Eitem ar yr agenda
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 520509
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i
amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif 520509.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 520509 yn
cael ei roi.
Cofnodion:
{0><}100{>Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r
canlynol –<0}
(i)
{0><}100{>cais a dderbyniwyd gan
Ymgeisydd Rhif<0} {0><}98{>520509 am drwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat; <0}
(ii)
{0><}0{>bod y cais wedi ei ddwyn i sylw’r Pwyllgor Trwyddedu
oherwydd methiant yr ymgeisydd â datgelu dwy gollfarn droseddol a ddatgelwyd yn
dilyn gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, un yn ymwneud â lladrad (1990)
ac un yn ymwneud â gyrru dan ddylanwad alcohol (2004);<0}
(iii)
{0><}63{>polisi’r Cyngor mewn
perthynas â pherthnasedd collfarnau (gan gynnwys methu datgelu collfarnau) a
deddfwriaeth berthnasol o ran gwneud datganiad ffug a hepgor gwybodaeth
benodol; <0}
(iv)
{0><}100{>estyn gwahoddiad i’r ymgeisydd ddod i'r
cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau.<0}
{0><}100{>Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor.<0}
{0><}76{>Manylodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd ar ffeithiau'r achos.<0}
{0><}0{>Ymddiheurodd yr ymgeisydd am lenwi’r ffurflen gais yn anghywir ac
eglurodd (1) nad oedd wedi sylweddoli bod cofnod o’i drosedd gyntaf oherwydd
iddo ei chyflawni pan oedd yn ifanc, a (2) ei fod yn credu bod yr ail gollfarn
yn ymwneud â gyrru. Bu iddo wedyn fynd yn ei flaen i egluro amgylchiadau’r
collfarnau.<0} {0><}0{>Ers hynny
mae’r ymgeisydd wedi dal trwydded yrru lân ac yn disgrifio’i hun fel person
medrus a dibynadwy.<0} {0><}0{>Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, dywedodd yr
ymgeisydd nad oedd wedi darllen y dogfennau perthnasol yn ddigon gofalus, a
arweiniodd at hepgor yr wybodaeth wrth lenwi’r ffurflen gais. <0}{0><}0{>Credodd y byddai gyrru tacsi yn caniatáu iddo weithio oriau hyblyg, a
fyddai’n gyfleus i’w deulu.<0} {0><}0{>Yn ei ddatganiad terfynol ymddiheurodd yr ymgeisydd
unwaith eto am lenwi’r ffurflen gais yn anghywir, gan ddweud mai camgymeriad
ydoedd. <0}
{0><}100{>Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais -<0}
{0><}100{>PENDERFYNWYD cymeradwyo
cais Ymgeisydd Rhif <0}520509 am drwydded i
yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.
{0><}100{>Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – <0}
{0><}93{>Roedd yr aelodau wedi ystyried ffeithiau’r achos yn
ofalus iawn yn ogystal ag esboniad yr ymgeisydd o ran y troseddau a’i resymau
dros beidio â datgelu ei gollfarnau.<0} {0><}0{>Roedd y pwyllgor yn credu bod yr ymgeisydd wedi
darparu datganiad ac atebion onest, ac yn derbyn ei fod wedi gwneud camgymeriad
wrth lenwi’r ffurflen gais gan nad oedd wedi darllen y canllawiau yn iawn.<0} {0><}0{>Derbyniodd y pwyllgor ei ddehongliad o amgylchiadau’r collfarnau
hanesyddol gan nodi y byddai'r swyddogion wedi cymeradwyo’r cais yn unol â pholisi
collfarnau’r Cyngor pe bai’r ymgeisydd wedi datgelu’r collfarnau ar yr adeg
briodol. <0}{0><}58{>O ganlyniad, cafwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol a
phenderfynwyd cymeradwyo’r cais. <0}
{0><}100{>Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu i'r ymgeisydd.<0}
{0><}100{>Daeth y cyfarfod i ben am 11.15 a.m.<0}
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 5./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 5./2 yn gyfyngedig