Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 07/2017/0559 – TIR YN RHOS HELYG, LLANDRILLO, CORWEN

Ystyried cais i addasu’r ymrwymiad cynllunio gwreiddiol a oedd yn berthnasol i dri eiddo; drwy gyflawni’r cytundeb sy’n ymwneud yn benodol ag 11 Rhos Helyg, Llandrillo (copi'n amgaeedig)

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i addasu’r rhwymedigaeth gynllunio wreiddiol a oedd yn berthnasol i’r tri eiddo, drwy ryddhau’r cytundeb yn ymwneud yn benodol ag 11 Rhos Helyg, Llandrillo.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mr Alwyn Jones Parry (o blaid) – dywedodd nad oedd 11 Rhos Helyg yn dŷ fforddiadwy ac nad yw’r perchennog yn gallu gwerthu’r tŷ oherwydd rhwymedigaeth Adran 106. Nid yw’r rhan fwyaf o fenthycwyr yn darparu morgeisi ar gyfer eiddo gyda rhwymedigaeth Adran 106. Cysylltwyd â Grŵp Cynefin ynglŷn â phrynu’r tŷ ond nid oes ymateb wedi ei dderbyn hyd yma.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Mynegodd yr Aelod Lleol, y Cyng. Mabon ap Gwynfor, ei farn a chefnogodd y cais i dynnu’r rhwymedigaeth Adran 106 oddi ar yr eiddo. Roedd y rhwymedigaeth Adran 106 a osodwyd ar 11 Rhos Helyg yn un o’r rhwymedigaethau cyntaf o’u math yn Sir Ddinbych a dywedodd yr Aelod Lleol bod y rhwymedigaeth yn atal teuluoedd rhag dringo’r ysgol eiddo, yn hytrach na’u cynorthwyo. Mae natur gyfyngol y rhwymedigaeth yn ei gwneud hi’n anodd i brynwyr gael morgais. Mae’r teulu dan sylw wedi dweud y byddant yn gwneud cyfraniad i’r gymuned ar ôl gwerthu'r eiddo oherwydd bod arnynt eisiau symud i fyw i dŷ mwy ar y stad er mwyn cael mwy o le i’w teulu sy’n tyfu. Roeddynt wedi prynu’r tŷ fel tŷ fforddiadwy ac nid oeddynt yn chwilio am elw. Bydd y teulu yn cael ei gefnogi gan y Cyngor Cymuned os yw Grŵp Cynefin yn prynu’r eiddo ac fe all ddod yn eiddo rhent rhesymol yn y gymuned.

 

Awgrymodd y Cyng. Tony Thomas y dylid gohirio trafod y cais ond eglurodd y Rheolwr Datblygu bod yr ymgeisydd yn awyddus i’r mater gael ei drafod yn ystod cyfarfod y Pwyllgor oherwydd bod amser yn brin. Yn y fan hon, tynnodd y Cyng. Thomas ei awgrym yn ôl.

 

Diolchodd y Rheolwr Datblygu i’r Aelod Lleol am egluro’r sefyllfa gan ei fod yn achos cymhleth. Cyflwynodd y Swyddog Strategaeth Tai Lleol a Datblygu, a oedd yn bresennol, gan ei bod yn arbenigwr ar dai fforddiadwy.

 

Gan nad yw’r eiddo wedi ei roi ar y farchnad mae’n anodd dweud a oes gan unrhyw berson lleol y gallu neu’r diddordeb i brynu’r eiddo. Nid oes neb o Landrillo ar hyn o bryd wedi cofrestru ar y gofrestr tai fforddiadwy, ond mae’n bosibl bod yna bobl o ardaloedd eraill a gynhwysir o fewn y cytundeb Adran 106 wedi cofrestru.

 

Mae’r rhwymedigaeth Adran 106 dan sylw yn gofyn i’r perchennog hysbysebu’r eiddo mewn papur newydd lleol am 12 mis a gwerthu'r eiddo i berson lleol sydd ag angen am dŷ. Mae’n bosibl lleihau’r cyfnod marchnata cyfyngol i 20 wythnos os yw’r perchennog yn gwneud cais am hynny. Mae’r perchennog wedi cael gwybod am hyn yn ystod y trafodaethau.

 

Awgrymwyd y gellid llunio Gweithred Amrywio i fynd i'r afael â'r materion y mae’r perchennog yn teimlo sy'n atal yr eiddo rhag cael ei werthu, yn hytrach na thynnu’r rhwymedigaeth Adran 106. Byddai marchnata’r eiddo drwy’r Gofrestr Tai Fforddiadwy ac ar Rightmove/On the Market, yn hytrach na phapur newydd, yn fwy priodol gan mai’r rhyngrwyd y mae pobl erbyn hyn yn ei ddefnyddio i chwilio am eiddo.

 

Mae Grŵp Cynefin, sy’n berchen ar y ddau dŷ fforddiadwy arall ar y datblygiad, yn cynnal asesiad hyfywedd ariannol ac asesiad o’r angen am dai cyn cadarnhau a ydynt yn fodlon prynu’r eiddo.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Peter Evans, na ddylid tynnu’r rhwymedigaeth Adran 106.

 

PLEIDLAIS:

TYNNU RHWYMEDIGAETH ADRAN 106 - 1

YMATAL   - 5

PEIDIO Â THYNNU RHWYMEDIGAETH ADRAN 106 - 13

 

PENDERFYNWYD GWRTHOD cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: