Eitem ar yr agenda
DATBLYGIAD STRATEGOL YR IAITH GYMRAEG
Ystyried
adroddiad gan yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchu (copi’n
amgaeedig) yn manylu ar y gwaith sydd wedi ei wneud o ran datblygiad strategol
yr iaith Gymraeg yn Sir Ddinbych, yn unol â deddfwriaeth genedlaethol a
Strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor ei hun.
Cofnodion:
Gan
ystyried mai hwn oedd cyfarfod cyntaf Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg, roedd
swyddogion o’r farn y byddai’n ddefnyddiol darparu cyd-destun a diweddariad ar
Safonau’r Gymraeg a’r gwaith a wnaed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn
enwedig o ran gofynion deddfwriaethol. Er bod gwaith y Pwyllgor yn
canolbwyntio ar Safonau’r Gymraeg, roedd eitemau ar y rhaglen hefyd yn cynnwys
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, a’r Fframwaith Mwy Na Geiriau, er mwyn
rhoi ymwybyddiaeth i aelodau o’r gwaith a wneir drwy fforymau eraill yn y
gymuned ehangach.
Cyflwynodd
yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) a rhoddodd gyflwyniad PowerPoint a oedd yn cynnwys -
·
y sefyllfa hanesyddol pan fyddai
awdurdodau lleol unigol yn datblygu eu cynlluniau eu hunain ar gyfer y Gymraeg
a oedd yn amrywio’n fawr o ran ansawdd
·
deddfwriaeth newydd ar ffurf
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a’r bwriad i sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn
cael eu trin yn gyfartal
·
creu Comisiynydd y Gymraeg a
datblygu safonau’r Gymraeg
·
mae 169 o Safonau’r Gymraeg
wedi’u cyhoeddi a’u categoreiddio dan y themâu: gohebiaeth, hybu, llunio polisi
a gweinyddiaeth fewnol, ac roedd y Cyngor wedi ymateb iddynt mewn ffordd
gadarnhaol
·
rôl a phwerau Comisiynydd y
Gymraeg o ran sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
·
Strategaeth y Gymraeg
(cymeradwywyd mis Chwefror 2017) sydd wedi amlygu pum maes allweddol i’w
datblygu gyda’r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Ddinbych o 0.5%
dros y pum mlynedd nesaf gyda bwriad o ystyried targed hirdymor i gynyddu nifer
y siaradwyr Cymraeg dros y pymtheg mlynedd nesaf, a
·
chyfrifoldeb strategol am
Safonau’r Gymraeg a thrin materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg o ddydd i ddydd.
Tynnwyd sylw Aelodau at yr adroddiad a mesurau eraill i gryfhau a hybu’r
Gymraeg yn yr awdurdod gan gynnwys; penodi Hyrwyddwyr yr Iaith Gymraeg;
sesiynau galw heibio i staff; cortynnau gwddf Iaith Gwaith; llofnodion e-bost
dwyieithog; Cysill a Microsoft Office yn Gymraeg; ateb y ffôn; y fewnrwyd;
casglu gwybodaeth am staff; prif linell ffôn y cyngor; gwobrau rhagoriaeth
staff; diwylliant/ethos y sefydliad; ymarfer siopwr cudd a chyflwyno
cydymffurfio â’r Gymraeg mewn heriau gwasanaeth. Roedd swydd Swyddog Iaith Gymraeg yn cael ei
hysbysebu ar hyn o bryd i gynorthwyo ymhellach â datblygiad strategol y Gymraeg
yn yr awdurdod. Er bod staff a
chynghorwyr wedi ymateb yn gadarnhaol i Safonau’r Gymraeg, roedd lle i wella o
hyd.
Trafododd Aelodau amrywiol agweddau ar yr adroddiad gyda swyddogion, gan
gynnwys -
·
Strategaeth y Gymraeg – cyfeiriwyd at y targed 0.5% ac roedd rhai
yn ystyried ei fod wedi’i osod yn rhy isel.
Gan ystyried y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros y blynyddoedd
diweddar, roedd yn bwysig gosod targed realistig yn y tymor byrrach (byddai’r
canlyniad yn cael ei fesur gan y cyfrifiad yn 2021) a’r bwriad oedd gosod
targed mwy heriol dros y tymor hirach.
Roedd dull amlochrog ar draws pob amrywiaeth oedran yn cael ei ddilyn ac
er bod pobl ifanc yn y system addysg yn faes twf sylweddol, y bwriad yn y tymor
hwy oedd cadw siaradwyr Cymraeg yn Sir Ddinbych drwy gyfleoedd cyflogaeth a
gweithio gyda dosbarthiadau addysg oedolion.
·
Gwobrau Rhagoriaeth Staff – roedd y gwobrau i anrhydeddu staff am eu
hymrwymiad a’u hymroddiad i ddatblygu’r Gymraeg yn y cyngor wedi’u croesawu’n
fawr ac adroddodd swyddogion am effaith gadarnhaol enillwyr y gorffennol gan
ymhelaethu am eu gwaith parhaus o ran hyrwyddo'r Gymraeg yn eu gwasanaeth eu
hunain a meysydd gwasanaeth eraill, gan rannu arfer gorau a hybu’r Gymraeg.
·
Casglu gwybodaeth am staff – wrth hunanasesu eu sgiliau ieithyddol,
roedd llawer o staff yn amharod i adlewyrchu’n gywir eu gallu i sgwrsio yn
Gymraeg am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys hyder yn eu gallu eu hunain, ac
roedd y Strategaeth yn cynnwys yr angen i feithrin hyder staff i ddefnyddio’r
Gymraeg ac annog a chefnogi staff yn hynny o beth.
Roedd rhai staff hefyd yn poeni y byddai gofyn iddynt gymryd dyletswyddau
penodol fel siaradwr Cymraeg/cyfieithydd dynodedig yn y gwasanaeth yn ogystal
â’r swydd roeddent yn cael eu cyflogi i’w gwneud, ac roedd yn bwysig i gadw
hynny mewn cof. Gobeithiwyd y byddai
hunanasesiadau yn y dyfodol yn adlewyrchu sgiliau ieithyddol staff yn fwy
cywir.
·
Cyfieithu adroddiadau drafft – roedd mater bod adroddiadau drafft yn cael
eu cyhoeddi yn Saesneg yn unig wedi’i godi o’r blaen.
Eglurwyd mai pwrpas y Pwyllgor oedd canolbwyntio ar Safonau’r Gymraeg a
Strategaeth y Gymraeg. Oherwydd nad oedd
gofyniad ar hyn o bryd i ddogfennau drafft gael eu cyhoeddi’n ddwyieithog, nid
oedd effaith negyddol ar y Safonau o ran cydymffurfio ac nid oedd yn fater i’r
Pwyllgor.
·
Gwasanaethau Cyfieithu Conwy/Cyfieithu
Mewnol – roedd rhai
materion wedi’u codi o ran ansawdd cyfieithiadau, ar gyfer dogfennau pwyllgor a
rhai datganiadau i’r wasg diweddar, a gwnaeth swyddogion ymhelaethu ar y
gwasanaeth cyfieithu a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ynghyd â
dibynnu ar ewyllys da staff ar gyfer cyfieithiadau mewnol penodol pan oedd
angen brys i ymateb yn syth i sefyllfa benodol, fel darparu gwybodaeth a
diweddariadau yn ystod y tywydd gwael diweddar.
Pe bai’r Cyngor yn teimlo y dylid rhoi blaenoriaeth i’r cyfieithiadau brys
hynny, byddai angen rhoi ystyriaeth yn y broses o osod y gyllideb i sut i
gyflawni’r ddarpariaeth y tu allan i oriau.
Roedd aelodau’n cydnabod yr anawsterau o ran tafodiaith ranbarthol ac
arddull benodol o ran darparu gwasanaethau cyfieithu a soniodd swyddogion am
fanteision y gwasanaeth cyfieithu a ddarperir gan Gonwy o ran terminoleg gyson
gan fod llawer o’r cyfieithwyr yn seiliedig yn lleol iawn. Roedd cwynion ac ymholiadau o ran safon
cyfieithiadau Cymraeg wedi lleihau ac roeddent yn tueddu i ganolbwyntio yn
bennaf ar arddull a dewisiadau geirfa yn hytrach na chamgymeriadau. Roedd sylwadau diweddar a wnaed, gan gynnwys
pryderon o ran cyfieithu cofnodion y cyngor, wedi’u trafod yn uniongyrchol gyda
Chonwy ac roedd sylw yn cael ei roi i hyn.
Roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn teimlo y dylid gwneud rhagor
o waith o ran y gwasanaeth cyfieithu a ddarperir gan Gonwy er mwyn darparu
sicrwydd o ran safonau ansawdd a gwerth gorau.
PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: