Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH DDIGARTREFEDD SIR DDINBYCH 2017-2021 A CHYNLLUN CEFNOGI POBL / ATAL DIGARTREFEDD SIR DDINBYCH 2018/2019

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Comisiynu a Thendro ar Atal Digartrefedd (copi ynghlwm) cyn ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Rhagfyr 2017, a’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ym mis Ionawr 2018.  

10.10 a.m. – 10.50 a.m.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod yn landlord preifat yn Ninbych ac mae'n YH sy'n eistedd ar Banel DRR Gogledd Ddwyrain Cymru.

 

Datganodd y Cynghorydd Melvyn Mile gysylltiad personol yn yr eitemau hyn gan y bydd yn denant i Grŵp Cynefin yn y dyfodol agos.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Oedolion a Gwasanaethau Plant, y Cynghorydd Bobby Feeley, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Amlinellodd bwrpas yr arian Cefnogi Pobl a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) a rôl y Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol (RCC) mewn perthynas â Strategaeth Ddigartrefedd a Chynllun Atal Digartrefedd Sir Ddinbych.  Pwysleisiodd mai'r Strategaeth oedd Strategaeth Ddigartrefedd gyntaf y sir ers gweithredu Deddf Tai (Cymru) 2014. Roedd gwaith atal digartrefedd blaenorol wedi'i gynnwys fel rhan o'r Strategaeth Dai ehangach.  Hysbyswyd yr Aelodau bod y Tîm Atal Digartrefedd wedi ymgynghori'n helaeth ar y Strategaeth a’r Cynllun Atal oedd ger eu bron.   Roedd y Tîm Atal Digartrefedd yn dîm pwrpasol a oedd yn canolbwyntio ar weithio gydag unigolion a theuluoedd i'w hatal rhag mynd yn ddigartref.  Roedd yr aelodaeth yn cynnwys y cyn Dîm Cefnogi Pobl a'r Tîm Datrysiadau Tai.  Canmolodd yr aelodau sefydlu tîm penodol i liniaru yn erbyn y peryglon o bobl yn dod yn ddigartref a gofynnwyd am fanylion y swyddogion a oedd yn gweithio fel rhan o'r Tîm.  Ymgymerodd swyddogion i ddarparu'r wybodaeth hon, ond dywedwyd mai'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unigolyn neu gynghorydd ag ymholiad yn ymwneud â digartrefedd oedd y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad amlddisgyblaeth (SPoA).  Byddai SPoA wedyn yn cyfeirio’r unigolyn at y gwasanaeth(au) mwyaf priodol a allai eu helpu.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion:

·       roedd y Strategaeth Ddigartrefedd yn strategaeth amlasiantaethol a oedd yn gofyn am gydweithrediad holl wasanaethau'r Cyngor;

·       ar hyn o bryd roedd yr elfen Cefnogi Pobl (CP) o'r cyllid a ddefnyddiwyd i gomisiynu gwasanaethau atal digartrefedd wedi'i 'neilltuo' at y dibenion hynny.  Fodd bynnag, roedd cyhoeddiad diweddar LlC wedi nodi na fyddai cyllid grant CP bellach wedi'i neilltuo, o 2019 ymlaen, gan roi ystyriaeth i ddatblygu "grant uwch", gan ymgorffori'r ffrydiau cyllid Trechu Tlodi eraill, a'r grant Cyflogaeth newydd.  Gallai hyn olygu na ellir darparu elfennau o'r Strategaeth yn y dyfodol.  Serch hynny, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i ddarparu rhai gwasanaethau i unigolion sydd, neu sydd mewn perygl o ddod, yn ddigartref. Nid oedd unrhyw wybodaeth bellach ar gael ar hyn o bryd ar fanylion cyhoeddiad diweddar LlC;

·       roedd yr arian CP ar gyfer 2018-19 yn ddiogel ac wedi ei gadarnhau ar lefel genedlaethol, ond roedd disgwyl cadarnhad am ddyraniadau cyllid awdurdodau lleol unigol a allai fod yn destun newid;

·       er bod y nod o leihau nifer yr aelwydydd sy'n byw mewn llety dros dro o 50% erbyn 2021 yn ymddangos yn uchelgeisiol, roedd swyddogion yn hyderus, gyda sefydlu'r Tîm Atal Digartrefedd, a oedd wedi dwyn ynghyd arbenigwyr ym meysydd digartrefedd a chymorth tai, y gellid cyflawni hyn;

·       er y cydnabuwyd bod integreiddio cyn-droseddwyr yn y gymuned yn fodd llwyddiannus o leihau aildroseddu, byddai gan gyn-garcharorion a gyflwynodd eu hunain yn ddigartref yn Sir Ddinbych hawl i gael mynediad i wasanaethau cymorth tai os oeddent yn gallu bodloni'r prawf 'cysylltiad lleol' yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014. Gan fod yr aelodau'n awyddus i hyn gael ei amlygu o fewn y Strategaeth, ymgymerodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol i ofyn am gyngor cyfreithiol ynghylch a ellid cynnwys cyfeiriad yn y Strategaeth; 

·       hyd yma, roedd un prosiect 'rhannu tai' i ddiwallu anghenion pobl ifanc wedi cael ei beilota yn Sir Ddinbych.  Roedd gan y dull hwn ei gymhlethdodau ac roedd ar hyn o bryd yn cael ei werthuso a'i gymharu â chynlluniau a dreialwyd mewn ardaloedd eraill;

·       roedd y peilot 'rhannu tai' i ddiwallu anghenion pobl ifanc yn gwbl ar wahân i'r cynlluniau tai â chymorth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a chynlluniau byw â chymorth eraill yr oedd galw mawr a chynyddol amdanynt;

·       ni fyddai pobl ifanc ddigartref (16-17) yn cael dyraniad 'rhannu tai' neu leoliad tai â chymorth lle byddent yn rhannu'r cyfleuster gydag unigolion hŷn, neu fel arall;

·       Roedd prosiect tai â chymorth pobl ifanc "Y Dyfodol" yn y Rhyl yn cael ei ailfodelu ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion pobl ifanc a oedd yn ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref.  Roedd hyn yn cyd-fynd â datblygu ymagwedd "Llwybr Cadarnhaol" tuag at gefnogi pobl ifanc.  Byddai'r contract wedi'i ailfodelu yn cychwyn ym mis Hydref 2018;

·       fel rhan o ddarparu’r Strategaeth, roedd y Cyngor a'i bartneriaid yn edrych ar leihau'r defnydd o gyfleusterau gwely a brecwast i gartrefu teuluoedd ac unigolion digartref o hyd at 50%. Un o'r rhesymau y tu ôl i hyn oedd y teimlid nad oedd y math hwn o lety yn addas ar gyfer teuluoedd ac nid yn ffafriol i fywyd teuluol;

·       tra bod y mwyafrif o'r llety gwely a brecwast a ddefnyddir gan y Cyngor ar hyn o bryd ar hyd y llain arfordirol, roedd llety mewn mannau eraill yn y sir yn cael eu defnyddio hefyd.  Byddai'r lleoliad yn dibynnu ar gyfer pwy yr ydoedd, lle'r oedd ei angen, a'r rhesymau dros roi pobl a theuluoedd yn y llety e.e. yn ffoi rhag trais domestig ac ati. Byddai'r math o lety gwely a brecwast a ddarperir yn dibynnu ar faint yr uned deuluol, gallai amrywio o ystafell mewn gwesty / tŷ gwestai i gaban ar barc gwyliau preswyl.  Fel arfer byddai'r Cyngor yn talu cyfradd is na'r gyfradd y  byddai ymwelwyr yn ei dalu ar gyfer y llety, ond byddai'r cyfraddau'n amrywio yn seiliedig ar faint yr uned deuluol - roedd yr ymagwedd hon yn debyg i'r un a ddefnyddiwyd mewn ardaloedd awdurdod lleol eraill.  Roedd Tîm Gorfodaeth Tai y Cyngor a'i Adran Gwarchod y Cyhoedd yn gyfrifol am sicrhau bod yr eiddo a gomisiynwyd yn ddiogel ac o'r safonau gofynnol ar gyfer lletya pobl.  Gofynnodd yr aelodau i rannu manylion gyda nhw ynghylch cost gyfartalog fesul uned llety dros dro B & B a gomisiynwyd gan y Cyngor;

·       gwneir pob ymdrech i sicrhau bod llety dros dro ar gael i bawb a gyflwynodd eu hunain yn ddigartref a bodloni'r meini prawf gofynnol ar y diwrnod y cawsant eu cyflwyno yn ddigartref.  Wedi sicrhau llety dros dro, byddai'r Tîm Atal Digartrefedd yn gweithio gyda'r teuluoedd / unigolion, adrannau eraill y Cyngor a sefydliadau allanol i geisio sicrhau datrysiadau tai hirdymor i'r unigolion dan sylw;

·       roedd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn nodi bod gan y Cyngor 56 diwrnod o'r diwrnod yr oedd unigolyn / teulu yn cysylltu â'r awdurdod i'w hysbysu eu bod mewn perygl o ddod yn ddigartref i weithio gyda hwy i'w hatal rhag colli eu cartref, neu pe bai angen, eu cefnogi i sicrhau llety addas a chynaliadwy.  Roedd hyn ddwywaith gyn hired nag ydoedd o dan y Ddeddf flaenorol, ac yn darged llawer mwy cyraeddadwy, a oedd yn caniatáu gwell ymyrraeth gynnar ac atal pwynt argyfwng.  Felly roedd yn hollbwysig bod y rheiny sydd mewn perygl o golli eu cartrefi wedi cysylltu â'r awdurdod lleol cyn gynted ag y gwyddent am y risg, e.e. ar y diwrnod cyflwynwyd yr hysbysiad troi allan i alluogi swyddogion i weithio gyda nhw i lunio cynllun cartrefu a'u cynorthwyo i gael cymorth a chefnogaeth;

·       Ymddengys bod y broses ymgeisio a dyrannu Llwybr Mynediad Sengl i Dai (SARTH) yn gweithio'n dda yn dilyn rhai problemau cychwynnol.   O safbwynt y Tîm Atal Digartrefedd, roedd y broses ymgeisio sengl newydd yn llawer symlach ac yn eu cynorthwyo gyda'u gwaith o gefnogi cleientiaid i ddod o hyd i ddatrysiadau tai addas; 

·       nad oedd y Cyngor, oherwydd yr angen i gael mwy o hyblygrwydd mewn perthynas â'r gwasanaethau a ddarperir, bellach yn gweithredu 'lloches nos' ar gyfer pobl sy'n cysgu allan a oedd am ei ddefnyddio.  Ar hyn o bryd, roedd yn gweithredu gwelyau argyfwng 7 diwrnod a oedd ar gael i bobl sy'n cysgu allan heb gysylltiadau lleol a dim pecynnau cymorth ar gael ar drwydded 3 diwrnod;

·       y nod nawr oedd datblygu cynnig 'Dim Ail Noson Allan' a fyddai'n darparu ymagwedd fwy cyfannol tuag at gefnogi holl anghenion pobl sy’n cysgu allan, rhai ohonynt yn hynod gymhleth, i'w cefnogi i ailgysylltu â chymdeithas a dod o hyd i dai sy’n diwallu eu hanghenion yn y tymor hir.  Y gobaith oedd y byddai'r gwaith 'Dim Ail Noson Allan', trwy ddarparu amrywiaeth o waith atal yn datblygu'n ddull 'Dim Noson Gyntaf Allan' gyda'r bwriad o ddod â digartrefedd yn y sir i ben.  Fodd bynnag, cytunodd swyddogion ag aelodau na fyddai modd peidio â chael dim cysgwyr allan o gwbl, gan i rai ohonynt roedd cysgu allan yn ddewis diwylliannol;

·       roedd y Tîm Atal Digartrefedd yn delio â phob unigolyn a oedd naill ai'n ddigartref neu mewn perygl o gael ei wneud yn ddigartref, gan gynnwys plant.  Pe bai plant yn rhan o sefyllfa, byddai'r Tîm yn cysylltu'n agos â swyddogion yn y Gwasanaethau Plant;

·       roedd gweithgor swyddog mewnol ar hyn o bryd yn gweithio ar effaith bosibl cyflwyno Credyd Cynhwysol i drigolion Sir Ddinbych.  Roedd y Grŵp hwn yn parhau â gwaith y Gweithgor Trechu Tlodi a oedd wedi gweithredu yn ystod tymor y Cyngor blaenorol.  Ymhen amser, byddai'r Grŵp hwn yn adrodd ar ei waith i un o'r Byrddau a fyddai'n cael ei sefydlu i gefnogi cyflwyno Cynllun Corfforaethol newydd y Cyngor;

·       bod swyddogion yn gweithio'n agos gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs), i dynnu sylw'r tenantiaid hynny a oedd mewn perygl o gael eu troi allan at y gwasanaethau a’r gefnogaeth oedd ar gael gan y Tîm Atal Digartrefedd, yn gynnar gyda’r bwriad o osgoi sefyllfa argyfwng;

·       roedd cynllun gweithredu i gyflawni'r Cynllun Cefnogi Pobl/Atal Digartrefedd 2018/19 yn cael ei lunio.  Byddai'r Cynllun Gweithredu Atal Digartrefedd yn cael ei adolygu a'i fonitro'n rheolaidd gan y Grŵp Cynllunio Atal Digartrefedd;

·       roeddent o'r farn bod y Strategaeth a'r Cynllun Atal yn hygyrch ac yn gynaliadwy yn yr hirdymor, yn amodol ar argaeledd cyllid.  Fodd bynnag, roedd yr ansicrwydd mewn perthynas â chyllid CP yn y dyfodol, os oedd wedi'i gynnwys fel rhan o'r cyllid GCR, yn bryder ac felly'r rheswm pam fod yr Asesiad Effaith ar Les ar gyfer y Strategaeth a'r Cynllun Atal wedi sgorio 3 allan o'r 4 seren posibl; a

·       o dan y Strategaeth, gwnaed pob ymdrech i ddarparu Gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg i unigolion lle bynnag y bo modd, yn unol â gofynion Safonau Iaith Gymraeg y sir.  Serch hynny, fel y cydnabuwyd yn yr Ael gallai hyn roi pwysau ychwanegol ar yr un aelod o staff sy'n siarad Cymraeg yn rhugl yn y Tîm, ond gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer unrhyw geisiadau a dderbyniwyd.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, cymeradwyodd yr aelodau y Tîm Atal Digartrefedd ar eu gwaith ac ar y Cynllun Strategaeth ac Atal, gan bwysleisio pwysigrwydd addysgu pobl ar faterion ariannol, yn enwedig cynllunio ariannol a sut i flaenoriaethu eu gwariant gyda'r bwriad o leihau'r risg o gael eu gwneud yn ddigartref. .

 

PENDERFYNWYD: -

 

(i)              cadarnhau, fel rhan o'i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau Effaith ar Les ar gyfer y Strategaeth ddrafft a'r Cynllun Atal;

(ii)             ar ôl ystyried y Strategaeth ddrafft a'r Cynllun Atal, ac yn ddarostyngedig i'r sylwadau uchod, argymell i'r Cabinet y dylid cymeradwyo a mabwysiadu Strategaeth Ddigartrefedd Sir Ddinbych 2017-21 a Chynllun Cefnogi Pobl / Atal Digartrefedd 2018-19 Sir Ddinbych; a

(iii)            gofyn am gyflwyno adroddiad cynnydd ar weithredu'r Strategaeth a chyflwyno'r Cynllun Gweithredu Atal i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Mai 2018.

 

 

 

Dogfennau ategol: