Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS BARGEN TWF ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU – ADRODDIAD CYNNYDD

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) yn rhoi’r diweddaraf i’r Cabinet am ddatblygiad Cais Bargen Twf ar gyfer y rhanbarth a gofyn am gymeradwyaeth i barhau.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      nodi a chefnogi’r cynnydd yn natblygiad Cais Bargen Twf cystadleuol ar gyfer y rhanbarth;

 

 (b)      cefnogi mewn egwyddor, y model llywodraethu a ffafrir, sef model cydbwyllgor statudol ar gyfer ei ddatblygu ymhellach, gydag adroddiad llawn ar gyfansoddiad a chylch gorchwyl a argymhellir, a Chytundeb Rhyng-Awdurdod, i ddilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

 (c)       awdurdodi’r Arweinydd i weithredu fel aelod Sir Ddinbych o Gydbwyllgor ‘Cysgodol’ yn y cyfnod interim;

 

 (d)      awdurdodi’r Arweinydd, ynghyd ag Arweinwyr y 5 cyngor partner arall, i ddechrau trafodaethau cam cyntaf cyfun gyda’r ddwy Lywodraeth dros raddfa a chynnwys amlinellol Cais Bargen Twf, gan nodi na ddechreuir unrhyw ymrwymiadau ariannol nac ymrwymiadau eraill ar y cam cyntaf hwn o drafodaethau a

 

 (e)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Dogfennau ategol: