheidiol yn eu lle, a’r trefniadau diogelu a llywodraethu cadarn ar waith;

·       pwysleisiwyd nad oedd yr NWRPB yn gorff gwneud penderfyniadau, byddai angen cyflwyno unrhyw gynigion a luniwyd gan y Bwrdd i bob awdurdod lleol a chyrff penderfynu y Bwrdd Iechyd i'w cymeradwyo i’w gweithredu;

·       cynghorwyd eu bod yn hyderus bod casgliadau'r Ael a gyflawnwyd mewn perthynas â datblygu cyllidebau cyfun wedi bod yn adlewyrchiad cywir o'r cynigion cynaliadwyedd hirdymor, ac felly'r rheswm dros gymryd digon o amser a gofal wrth archwilio'r agweddau cyfreithiol a thechnegol cysylltiedig gyda sefydlu cronfeydd cyfun;

·       cytunwyd fod y cysyniad o gyllidebau cyfun yn ganmoladwy, fel ag yr oedd nod y Ddeddf – sef integreiddio darparu gwasanaethau gofal a lles er budd defnyddwyr gwasanaeth a gwella canlyniadau ar eu cyfer.  Y sialens fwyaf fyddai troi'r weledigaeth yn realiti, yn enwedig adeiladu sylfaen gadarn er mwyn galluogi cyllidebau i gael eu cyfuno a'u rheoli'n effeithiol;

·       cynghorwyd fod Deddf SSWB (Cymru) 2014 yn nodi ei bod yn ofynnol i bob awdurdod lleol o fewn ardal ôl troed Bwrdd Iechyd Lleol gydweithio i wella gwasanaethau gofal cymdeithasol a lles trigolion yn yr ardal honno h.y. i'r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).  Nid oedd hyn yn gwahardd awdurdodau lleol rhag ymrwymo i gytundebau â Byrddau Iechyd eraill pe baent am wneud hynny.  Roedd deddfwriaeth gynharach a oedd yn dal mewn grym yn caniatáu i awdurdodau lleol ymrwymo i gytundebau partneriaeth i gronni arian i ddarparu gwasanaethau integredig.  Serch hynny, rhagwelir y byddai sefydlu partneriaethau o'r fath yn brin;

·       cydnabuwyd bod ardal ôl troed y Bwrdd Iechyd wedi ymestyn i sir Powys, gyda chleifion o ogledd Powys yn cael eu cyfeirio at ysbytai yn ardal BIPBC.  Cadarnhawyd nad oedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) a'i awdurdodau lleol cysylltiedig ddim pellach na NWRPB gyda datblygu cyllidebau cyfun;

·       cadarnhawyd, er bod y NWRPB yn Fwrdd dan arweiniad gweithredol, ei ffocws oedd cleifion a dinasyddion y rhanbarth.  Am y rheswm hwn, gofynnwyd am gyngor technegol, ariannol a chyfreithiol gan arbenigwyr yn y maes.  Roedd yn treialu nifer o brosiectau peilot mewn perthynas â chyllidebau cyfun gyda'r bwriad o nodi problemau ac arferion da gyda'r nod yn y pen draw o sefydlu trefniadau cyllidebau cyfun effeithlon ac effeithiol; a

·       cadarnhawyd fod arbenigwyr AD yn ymwneud â gwaith y grŵp cyllidebau cyfun er mwyn nodi materion sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol, megis telerau ac amodau'r staff ac ati, os gwnaed cynnig i gynnwys staffio a chostau staffio mewn unrhyw drefniadau cyllideb gyfun.  Pwysleisiwyd nad oedd yn rhaid i drefniadau cyllidebau cyfun gynnwys trefniadau cyflogaeth staff, roedd arferion gwaith integredig yn ddigonol.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(i)              cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau:

(ii)            nodi na fyddai Gogledd Cymru fel rhanbarth yn cyfuno cyllidebau Cartrefi Gofal erbyn Ebrill 2018, tra'n cydnabod y gwaith sylweddol sydd ar y gweill ar draws y rhanbarth i ddatblygu gwaith o ran integreiddio a chyllidebau cyfun;

(iii)          cydnabod y gofynion adnoddau sydd eu hangen i gwblhau'r gwaith sy'n gysylltiedig ag integreiddio a chyllidebau cyfun o fewn yr amserlenni a nodir yn y Ddeddf, gan gynnwys y costau posibl a'r ffynonellau ariannu i'w darparu; a

(iv)          gofyn i adroddiad gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor i'w ystyried yn ei gyfarfod ym mis Mai 2018, ar y cynnydd a wnaed wrth ddatblygu a chyflwyno cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol cyfun a chydymffurfio ag Adran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.

 

 

 

Dogfennau ategol: