Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED CERBYD HACNI

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i drwyddedu cerbyd at ddibenion trwyddedu cerbyd hacni.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod y cais i drwyddedu’r cerbyd fel cerbyd hacni.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais oddi wrth berchennog cerbyd hacni i drwyddedu cerbyd er mwyn ei ddefnyddio fel cerbyd hacni.

 

(ii)          nid oedd swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais, gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd ar gyfer trwyddedu’n cydymffurfio â'r fanyleb, fel y manylir ym Mholisi, Manyleb ac Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat y Cyngor, ac

 

(iii)         estyn gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) yr adroddiad a dynnodd sylw at bolisi'r Cyngor a oedd yn nodi na ddylai cerbydau sy'n destun cais newydd fod yn hŷn na phum mlwydd oed ac eglurodd nad oedd disgresiwn bellach yn y polisi i gael gwared â'r terfyn oedran ar gyfer hŷn cerbydau mewn cyflwr eithriadol o dda.  Gan fod y cerbyd a oedd yn destun y cais yn naw mlwydd oed, nid oedd yn cydymffurfio â'r manylebau cyfredol.  O ganlyniad, gofynnwyd i'r aelodau ystyried cais yr Ymgeisydd i ymadael â pholisi'r Cyngor yn yr achos hwn er mwyn caniatau’r cais y gofynnwyd amdano.

 

Derbyniodd yr Ymgeisydd y byddai caniatáu'r cais yn wyriad o'r polisi presennol ond roedd yn annog yr aelodau i wneud hynny yn yr achos hwn o ystyried safon a chyflwr y cerbyd; ei ymrwymiad i'w brynu, a'r ffaith nad oedd yn ymwybodol o'r newid mewn polisi neu byddai wedi cyflwyno'r cerbyd i’w drwyddedu yn gynharach.  Rhoddodd hefyd hanes cefndir i'w fusnes a'i fwriad i drwyddedu'r cerbyd er mwyn cyflawni gwaith contract yn effeithiol.  Ymatebodd yr Ymgeisydd i gwestiynau'r aelodau ynghylch amseriad ei gais a gweithrediad ei fusnes, gan gynnwys caffael y cerbyd ar gyfer trwyddedu.

 

O ran y newidiadau i’r polisi, dywedodd y swyddogion bod proses ymgynghori gynhwysfawr wedi'i chynnal ac yn dilyn hynny anfonwyd gwybodaeth ddwywaith at ddeiliaid trwyddedau ynglŷn â gweithredu'r polisi newydd a'i oblygiadau gyda phwyslais arbennig ar y terfyn oedran ar gyfer cerbydau trwyddedig.  Roedd yr Ymgeisydd yn bendant nad oedd wedi bod yn ymwybodol o'r newid polisi a honnodd mai oddi wrth gydweithredwr y cafodd wybod am y ffaith.  Wrth wneud ei ddatganiad terfynol, dadleuodd, yn hytrach gwyro oddi wrth y polisi, mai manylyn technegol oedd hyn, gan fod y cais am drwydded wedi'i gyflwyno un diwrnod gwaith yn rhy hwyr i'w ystyried o dan y rheolau polisi blaenorol.

 

Yn y fan hon, cafodd y pwyllgor egwyl i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais i’r cerbyd gael ei drwyddedu fel cerbyd hacni.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried yr achos a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd yn ofalus ac er bod rhywfaint o gydymdeimlad am ei sefyllfa, ar y cyfan nid oedd y pwyllgor yn ystyried bod achos wedi ei wneud a fyddai'n eu perswadio i wyro o'u polisi yn yr achos hwn.  Nododd polisi'r Cyngor y dylai cerbydau a drwyddedwyd o dan gais newydd fod hyd at bum mlwydd oed ar yr hynaf o’r dyddiad cofrestriad cyntaf.  Gan fod y cerbyd a oedd yn destun y cais yn yr achos hwn yn naw mlwydd oed, nid oedd yn cydymffurfio â'r polisi.  Roedd y pwyllgor hefyd o'r farn bod digon o ymgynghori wedi digwydd o ran y newidiadau polisi a rhoddwyd digon o rybudd i ddeiliaid trwyddedau yn hynny o beth, ac felly dylai'r Ymgeisydd fod wedi gwybod am y newid yn y polisi.

 

Cyfleodd y Cadeirydd benderfyniad y pwyllgor a’r rhesymau dros hynny i'r Ymgeisydd a chafodd wybod am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i'r Llys Ynadon o fewn un diwrnod ar hugain.

 

 

Dogfennau ategol: