Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISI ISAFSWM DARPARIAETH REFENIW DIWYGIEDIG 2017 / 18

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ac argymhellion diwygiadau i Bolisi Isafswm Darpariaeth Refeniw 2017/18 i’r Cyngor Sir.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      cymeradwyo ac argymell y diwygiadau i’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer 2017/18 –

 

·         Polisi ar gyfer 2017/18 – Opsiwn 3 (Dull Oes Ased – llinol) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyca â chymorth sy’n ddyledus ar 31 Mawrth 2017. Yr hyn gaiff ei gyfrifo yw'r dull 'llinol’ dros 50 mlynedd.

·           Mae hyn yn cynrychioli newid o Opsiwn 1 (y Dull Rheoli) fel y cymeradwywyd gan y Cyngor ar 14 Chwefror 2017 Polisi ar gyfer 2017/18 – Opsiwn 3 (y Dull Oes Ased - llinol) i'w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar Fenthyca â chymorth a gafwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017. Bydd y cyfrif yn defnyddio’r dull ‘llinol’ dros nifer benodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o gynhyrchu buddion. Mae hyn hefyd yn cynrychioli newid o Opsiwn 1

·         Polisi ar gyfer 2017/18 – Opsiwn 3 (Dull Oes Ased – llinol) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca heb gymorth. Mae hyn yn cynrychioli parhad o’r polisi sydd wedi ei gymeradwyo,

 

 (b)      Cymeradwyo’r defnydd o’r arbedion ariannol yn 2017/18 a’r arbedion cyllidebol cylchol o 2018/19 fel y nodir yn y fersiwn ddiweddaraf o’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac mae crynodeb isod -

 

·         Arbedion Ariannol 2017/18 - argymhellir fod yr arbedion ariannol o £1.861m yn cael eu gosod yng Nghronfa Lliniaru'r Gyllideb er mwyn cynorthwyo i liniaru effeithiau'r gostyngiadau yn y gyllideb yn 2018/19

·         Arbedion parhaus o 2018/19 – argymhellir gostwng y gyllideb ariannu cyfalafol o £1.861m fel rhan o’r strategaeth i gydbwyso cyllideb 2018/19.

 

Dogfennau ategol: