Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CORFFORAETHOL 2017-2022

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) i Aelodau gymeradwyo fersiwn drafft terfynol o'r Cynllun Corfforaethol 2017/2022.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad Cynllun Corfforaethol 2017-2022 (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Roedd yn ofyniad statudol bod Awdurdodau Lleol yn cyhoeddi Cynllun Gwella a hefyd Amcanion Lles.  Roedd Cynllun Corfforaethol Sir Ddinbych 2017-2022 yn gwasanaethu'r ddwy swyddogaeth hynny.

 

Roedd yr addewidion allweddol yr oedd yr Awdurdod Lleol wedi ymrwymo iddynt i'w cyflawni yn y Cynllun yn bwysig oherwydd eu bod naill ai:

·       Angen arian cyfalaf / refeniw sylweddol: e.e. ffyrdd ac ysgolion newydd er nad oedd popeth angen arian ychwanegol.

·       Angen newid diwylliannol / sefydliadol sylweddol: e.e. y ffordd y mae'r Awdurdod Lleol yn ymwneud â chymunedau, a / neu

·       Effeithio ar draws y sir gyfan, e.e. 1000+ o gartrefi ychwanegol.

 

Cyrhaeddwyd y blaenoriaethau a amlinellwyd yn y Cynllun Corfforaethol trwy broses drylwyr a chlir o gasglu a dadansoddi tystiolaeth (Asesiad Lles) ac ymgynghoriad manwl â chymunedau (Sgwrs y Sir).

 

Amcangyfrifwyd bod cyfanswm cost y Cynllun yn £135 miliwn ond byddai hyn yn newid wrth i'r manylion gael eu datblygu.  Roedd eitemau arwyddocaol o fewn y Cynllun, fel y band nesaf o gynigion gwella ysgolion, yn cymryd cyfraniadau gan Lywodraeth Cymru i symud ymlaen.

 

Byddai penderfyniadau cyllidebol yn dod yn fwy anodd yn yr ychydig flynyddoedd nesaf felly byddai'n rhaid i'r Cynllun fod yn ddigon hyblyg i ymateb i heriau ariannol.  Ni fyddai unrhyw fuddsoddiad yn cael ei wneud heb i achos busnes clir, fforddiadwy gael ei gytuno ar ôl proses gymeradwyo'r cyngor.

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

·       Cadarnhawyd y byddai'r Byrddau Rhaglen yn asesu sut fyddai orau i gyflwyno'r Cynllun.  Grwpiau ehangach, SIG ac Archwilio i sicrhau bod y materion a godwyd yn cael eu cyflwyno.

·       Byddai'r Byrddau Rhaglen yn gyrff gweithredol sy'n gweithredu penderfyniadau, ac nid yn gwneud penderfyniadau.  Byddai'r cyfrifoldeb am lywio gweithrediad yn nwylo’r Aelodau Arweiniol.  Ni fyddai'r broses o wneud penderfyniadau yn cael ei newid, byddent yn mynd drwy'r broses arferol trwy'r Cabinet, y Cyngor ac ati.

·       Cadarnhawyd bod y Byrddau Rhaglen yn fodel cyflenwi lefel uchel.  Rhan o'r rôl o fewn y model fyddai Archwilio, a fyddai'n gallu galw unrhyw eitem i mewn ar unrhyw adeg.  O ran yr elfen dai, byddai'r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Brian Jones, a oedd yn Aelod Lleol y Rhyl, yn aelod o'r Bwrdd.

·       Cadarnhawyd y byddai cludiant bob amser yn faes blaenoriaeth uchel i'r Awdurdod Lleol. 

·       Roedd glanweithdra priffyrdd hefyd yn bwysig ac roedd yn rhan o'r Cynllun Gwasanaeth Busnes.   Cadarnhawyd nad oedd popeth wedi'i grybwyll yn llawn o fewn y Cynllun gan y byddai hynny'n golygu y byddai'r ddogfen yn rhy fawr.

·       Cadarnhawyd y byddai 1000 o dai ychwanegol yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol, yn ogystal ag ailddefnyddio 500 o eiddo gwag.  Byddai'r 500 o eiddo gwag yn broses dreigl.  Bwriad y Cyngor oedd adeiladu 170 o'r 1000 o dai ynghyd ag elfen tai fforddiadwy a ddarperir gan ddatblygwyr.

·       Codwyd buddsoddiad ychwanegol mewn ffyrdd, palmentydd a phontydd. O fewn cymunedau cysylltiedig, bu ardal benodol ynglŷn â ffyrdd a phontydd.  Roedd cynnal a chadw'r ffyrdd yn y sir bob amser wedi bod yn flaenoriaeth uchel a gwnaed gwaith gyda'r adnoddau oedd ar gael.  Cadarnhawyd, ar y pwynt hwn, y byddai’r mater o gyllid ar gyfer priffyrdd yn cael ei godi gyda'r Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol.

·       Iechyd Meddwl oedd un o'r pwysau ar yr Awdurdod Lleol a'r Sector Iechyd.   Cadarnhawyd nad oedd gwasanaethau Iechyd Meddwl uniongyrchol o dan reolaeth yr Awdurdod Lleol.  Yn y blynyddoedd i ddod, byddai cyswllt gwell gyda'r Bwrdd Iechyd yn cael ei sefydlu.

·       Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid nad oedd yr Awdurdod Lleol yn derbyn cyllid yn uniongyrchol o Ewrop.  Roedd Llywodraeth Cymru yn derbyn arian Ewropeaidd a oedd wedyn yn cael ei ddosbarthu.   Dywedodd hefyd y byddai'n mynychu cyfarfodydd Grwpiau Ardal Aelodau i fynd i fwy o fanylion am arian Ewropeaidd gan Lywodraeth Cymru pe bai angen.

·       Canfuwyd bod pobl ifanc a oedd yn cael canlyniadau arholiadau uchel yn gadael yr ardal a oedd yn achosi problem.   Byddai’r Cyngor yn parhau I edrych ar fodel i gadw'r bobl ifanc hyn mewn ardaloedd lleol.

·       Codwyd y ffaith bod y gwasanaeth bws wedi'i dynnu'n ôl o Stryd Fawr Dyserth.  Gofynnodd y Cynghorydd Lleol, David Williams, am i’r mater gael ei godi fel blaenoriaeth o fewn y flwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

·       Yn amodol ar y newidiadau y cytunwyd arnynt, bod yr Aelodau’n cymeradwyo drafft terfynol Cynllun Corfforaethol 2017-2022 i alluogi cyfieithu a chyhoeddi'r ddogfen.

·       Bod yr Aelodau'n cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o'i ystyriaeth.

 

Dogfennau ategol: