Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ASESIADAU ATHRAWON A CHANLYNIADAU ARHOLIADAU DROS DRO

I ystyried adroddiad ar y cyd gan  Prif Reolwr Addysg a Swyddogion Arweiniol Uwchradd a Chynradd GwE (copi ynghlwm) sy’n rhoi manylion am asesiadau athrawon terfynol Sir Ddinbych a chanlyniadau dros dro arholiadau allanol Cyfnod Allweddol 4 ac ôl 16, gan gynnwys gwybodaeth wedi’i meincnodi a pherfformiad o gymharu ag awdurdodau lleol eraill mewn perthynas ag asesiadau athrawon.  Mae’r adroddiad hefyd yn ceisio sylwadau’r aelodau ar berfformiad y Sir ac er mwyn adnabod meysydd posibl ar gyfer gwella.

 

9.45am – 10.15am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg adroddiad ac atodiadau (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn darparu gwybodaeth ar berfformiad disgyblion Sir Ddinbych mewn perthynas ag asesiadau athro terfynol ar gyfer blwyddyn academaidd 2016-17, a darparu canlyniadau archwilio dros dro yng Nghyfnod Allweddol (CA)4 ac ôl-16 ar ddiwedd tymor yr haf 2017. 

 

Yn ystod ei gyflwyniad, nododd yr Aelod Arweiniol fod y canlyniadau CA4 yn destun proses asesu gwahanol i flynyddoedd blaenorol ac felly nid oedd modd ei gymharu’n gywir gyda chanlyniadau’r sir yn y blynyddoedd cynt.  Roedd swyddogion addysg ac Aelodau Arweiniol Addysg ar draws Cymru wedi eu hysbysu ym mis Ebrill 2017 i ddisgwyl gwaethygiad mewn perfformiad yng nghanlyniadau arholiadau TGAU 2017 oherwydd y broses asesu newydd. 

 

Nododd yr Aelod Arweiniol hefyd fod swyddogion wedi gofyn i nifer o bapurau disgyblion Sir Ddinbych gael eu hail-farcio gan eu bod yn cwestiynu’r graddau a roddwyd iddynt.  Roedd canlyniadau’r broses hon yn llwyddiannus hyd yma a byddai’n cael ei adlewyrchu yn y canlyniadau a wiriwyd pan fyddant yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio ddechrau 2018.

 

Nododd y Pennaeth Addysg fod canlyniadau asesiadau athrawon y sector addysg gynradd yn pwysleisio fod:

·         y Gwasanaeth Addysg yn anelu at ddiwedd y Cyfnod Sylfaen i gynnal asesiadau cadarn o allu disgyblion.  Roedd cyrhaeddiad disgyblion Sir Ddinbych ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yn ystod 2017 wedi bod 1.7% o dan y targed, ac yn 20fed allan o 22 yng Nghymru – is na’r safle prydau ysgol am ddim (PYD) disgwyliedig, ond un safle’n uwch na’r safle disgwyliedig yn rhanbarth Gogledd Cymru.  Fodd bynnag, drwy ddefnyddio data sydd ar gael i swyddogion y Gwasanaethau Plant, roedd wedi gallu deall yr heriau a wynebwyd gan blant unigol yn y cohort.  Roedd gwaith hefyd yn cael ei wneud ar y cyd â’r Gwasanaethau Plant mewn perthynas â’r disgyblion hyn yn seiliedig ar waith profiadau anffafriol plant Iechyd Cyhoeddus Cymru;  

·         Roedd asesiadau CA2 yn parhau i gofnodi gwelliant bob blwyddyn.  Roedd cyflawniad rŵan yn 88.9% a dim ond 6 o ddisgyblion nad oedd ar y gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a fethodd i gyflawni’r Dangosydd Pynciau Craidd (DPC).  Yn ogystal, ni wnaeth 37 o ddisgyblion sydd â Saesneg yn iaith ychwanegol (SIY), lwyddo i gyflawni’r DPC.

·         roedd swyddogion o Adran Addysg y Sir ag Estyn yn cyfarfod ar ddiwedd pob tymor i drafod cyrhaeddiad ac roedd y Rheoleiddiwr wedi nodi nad oedd ganddo bryderon am berfformiad disgyblion cynradd Sir Ddinbych gan fod y Sir yn ymwybodol o amgylchiadau personol pob disgybl unigol;

·         roedd gan yr Adran Addysg bryderon am y perfformiad cyffredinol yn CA4, er gwaethaf fod pob awdurdod yng Nghymru wedi eu cynghori i beidio â chymharu canlyniadau’r flwyddyn bresennol gyda pherfformiad y flwyddyn cynt;

·         roedd perfformiad pob awdurdod yng Nghymru yn CA4 wedi gwaethygu yn 2017 pan gyflwynwyd y maes llafur newydd a’r system raddio;

·         Roedd proffil perfformiad Sir Ddinbych yn CA4 yn ddiddorol iawn oherwydd fod ganddo’r ysgol gyda’r perfformiad gorau a’r trydydd gorau yn CA4 yng Ngogledd Cymru, ond roedd hefyd ganddo’r ysgol gyda’r perfformiad gwaethaf;  

·         nid oedd papurau arholi Llenyddiaeth Gymraeg na Saesneg eleni yn cyfrif tuag at y Lefel 2+, dim ond yr arholiadau iaith a mathemateg oedd yn cael eu hystyried ar gyfer y Lefel 2+; a

·         o fewn ffiniau’r sir, Sir Ddinbych oedd â’r nifer uchaf o’r wardiau cyngor mwyaf difreintiedig yng Ngogledd Cymru, felly roedd swyddogion yn archwilio data PYD i sicrhau ei fod yn adlewyrchu perfformiad y sir yn gywir ac i ganfod a oedd pawb gyda hawl i PYD yn eu hawlio nhw.  

Llongyfarchodd aelod cyfetholedig yr Eglwys Gatholig ar y pwyllgor archwilio'r Sir ar ei ymagwedd o ganolbwyntio darpariaeth addysg a lles ar anghenion penodol pob disgybl unigol.  Teimlai mai hon oedd yr ymagwedd gywir i’w chymryd, gan yn benodol gysylltu anghenion addysgol y plentyn gyda’i anghenion/hanghenion lles fel y nodwyd gan y Gwasanaethau Plant.  Yn ei barn hi, roedd cael yr un swyddog yn Bennaeth y ddau wasanaeth pwysig hyn yn hwyluso’r ymagwedd hon ac yn cefnogi’r gwaith ar draws y ddau wasanaeth.

 

Pwysleisiodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE fod:

·         Roedd 12 disgybl yn 1% o’r cohort yn y data perfformiad, felly gallai perfformiad nifer fechan o ddisgyblion yn y cohort mewn arholiad gael effaith sylweddol ar sgôr perfformiad cyffredinol y sir, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol;

·         roedd yn bwysig cofio fod perfformiad CA4 eleni yn dir newydd hollol;

·         Roedd cyfraniad Sir Ddinbych i raglen addysg Gogledd Cymru yn allweddol.  Er y byddai gwella perfformiad yn CA4 yn her, roedd yn bwysig cofio fod perfformiad sector cynradd Sir Ddinbych yn dda a pherfformiad rhanbarth Gogledd Cymru oedd y gorau yng Nghymru yn y sector cynradd;

·         roedd y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion ar Lefel 2+ yn y rhanbarth hefyd yn cau mewn cymhariaeth a rhanbarthau eraill Cymru; ac

·         yn ei farn ef, byddai her aruthrol yn ystod y flwyddyn i ddod mewn perthynas â gwella perfformiad disgyblion yn Saesneg a Mathemateg, yn arbennig o ystyried y ffaith fod 31 o’r 55 Pennaeth Adran Mathemateg yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd, newydd eu penodi i’w swyddi.

 

Nododd Arweinydd Cynradd GwE:

·         yn ystod y Cyfnod Sylfaen, a oedd hyd at 7 oed, aseswyd disgyblon ar eu sgiliau llythrennedd, mathemateg a datblygiad personol a chymdeithasol (DPCh);

·         Roedd perfformiad disgyblion Sir Ddinbych ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen wedi dirywio eleni, y tro cyntaf i hyn ddigwydd ers cyflwyno asesiadau’r Cyfnod Sylfaen.  Serch hynny, roedd y bwlch perfformiad rhwng disgyblion sy’n cael PYD a disgyblion nad oedd yn cael PYD yn llai ar draws gweddill rhanbarth Gogledd Cymru, ac

·         er bod perfformiad llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth yn CA2 wedi gwella yn Sir Ddinbych, roedd pob sir arall hefyd wedi gwella yn erbyn y dangosydd hwn.  Fodd bynnag, yn CA2 roedd Sir Ddinbych wedi perfformio yn uwch na’r sgôr PYD disgwyliedig ar lefel genedlaethol a rhanbarthol.  Roedd hefyd yn ddymunol i nodi fod llai o fwlch rhwng perfformiad disgyblion ar y cam hwn a oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim a’r rhai nad oedd yn gwneud, a bod y bwlch perfformiad rhwng merched a bechgyn yn culhau.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol Addysg, Swyddogion y Gwasanaeth Addysg a chynrychiolwyr GwE:

·         nodi er nad oedd mecanwaith ‘bwysoli’ yn bodoli i ystyried yr effaith ar berfformiad ysgol o gael nifer anghymesur o ddisgyblion ADY neu SIY, dim ond un rhan o’r wybodaeth a oedd ar gael ar ysgolion unigol oedd canlyniadau arholiadau a data asesiadau athrawon.  Roedd yn bwysig ystyried data perfformiad naill ochr â gwybodaeth arall a oedd ar gael fel adroddiadau archwiliadau estyn, gwybodaeth categoreiddio ysgolion ac ati, ac nid ar ben ei hun;

·         roi sicrwydd fod gan Wasanaeth Addysg y sir broffil unigol o bob disgybl yn ysgolion Sir Ddinbych, gan gynnwys disgyblion ADY sy’n mynd i ysgolion prif ffrwd a’r disgyblion hynny sy’n mynd i’w ysgolion arbennig.  Roedd y Gwasanaeth yn deall yr hyn roedd pob disgybl yn gallu ei gyflawni, y gefnogaeth fyddai ar gael iddynt i gyflawni eu potensial llawn, gan gynnwys anghenion y rhai hynny oedd â rhwystrau cymhleth i’w goresgyn er mwyn cyflawni eu potensial;

·         cadarnhau fod proffiliau disgyblion y sir yn cyd-fynd ag asesiadau archwilio Estyn.  Dadansoddodd GwE y data hwn yn agos ac yn sgil hynny, roedd yn dal y data proffil disgyblion mwyaf manwl o holl gonsortia Gwella Ysgolion ar draws Cymru;

·         pwysleisiodd nad oedd disgyblion gydag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) neu ADY mor debygol o gyflawni canlyniadau A* lluosog.  Fodd bynnag, roedd dyletswydd ar y cyngor i sicrhau eu bod yn cael y profiad addysgol gorau posibl, ac un a oedd yn diwallu eu hanghenion unigol;

·         cadarnhau fod y mesur PYD yn fesur Llywodraeth Cymru, a ddefnyddiwyd ganddynt wrth adrodd ar berfformiad addysgol.  Nid oedd modd i gyfoedion yn yr ysgol adnabod plant a oedd yn derbyn PYD, roeddent ond yn cael eu nodi ar systemau gweinyddu'r ysgol a data disgyblion y Sir at ddibenion adrodd ystadegol ac i sicrhau fod pob disgybl, beth bynnag fo'u cefndir / amgylchiadau yn cael yr un cyfleoedd addysgol;

·         Nododd fod y Cyngor wedi gwneud rhywfaint o waith gyda Phenaethiaid yn ddiweddar gyda’r nod o ddeall pa wasanaethau sydd eu hangen ar gyfer disgyblion ADY yn eu hysgolion;

·         cadarnhau fod effaith negyddol ar ganlyniadau perfformiad CA4 Lefel 2+ eleni yn dilyn diddymu’r cymhwyster Llenyddiaeth Saesneg / Cymraeg o’r dangosydd.  Yn ogystal, roedd y dull asesu wedi newid, gyda 80% o’r mesur perfformiad bellach yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau.  Roedd elfen mathemateg a rhifedd y cymhwyster CA4 wedi newid i gynnwys rhesymu mathemategol mewn bywyd bob dydd;

·         dywedodd wrth y Pwyllgor fod y gostyngiad o -9.3% mewn perfformiad yn Sir Ddinbych ar CA4 (Lefel 2+), o % fwyaf o ostyngiad yn y rhanbarth, yn sgil nifer o ffactorau h.y. yn secondiad pennaeth ysgol gyda pherfformiad uchel, llithriadau perfformiad mewn ysgolion eraill o’u cymharu â blynyddoedd blaenorol, perfformiad disgyblion sy’n derbyn PYD ac ati. Mae’r ysgol gyda’r perfformiad gorau yn y rhanbarth a'r trydydd gorau yn ogystal â'r ysgol sydd a'r perfformiad gwaethaf yn y rhanbarth yn y sir, roedd graddau’r amrywiad hwn mewn perfformiad yn effeithio ar safle perfformiad cyffredinol y Sir;

·         esboniwyd mesuriad Cap 9 newydd Llywodraeth Cymru (LlC), a oedd yn canolbwyntio ar naw pwnc cryfaf pob disgybl ac yn cyfuno eu sgôr perfformiad ar draws y pynciau a ddewiswyd;

·         cadarnhaodd fod GwE ar hyn o bryd yn archwilio’r ddarpariaeth cwricwlwm sydd ar gael yn ysgolion Sir Ddinbych i sicrhau ei fod yn ateb y gofyn;

·         cadarnhaodd fod gan GwE gynllun gwella ar waith ar gyfer pob ysgol yn Sir Ddinbych a’u bod yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Addysg y Cyngor i ddarparu’r cynllun.  Lle bo angen, byddai swyddogion arbenigol yn mynd i ysgolion a oedd yn tangyflawni mewn ymgais i wella canlyniadau’r disgyblion;

·         gwirio fod pob adran bwnc ym mhob ysgol uwchradd wedi eu hasesu er mwyn nodi eu hanghenion gwella;

·         dywedodd fod GwE a swyddogion addysg ar hyn o bryd yn dadansoddi'r data i ganfod a oedd ymagwedd newydd tuag at asesu disgyblion yn CA4 wedi cyfrannu tuag at ddirywiad mewn perfformiad ar draws y rhanbarth;

·         cadarnhaodd, er y gallai secondiad staff gyda chyflawniad uchel i sefydliadau fel GwE gael effaith niweidiol ar berfformiad ysgol, roedd rhaid i wasanaeth gwella ysgolion arbenigol sicrhau gwasanaethau’r bobl orau er mwyn darparu gwelliant cynaliadwy i ysgolion ar draws y rhanbarth.  Roedd felly’n bwysig fod y cydbwysedd cywir o staff o ansawdd uchel gyda chymwysterau priodol yn cael eu cynnal ar bob lefel o fewn y system addysg er mwyn cyflawni cymaint o fudd â phosibl i bawb; a

·         nododd fod y targed gwaelodol cyfartalog 3 blynedd CA4 ar gyfer disgyblion sy'n derbyn PYD o 36%, lle’r oedd Sir Ddinbych ond wedi cyflawni 16.2% a dim ond un o awdurdodau Gogledd Cymru oedd wedi ei gyflawni, yn darged cynyddrannol gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth aelodau, mewn perthynas â pherfformiad siomedig ysgolion unigol, fod:

·         mynegwyd pryder dwys i gorff llywodraethu ysgol a oedd wedi caniatáu secondiad ei Bennaeth, er nad oedd y dirywiad yn eu perfformiad yn cael ei briodoli i ymadawiad y Pennaeth ond i danberfformiad un adran.  Roedd y Corff Llywodraethu wedi eu hysbysu, os oeddynt yn caniatáu i’r Pennaeth gael ei secondio, dylai felly fod ganddynt drefniadau monitro cadarn yn eu lle ar gyfer rheolwyr canol yr ysgol i sicrhau nad oedd perfformiad disgyblion yn dioddef;

·         roedd uwch swyddogion, cadeirydd y llywodraethwyr a chynrychiolwyr esgobaeth o ysgol arall a oedd yn tangyflawni wedi eu gwahodd i gwrdd â hi i drafod materion arweinyddiaeth a rheoli, perfformiad PYDd, cyfraddau absenoldeb awdurdodedig ac anawdurdodedig, a’u cynlluniau gwella; a

·         gan ystyried y bydd ysgolion Catholig cynradd ac uwchradd yn cau yn y dyfodol yn y Rhyl ac agoriad ysgol ffydd newydd 3 – 19 oed yn y dref, roedd Pennaeth cynradd wedi ei benodi i weithio naill ochr i dîm rheoli’r ysgol uwchradd bresennol. Gan felly alluogi monitro ei welliant a'r gallu i ddarparu cefnogaeth a her, gyda’r bwriad o gyflawni gwelliant cynaliadwy yn barod ar gyfer agoriad yr ysgol newydd. Roedd cyfraddau absenoliaeth yr ysgol eisoes yn gostwng.

 

Rhoddodd yr Aelod Arweiniol Addysg sicrwydd i’r Pwyllgor fod ganddo bob hyder fod staff Gwasanaeth Addysg y Sir a GwE yn adnabod ysgolion a disgyblion y sir yn dda iawn, a’u bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod pob disgybl yn cyflawni eu potensial llawn.  Dywedodd hefyd wrth y Pwyllgor y byddai’r Grŵp Monitro Safonau Ysgolion (GMSY), a fyddai’n cynnwys cynrychiolwyr o’r pwyllgorau archwilio, yn cael ei gadeirio yn y dyfodol gan yr Aelod Arweiniol Addysg. Byddai’r GMSY hefyd yn ystyried adroddiadau adolygu chwarterol GwE yn rheolaidd.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol Addysg, er bod y Cyngor a’r Gwasanaeth Addysg yn gefnogol ar y cyfan i'r egwyddor o ganiatáu staff i gael profiad ychwanegol drwy gyfleoedd secondiad, credai y byddai’n fuddiol yn y dyfodol i fanylion y secondiadau arfaethedig gael eu rhannu gyda'r Cyngor er mwyn iddo gyflwyno ei arsylwadau ar eu heffaith i'r cyrff llywodraethu cyn iddynt wneud penderfyniadau ar geisiadau am secondiad.

Cyn gorffen y drafodaeth, pwysleisiodd aelodau’r angen i ganolbwyntio ar ysgolion sy’n tangyflawni a’u cefnogi i lefel lle gallent gynnal gwelliant parhaus.  Ar y sail hwn, trafodwyd pa mor ymarferol ydoedd i wahodd Penaethiaid a Chadeiryddion Cyrff Llywodraethu ysgolion a oedd yn tangyflawni ac/ neu yn wynebu problemau difrifol i ddod i gyfarfod archwilio i drafod gydag aelodau’r Pwyllgor eu cynlluniau gwella.  Roedd Aelodau a’r Prif Weithredwr yn cefnogi’r ymagwedd hon.

 

 

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

PENDERFYNWYD: yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)   derbyn y wybodaeth am berfformiad ysgolion y Sir a disgyblion yn erbyn perfformiad blaenorol a meincnodau allanol a oedd ar gael ar hyn o bryd;

(ii)  cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les yn Atodiad D 6 wrth iddo ystyried y wybodaeth; a

(iii)  gwahodd Penaethiaid a Chadeiryddion Cyrff Llywodraethu ysgolion a oedd yn tangyflawni ac/ neu yn wynebu problemau difrifol i gwrdd â’r Pwyllgor yn y dyfodol gyda’r bwriad o gefnogi gwelliannau cynaliadwy tymor hir.

 

 

Dogfennau ategol: