Eitem ar yr agenda
RHAGLEN HERIO A CHEFNOGI NEWYDD GwE
- Meeting of Pwyllgor Craffu Perfformiad, Dydd Iau, 28 Medi 2017 9.30 am (Item 6.)
- View the declarations of interest for item 6.
Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Prif Reolwr Addysg a
Swyddog Arweiniol Uwchradd GwE (copi ynghlwm) sy’n rhoi gwybodaeth am, ac yn
ceisio safbwyntiau ynghylch y strwythur diwygiedig ac arferion gweithio er mwyn
cefnogi gwelliant ysgolion ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys ysgolion Sir
Ddinbych
10.15am – 10.45am
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg yr adroddiad (a
gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi gwybodaeth i aelodau ar fodel her a
chefnogaeth newydd GwE ar gyfer ysgolion Sir Ddinbych – gan gynnwys y strwythur
diwygiedig ar gyfer y sefydliad a manylion ei arferion gwaith i gefnogi
gwelliant i ysgolion ar draws rhanbarth Gogledd Cymru Rhoddodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau
Plant wybod i Aelodau fod GwE wedi wynebu cyfnod sylweddol o her a bod
swyddogion yn Sir Ddinbych bellach yn fwy hyderus y byddai strwythur ‘newydd’
GwE yn cefnogi gwella ysgolion ar draws pob sector addysg yn y sir.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr newydd GwE fod y
fformiwla genedlaethol ar gyfer gwasanaethau gwella ysgolion wedi rhoi rhagor o
bwyslais ar ddarparu rhagor o gefnogaeth i’r sector cynradd. O safbwynt Sir Ddinbych, roedd y ffocws
hwn wedi cael effaith negyddol ar berfformiad y sector uwchradd yn y sir.
Rhoddodd Swyddogion Arweiniol
Cynradd ac Uwchradd GwE ar gyfer Sir Ddinbych wybod i aelodau’r Pwyllgor eu bod
wedi eu penodi i’w swyddi unigol i gefnogi ysgolion i ddatblygu a darparu eu
Cynlluniau Gwella Ysgolion, roedd y swyddogaeth honno yn cynnwys sicrhau
ansawdd y cynlluniau hynny i sicrhau y byddent yn sicrhau Gwelliant ac yn
darparu gwell canlyniadau i bob disgybl. Byddai dau Swyddog
Arweiniol GwE yn cwrdd â swyddogion addysg arweiniol y Cyngor bob pythefnos i
sicrhau fod gwelliannau cynaliadwy yn cael eu gwireddu ym mhob ysgol ar draws y
sir. Eglurodd
swyddogion GwE y byddai’r model newydd yn cynnwys Cynlluniau Busnes manwl Lefel
2 a Lefel 3 o fis Medi 2017. Byddai’r Cynlluniau hyn yn canolbwyntio ar chwe
blaenoriaeth GwE, sef:
·
safonau
·
cwricwlwm ac asesu
·
arweinyddiaeth
·
lles
·
addysgu; a
·
busnes
ac roedd manylion
am bob un ohonynt yn yr adroddiad. Byddai’r Cynlluniau Lefel 2 yn canolbwyntio ar safonau'r awdurdod lleol,
cwricwlwm ac asesu, arweinyddiaeth, lles ac addysgu, a byddai’r Cynlluniau
Lefel 3 uwch yn canolbwyntio ar feysydd mwy arbenigol o’r cwricwlwm, busnes a
llywodraethu GwE ac ati, ac yn cymharu perfformiad a chanlyniadau ar draws chwe
ardal awdurdod addysg lleol y rhanbarth.
Mewn ymateb i
gwestiynau'r aelodau, dywedodd y swyddogion GwE a’r Gwasanaeth Addysg fod:
·
lles pob disgybl ar draws
pob sector o’r ysgol yn rhan ganolog o’r gwasanaeth a ddarparwyd gan GwE a’r
awdurdod lleol, gan fod disgyblion iach, gwydn a chyfrifol yn fwy tebygol o
wireddu eu potensial;
·
ystyriwyd fod cyfuno
Addysg a Gwasanaethau Plant yn Sir Ddinbych o dan yr un Pennaeth Gwasanaeth yn
fanteisiol ac yn ffafriol i gyflawni’r agenda lles; a
·
Byddai Estyn yn
ail-arolygu GwE ganol mis Hydref 2017
Roddodd Prif
Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych wybod i’r Pwyllgor y byddai bob amser problemau
neu faterion pryder yn ymwneud ag addysg disgyblion. Cyfrifoldeb GwE a’r awdurdod addysg lleol
oedd nodi a deall y ‘problemau’ a chyflwyno mesurau i fynd i’r afael â nhw a’u
datrys. Dywedodd wrth
aelodau fod ganddo hyder yn y model newydd hwn ac y byddai’n cyflawni’r
canlyniadau dymunol. Ymateb
y Pwyllgor:
Penderfynwyd: -
(i)
yn amodol ar yr
arsylwadau uchod ar y strwythur a’r arferion gwaith diwygiedig i gefnogi gwelliant
ysgolion yn Sir Ddinbych i ardystio’r model; a
(ii) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les fel rhan o’i ystyriaethau ar yr uchod.
Dogfennau ategol: